Eitem Rhaglen

Materion Eraill

13.1 26C20E – Fferm Frigan, Brynteg

 

13.2  30C490CFfordd y Traeth, Benllech

 

13.3 37C174E – Tre Ifan, Brynsiencyn

 

13.4 44C305C/RE – Tre Wyn, Maenaddwyn

Cofnodion:

13.1    26C20E – Codi un tyrbin gwynt 80kw gydag uchder hwb o hyd at 19.4m, rotor a fydd hyd at 18m ar ei draws a hyd at 28.4m o uchder i ben uchaf y llafn ar dir yn Fferm Frigan, Brynteg.

 

Cyflwynir y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion oherwydd y gwnaed penderfyniad y bydd yr holl geisiadau am ddatblygiadau o’r fath yn cael eu dwyn gerbron y Pwyllgor.

 

Dywedodd y Rheolwr Rheoli Datblygu wrth y pwyllgor fod apêl wedi cael ei chyflwyno oherwydd na wnaed penderfyniad ar y cais.  Petai’r apêl heb ei chyflwyno, byddai’r argymhelliad wedi bod yn un o wrthod oherwydd mae pryderon ynglŷn â’r niwed y byddai’n ei achosi i’r dirwedd.

 

Penderfynwyd nodi’r wybodaeth a chefnogi’r Swyddogion o ran gwrthwynebu’r apêl.

 

13.2    30C490C – Cais llawn i ddymchwel y gwesty presennol a chodi 18 o fflatiau newydd a gwaith cysylltiedig ar y safle yn Ffordd y Traeth, Benllech.

 

Cyflwynwyd y mater i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion oherwydd newidiadau arfaethedig i’r cytundeb cyfreithiol a’r amodau cynllunio ac oherwydd yr amser sydd wedi mynd heibio ers adeg cymeradwyo’r cais yn wreiddiol.

 

Dywedodd y Rheolwr Rheoli Datblygu y cymeradwywyd y cais gan y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ym mis Gorffennaf 2006 ar yr amod bod yr ymgeisydd yn cwblhau cytundeb cyfreithiol y byddai 6 o’r 18 o unedau fflat newydd yn unedau fforddiadwy a hynny’n unol â CCA y Cyngor ar Dai Fforddiadwy yn seiliedig ar ganran angenrheidiol o 30%.  Ni chwblhawyd y cytundeb cyfreithiol gan yr ymgeisydd oherwydd materion dichonoldeb mewn perthynas â’r datblygiad a’r ddarpariaeth o 6 o unedau fforddiadwy.  Ers hynny, mae’r gwesty wedi mynd â’i ben iddo.  Cafwyd trafodaethau gydag Ymgynghorydd Tai Fforddiadwy’r Cyngor a chynigir y dylid diwygio telerau’r cytundeb cyfreithiol fel bod y ddarpariaeth tai fforddiadwy yn cael ei chynnig ar ffurf cyfraniad ariannol gan y datblygwr i’r Cyngor yn unol â’r ymrwymiad a nodwyd yn yr adroddiad ysgrifenedig.  Mantais hyn yw y byddai’n caniatáu i’r datblygiad fynd yn ei flaen gan wella’r safle ynghyd â sicrhau y deuai budd ariannol i’r Cyngor i’w ddefnyddio i gwrdd ag anghenion tai fforddiadwy ar yr Ynys.

 

Cododd y Cynghorydd Jeff Evans y pwynt ynghylch a yw gwerth y cyfraniad ariannol a nodir yn adlewyrchiad digonol o werth posib y datblygiad wedi iddo gael ei gwblhau.  Gofynnodd y Cynghorwyr Nicola Roberts a John Griffith am eglurhad ynghylch sut y byddid yn defnyddio’r cyfaniad ariannol gan y datblygwr ac ym mhle.  Dywedodd y Rheolwr Gwasanaethau Cyfreithiol y byddai’r cyfraniad yn cael ei roddi i’r Pennaeth Gwasanaethau Tai i’w ddefnyddio i ddiben cyflawni cynlluniau eraill ar gyfer tai fforddiadwy.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Nicola Roberts y dylid cymeradwyo’r newidiadau arfaethedig ac eiliwyd ei chynnig gan y Cynghorydd Vaughan Hughes.

 

Penderfynwyd cymeradwyo’r newidiadau i’r cytundeb cyfreithiol ar y cais cynllunio fel a nodir yn yr adroddiad ysgrifenedig a bod y caniatâd cynllunio ar ôl hynny’n cael ei ryddhau gyda’r amodau a restrir yn yr adroddiad.  (Wnaeth y Cynghorydd Jeff Evans ddim pleidleisio ar y mater oherwydd byddai wedi dymuno cael gwybod beth oedd cost yr eiddo ac a fyddai’r datblygiad wedi cael ei gymeradwyo heb y budd ariannol i’r Cyngor)

 

13.3    37C174E – Cais i benderfynu a oes angen caniatâd ymlaen llaw ar gyfer codi sied amaethyddol i gadw anifeiliaid ynghyd ag ymestyn y sied bresennol ar dir yn Tre-Ifan, Brynsiencyn.

 

Cyflwynir y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion oherwydd bod yr ymgeisydd yn fab i Aelod Lleol.  Mae’r adroddiad wedi cael ei sgriwtineiddio gan y Swyddog Monitro yn unol â gofynion Cyfansoddiad y Cyngor.

 

Dywedodd y Rheolwr Rheoli Datblygu y penderfynwyd nad oedd angen caniatâd yr Awdurdod Cynllunio Lleol ymlaen llaw ar gyfer y datblygiad a’i fod yn cyfateb i ddatblygiad a ganiateir .

 

Penderfynwyd nodi’r wybodaeth.

 

13.4    44C305C/RE – Cais llawn i godi un tyrbin gwynt 15kw gydag uchder hwb o hyd at 15.43m, rotor a fydd hyd at 13.1 ar ei draws a hyd at 21.97m o uchder i ben uchaf y llafn ar dir yn Tre Wyn, Maenaddwyn.

 

Cyflwynir y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion oherwydd y penderfynwyd y byddai unrhyw geisiadau am ddatblygiadau o’r fath yn cael eu dwyn gerbron y Pwyllgor.

 

Dywedodd y Rheolwr Rheoli Datblygu wrth y pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion bod apêl wedi cael ei chyflwyno oherwydd methiant i wneud penderfyniad ar y cais.  Petai’r apêl heb ei chyflwyno, byddai’r argymhelliad wedi bod yn un i wrthod y cais oherwydd bod pryderon ynglŷn â’r niwed y byddai’n ei achosi i’r dirwedd.

 

Penderfynwyd nodi’r wybodaeth a chefnogi’r Swyddogion o ran gwrthwynebu’r apêl.

Dogfennau ategol: