Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Corfforaethol (Datblygu Cynaliadwy) a Uwch Swyddogion eraill mewn perthynas â’r uchod.
Papurau cefndir ychwanegol:-
Cofnodion:
Rhoddodd y Cadeirydd groeso i’r Swyddogion perthnasol i’r cyfarfod ynghyd â Mr. Alex Melling – Amgylchedd ac Isadeiledd AMEC i’r cyfarfod.
Cyflwynwyd - adroddiad gan y Cyfarwyddwr Corfforaethol Datblygu Cynaliadwy ac Uwch Swyddogion eraill mewn perthynas â’r uchod.
Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol - o ystyried maint, cymhlethdod ag amserlenni’r Adeilad Niwclear Newydd arfaethedig, roedd paratoi a mabwysiadu’r CCA yn weithgaredd blaenoriaethol i’r Cyngor Sir. Bydd y CCA yn cyfrannu tuag at sicrhau bod yr effeithiau tebygol sy’n wybyddus yng nghyswllt yr Adeilad Niwclear Newydd a’i ddatblygiadau cysylltiedig yn cael eu nodi, eu hosgoi, eu lliniaru ac y ceir iawndal lle bo hynny’n bosibl; a bod y manteision cymdeithasol-economiadd sy’n gysylltiedig â’r gwaith adeiladu a gweithredu’r orsaf bŵer yn cael eu llawn sylweddoli.
Roedd y gwaith o baratoi’r CCA wedi ei gyd-lynu gan y Gwasanaeth Adfywio Economaidd a Chymunedol o dan gyfarwyddyd nifer o Uwch Swyddogion y Cyngor Sir. Bu AMEC Environment and Infastructure (y rhai sy’n darparu cefnogaeth ac arbenigedd amlddisgyblaethol i’r Cyngor Sir) yn gyfrifol am ddrafftio’r ddogfen. Roedd adnoddau i gyllido’r gwaith o baratoi’r CCA wedi eu sicrhau drwy’r Cytundeb Perfformiad Cynllunio gyda Pŵer Niwclear Horizon.
Rhoddodd y Prif Swyddog Datblygu (Strategaeth) gyflwyniad sleidiau i’r Pwyllgor a nododd egwyddorion cyfarwyddo eang y prosiect CCA, sef:-
· Cefnogi’r Rhaglen Ynys Ynni a’r Parth Menter;
· Creu Swyddi Lleol a Sgiliau a Datblygu;
· Logisteg Cyflogaeth;
· Cadwyn Gyflenwi Leol;
· Cefnogi Twristiaeth;
· Cynnal a Gwella Cyfleusterau Cymunedol;
· Iechyd a Lles;
· Cydlyniant Cymunedol;
· Llety Gweithwyr;
· Cynnal a Chryfhau’r Iaith Gymraeg a’r Diwylliant;
· Cludiant a Chyfleustodau;
· Cadw a Gwella’r Amgylcheddau Naturiol a Hanesyddol;
· Ymrwymiadau Cynllunio a Manteision Cymunedol;
· Defnyddio Pwerau’r Cyngor;
· Gwastraff;
· Newid yn yr Hinsawdd.
Nododd bod 7 Parth wedi eu nodi sy’n ceisio cyfarwyddo datblygiadau cysylltiol yr Adeilad Niwclear Newydd i aneddiadau mwyaf Ynys Môn ac ar hyd coridorau cludiant allweddol (h.y. ardaloedd y mae’n fwriad gan y Cyngor eu ffafrio a’u cefnogi).
Cafwyd cyflwyniad byr gan Mr. Alex Melling o AMEC i’r Pwyllgor ar y CCA ddrafft.
Dechreuodd y gwaith ymgynghori ffurfiol ar y CCA yn Chwefror 2014 ac roedd 52 o ymatebion unigol wedi eu derbyn. Roedd natur y sylwadau a dderbyniwyd yn cynnwys yr angen i:-
· Sicrhau swyddi i bobl leol, yn arbennig pobl ifanc;
· Gwneud y mwyaf o gyfleon contract a chadwyn gyflenwi i fusnesau lleol;
· Darparu hyfforddiant sgiliau priodol;
· Sicrhau bod y gweithwyr adeiladu’n cael eu lletya mewn lleoliadau addas;
· Lleihau unrhyw effeithiau negyddol i sector twristiaeth yr Ynys;
· Lleihau effeithiau gwelliannau ffyrdd ar hyd yr A5025;
· Lleihau effeithiau posibl ar gymunedau lleol a’r Iaith Gymraeg.
Materion a godwyd gan Aelodau:-
· Pryderon yn ymwneud â diffyg crybwyll yr A5025 o Amlwch i Porthaethwy yn y CCA. Dywedodd y Swyddogion y bydd y gweithwyr fydd yn teithio i’r safle yn cael eu cludo o leoliad canolog oherwydd materion diogelwch ac i esmwytho’r traffig ar rwydwaith cludiant yr Ynys;
· Materion a godwyd yng nghyswllt capasiti ac arbenigedd o fewn yr adran berthnasol o safbwynt maint yr adeilad niwclear newydd yn Wylfa. Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol (Datblygu Cynaliadwy) bod Tîm Caniatáu Mawr yn bodoli i ddelio â cheisiadau cynllunio mawr. Bydd ymgynghorwyr, o dan gytundeb fframwaith yn cael eu drafftio i mewn i gefnogi’r tîm hwnnw fel a phan fydd angen. Bydd y cyllid yn dod o’r Cytundeb Perfformiad Cynllunio gan yr ymgeiswyr/datblygwr.
· Materion yn cael eu codi ynghylch effaith yr Adeilad Niwclear Newydd ar Wasanaethau i breswylwyr yr ynys h.y. iechyd. Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol (Datblygu Cynaliadwy) y bydd Asesiad Effaith Iechyd yn monitro'r effaith ar wasanaethau lleol yn ystod y weithdrefn gynllunio. Bydd asesiad yn cael ei wneud ar yr anghenion gwirioneddol a sut y bydd y broses liniaru’n cael ei hasesu; bydd hyn wedi ei atodi i’r Cytundeb Cynllunio Adran 106;
· Holwyd cwestiynau ynglŷn â storio gwastraff niwclear yn Wylfa. Dywedodd y Swyddogion nad yw’r Awdurdod Lleol yn gefnogol i storio gwastraff niwclear ar yr Ynys.
· Lleisiwyd materion yn ymwneud â’r effaith ar Dwristiaeth ac Anghenion Tai ar yr Ynys yn ystod adeiladu'r Orsaf Bŵer Niwclear Newydd. Dywedodd y swyddogion fod y Cyngor Sir eisoes wedi gwneud llawer o waith yng nghyswllt y galw am lety gweithwyr adeiladu a'r effaith y gall ei gael ar dwristiaeth a llety preifat, y farchnad dai, llety rhent. Mae GP10 yn y CCA yn mynd i'r afael â'r materion hyn.
· Lleisiwyd rhai materion yng nghyswllt yr effaith ar yr iaith Gymraeg ac ar dreftadaeth yr Ynys. Dywedodd y Swyddogion bod y Cyngor Sir (drwy'r Rhaglen Ynys Ynni) a Pŵer Niwclear Horizon wedi cytuno mewn egwyddor i gyd-ariannu person ar secondiad o Uned Iaith Gymraeg Llywodraeth Cymru i ddatblygu proses integreiddio briodol a mesurau lliniaru yng nghyswllt yr iaith Gymraeg.
· Mynegwyd pryderon ynglŷn â’r effaith ar fusnesau bychan a lleol yr Ynys yn ystod y gwaith o adeiladu’r safle niwclear newydd. Nodwyd y gallai rhai cwmnïau brofi anawsterau yn recriwtio gweithwyr. Dywedodd y Swyddogion y bydd hyfforddi pobl leol yn y sgiliau angenrheidiol yn hanfodol gyda helpu cwmnïau lleol i allu cystadlu am waith yn ystod adeiladu safle Wylfa. Dywedwyd bod Coleg Menai a Phrifysgol Bangor yn arwain ar y rhaglen datblygu sgiliau ar hyn o bryd. Nododd yr Aelodau ymhellach na ddylai’r staff presennol ar safle’r Wylfa gael eu hanghofio oherwydd bod ganddynt y sgiliau a'r profiad o fewn y sefydliad niwclear.
· Dywedodd yr Aelodau y dylai'r geiriau 'Land and Lakes' gael eu dileu o’r CCA oherwydd ei fod yn hyrwyddo cwmni preifat.
PENDERFYNWYD
· Nodi pwrpas, sgôp ac egwyddorion y Cyfarwyddyd Cynllunio Atodol Adeilad Niwclear Newydd yn Wylfa;
· Cydnabod rôl y Cyngor Sir yn y broses ganiatáu statudol ar gyfer yr Adeilad Niwclear Newydd arfaethedig;
· Bod y geiriau ‘Land and Lakes’ yn cael eu dileu o’r CCA gan roi yn eu lle ddisgrifiad byr o’r tir oedd wedi derbyn caniatâd cynllunio;
· Bod y Pwyllgor Sgriwtini hwn yn gefnogol i gyflwyno’r Cyfarwyddyd Cynllunio Atodol Adeilad Niwclear Newydd, Wylfa i’w fabwysiadu gan y Cyngor llawn ar 29 Gorffennaf, 2014.
Dogfennau ategol: