Eitem Rhaglen

Monitro'r Gyllideb - Y Gyllideb Refeniw Chwarter 1 2014/15

Cyfwyno adroddiad monitro’r Gyllideb Refeniw am Chwarter 1 2014/15.

(Adroddiad a gyflwynywd i Bwyllgor Gwaith 8ed Medi, 2014)

Cofnodion:

Cyflwynwyd i sylw’r Pwyllgor adroddiad y Rheolwr Gwasanaethau Cyfrifo Gweithredol yn amlinellu’r sefyllfa ar wariant refeniw y Cyngor am chwarter cyntaf 2014/15 a hefyd ragamcan o’r sefyllfa am flwyddyn gyfan.

 

Dywedodd y Deilydd Portffolio mai’r sefyllfa ariannol a ragwelir yn gyffredinol yw gorwariant o £652k ac roedd yr amrywiaethau yn y gwasanaethau wedi eu nodi yn yr adroddiad.

 

Rhoddodd yr Aelodau ystyriaeth i’r adroddiad a cheisiwyd cael eglurhad pellach ynglŷn â’r materion a ganlyn:

 

  Y gorwariant £482k oedd yn cael ei ragamcanu i’r Gwasanaeth Cyllid ac a oedd y patrwm hwn yn debygol o gael ei ailadrodd yn Chwarter 2.  Gwnaeth yr Aelodau sylwadau ar y diffyg nodiadau eglurhaol mewn perthynas â gorwariant / tanwariant y gwasanaeth oedd wedi ei nodi yn yr adroddiad ac roedd teimlad bod hynny’n rhwystro i’r ffigyrau gael eu sgriwtineiddio’n agos.

 

Dywedwyd wrth y Pwyllgor y byddai adroddiad llawnach ar gael ar gyfer y chwarter nesaf yn dilyn trosglwyddo gwybodaeth i’r System Ledjer newydd.

 

Dywedodd y Deilydd Portffolio Cyllid bod adnoddau ychwanegol wedi eu defnyddio gan y Swyddogaeth Adnoddau i gefnogi’r broses o gau’r cyfrifon o fewn y cyfnod amser statudol, gyda hynny bellach wedi ei wneud yn llwyddiannus.  Yr amcan yw lleihau dibyniaeth ar gefnogaeth asiantaeth a thrwy bod y contractau penodol hynny’n dod i ben byddir yn ceisio recriwtio ar sail barhaol.  Tra bod staff asiantaeth o fewn y Swyddogaeth Adnoddau wedi gwneud cyfraniad gwerthfawr a phwysig i gwblhau’r cyfrifon, rhaid cael y nod yn awr o reoli’r gorwariant i rwystro i bethau waethygu ymhellach ac i roi ar droed gynllun gweithredu i gael gwared o’r diffyg tros gwrs y flwyddyn ac efallai y tu hwnt i hynny.

 

  Awgrymwyd y dylai’r Awdurdod fod yn adolygu asedau y mae’n parhau i’w rhedeg ar golled a chyfeiriwyd at Glwb Golff Llangefni fel enghraifft o hynny.

 

Dywedwyd wrth y Pwyllgor bod adroddiad yn amlinellu opsiynau yng nghyswllt Clwb Golff Llangefni yn cael ei baratoi a byddai ar gael fel rhan o’r broses ddemocrataidd yn y man.

 

  Ynghlwm wrth y driniaeth o asedau, ailadroddodd Aelod y pryderon ynglŷn â’r agwedd tuag at werthu a marchnata’r portffolio mân-ddaliadau a dywedodd ei fod wedi dwyn hyn i sylw’r Prif Weithredwr.

 

Mewn ymateb dywedodd y Prif Weithredwr ei fod yn ymwybodol o’r oedi a all ddigwydd mewn cael gwared o asedau yn arbennig pan fo’r asedau hynny’n cael eu cyfrif yn rhai gwerthfawr gan gymunedau lleol.  O safbwynt marchnata’r portffolio mân-ddaliadau, bydd y gwasanaeth yn cael ei roi allan i dendr yn flynyddol gyda manylebau llym ynglŷn â’r gofynion a byddir yn dilyn proses dendro gystadleuol yn unol â Rheolau Gweithdrefn Contract y Cyngor.  Mae gan yr Awdurdod arbenigedd mewnol hefyd drwy’r Swyddog Prisio o ran sicrhau gwerth am arian a sicrhau bod eiddo yn cael eu rhoi ar y farchnad ar yr amser gorau posibl.

 

Awgrymodd y Cadeirydd – pan ddaw’r contract i ben efallai y byddai’r pwyllgor yn dymuno sgriwtineiddio’r trefniadau yn ogystal â’r agwedd tuag at werthu’r portffolio mân-ddaliadau fel pryder sydd wedi bod yn bodoli ers amser maith yn ogystal ag asedau eraill lle bo hynny’n briodol.

 

Penderfynwyd:

 

  Nodi’r adroddiad a derbyn -

 

    Cynnig y Rheolwr Gwasanaethau Cyfrifo Gweithredol y bydd adroddiad llawnach ar y gyllideb refeniw ar gael i Chwarter 2 yn dilyn trosglwyddo gwybodaeth i’r System Ledjer newydd.

    Y bydd adroddiad yn amlinellu opsiynau yng nghyswllt Cwrs Golff Llangefni ar gael fel a gynigiwyd gan yr Aelod Portffolio Cyllid.

 

  Bod Panel Canlyniad Sgriwtini o’r Pwyllgor hwn yn cael ei sefydlu i edrych ar yr agwedd tuag at gael gwared o’r portffolio mân-ddaliadau ac asedau eraill ac i gynnwys y Cynghorwyr R. Meirion Jones, Jim Evans, Peter Rogers, Lewis Davies a Raymond Jones.

 

CAMAU’N CODI: Y Rheolwr Sgriwtini i wneud trefniadau ynglŷn â rhaglennu a galw cyfarfodydd o’r Panel Canlyniad Sgriwtini ac i ddiweddaru’r Flaenraglen Waith yn unol â hynny.

Dogfennau ategol: