Eitem Rhaglen

Cyfarwyddyd Cynllunio Atodol Adeilad Niwcliar Newydd yn Wylfa

(a)           Cyflwyno dyfyniad o gofnodion y Pwyllgor Gwaith a gafwyd ar 14 Gorffennaf, 2014 :-

 

“Penderfynwyd argymell y Cyfarwyddyd Cynllunio Atodol (CCA) Adeilad Niwclear Newydd (ANN) i’w gyflwyno i’r Cyngor Sir yn ei gyfarfod ym mis Gorffennaf 2014.

 

(b)          Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Corfforaethol (Datblygu Cynaliadwy) a Uwch Swyddogion eraill mewn perthynas â’r uchod.

 

Papurau cefndir ychwanegol :-

http://www.ynysmon.gov.uk/busnes/ynys-ynni/newyddion-ynys-ynni/gorsaf-niwclear-newydd-yn-wylfa-canllawiau-cynllunio-atodol/123431.article?redirect=false

 

 

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd - adroddiad gan y Cyfarwyddwr Corfforaethol (Datblygu Cynaliadwy) ac Uwch Swyddogion eraill mewn perthynas â’r uchod.

 

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol (Datblygu Cynaliadwy) Mr. Christian Branch, Mr. Gareth Hall (Ynys Ynni) and Mr. Alex Melling (AMEC Environment & Infrastructure) i’r cyfarfod. 

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol - o ystyried maint, cymhlethdod ag amserlenni’r Adeilad Niwclear Newydd arfaethedig, roedd paratoi a mabwysiadu’r CCA yn weithgaredd yr oedd angen i’r Cyngor Sir roi blaenoriaeth iddo.  Bydd y CCA yn cyfrannu tuag at sicrhau bod yr effeithiau tebygol sy’n wybyddus yng nghyswllt yr Adeilad Niwclear Newydd a’i ddatblygiadau cysylltiedig yn cael eu nodi, eu hosgoi, eu lliniaru ac y ceir iawndal lle bo hynny’n bosibl; a bod y manteision cymdeithasol-economiadd sy’n gysylltiedig â’r gwaith adeiladu a gweithredu’r orsaf bŵer yn cael eu gwireddu’n llawn.

 

Roedd y gwaith o baratoi’r CCA wedi ei gydlynu gan y Gwasanaeth Adfywio Economaidd a Chymunedol dan gyfarwyddyd nifer o Uwch Swyddogion y Cyngor Sir.  Bu AMEC Environment and Infastructure (y rhai sy’n darparu cefnogaeth ac arbenigedd amlddisgyblaethol i’r Cyngor Sir) yn gyfrifol am ddrafftio’r ddogfen.    Roedd adnoddau i gyllido’r gwaith o baratoi’r CCA wedi eu sicrhau drwy’r Cytundeb Perfformiad Cynllunio gyda Pŵer Niwclear Horizon.

 

Rhoddodd y Prif Swyddog Datblygu Strategaeth gyflwyniad sleidiau i’r Cyngor Sir.  Cyfeiriodd at yr egwyddorion oedd yn cyfarwyddo’r holl brosiect ac a oedd wedi eu cynnwys yn yr adroddiad a hefyd y 7 Parth a nodwyd sy’n ceisio cyfarwyddo’r datblygiadau eraill sy’n gysylltiedig â’r Adeilad Niwclear Newydd i bentrefi mwyaf Ynys Môn ac ar hyd coridorau cludiant allweddol.  Nododd Mr. Alex Melling bod y gwaith ymgynghori ffurfiol ar y CCA eisoes wedi dechrau ym mis Chwefror 2014 ac y derbyniwyd cyfanswm o 52 o ymatebion unigol.  Roedd natur y sylwadau wedi’u cynnwys yn yr adroddiad.

 

Soniodd Cadeirydd y Pwyllgor Sgriwtini Partneriaeth ac Adfywio wrth y cyfarfod am y prif faterion a godwyd yn y Pwyllgor Sgriwtini.

 

Rhai materion a leisiwyd gan yr Aelodau ynghylch y canlynol:-

 

  Yr effaith ar yr iaith Gymraeg ac ar dreftadaeth yr Ynys.  Dywedodd y Swyddogion bod y Cyngor Sir (drwy'r Rhaglen Ynys Ynni) a Pŵer Niwclear Horizon wedi cytuno mewn egwyddor i gyd-ariannu person ar secondiad o Uned Iaith Gymraeg Llywodraeth Cymru i ddatblygu proses integreiddio briodol a mesurau lliniaru yng nghyswllt yr iaith Gymraeg.

 

  Yr effaith ar fusnesau bychan a lleol yr Ynys yn ystod y gwaith o adeiladu’r safle niwclear newydd.  Dywedodd y Swyddogion y bydd Coleg Menai a Phrifysgol Bangor yn arwain ar y rhaglen ddatblygu sgiliau er mwyn galluogi cwmnïau lleol i fedru cystadlu am waith yn ystod adeiladu safle Wylfa. 

 

  Yr effaith ar dai h.y. tai rhent a thai cymdeithasol.  Nodwyd bod y Cyngor wedi gwneud llawer o waith yng nghyswllt y galw am lety gweithwyr adeiladu a’r effaith y gall ei gael ar dwristiaeth, y farchnad dai a llety rhent.

 

  Pryderon ynglŷn â storio gwastraff niwclear.  Dywedodd y Swyddog bod yr egwyddorion oedd ynglŷn â datblygiadau niwclear newydd, yn cynnwys storio gwastraff niwclear y tu allan i sgôp y CCA Adeilad Niwclear Newydd..

 

  Gofynnwyd cwestiynau ynghylch a oedd gweithdrefnau diogelwch/ymadael digonol yn eu lle ar gyfer preswylwyr yr Ynys pe bai digwyddiad mawr yn digwydd yn Wylfa.  Dywedodd y Swyddogion y bydd yn rhaid gwerthuso’r isadeiledd priffyrdd yng nghyswllt y mater hwn.

 

PENDERFYNWYD bod y Cyngor Sir:-

 

  Yn nodi pwrpas, sgôp ac egwyddorion y Cyfarwyddyd Cynllunio Atodol Adeilad Niwclear Newydd yn Wylfa;

 

  Yn cydnabod rôl y Cyngor Sir yn y broses ganiatáu statudol ar gyfer yr Adeilad Niwclear Newydd arfaethedig;

 

Yn cefnogi ac yn mabwysiadu yn ffurfiol y Cyfarwyddyd Cynllunio Atodol Adeilad Niwclear Newydd yn Wylfa.

 

Ataliodd 4 eu pleidlais.  

Dogfennau ategol: