Eitem Rhaglen

Grantiau Blynyddol 2013/14

Cofnodion:

Cyflwynwyd – adroddiad ar ran y Trysorydd mewn perthynas â’r uchod.

Adroddwyd mai pwrpas yr adroddiad oedd ystyried y ceisiadau hynny sy’n berthnasol i Ymddiriedolaeth Elusennol Ynys Môn.  Gwneir dyraniadau yn flynyddol o Ymddiriedolaeth Elusennol Ynys Môn i’r mathau canlynol o brosiectau :-

·         Cyfleusterau Cymunedol a Chwaraeon (grantiau cyfalaf bach)

·         Grantiau Eraill (grantiau bychain unwaith ac am byth yn bennaf)

Yn ei gyfarfod ar 23 Ebrill, 2013, cymeradwyodd yr Ymddiriedolaeth lawn swm o £50,000 i’r Panel Grantiau i’w ddyrannu i’r categorïau arferol.

Mae’r swyddogion perthnasol o’r gwahanol adrannau wedi ystyried a blaenoriaethu’r ceisiadau a dderbyniwyd, cyn belled ag y bo modd ac yn gyson gyda phenderfyniadau’r Ymddiriedolaeth, amodau a sefydlwyd yn y gorffennol ac o fewn y swm sydd ar gael i’w ddyrannu.  Mae argymhellion y swyddogion i’w gweld yn Atodiadau A a B oedd ynghlwm i’r adroddiad.  Mae’r ceisiadau yn cael eu hystyried yn unol â’r ‘Amodau ar gyfer dosbarthu grantiau o Ymddiriedolaeth Elusennol Ynys Môn’ ac yr oedd copi ynglwm fel Atodiad C i’r adroddiad.

Nodwyd bod un cais arall sy’n llai syml ac sydd heb ei gynnwys yn y crynodeb uchod ond y byddai efallai’n werth ei gefnogi.  Y cais oedd  :-

Cais Rhif 11             -           Canolfan Hamdden Biwmares a’r Cylch: (Mae rhedeg y ganolfan wedi ei drosglwyddo’n ddiweddar o Gyngor Sir Ynys Môn, ynghyd â’r offer y maent yn dymuno’i ailosod).

Roedd yr Aelodau o’r farn y dylid neilltuo swm o £2,352 (grant sy’n cyfateb i 80% o gyfanswm y gost) i’r sefydliad gan eu bod yn teimlo fod yr achos yn haeddu cefnogaeth yr Ymddiriedolaeth Elusennol.

PENDERFYNWYD rhyddhau swm o £2,352 i Ganolfan Hamdden Biwmares a’r Cylch.

Roedd y ceisiadau a dderbyniwyd a’r symiau a argymhellwyd i’w dyrannu ar gyfer Cyfleusterau Cymunedol a Chwaraeon yn 2012/13 fel a ganlyn :-

1.   Clwb Hwyl ar ôl ysgol –Parc y Bont, Llanddaniel

 

 

Eu galluogi i gynnal gweithdai

i ddifyrru’r plant

 

(DIM)

(Ni fedrir cyllido costau rhedeg ac nid yw’r Ymddiriedolaeth wedi cefnogi clybiau ar ôl ysgol yn y gorffennol)

2.   Groundwork Gogledd Cymru (ar ran Grŵp Lleiniau Garddio Benllech)

I brynu twneli tyfu planhigion a chyfarpar

(£1,922)

(Mae Groundwork Gogledd Cymru wedi cynorthwyo i sefydlu Grŵp Lleiniau Garddio Benllech.  Deellir mai Grŵp Lleiniau Garddio Benllech fyddai berchen y cyfarpar).

14.  Clwb Pêl-droed Bae Cemaes

Darparu lloches ddiogel rhag y tywydd i wylwyr ac adnewyddu’r ffens sydd wedi rhydu yn yr ardal i wylwyr ym mhen gogleddol y safle

(£4,337)

(Teimlir y byddai hyn yn gwella ymarferoldeb a diogelwch y cyfleusterau)

 

17.  Clwb Bowlio Tref Biwmares

Gwneud gwaith ar yr ardal o gwmpas y lawnt fowlio a phrynu peiriant torri gwair.

(Byddai’r gwaith ar yr ardal o gwmpas y lawnt fowlio yn golygu adnewyddu pren sydd wedi pydru.  Bydd gwirfoddolwyr yn gosod y pren newydd a byddai’r grant felly’n mynd tuag at y deunyddiau’n unig.  Rhoddodd yr Ymddiriedolaeth hon grant tebyg i Glwb Bowlio Llanfairpwll yn 2011/12. 

Mae’r peiriant torri gwair yn 18 oed ac mae angen un newydd. Ni dderbyniwyd dyfynbrisiau cymharol. £4,150 a fyddai mwyafswm y gost a fyddai’n gymwys).

Hyd at £2,905 (yn seiliedig ar 70% o’r gost gymwys a fyddai’n gymwys).

18. Neuadd Bentref Sefydliad y Merched, Llaneilian

Prynu system wresogi fwy effeithiol newydd.

(DIM)

(Nid ydynt yn gymwys oherwydd cawsant arian o Gronfa’r Degwm yn 2011/12).

20.  Cyngor Cymuned Llangristiolus a Cerrigceinwen

 

Gwella cyfleusterau ar gyfer y cyhoedd yn y fynwent newydd.

(DIM)

(Anghymwys - wedi cael arian gan yr Ymddiriedolaeth hon yn 2011/12).

 

21.  Mudiad Ffermwyr Ifanc Ynys Môn

Trwsio’r ramp mynediad i’r anabl a thrwsio’r wal derfyn.

(DIM)

(Maent yn derbyn arian o nifer o ffynonellau, yn cynnwys Cyngor Sir Ynys Môn).

23. Chwarae Cymunedol Rhosneigr

Prynu maen dringo ar gyfer y cae chwarae fel rhan o’r cynllun ailddatblygu a gwella mwy.

(£3,430)

(Mae cam 1 y cynllun yn mynd rhagddo ac wedi ychwanegu ‘springers’ yn ddiweddar ar gyfer plant oed cyn-ysgol ac wedi gwneud rhywfaint o waith tirlunio ar y pyllau tywod gan ychwanegu trawstiau balans, goleddfau naturiol a thwnnel.

Mae’r cais hwnna r gyfer cam 2 yn waith sydd heb gychwyn hyd yma.  Dywedir y byddai’r maen dringo yn lle diogel i blant ddringo).

24. National Coastwatch Institution - Rhoscolyn

Gwella mynediad i’r orsaf a sicrhau diogelwch y cyhoedd yng nghyffiniau’r orsaf a gwaith paentio ac addurno.

(DIM)

(Mae rhan o’r cais, sy’n werth £1,500, yn ymwneud â gwaith paentio ac addurno.  Nid yw’r gwaith hwn yn gymwys ar gyfer ei gyllido. 

Mae gweddill y cais yn ymwneud â gwella’r llwybr at y wylfan.

Ni dderbyniwyd dyfynbrisiau).

26. Pwyllgor Neuadd Bentref Llanfaelog 

 

Trwsio’r simnai a gosod llechi newydd ar y to er mwyn rhwystro tamprwydd rhag treiddio i’r adeilad.

 

((£1,949)

Mae problemau tamprwydd yn yr adeilad a hynny oherwydd llechi sydd wedi ei difrodi neu sydd ar goll a simnai sydd angen cap a chaeadau plwm newydd).

 

29.  Pwyllgor Cae Chwarae Tregele  

Gosod ffens ddiogelwch, gwneud gwaith daear a phrynu offer chwarae ar gyfer y cae chwarae newydd.

(DIM)

(Nid yw’r swm y gofynnwyd amdano o fewn sgôp ariannol yr Ymddiriedolaeth).

 

30.  Clwb Pêl-droed Ynys Cybi

 

 

 

 

Byddai o gymorth i brynu peli, gwisg, offer cymorth cyntaf ac offer tebyg.

(DIM)

(Nid yw’r Ymddiriedolaeth yn y gorffennol wedi cefnogi prynu’r mathau hyn o offer oherwydd y byddai’n rhaid eu hadnewyddu bob blwyddyn yn rheolaidd.  Yn ychwanegol at hyn, mae £1,250 o’r costau yn gysylltiedig â chostau rhedeg (yswiriant, llogi’r cae ac ati). 

31. Caeau Chwarae Bae Cemaes

Prynu offer chwarae newydd, ffensio a rhoi arwynebedd diogelwch ar y caeau chwarae.

 

(DIM)

(Mae’r grŵp wedi cael £5,250 hyd yma ac mae arnynt angen £57,958 arall.  Byddai’r swm y gallai’r Ymddiriedolaeth ei gyfrannu tuag at y prosiect (gyda chyfraniadau wedi eu cyfyngu i £6k) yn gadael bwlch cyllido (yn seiliedig ar y cyllid a oedd wedi ei gadarnhau ar y pryd) o £51, 958, sef 82% o’r gost gyfan.

32. Canolfan Gymuned Gwelfor

 

 

 

 

Adnewyddu byrddau a chadeiriau sydd wedi gwisgo ac sy’n beryglus a phrynu cyfrifiadur newydd.

(£489)

(Bwriedir defnyddio’r cyfrifiadur yn y swyddfa ac, o’r herwydd, ni fyddai o fudd uniongyrchol i’r cyhoedd.  Nid yw’r Ymddiriedolaeth yn y gorffennol wedi cefnogi defnydd o’r fath. 

Byddai’r dodrefn ar gael i’r cyhoedd ei ddefnyddio a byddai’n costio £699).

34.  Cylch Chwarae Kingsland

 

 

Cynorthwyo i gyllido ail-leoli’r grŵp.

 

(DIM)

(Nid yw costau rhedeg yn cymwys i’w gyllido).

35.  Cwmni Cemaes Cyf

 

 

 

Prynu dodrefn fel rhan o’r gwaith o greu canolfan gynadleddau/hyfforddi yng Nghanolfan Dreftadaeth Cemaes.

 

 

 

(£2,848)

(Mae hwn yn rhan o gynllun £100k (y llwyddwyd eisoes i sicrhau cyllid o £97k ar ei gyfer).  Bwriedir y cynllun mwy i adfywio’r adeilad, gwella cynaliadwyedd drwy ffynonellau cynyddol o refeniw, elfennau gwyrdd a gwella hwylustod a nodweddion esthetig y cyfleuster).

 

38.  Clwb Pêl-droed Pentraeth

 

 

Gwastatáu’r arwynebedd chwarae drwy ostwng lefel y gornel o’r cae sydd yn y top ar yr ochr dde.

(£3,885)

(Mae’r Clwb wedi cael ei ddyrchafu’n ddiweddar I Gynghrair Gwynedd.  Byddai’r gwelliannau hyn yn fodd i chwarae pêl-droed o safon uwch.  Mae gan y Clwb gysylltiadau agos gyda’r gymuned leol a sylfaen gref o gefnogwyr).

39. Cyfeillion Cae Chwarae  Dwyran

Gosod ffens ddiogelwch ar derfyn y cae chwarae rhwng y tir pori a’r lle chwarae.

(£1,362)

(Mae angen adnewyddu’r ffens derfyn rhwng y tir amaethyddol a’r lle chwarae ac mae’n bosibl y bydd yn risg i iechyd a diogelwch yn fuan).

41. Cyngor Cymuned Llangoed a Phenmon

Gwella edrychiad a diogelwch yr ystafelloedd newydd drwy osod ffenestri a drysau newydd yn lle’r rhai sydd wedi pydru.

(£1,330)

(Lleolir yr ystafelloedd newid yng nghae cymunedol Llangoed a chant eu defnyddio gan yr holl glybiau chwaraeon sy’n defnyddio’r cae).

44.  Clwb Pêl-droed Holyhead Hotspur

Prynu a gosod slab concrit ar gyfer gosod arno adeilad parod.

(NIL)

(Diffyg gwybodaeth, dim prawf o ddeiliadaeth).

 

45.  Uned Cadetiaid Môr Caergybi 183

Prynu stôf newydd ar gyfer yr adeilad atodol i’w ddefnyddio gan y Cadetiaid Môr a’r grwpiau cymuned sy’n defnyddio’r cyfleusterau.

(£651)

(Nid yw’r stôf gyfredol yn addas na’n ddiogel i’w defnyddio mwyach.  Nid yw’r stôf yng ngali’r prif adeilad yn ddigon mawr ac effeithiol ar gyfer achlysuron a digwyddiadau).

Cais 19 – Cymdeithas Amaethyddol Ynys Môn (Gwella’r man eistedd yng nghae’r sioe)

Roedd yr Aelodau’ o’r farn bod y cais hwn yn haeddu cefnogaeth oherwydd mae’n un i wella capasiti’r man eistedd allanol o gwmpas prif ring arddangos y sioe gyda’r bwriad y byddai hynny o fantais i bobl anabl, teuluoedd ifanc ac eraill. 

Eglurodd yr Ysgrifennydd bod y Gymdeithas yn derbyn cyllid gan y Cyngor Sir bob blwyddyn a nododd fod gan y Gymdeithas asedau.  Nododd yr Aelodau mai prif ased Cymdeithas Amaethyddol Môn yw’r Cae’r Sioe ym Mona ac roeddynt yn dymuno cadarnhau eu cefnogaeth i’r cais hwn. 

PENDERFYNWYD dyrannu swm o £1,690.50 i Gymdeithas Amaethyddol Ynys Môn.

(Roedd y Cynghorydd Jim Evans yn dymuno iddo gael ei gofnodi nad oedd wedi cefnogi’r argymhelliad hwn).

Roedd y ceisiadau a dderbyniwyd a’r symiau a argymhellwyd i’w dyrannu ar gyfer Grantiau Eraill yn 2012/13 fel a ganlyn  :-

  1. Clwb Pensiynwyr                   Rhoi cyfle i aelodau hyn                (DIM)

y Tŷ Coffi, Llanfaethlu            y gymuned fynd ar dripiau                        (Nid yw costau rhedeg yn

                                                                                                gymwys ar gyfer eu cyllido)

                                              

 

6.    Clwb Cyfeillgarwch Pobl        Helpu i gyllido costau bysus ar           (DIM)

Hyn Rhosneigr                       gyfer tripiau                                        (Nid yw costau rhedeg yn

                                                                                                        gymwys ar gyfer eu cyllido)                                                                                                         

                                                                                               

8.    Cyngor ar Bopeth,                            Helpu i gyllido Swyddog Diwygio    (DIM)

Caergybi                                               Lles                              (Nid yw costau rhedeg yn                                                                                                        

gymwys ar gyfer eu cyllido)

13.  Grŵp Marchogaeth Ynys       Helpu i gyllido costau teithio                       (DIM)

       Môn – Cymdeithas                gwirfoddolwyr ac yswiriant ar         (Nid yw costau rhedeg yn

       Marchogaeth i’r Anabl            gyfer cleientiaid a gwirfoddolwyr      gymwys ar gyfer eu cyllido)

     

15.  Ymarfer ar gyfer Byw,           Talu i hyfforddwr cymwys gynnal    (DIM    

       Cemaes                               y dosbarthiadau                             (Nid yw costau rhedeg yn

                                                                                                       gymwys ar gyfer eu cyllido)

16.  Cyngor Plwyf Eglwysig         Darparu mynedfa i’r anabl a                        (DIM)

       Morawelon                           thoiledau i’r anabl yn yr adeilad       (Anghymwys – ni elli’r

                                                                                                       cefnogi gwaith trwsio ar

                                                                                                       eglwysi ac nid oes unrhyw

                                                                                                       gyfeiriad at ddefnydd

                                                                                                       cymunedol)      

 

28.  Clwb Biwmares a’r Cylch       Cynorthwyo i gyllido costau llogi     (DIM)

       i’r Methedig a’r Anabl            ystafelloedd, lluniaeth ac ati                        (Nid yw costau rhedeg yn                                                                                                      gymwys ar gyfer eu cyllido)

 

33.  Clwb Dydd Min y Môr            Cynorthwyo i gyllido                       (DIM)

  Gweithgareddau ar gyfer yr                         (Nid yw costau rhedeg yn

  Aelodau                                         gymwys ar gyfer eu cyllido)

 

36.  Operation Friendship           Cynorthwyo i gynnal y cyfarfod        (DIM)

       Ynys Môn                          blynyddol rhyngwladol yn Ynys Môn (Nid yw costau rhedeg yn

                                                                                                       Gymwys ar gyfer eu cyllido)

      

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r symiau, fel y cânt eu rhestru uchod (£x) [gyferbyn â’r symiau a argymhellir], ar gyfradd grant o 70%.          

                                          

Mater Ychwanegol

Plac i Gydnabod Cymorth Ariannol

Dywedodd yr Ysgrifennydd bod y cyfarfod llawn o Ymddiriedolaeth Elusennol Ynys Môn a gynhaliwyd ar 23 Ebrill 2013, wedi penderfynu cyflwyno plac yn nodi’r cyfraniad ariannol i brosiectau lleol ac y dylai’r plac hwnnw gael ei arddangos mewn man amlwg yn y lleoliad.   

PENDERFYNWYD

·           Cyflwyno plac i sefydliadau sydd wedi derbyn cefnogaeth ariannol gan yr Ymddiriedolaeth Elusennol.

 

·           Rhoddi cyhoeddusrwydd yn y wasg leol i gyflwyno’r placiau a’r gefnogaeth ariannol.