Eitem Rhaglen

Cofnodion y Cyfarfod

Cyflwyno i’w cadarnhau gofnodion y cyfarfod a gafwyd ar 11 Mehefin, 2014.

(PAPUR ‘A’)

Cofnodion:

 

Cadarnhawyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 11 Mehefin 2014 fel rhai cywir.

 

YN CODI O’R COFNODION

 

Cyfeiriodd yr Is-Gadeirydd at fersiwn Gymraeg y rhaglen ac at gyfieithu dogfennau i’r Gymraeg. Nododd nad oedd y dyfyniadau yn cael eu cyfieithu a bod y dogfennau hyn yn cael eu cyhoeddi ar wefan y Cyngor. Gofynnodd a fyddai modd ymchwilio i hyn.

 

Gweithredu: Cyfeirio’r mater i’r Adain Gyfieithu

 

Eitem 3 – Fforwm y Pwyllgor Safonau

 

Cafwyd diweddariad ar Eitem 3 gan y Cadeirydd - cael disgrifiad swydd ar gyfer Clercod Cynghorau Tref a Chymuned ac anfon copi i’r Cadeirydd.

 

Dywedodd y Cadeirydd fod y Gyfreithwraig (Llywodraethu Corfforaethol) wedi anfon dogfen o’r enwCanllawiau Hanfodol i Glercodgan Un Llais Cymru i Gynghorau Tref a Chymuned. Mae disgwyliadau hefyd wedi eu nodi yng Nghanllawiau’r Ombwdsmon ar y Côd.

 

Mewn ymateb casglwyd nad oedd yna ddisgrifiad swydd cyffredinol ac mai cyfrifoldeb y Cynghorau Tref a Chymuned oedd cytuno ar eu disgwyliadau gyda’u Clercod.

 

Gweithredu: Bydd y Swyddog Monitro yn trafod y mater gyda’r Clercod yn yr hyfforddiant a gynhelir yn o fuan.

 

Eitem 4 Datgan diddordeb mewn Cyfarfodydd a’r Gofrestr o Roddion a Lletygarwch

 

Gofynnodd Mrs Shaw i’r Cadeirydd am ddiweddariad ynghylch cyllido’r feddalwedd. Ymatebodd y Cadeirydd trwy ddweud ei fod wedi bod mewn cyfarfod gyda’r Arweinwyr Grwpiau a chytunwyd i gefnogi menter y Pwyllgor Safonau.

 

Dywedodd y Swyddog Monitro ei fod wedi ei gytuno mewn egwyddor, a bod rhaid cyflwyno adroddiad i’r Pwyllgor Gwaith i ddyrannu arian o gronfa wrth gefn yr Arweinyddion Grwpiau. Roedd y Pwyllgor Gwaith wedi gofyn i’r Pwyllgor Safonau gysylltu gyda Chymdeithas Lywodraeth Leol Cymru i weld a oes cyllid ar gael. Cafwyd ymateb gan y Gymdeithas yn dweud nad oedd modd iddi ddarparu cyllid. Dywedodd y Swyddog Monitro ymhellach mai’r rheswm am wrthod cyllido oedd y berthynas fasnachol a chontractyddol rhwng y Cyngor a datblygwr y feddalwedd. Byddai’r Gyfreithwraig (Llywodraethu Corfforaethol) yn cysylltu â CLlLC eto i weld a fyddai’n ailystyried.

 

Dywedodd y Swyddog Monitro fod yr adroddiad wedi ei baratoi a’i gymeradwyo’n ffurfiol ond nad oedd hi am fynd â’r mater yn ei flaen hyd oni fydd CLlLC wedi rhoi ateb terfynol neu oni fyddai Cynghorau eraill yn gallu darparu cyllid.

 

Gweithredu:

·      Y Gyfreithwraig (Llywodraethu Corfforaethol) i ysgrifennu’n ôl at CLlLC yn dilyn trafodaeth gyda Rheolydd Gwe’r Cyngor a darparu diweddariad pellach.

 

·      Disgwyl am ymateb terfynol gan CLlLC neu Gynghorau eraill cyn symud ymlaen.

 

·      Yna, mofyn penderfyniad gan y Pwyllgor Gwaith.

 

Eitem 9 Hyfforddiant ar gyfer Aelodau’r Pwyllgor a Chynghorau Tref a Chymuned

 

Holodd Mrs Shaw ynglŷn â’r sefyllfa mewn perthynas â hyfforddiant ar gyfer Cynghorau Cymuned.

 

Ymateboddy Swyddog Monitro trwy ddweud bod y dyddiadau wedi eu pennu a bod gwahoddiadau wedi eu hanfon ond ni chafwyd ymateb da iawn.

 

Cyfeiriodd y Cadeirydd at gyfarfod ymgysylltu. Yr ymateb gan Glercod y Cynghorau Tref a Chymuned oedd nad oeddent yn credu mai eu cyfrifoldeb nhw oedd rhoi cyngor ar y Côd Ymddygiad. Roedd y Cadeirydd wedi bod mewn cyfarfod arall lle awgrymodd Cyngor Tref a Chymuned Caergybi y gallai’r clercod ddod ynghyd fel grŵp ar gyfer sesiwn hyfforddi. Nid oedd gan y mwyafrif o’r Clercod lawer o frwdfrydedd mewn perthynas â’r hyfforddiant.

 

Awgrymodd y Swyddog Monitro bod y Pwyllgor Safonau yn dal ati gyda’r hyfforddiant fel y cynlluniwyd. Ystyriwyd y byddai o fudd adeiladu ymhellach ar y berthynas.

 

PENDERFYNWYD nodi’r adroddiad.

 

Gweithredu: Cysylltu gyda Chlercod Cynghorau Tref a Chymuned i’w hatgoffa o’r hyfforddiant sy’n cael ei gynnig.

 

Dogfennau ategol: