7.1 -14C164D – Tryfan, Trefor
7.2 - 19LPA434B/FR/CC – Canolfan Gymuned Jesse Hughes, Caergybi
7.3 - 36C328A – Bodafon, Llangristiolus
Cofnodion:
7.1 14C164D - Cais amlinellol gyda rhai materion wedi eu cadw'n ôl ar gyfer codi pâr o anheddau un talcen a chreu mynedfa i gerbydau ar dir ger Tryfan, Trefor
Roedd y cais yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion oherwydd bod yr ymgeisydd yn gyfaill i swyddog 'perthnasol' fel a ddiffinnir ym mharagraff 4.6.10.2 y Cyfansoddiad. Roedd y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion yn ei gyfarfod ar 30 Gorffennaf, 2014 wedi penderfynu gwrthod y cais a hynny’n groes i argymhelliad y Swyddog ar y sail nad oedd yr angen am dai ym mhentref Trefor wedi ei brofi.
Gwahoddodd y Cadeirydd y Cynghorydd Bob Parry OBE, un o'r Aelodau Lleol i annerch y cyfarfod. Dywedodd y Cynghorydd Parry fod caniatâd cynllunio eisoes yn bodoli ar y safle am un annedd ond bod yr ymgeisydd yn dymuno rhoi cyfle i brynwyr tro cyntaf yn lleol allu prynu eu cartref eu hunain. Dywedodd ymhellach mai’r unig sylw yr oedd preswylwyr Tryfan yn dymuno ei wneud yw - pan gyflwynir y cynllun manwl na fydd ffenestri’r anheddau yn edrych dros eu heiddo.
Dywedodd y Cynghorydd T. Victor Hughes ei fod wedi pleidleisio yn erbyn y cais yn y cyfarfod diwethaf ond yn dilyn ystyried y cyfle oedd yma i bobl ifanc allu fforddio i brynu anheddau o'r fath yn hytrach nag un tŷ mawr fyddai y tu hwnt i’w cyrraedd, roedd yn fodlon cefnogi'r cais. Fodd bynnag, dywedodd y dylid rhoi sylw dyledus i’r angen i gael tanc septig mawr ar gyfer y ddwy annedd ac y dylid gwneud contract fyddai’n ymrwymo perchenogion yr eiddo i gynnal a chadw’r system ddraenio.
Dywedodd y Rheolwr Rheoli Datblygu fod yr ymgeisydd wedi cyflwyno tystiolaeth gan ddau werthwr tai ar wahân yn dweud bod angen am eiddo o’r fath yn yr ardal. Roedd Galluogydd Tai Gwledig y Cyngor o’r farn y bydd diddordeb yn yr ardal am ddatblygiad o'r fath oherwydd agosrwydd Trefor i bentrefi eraill yn yr ardal. Roedd yr Asesiad o’r Farchnad Lleol Ynys Môn yn dweud bod angen am 134 o dai o’r dyluniad hwn bob blwyddyn am y 5 mlynedd nesaf. Mae dros 1,500 o bobl ar hyn o bryd ar y rhestr aros am dai gyda’r Cyngor Sir a dros 500 o bobl wedi cofrestru gyda sefydliad Tai Teg. Mae’n glir bod angen amlwg ar yr Ynys a hefyd yn yr ardal hon, am y math hwn o dai.
Dywedodd y Rheolwr Rheoli Datblygu ymhellach bod llythyr wedi ei dderbyn yn hwyr gan yr ymgeisydd a darllenodd allan brif bwyntiau’r llythyr.
Dywedodd y Cynghorydd Ann Griffith nad oedd yn credu bod yna alw mawr am dai o’r fath yn Trefor a chynigiodd y dylid gwrthod y cais. Nid chafwyd eilydd i'w chynnig.
Cynigiodd y Cynghorydd K.P. Hughes y dylid caniatáu’r cais ac eiliodd y Cynghorydd R O Jones y cynnig.
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog, a chyda’r amodau oedd wedi eu rhestru yn yr adroddiad ysgrifenedig.
7.2 9LPA434B/FR/CC - Cais llawn ar gyfer adnewyddu'r adeiladau gwreiddiol, dymchwel yr estyniad cyswllt ynghyd â chodi estyniad deulawr newydd yng Nganolfan Cymuned Jesse Hughes, Caergybi
(Datganodd y Cynghorydd Jeff Evans ddiddordeb yn y cais hwn a gadawodd y cyfarfod yn ystod y drafodaeth a’r pleidleisio arno).
Cyflwynwyd y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion oherwydd mai cais gan y Cyngor ydoedd ar dir y Cyngor. Yn y cyfarfod a gynhaliwyd ar 2 Gorffennaf 2014 fe benderfynodd y Pwyllgor ohirio'r cais oherwydd i ymgynghori ddigwydd gyda’r aelodau lleol anghywir. Roedd y camgymeriad hwn wedi ei gywiro. Yn y cyfarfod a gynhaliwyd ar 30 Gorffennaf 2014 fe benderfynwyd ymweld â'r safle. Fe wnaed hynny ar 20 Awst 2014.
Dywedodd y Rheolwr Rheoli Datblygu bod y prif bryderon i’w gweld fel pe baent yn ymwneud ag isadeiledd priffyrdd yn yr ardal. Dywedodd bod gwaith ymgynghori pellach wedi ei wneud gyda’r ymgeisydd a'r Awdurdod Priffyrdd a chytunwyd y byddai Cynllun Rheoli Traffig yn cael ei roi yn ei le yn ystod y cyfnod adeiladu. Bydd angn cynllun hefyd pan fydd y cyfleuster ar agor. Bydd amod cynllunio yn cael ei osod ar y caniatad fel oedd wedi ei nodi yn yr adroddiad.
Gwahoddodd y Cadeirydd y Cynghorydd T.Ll Hughes, Aelod Lleol i annerch y cyfarfod. Dywedodd y Cynghorydd Hughes nad oedd ganddo unrhyw wrthwynebiad i'r cais ond mai’r rheswm yr oedd wedi galw’r cais i mewn i'w benderfynu gan y Pwyllgor oedd bod ganddo bryderon ynglŷn â mater y traffig yn yr ardal.
Dywedodd yr Uwch Beiriannydd (Rheoli Datblygu), fel rhan o'r broses o ddatblygu’r Cynllun Rheoli Traffig, fod trafodaethau wedi eu cynnal gyda pherchennog y garej gerllaw. Roedd cytundeb llafar wedi ei sicrhau y byddai’r tir y tu ôl i’r garej yn cael ei ddefnyddio fel mynedfa dros dro ar gyfer danfon deunyddiau adeiladu yn ystod y cyfnod adeiladu. Roedd cytundeb cyfreithiol yn y broses o gael ei gwblhau i’r perwyl hwn.
Cynigiodd y Cynghorydd K.P. Hughes y dylid caniatáu’r cais ac eiliodd y Cynghorydd Lewis Davies y cynnig.
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog, a chyda’r amodau oedd wedi eu rhestru yn yr adroddiad ysgrifenedig.
7.3 36C328A - Cais amlinellol gyda rhai materion wedi eu cadw yn ôl ar gyfer codi annedd a chreu mynedfa newydd ynghyd â dymchwel y garej bresennol ar dir ger Bodafon, Llangristiolus
Roedd y cais wedi ei gyflwyno i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar ofyn Aelod Lleol. Roedd yr Aelodau wedi ymweld â’r safle ar 17 Gorffennaf 2014.
Dywedodd y Rheolwr Rheoli Datblygu bod y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gynhaliwyd ar 30 Gorffennaf 2014 wedi penderfynu gwrthod y cais a hynny yn groes i argymhelliad y Swyddog oherwydd y byddai’n cyfateb i or-ddatblygu yn y cefn gwlad ac nad oedd yn cydymffurfio â Pholisi 50 Cynllun Lleol Ynys Môn oherwydd ei bellter o'r ffin ddatblygu. Dywedodd bod llythyrau ychwanegol wedi eu derbyn gan yr ymgeisydd a'i asiant a’u bod yn y pecyn oedd ar gael i’r Pwyllgor o fewn y cyfnod amser. Cyfeiriodd y Swyddog at yr adroddiad gerbron y cyfarfod oedd yn dweud bod y safle yn mesur bron i 1,000 metr sgwâr a’i fod yn cael ei ystyried yn faint digonol ar gyfer annedd. Roedd y safle yn union gyfagos i’r eiddo a elwir yn Bodafon ac roedd o fewn clwstwr o 7 annedd, ac felly ystyriwyd ei fod yn estyniad derbyniol i’r pentref ac na fyddai'n cyfateb i or-ddatblygu yn y cefn gwlad.
Gan siarad fel Aelod Lleol dywedodd y Cynghorydd T. Victor Hughes bod Aelodau'r Pwyllgor hwn wedi derbyn 2 lythyr gan yr ymgeisydd yn cadarnhau mai ail gartref oedd Bodafon a bod y perchennog yn gobeithio cadw ac uwchraddio’r eiddo hwnnw drwy werthu’r cais hwn yn y man pe câi caniatâd ei roi. Darllenodd y Cynghorydd Hughes ddyfyniad o’r llythyr a dderbyniwyd dyddiedig 9 Awst 2014. Roedd y ffordd sy’n arwain i’r safle yn eithriadol o gul heb unrhyw balmant. Mae Polisi 23 yn dweud y bydd ‘datblygiad lle mae’r ddarpariaeth o gludiant cyhoeddus yn wael, yn cael ei wrthod’. Mae Polisi 48 yn cyfeirio at anghenion a lles yr Iaith Gymraeg a dywed Cynllun Fframwaith Gwynedd A3 'er budd yr Iaith Gymraeg... ac argaeledd cyfleusterau cymdeithasol a chymunedol'. Roedd am gwestiynu lle'r oedd y cyfleusterau hyn yng nghymuned Llangristiolus? Mae Polisi 1 Cynllun Lleol Ynys Môn yn cyfeirio at anghenion a lles yr Iaith Gymraeg. Holodd pa bryd yr oedd yr awdurdod yn mynd i gymryd sylw digonol o'r polisïau hyn? A yw caniatáu datblygiad marchnad agored arall i ymgeisydd nad yw wedi profi bod unrhyw angen amdano? Roedd o'r farn nad oedd caniatáu datblygiad i ariannu ail gartref yn rheswm digonol i adeiladu annedd mewn safle tir gwyrdd mewn ardal wledig. Am y rhesymau hyn, cynigiodd y dylai’r Pwyllgor wrthod y cais. Eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd R.O. Jones.
Cynigiodd y Cynghorydd K.P. Hughes y dylid caniatáu’r cais ac eiliwyd hynny gan y Cynghorydd Nicola Roberts.
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog, a chyda’r amodau oedd wedi eu rhestru yn yr adroddiad ysgrifenedig.
Dogfennau ategol: