12.1 – 12C389B – Man Chwarae Thomas Close, Biwmares
12.2 – 20C102J – Rhyd y Groes, Rhosgoch
12.3 – 21C40A – Penrhyn Gwyn, Llanddaniel
12.4 – 39C305B – 5 Ffordd Cambria, Porthaethwy
12.5 – 45C111/RE – Gellinog Bach, Dwyran
Cofnodion:
12.1 12C389B - Cais llawn ar gyfer codi ffens pedwar medr o uchder ar dir yn Maes Chwarae, Thomas Close, Biwmares
Roedd y cais wedi ei gyflwyno i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion oherwydd bod safle’r cais ar dir y Cyngor.
Cynigiodd y Cynghorydd Lewis Davies y dylid caniatáu’r cais ac eiliwyd ef gan y Cynghorydd John Griffith.
Roedd y Cynghorydd Ann Griffith yn dymuno iddo gael ei nodi ei bod yn atal ei phleidlais.
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog, a chyda’r amodau oedd wedi eu rhestru yn yr adroddiad ysgrifenedig.
12.2 20C102J - Cais i godi mast anemomedr dros dro 60m o uchder ar dir yn Rhyd y Groes, Rhosgoch
(Datganodd y Cynghorydd W T Hughes ddiddordeb yn y cais hwn a gadawodd y cyfarfod yn ystod y drafodaeth a'r pleidleisio arno).
Roedd y cais wedi ei gyflwyno i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion oherwydd iddo gael ei benderfynu na fyddai pwerau dirprwyedig yn cael eu defnyddio mewn cysylltiad â datblygiadau tyrbinau gwynt.
Rhoddodd y Rheolwr Rheoli Datblygu ddiweddariad i’r Pwyllgor gan ddweud bod y Swyddog Llwybrau Cyhoeddus ac Ymgynghorydd Ecolegol ac Amgylcheddol y Cyngor Sir wedi ymateb gyda dim gwrthwynebiad i'r cais. Nododd mai strwythur main fyddai’r anemomedr ac y byddai yno am gyfnod dros dro o 3 blynedd ac nid oedd yn cael ei ystyried y byddai’n cael effaith sylweddol ar gymeriad ac edrychiad y tirlun.
Cynigiodd y Cynghorydd K.P. Hughes y dylid caniatau’r cais ac eiliwyd hynny gan y Cynghorydd Jeff Evans.
Ni phleidleisiodd y Cynghorydd Nicola Roberts ar y cais.
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog, a chyda’r amodau oedd wedi eu rhestru yn yr adroddiad ysgrifenedig.
12.3 21C40A - Cais llawn i godi sied amaethyddol ar gyfer cadw anifeiliaid a pit slyri ar dir yn Penrhyn Gwyn, Llanddaniel
Roedd y cais wedi ei gyflwyno i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan Aelod Lleol.
Dywedodd y Rheolwr Rheoli Datblygu fod pobl lleol wedi gofyn am gael siarad ar y cais hwn ond nid oedd yr Adran Gynllunio wedi gallu cysylltu â hwy o fewn y cyfnod amser penodol.
Gwahoddodd y Cadeirydd y Cynghorydd H. Eifion Jones fel Aelod Lleol i annerch y cyfarfod. Dywedodd y Cynghorydd Jones y byddai o fudd i’r Pwyllgor ymweld â'r safle a gofynnodd am i’r sylwadau a gafwyd gan y Cyngor Cymuned gael eu cynnwys yn yr adroddiad yn y cyfarfod nesaf.
Cynigiodd y Cynghorydd K.P. Hughes y dylid ymweld â'r safle ac eiliwyd hynny gan y Cynghorydd T. Victor Hughes.
PENDERFYNWYD y dylid ymweld â’r safle fel y gallai’r Aelodau asesu’r effaith ar yr eiddo cyfagos.
12.4 39C305B - Cais llawn ar gyfer addasu ac ehangu yn 5 Ffordd Cambria, Porthaethwy
Roedd y cais wedi ei gyflwyno i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan Aelod Lleol.
Dywedodd y Cynghorydd K.P. Hughes bod 2 o'r Aelodau Lleol wedi gofyn am i’r Pwyllgor ymweld â'r safle. Cynigiodd y Cynghorydd Hughes y dylid gwneud hynny ac eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd John Griffith.
PENDERFYNWYD y dylid ymweld â’r safle fel y gallai’r Aelodau weld y cynllun oherwydd bod 2 Aelod Lleol yn ystyried bod gor-ddatblygu yn yr ardal hon.
12.5 45C111E/RE - Cais llawn i osod paneli solar (4kW) ar y ddaear o fewn y cwrtil yn Gelliniog Bach, Dwyran
Roedd y cais wedi ei gyflwyno i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan Aelod Lleol.
Dywedodd y Cynghorydd Ann Griffith, Aelod Lleol iddi alw’r cais i mewn ond ei bod bellach wedi ei bodloni yn dilyn derbyn gwybodaeth bellach ynglŷn ag effaith datblygiad o'r fath ar y dirwedd.
Rhoddodd y Cadeirydd wahoddiad i’r Cynghorydd P.S. Rogers fel Aelod Lleol i annerch y cyfarfod. Dywedodd y Cynghorydd Rogers nad oedd neb wedi gwrthwynebu’r cais hwn yn lleol. Dyfynnodd o Gynllun Datblygu Unedol Ynys Môn oedd yn dweud y bydd ceisiadau ar gyfer adnoddau ynni adnewyddadwy a rhai anadnewyddadwy yn cael eu caniatáu lle na ellir profi unrhyw effaith andwyol ar yr amgylchedd. Cais oedd hwn am 16 o baneli solar gyda phob un yn mesur 15m o hyd a 3m o led.
Cynigiodd y Cynghorydd K.P. Hughes y dylid caniatáu’r cais ac eiliwyd hynny gan y Cynghorydd R O Jones.
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog, a chyda’r amodau oedd wedi eu rhestru yn yr adroddiad ysgrifenedig.
Dogfennau ategol: