Cyflwyno Adroddiad Blynyddol Iechyd a Diogelwch am 2013/14.
Cofnodion:
Cyflwynwyd yr Adroddiad Blynyddol ar gyfer 2013/14 ar Iechyd a Diogelwch Corfforaethol i sylw’r Pwyllgor. Roedd yr adroddiad yn darparu dadansoddiad o’r damweiniau a’r digwyddiadau y cafwyd gwybod amdanynt yn ystod y flwyddyn ac roedd Atodiad 1 yr adroddiad yn cynnwys Strategaeth Iechyd a Diogelwch Corfforaethol a dogfen cyfrifoldebau Iechyd a Diogelwch Corfforaethol.
Dygodd yr Arweinydd Tîm ar gyfer Iechyd a Diogelwch Corfforaethol sylw at y pwyntiau allweddol isod -
• Oherwydd canolbwyntio ar gyflawni’r rhaglen drawsnewid a’r Cynllun Arfarnu Swyddi dros y 12 mis a aeth heibio efallai bod rhai o’r materion dydd i ddydd heb gael cymaint o sylw a bod llai o gynnydd wedi ei wneud o ran gwella safonau iechyd a diogelwch.
• Oherwydd ailstrwythuro roedd Penaethiaid Gwasanaeth wedi etifeddu peryglon sy’n newydd iddynt a allai olygu nad yw’r systemau rheoli ar eu cyfer yn ddigonol.
• Rhaid ymgorffori ystyriaethau iechyd a diogelwch o fewn cynlluniau busnes y gwasanaethau. Byddai cynllunio ymlaen llaw yn golygu bod digon o adnoddau ar gael i sicrhau bod y gwaith yn fwy effeithiol.
• Pwysigrwydd hyfforddiant iechyd a diogelwch fel elfen reoli bwysig. Byddai’n ddefnyddiol sefydlu cofrestr ganolog o staff cymwys yn y maes Iechyd a Diogelwch a’u cymwyseddau.
• Angen egluro disgwyliadau’r Tîm Iechyd a Diogelwch Corfforaethol o ran y ddarpariaeth o wasanaethau a ph’un a yw ei rôl yn un weithredol ynteu’n rôl oruchwyliol yn unig.
Rhoddodd y Pwyllgor sylw i’r adroddiad a chodwyd y materion a ganlyn ar y wybodaeth a gyflwynwyd :
• Yr angen i gael Tîm Iechyd a Diogelwch a chanddo’r adnoddau digonol fel maes gweithgaredd allweddol o fewn y Cyngor.
• Yr angen i gael dadansoddiad manylach o’r data sylfaenol er mwyn bod yn glir ynghylch amlder achosion o drais corfforol yn erbyn staff y Cyngor.
• Yr angen i sicrhau bod system gadarn ar gael ar gyfer rhoi gwybod am ddamweiniau a digwyddiadau, ynghyd â phroses ar gyfer rhoi gwybod am ddamweiniau a fu bron â digwydd, a hynny fel rhan o ymagwedd ataliol/ragweithiol tuag at reoli Iechyd a Diogelwch Corfforaethol. Pwysleisiwyd yr angen i ddatblygu diwylliant adrodd cryf trwy’r holl Awdurdod ar bob lefel.
• Yr angen i ailsefydlu’r gofrestr o unigolion a allai fod yn beryglus, a hynny ar fyrder fel elfen reoli hanfodol er mwyn lleddfu’r risg o drais ac ymosodiadau yn y lle gwaith ac ar gyfer pobl sy’n gweithio ar eu pennau eu hunain.
• Yr angen i sicrhau bod yr holl Benaethiaid Gwasanaeth yn gwybod am eu holl gyfrifoldebau iechyd a diogelwch a’r hyn y maent yn ei olygu.
Penderfynwyd –
• Derbyn yr adroddiad a nodi ei gynnwys
• Ailsefydlu’r gofrestr o unigolion a all fod yn beryglus, a hynny fel elfen i leddfu’r risg o drais ac ymosodiadau yn y lle gwaith ac ar gyfer pobl sy’n gweithio ar eu pennau eu hunain.
CAM GWEITHREDU’N CODI: Cyfarwyddwr Cynaliadwyedd i gymryd camau i ailsefydlu’r gofrestr o unigolion a all fod yn beryglus.
Dogfennau ategol: