Eitem Rhaglen

Ymateb i’r Papur Gwyn ar Ad-drefnu Llywodraeth Leol

Cyflwyno adroddiad gan y Prif Weithredwr. - I DDILYN

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad gan y Prif Weithredwr.

 

Rhoddodd y Prif Weithredwr adroddiad yn rhoi cefndir y Papur Gwyn ar Ddiwygio llywodraeth Leol.  Nododd i Grŵp Tasg a Gorffen gael ei sefydlu ym mis Awst 2014 i drafod y goblygiadau i Fôn yn sgil cynigion y Llywodraeth yn dilyn anfon ymateb y Cyngor i argymhellion Comisiwn Williams ar yr achos dros ddiwygio’r gwasanaeth cyhoeddus.  Roedd y Grŵp wedi cyfarfod ar ddau achlysur hyd yn hyn ac wedi sgriwtineiddio mewn manylder yr holl ddogfennau perthnasol, y cyflwyniadau a wnaed gan Uwch Swyddogion a hefyd y safbwyntiau oedd yn dod i’r amlwg yn y rhanbarth ac yn genedlaethol. 

 

Cynhaliwyd Seminar i holl Aelodau’r Cyngor ar 18 Medi 2014 lle cafwyd gwybodaeth ynglŷn â Phapur Gwyn y Llywodraeth ar Ddiwygio Llywodraeth Leol ac i godi ymwybyddiaeth o’r prif faterion oedd i gael sylw o safbwynt Ynys Môn. 

 

Rhoddodd y Prif Weithredwr fanylion am y manteision a’r anfanteision o ddod yn Awdurdod fyddai’n mabwysiadu’r cynnig i uno yn gynnar.

 

Nododd Aelodau’r Cyngor Sir y prif faterion a ganlyn:-

 

  Nid oeddent wedi eu darbwyllo y byddai yna fanteision i unrhyw uno nac y byddai hynny’n datrys y toriadau ariannol gan awdurdodau lleol ar draws Cymru;

  Dylai safbwyntiau trigolion yr Ynys fod yn hollbwysig a dylid ystyried cynnal Refferendwm i gael safbwyntiau’r etholwyr o safbwynt yr uno arfaethedig gydag awdurdod cyfagos;

  Byddai goblygiadau cost anferthol i unrhyw uniad gwirfoddol;

  Goblygiadau o ran staff;

  Cynnydd posibl yn y Dreth Gyngor i breswylwyr Ynys Môn oherwydd yr uniad.

 

Ystyriodd y Cyngor yr argymhellion yn yr adroddiad gan gymeradwyo 7.1 i 7.4.

 

O safbwynt yr argymhelliad ynghylch a ddylid uno’n wirfoddol gydag un neu fwy o awdurdodau, cymerwyd pleidlais wedi’i chofnodi dan ddarpariaethau rhan 4.1.18.5 y Cyfansoddiad. 

 

Roedd y bleidlais a gofnodwyd fel a ganlyn:-

 

I beidio â datgan diddordeb fel Awdurdod fyddai’n mabwysiadu neu yn uno’n gynnar:-

 

Cynghorwyr  R.A. Dew, Jeff M. Evans, Ann Griffith, John Griffith, D.R. Hughes, K.P. Hughes, T.Ll. Hughes, T.V. Hughes, Vaughan Hughes, W.I. Hughes, Llinos M. Huws, A.M. Jones, G.O. Jones, H.E. Jones, Raymond Jones, R.Ll. Jones, R. Meirion Jones, R.O. Jones, Alun Mummery, Bob Parry OBE, Dylan Rees, J. Arwel Roberts, Alwyn Rowlands, D.R. Thomas, Ieuan Williams.                                                                                     CYFANSWM 25

 

Yn erbyn yr argymhelliad:-

 

Cynghorydd P.S. Rogers                                                               CYFANSWM 1

 

Atal Pleidlais:                                                                       NEB

 

PENDERFYNWYD

 

  Gofyn am wybodaeth bellach gan Weinidogion Cymru ynglŷn â’r opsiynau sydd ar gael i'w hystyried gan y Cyngor hwn cyn penderfynu ar ei safiad mewn perthynas â’r cynigion i uno gydag Awdurdodau eraill ac yn arbennig i geisio mwy o eglurder o amgylch y cymhellion ariannol i ddod yn Awdurdod a fyddai’n mabwysiadu’n gynnar ac, i'r perwyl hwnnw, gofyn i’r Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus gael ei wahodd i gyfarfod o’r Cyngor Llawn i drafod y materion hyn ar y cyfle cyntaf.

 

  Ei fod yn ei ymateb i’r gyfres o gwestiynau a godwyd yn y Papur Gwyn ar Ddiwygio Llywodraeth Leol:-

 

  Yn tynnu sylw at ei ymateb blaenorol i Adroddiad Comisiwn Williams oedd yn delio â’r rhan fwyaf o’r materion y gwahoddwyd yr ymgyngoreion i ymateb iddynt;

 

   • Bod y Cyngor yn cymeradwyo’r ymateb i’r ymgynghoriad a luniwyd gan CLlLC ac a gyflwynwyd i Gyngor CLlLC ar 26 Medi, 2014.

 

  Bod y Cyngor yn awdurdodi Arweinydd y Cyngor a’r Prif Weithredwr i ddechrau trafodaethau ffurfiol ar lefel leol, ranbarthol a chenedlaethol i hyrwyddo buddiannau dinasyddion Ynys Môn, gyda sefydliadau partner, wrth i’r agenda ar gyfer diwygio ddatblygu ac i adrodd yn ôl ar ganlyniadau’r trafodaethau hyn fel bo’n briodol i’r Cyngor drwy’r Grŵp Tasg a Gorffen, y cyfarfodydd o’r Arweinyddion Grwpiau a’r Uwch Dim Arweinyddiaeth o swyddogion gyda golwg ar wneud cyflwyniad ffurfiol i’r Cyngor i’w benderfynu cyn gweithredu ar unrhyw drafodaethau.

 

  Bod yr Arweinydd a’r Prif Weithredwr yn cael eu hawdurdodi i sefydlu strategaethau cyfathrebu effeithiol ac ymgysylltu cymunedol i gael safbwyntiau dinasyddion a chymunedau Ynys Môn cyn i’r Cyngor fabwysiadu ei safbwynt ar Ddiwygio Llywodraeth Leol a’i weithredu ar gyfer Ynys Môn.

 

  Bod y Cyngor, yn dilyn rhoddi ystyriaeth briodol i’r materion oedd wedi eu hamlinellu yn Adran 6 yr adroddiad, yn penderfynu peidio â datgan mynegiant o ddiddordeb mewn Awdurdod fyddai’n mabwysiadu nac yn uno’n gynnar, erbyn y dyddiad cau o 28 Tachwedd 2014.

Dogfennau ategol: