Ystyried y penderfyniad i gau Parc Sglefrio Llangefni ac unrhyw wersi i’w dysgu o’r broses.
(I bwrpas cyfeirio mae’r Protocol Aelodau/Swyddogion ar gael trwy’r linc canlynol -
http://www.ynysmon.gov.uk/Journals/2014/08/11/t/l/r/Cyfansoddiad_2.6_PA_8_8_14.pdf Tud.238-243 )
Cofnodion:
Rhoes y Cadeirydd groeso i bawb a oedd yn bresennol i’r cyfarfod arbennig hwn o’r Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol a drefnwyd i ystyried cau Parc Sglefrio Llangefni ac unrhyw wersi i’w dysgu o’r broses honno a hynny’n unol â’r cais a wnaed gan y Cynghorydd Victor Hughes ac a gymeradwywyd gan y Pwyllgor yn ei gyfarfod ar 1 Medi 2014.
Rhoddwyd i’r Pwyllgor wybodaeth gefndirol ynglŷn ag amgylchiadau gwneud y penderfyniad i gau’r Parc Sglefrio yn Llangefni.
Gofynnodd y Cadeirydd i’r Cynghorydd Victor Hughes egluro’r rhesymau dros ofyn i’r Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol ymchwilio i’r mater.
Nododd y Cynghorydd Victor Hughes y pwyntiau canlynol –
• Fel un o gyfarwyddwyr gweithredol Cwmni Tref Llangefni a fu’n allweddol yn y broses o sefydlu Parc Sglefrio Llangefni, roedd yn siomedig bod y parc wedi cau a’r modd y gwnaed hynny ac effaith andwyol y penderfyniad ar y gymuned leol a defnyddwyr y parc.
• Disgrifiodd yr ymdrechion a wnaed yn 2002 i ddod â’r Parc Sglefrio i Langefni fel adnodd y gallai pobl ifanc y dref ei ddefnyddio a’r anawsterau a gafwyd i ddod o hyd i leoliad derbyniol ac addas.
• Rhoes amlinelliad o fewnbwn y Cyngor Sir ar y pryd o ran cynorthwyo i ddiogelu cyllid grant a chaniatâd cynllunio (gohebiaeth ddyddiedig 10 Ebrill 2003 gan Bennaeth y Gwasanaethau Hamdden ar y pryd).
• Wedi hynny, sefydlwyd y Parc Sglefrio a bu’n cael ei ddefnyddio yn gyson ers hynny.
• Ar 11 Gorffennaf 2014 sylwodd fod offer y Parc Sglefrio yn cael ei gludo ymaith ar lori. Wedi ymholi, canfuwyd nad oedd yr Aelodau Lleol yn ymwybodol o’r datblygiad hwn ac nid oedd y Prif Weithredwr ychwaith yn ymwybodol pan ofynnwyd iddo’r diwrnod canlynol.
• Rhoddwyd y gorau ar unwaith i ddefnyddio adnodd gwerth £70k ar sail dau adroddiad iechyd a diogelwch - y naill gan RoSPA a’r llall yn adroddiad archwilio ar wahân - a hynny heb ymchwilio ymhellach i’r posibilrwydd o drwsio’r offer.
• Mae’r ail adroddiad yn argymell y dylid trin y rhannau o’r offer a oedd wedi rhydu gyda golwg ar ymestyn oes a sefydlogrwydd yr offer.
• Disgrifiwyd sefyllfa debyg mewn newyddlen gymunedol ar gyfer cymuned Blaenau Ffestiniog lle cafodd penderfyniad i gau Parc Sglefrio lleol yr oedd ei gyflwr wedi ei dirywio ei wyrdroi gan ymdrech gydweithredol yn y gymuned i godi £15k ar gyfer gwaith trwsio. Nid yw swm oddeutu £15k yn swm mawr i wario ar drwsio’r offer o gofio’r buddsoddiad gwreiddiol o £70k ar Barc Sglefrio Llangefni. Chafodd cymuned Llangefni mo’r cyfle i wneud unrhyw waith trwsio.
• Ei fod yn teimlo bod yr holiadur ynghylch Parc Sglefrio Plas Arthur a luniwyd i gynorthwyo gyda’r penderfyniad ynghylch dyfodol y parc, wedi ei eirio yn negyddol ac mewn modd a oedd yn cefnogi cau/ail-leoli’r parc.
Clywodd y Pwyllgor gan Mr Dave Barker, Y Prif Swyddog Hamdden, Mr James Stuart, Rheolwr Canolfan Hamdden Plas Arthur a Mr Arnold Milburn, cyn Glerc Cyngor Tref Llangefni a wahoddwyd i’r cyfarfod i roddi i’r Pwyllgor wybodaeth ynghylch y ffactorau a’r amgylchiadau a arweiniodd at gau’r Parc Sglefrio. Cafodd Aelodau’r Pwyllgor y cyfle i ofyn cwestiynau i’r sawl a wahoddwyd er mwyn cael eglurhad ar y sefyllfa.
Llywiodd y Cadeirydd y cyfarfod yn ôl y drefn a nodwyd yn rhestr ddogfennau’r Pwyllgor:
• Canlyniadau’r Arolwg ar y Parc Sglefrio
• Rhestr Wirio Archwiliadau’r Ganolfan Hamdden
• Adroddiad RoSPA
• Adroddiad ar Archwiliad Diogelwch Annibynnol
• Nodyn Briffio gan y Pennaeth Gwasanaeth
Cododd y pwyntiau canlynol o’r cwestiynau a ofynnwyd a’r ymatebion iddynt:
• Mae rhestr wirio Swyddog Dyletswydd Plas Arthur yn rhan o drefn weithredu’r Ganolfan Hamdden. Ymestynnwyd yr arfer i’r Parc Sglefrio oherwydd y sbwriel a adawyd ar y parc, problem a waethygodd ar ôl 2010. Cafwyd hefyd achosion o ymddygiad gwrthgymdeithasol a gyfeiriwyd at yr Heddlu ar dri achlysur. Gwyddys fod cwynion wedi cael eu gwneud ynghylch ymddygiad gwrthgymdeithasol mor bell yn ôl â 2005.
• Rhoddwyd gwybod i Glerc Cyngor Tref Llangefni am unrhyw ddiffygion o bwys a gwnaeth y Cyngor hwnnw'r mân waith trwsio.
• Cafodd yr holiadur defnyddwyr a baratowyd gan y Cyngor Tref ei lunio er mwyn cael tystiolaeth o’r defnydd a oedd yn cael ei wneud o’r Parc Sglefrio oherwydd bod lefel y defnydd ar y pryd yn isel ac er mwyn codi ymwybyddiaeth o’r problemau cyffuriau, ymddygiad gwrthgymdeithasol a sbwriel. Roedd yn rhan o’r adolygiad o’r parc yn ei gyfanrwydd gan gynnwys ei weithrediad a’r problemau y gall fod yn eu hachosi.
• Mae’r safle lle bwriedir ail-leoli’r Parc Sglefrio ym Mharc Cymuned Lôn Las eisoes â chyfleusterau arno. Mae’n safle mwy a gellid ei alw yn hyb cymunedol.
• Cafodd yr adroddiad gan yr arolygydd annibynnol ar gyflwr y Parc Sglefrio dyddiedig Mai 2014 ei gomisiynu’n anffurfiol gan Glerc Cyngor Tref Llangefni ar y pryd er mwyn dilysu ei asesiad personol ef ei hun o gyflwr dirywiedig offer rhan o’r Parc. Ni chafodd yr adroddiad ei drafod yn ffurfiol gan y Cyngor Tref.
• Anfonwyd yr adroddiad at yr Adran Hamdden. Oherwydd trafodaethau rhwng y Gwasanaeth Hamdden a’r Cyngor Tref ynghylch y posibilrwydd o drosglwyddo'r Parc Sglefrio fel ased, roedd yn rhesymol cael asesiad annibynnol swyddogol o’r offer cyn y trosglwyddiad, ac o’r herwydd, comisiynwyd RoSPA, fel corff a gydnabyddir yn genedlaethol, i gynnal yr asesiad hwnnw. Roedd adroddiad RoSPA dyddiedig Mehefin 2014 yn ategu nifer o’r casgliadau y daethpwyd iddynt gan yr arolygydd annibynnol yn ei adroddiad answyddogol.
• Ar sail sgôr yr asesiad risg yn adroddiad RoSPA a chyngor cyfreithiol a gafwyd ar wahân, codwyd arwydd i hysbysu’r cyhoedd y byddai’r offer yn cael ei dynnu o’r Parc am resymau diogelwch. Gwnaed y penderfyniad gan y Prif Swyddog Hamdden, Rheolwr Canolfan Hamdden Plas Arthur a chyn Glerc y Cyngor Tref a hynny yn wyneb yr adroddiad gan RoSPA.
• Dywedwyd oherwydd bod y Gwasanaeth Hamdden yn un anstatudol nid oedd rhaid ymgynghori. Fodd bynnag, ni chafodd yr Aelodau Lleol Etholedig eu cynnwys yn y broses trwy amryfusedd ac ymddiheurodd y Prif Swyddog Hamdden am hynny.
• Gellid dadlau na fyddai’r penderfyniad i dynnu’r cyfarpar oddi yno wedi newid oherwydd ei fod yn seiliedig ar gasgliadau corff annibynnol uchel ei barch ond byddid wedi medru gweithredu’r penderfyniad mewn ffordd wahanol.
• Tynnwyd y cyfan o’r cyfarpar oddi yno oherwydd y byddai’r darnau bychan a fyddai ar ôl wedi amharu ar lif y parc.
• Roedd y Cyngor Tref wedi gwneud mân-waith trwsio ac roedd yn parhau i wneud i hynny. Seiliwyd y penderfyniad i dynnu’r cyfarpar oddi yno oherwydd y farn nad oedd modd trwsio’r strwythur ac nid oherwydd ymddygiad gwrthgymdeithasol.
• Mae’r Cyngor tref yn gyfrifol am nifer o lecynnau chwarae sy’n cael eu harchwilio bob blwyddyn gan RoSPA. Archwiliwyd Parc Sglefrio Llangefni fel rhan o’r broses honno yng nghyd-destun y bwriad i drosglwyddo’r ased, a chyhoeddwyd yr adroddiad dyddiedig Mehefin 2014 wedyn.
• Nid oes penderfyniad wedi ei wneud mewn perthynas ag unrhyw ddefnydd arall y gellir ei wneud o safle’r Parc Sglefrio.
• Mae yna Gronfa Gymunedol o’r enw Clwb Cadw Mi Gei a sefydlwyd gan y gymuned ar ôl i’r Bartneriaeth Cymunedau’n Gyntaf wneud ei ddyraniad grant ar gyfer sefydlu’r parc, ac mae’r gronfa honno ar hyn o bryd yn cynnwys £2,000.
Clywodd y Pwyllgor hefyd gan Aelod Lleol, y Cynghorydd Dylan Rees ac Aelodau o Gyngor Tref Llangefni a oedd wedi codi materion mewn perthynas â diffyg rhybudd bod y parc am gau ac ynghylch cyflwr y parc a oedd, yn eu barn nhw, yn lân ac yn daclus; ynghylch cyllid ac ynghylch cyfrifoldebau trosolwg.
Dywedodd Mr Dewi Morgan, fel un a oedd yn defnyddio’r Parc Sglefrio ac a fu’n rhan o’r gwaith o’i sefydlu ac y bu ei blant yn ei ddefnyddio, fod llawer o blant a phobl ifanc yn defnyddio’r parc a’i fod yn arbennig o brysur ar y Suliau. Mae ei leoliad cyfredol y tu allan i Ganolfan Hamdden Plas Arthur yn un addas oherwydd mai gweithgareddau hamdden sy’n digwydd yn y Parc Sglefrio ac mae mewn lleoliad diogel sy’n agos i’r ganolfan hamdden. Dywedodd Mr Morgan fod y sylfeini’n parhau i fod yno ac y byddai’n dymuno gweld y Parc yn cael ei ailsefydlu ar y safle gwreiddiol cyn tynnu’r wyneb a cholli’r arian.
Ymateb y Pwyllgor i rai o’r pwyntiau uchod oedd –
• Roedd gwendid sylfaenol yn yr arolwg ac roedd wedi ei dargedu at ddefnyddwyr y Ganolfan Hamdden ac nid defnyddwyr y Parc Sglefrio
• Ni ddarparwyd unrhyw dystiolaeth ysgrifenedig
i. I ddangos pa mor aml yr oedd y Parc Sglefrio’n cael ei archwilio
ii. Unrhyw werthusiad o waith cynnal yr oedd angen ei wneud, a
iii. Gweithdrefn i adrodd yn ôl ar hynny i sicrhau yr awdurdodir unrhyw gamau gweithredu
iv. Mewn perthynas â’r ymddygiad gwrthgymdeithasol y cyfeiriwyd ato neu gwynion gan gwsmeriaid
• Dangoswyd bod y dystiolaeth lafar ynghylch ymddygiad gwrthgymdeithasol yn amherthnasol unwaith yr oedd cronoleg wedi ei sefydlu trwy ofyn cwestiynau.
• Roedd yn ymddangos bod mwy o bwys wedi ei roi ar yr adroddiad gan RoSPA na’r adroddiad ar yr Archwiliad Diogelwch Annibynnol - yn hytrach na bod y ddau adroddiad wedi cael yr un flaenoriaeth. Roedd yr adroddiad diwethaf yn rhoi opsiynau eraill y byddai’r gymuned wedi eu ffafrio.
• Sefydlwyd bod y Swyddogion, wrth ystyried y mater, wedi ceisio a chael cyngor cyfreithiol ar lafar gan y Cyngor Sir.
• Sefydlwyd mai dim ond sïon oedd y sôn am faes parcio ar safle’r Parc Sglefrio.
• Roedd gan yr Aelodau gydymdeimlad gyda sefyllfa’r Swyddogion ac yn deall y bu angen gwneud penderfyniad ar fyrder i osgoi risg uwch o anaf posib ac i osgoi cael beirniadaeth am weithredu’n rhy araf.
Nododd y Pwyllgor y themâu a oedd yn codi a’r gwersi y gellid eu dysgu o’r wybodaeth yr oeddent wedi ei chael am gau’r Parc Sglefrio a’r ffordd y cafodd ei wneud. Gofynnodd y Cadeirydd i’r Pwyllgor sut oedd yn dymuno bwrw ymlaen i lunio argymhellion.
Cyfeiriodd y Prif Swyddog Hamdden at nifer o enghreifftiau lleol o Barciau Sglefrio e.e. yng Nghaernarfon, Bangor, Llanfairfechan, Penmaenmawr, Parc Eirias ac ati ac y gallai'r rheini sy’n gwneud cais am grant i sefydlu Parc yn Llangefni ymgynghori â nhw a dysgu o’r safleoedd hyn.
CAMAU GWEITHREDU Y GOFYNNWYD AMDANYNT GAN Y PWYLLGOR
• Bod y Rheolydd Sgriwtini, mewn ymgynghoriad gyda’r Cadeirydd, yn llunio adroddiad canlyniad sgriwtini ar adolygiad y Pwyllgor o’r modd y cafodd Parc Sglefrio Llangefni ei gau, gan gynnwys casgliadau ac argymhellion, a chyflwyno drafft i’r Pwyllgor yn ei gyfarfod ar 15 Hydref i’w gymeradwyo cyn cyflwyno adroddiad ffurfiol i’r Pwyllgor Gwaith.
• Bod yr Aelod Portffolio ar gyfer Gwasanaethau Hamdden yn ymgynghori gyda’r Cyfarwyddwr Cynaliadwyedd ynghylch ymarferoldeb yr Adran yn arwain ar gymorth gyda gwaith ymchwil ar gyfer cymuned Llangefni i geisio dod o hyd i gyllid grant a safleoedd posib ar gyfer Parc Sglefrio yn Llangefni.