Eitem Rhaglen

Ceisiadau'n Codi

7.1 21C40A – Penrhyn Gwyn, Llanddaniel

 

7.2 42C9N – Pentraeth Services, Pentraeth

Cofnodion:

7.1  21C40A Cais llawn i godi sied amaethyddol i gadw anifeiliaid a phwll cribol ar dir ger Penrhyn Gwyn, Llanddaniel

 

Dywedodd y Rheolwr Rheoli Datblygu mai argymhelliad y Swyddog yn awr yw gohirio’r drafodaeth ar y cais a hynny oherwydd materion a ddaeth i law yn hwyr ac sydd angen eu trafod  ymhellach gyda’r Swyddog Iechyd yr Amgylchedd.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Lewis Davies y dylid gohirio’r cais ac fe eiliwyd ei gynnig gan y Cynghorydd Richard Owain Jones.

 

Penderfynwyd gohirio ystyried y cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog am y rheswm a roddwyd yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

7.2  Cais llawn i ddymchwel y gweithdy, y swyddfa a’r ystafell arddangos bresennol, ehangu’r orsaf betrol, codi dwy uned adwerthu (dim bwyd) a darparu lle parcio ychwanegol yn Pentraeth Services, Pentraeth

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais y Cynghorydd Ieuan Williams, Aelod Lleol. Aeth Aelodau’r Pwyllgor i ymweld â safle’r cais ar 17 Medi,  2014.

 

Aeth y Cynghorydd Kenneth Hughes allan o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth a’r bleidlais ar yr eitem oherwydd ei fod wedi datgan diddordeb yn y cais hwn.

 

Rhoes y Cadeirydd wahoddiad i Sandra Robinson Clark annerch y Pwyllgor fel gwrthwynebydd i’r cais.

 

Dywedodd Ms Clark ei bod yn siarad ar ran ei chymdogion yn 73 i 78 Nant y Felin wrth gofrestru eu gwrthwynebiad cryf iawn i’r datblygiad arfaethedig a fyddai, oherwydd ei faint, uchder ac agosrwydd at y tai hyn, yn cael effaith andwyol ar fwynderau’r sawl sy’n byw ynddynt. Cyfeiriodd at bryderon yn ymwneud â cholli preifatrwydd oherwydd nifer ychwanegol y ffenestri cefn ac uchel ar yr estyniad arfaethedig fel y cânt eu dangos ar y cynllun ac at golli golau dydd naturiol. Nid yw’r cynnig yn cymryd i ystyriaeth o gwbl yr olygfa o’r tai cyfagos a byddai’r datblygiad yn llethu’r tai hynny. Yn ogystal, byddai’r sŵn ychwanegol oherwydd y cynnydd yn y traffig y byddai’r cynnig yn ei greu yn cael effaith andwyol ar drigolion eiddo cyfagos. Byddai’r sŵn o’r unedau adwerthu hefyd yn gwaethygu’r sefyllfa.

 

Rhoddwyd i Aelodau’r Pwyllgor y cyfle i ofyn cwestiynau i Ms Clark. Gofynnodd y Cynghorydd John Griffith am eglurhad ynghylch pwynt a wnaed yn y cyflwyniad mewn perthynas â diffyg cydymffurfiaeth â’r cynlluniau. Cadarnhaodd Ms Clark fod y pwynt hwnnw’n ymwneud â gosod ffenestri tryloyw yn yr estyniad presennol a hynny’n groes i’r hyn a fwriadwyd.

 

Gofynnodd y Cadeirydd i Jan Tyrer gyflwyno ei sylwadau i gefnogi’r cais. Dywedodd Ms Tyrer mai un o brif amcanion y cynnig yw rhoi sylw i faterion diogelwch drwy gynyddu capasiti’r orsaf betrol i ddarparu tanwydd ac i ddarparu lle ar gyfer cerbydau sy’n disgwyl. Drwy ddymchwel yr adeiladau cyfredol y tu cefn i’r safle a chodi uned adwerthu newydd yn ardal yr iard, byddid yn gwneud i ffwrdd â’r gweithgareddau sy’n gysylltiedig â’r gweithdy yn yr ardal honno, sydd, yn hanesyddol, wedi arwain at gwynion gan ddeiliaid eiddo cyfagos. Mae dyluniad yr adeilad arfaethedig hefyd yn sicrhau nad oes modd edrych drosodd o gwbl o’r tu mewn i’r strwythur newydd nac ychwaith o’r adeiladau presennol cyfagos y bwriedir eu cadw. Bydd dileu’r gweithgareddau hyn a gwneud i ffwrdd â’r broblem o ran edrych drosodd yn gwella mwynderau preswyl yr eiddo presennol. Roedd yr animeiddiad o ran taflu cysgodion a oedd ynghlwm wrth y cais yn dangos yr effaith fychan y datblygiad ar yr eiddo cyfagos o ran colli unrhyw oleuni haul uniongyrchol. Mae mwy o lawer o fanteision nag anfanteision i’r cynllun ac, yn ychwanegol at y gwelliannau o ran diogelwch ffyrdd, bydd mwynderau preswyl yn cael eu gwella’n gyffredinol. 

 

Awgrymodd y Cynghorydd John Griffith bod y cynnydd sylweddol yn y petrol a werthwyd yn cadarnhau pwynt y gwrthwynebydd ynghylch cynnydd yn lefel y traffig a gweithgareddau cysylltiedig yn ystod y dydd a bod hynny’n cael effaith andwyol ar ddeiliaid eiddo cyfagos. Dywedodd Ms Jan Tyrer bod y cynnydd o ran y petrol a werthwyd i’w briodoli i golli cyfleusterau petrol yn yr ardal. Mae’r cyfleusterau cyfredol yn yr orsaf betrol yn Pentraeth Services yn hen-ffasiwn ac yn annigonol a’r prif yrrwr o ran y cynnig yw’r awydd i wella’r cyfleusterau hynny a hwyluso llif rhydd y cerbydau i mewn ac allan o’r orsaf. Mae’r cynnig wedi’i ddylunio i wella capasiti blaen-gwrt yr orsaf, ac, o ganlyniad, diogelwch ar y priffyrdd.

 

Roedd y Cynghorydd Jeff Evans, tra’n canmol agweddau busnes y cynnig, yn pryderu ynglŷn â’i effaith ar fwynderau.  Gofynnodd i’r siaradwraig egluro ei dadl y byddai’r cynnig yn gwella mwynderau preswyl pan oedd y gwrthwynebydd, fel un a oedd yn byw yn un o’r tai a fyddai’n cael ei effeithio, yn dweud fel arall.  Dywedodd Ms Jan Tyrer bod rhywfaint o ffenestri yn yr adeiladau cyfredol sy’n edrych drosodd ac y bydd y rheiny, fel rhan o’r cynnig, yn cael eu tynnu ymaith. Byddai’r ffenestri yn yr adeilad newydd ar lefel a byddai ffenestri velux yn y to sy’n golygu na fydd unrhyw ffenestr yn edrych dros y tai. Mae’r adeilad newydd hefyd yn sgrinio’r ddwy ffenestr yn nrychiad ochr y strwythur presennol a fydd yn cael ei gadw.

 

Dywedodd y Rheolwr Rheoli Datblygu mai’r materion allweddol yw egwyddor y datblygiad a’i effaith ar fwynderau a diogelwch y ffyrdd. Er nad oes unrhyw wrthwynebiad i’r cynnig ar egwyddor, mae’r Swyddogion yn pryderu y caiff effaith ddifrifol ar fwynderau deiliaid eiddo y tu cefn i’r safle. Ystyrir bod yr adeilad newydd yn rhy fawr, ac oherwydd ei fod mor agos at y tai y tu cefn i’r safle, bydd yn llethu’r tai hynny. Rhaid canmol y gwelliannau o ran priffyrdd a ddeuai yn sgil y cynnig, ond nid ar draul mwynderau preswyl. Efallai y gellid cyfaddawdu drwy gynnig cynllun arall. Yr argymhelliad yw un o wrthod. 

 

Yn siarad ar ran Aelod Lleol, sef y Cynghorydd Ieuan Williams, darllenodd y Cynghorydd Vaughan Hughes lythyr gan y Cynghorydd Williams lle roedd yn gofyn i’r Pwyllgor ystyried nifer o ffactorau gan gynnwys manteision y cynllun o ran y gwelliannau i ddiogelwch ar briffordd yr A5025 o flaen safle’r cais. Mae’r defnydd a wneir o Pentraeth Services wedi cynyddu’n sylweddol gan arwain at giwiau y tu allan i’r garej ac mae’n bosibl i hynny greu damweiniau fel y gwelwyd yn ddiweddar. Bydd cynyddu maint blaen-gwrt y garej yn golygu y gall gerbydau ddod oddi ar yr A5025 gan leihau’r ciwiau. Wedi trafod y cais gyda’r Cynghorydd Derlwyn Hughes fel Aelod Lleol arall, roedd ef hefyd yn gwerthfawrogi fod manteision i’r cynnig.

 

Dywedodd y Cynghorydd Lewis Davies ei fod ef o’r farn bod rhaid rhoddi ystyriaeth i fwynderau preswyl a’i fod yntau hefyd yn pryderu am y sefyllfa o ran traffig yn arbennig felly’r posibilrwydd y gallai gwelliannau i gyfleusterau blaen-gwrt y garej arwain at gynnydd mewn traffig gan arwain, o bosibl, at fwy o ddamweiniau. Cynigiodd y dylid gwrthod y cais. Eiliwyd ei gynnig gan y Cynghorydd Raymond Jones.

 

Cododd y Cynghorydd John Griffith y posibilrwydd o gyfaddawd fel y cyfeirir at hynny gan y Swyddog a gofynnodd a oedd unrhyw drafodaethau yn cael eu cynnal i’r perwyl hwnnw. Dywedodd y Swyddog nad oedd yn ymwybodol o unrhyw drafodaethau o’r fath.

 

Penderfynwyd gwrthod y cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog am y rheswm a roddwyd yn yr adroddiad ysgrifenedig. (Ni phleidleisiodd y Cynghorydd Jeff Evans ar y mater oherwydd, er ei fod yn cefnogi rhinweddau busnes y cais, roedd yn pryderu am ei effaith ar fwynderau preswyl. Ni phleidleisiodd y Cynghorydd Ann Griffith am ei bod yn absennol ar gyfer rhan o’r drafodaeth).

 

Dogfennau ategol: