Eitem Rhaglen

Gweddill y Ceisiadau

12.1 11C617 – DP Welding, Uned 1, Safle 3, Stâd Ddiwydiannol Amlwch, Amlwch

 

12.2 12LPA1003/FR/CC -  Castell Biwmares, Biwmares

 

12.3 15C116F – 5 Bythynnod Gwenllyr, Malltraeth

 

12.4 15C212 – Tyddyn Cook, Hermon

 

12.5 20LPA962B/FR/CC – Traeth Gogledd Cemaes, Cemaes

 

12.6 28C12D – Broadsands, Belan, Rhosneigr

 

12.7 28C497 – Queen’s Head, Ty Croes

 

12.8 34LPA1006/CC – Fflatiau Glan Cefni, Llangefni

 

12.9 36C336 – Ffordd Meillion, Llangristiolus

 

12.10 39LPA1007/CC – Fflatiau Maes y Coed, Menai Bridge

 

12.11 45C89A – Rhos yr Eithin, Niwbwrch

Cofnodion:

12.1  11C617 – Cais llawn i newid defnydd llecyn gwag i greu lle storio ar dir yn D P Welding, Uned 1, Safle 3, Parc Busnes Amlwch, Amlwch

 

Cynigiodd y Cynghorydd Richard Owain Jones y dylid cymeradwyo’r cais ac fe eiliwyd ei gynnig gan y Cynghorydd Nicola Roberts.

 

Penderfynwyd caniatáu’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog a chyda’r amodau oedd yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

12.2  12LPA1003/FR/CC – Cais llawn ar gyfer gwaith lliniaru llifogydd yn cynnwys adeiladu wal amddiffyn llifogydd eilaidd ac arni wyneb o garreg ar hyd rhan ddwyreiniol y Grîn, cynyddu uchder y wal fôr bresennol a’r caergawell diogelwch rhwng Pont Townsend a Phenrhyn Safnas ynghyd â gwaith tirlunio cysylltiedig ynghyd ag adeiladu bwnd pridd ar Castle Meadow ar ochr ogleddol Castell Biwmares, Biwmares.

 

Cyfeiriwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion oherwydd ei fod yn gais gan y Cyngor ar dir y mae’n berchen arno.

 

Dywedodd y Rheolwr Rheoli Datblygu bod tair prif elfen i’r cynnig.  Y mater allweddol yw effaith y cynnig ar y derbynyddion treftadaeth yn yr ardal o gymharu â’r budd i’r cyhoedd yn sgil gostwng y perygl o lifogydd.  Cyflwynwyd asesiad o’r effaith ar dreftadaeth gyda’r cais ac ymgynghorwyd yn eang gyda’r cyrff cyhoeddus statudol a Chyngor Tref Biwmares.  Er bod y cyrff statudol, yn arbennig felly CADW ac Ymddiriedolaeth Archeolegol Gwynedd, wedi codi nifer o faterion mewn perthynas ag effeithiau posib y cynllun, ni chyflwynwyd unrhyw wrthwynebiad mewn egwyddor ganddynt a dim ond un llythyr gwrthwynebu a gafwyd yn gyffredinol.  Mae Cyngor Tref Biwmares wedi cadarnhau ei fod yn argymell cymeradwyo’r cais.  Wrth bwyso a mesur y budd i’r cyhoedd yn sgil  gostwng y perygl o lifogydd yn yr ardal a lleihau’r risg i’r asedau treftadaeth eu hunain, a chan gydbwyso hynny yn erbyn yr angen i gadw lleoliad yr asedau hynny mewn cof, roedd y Swyddog yn credu bod modd lleddfu unrhyw effeithiau a fyddai’n codi o’r datblygiad.  Yr argymhelliad felly oedd cymeradwyo’r cais. 

 

Fel Aelod Lleol, dywedodd y Cynghorydd Lewis Davies ei fod yn cefnogi’r cais o gofio bod y dref yn agored i effeithiau llifogydd ac, er bod Biwmares yn Safle Treftadaeth Byd ac yn dibynnu ar dwristiaeth, roedd yn fodlon y byddai’r cyrff cyhoeddus statudol yn cadw llygad ar y datblygiad.  Cynigiodd y dylid cymeradwyo’r cais. Cafodd ei eilio gan y Cynghorydd John Griffith.

 

Penderfynwyd caniatáu’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog a chyda’r amodau oedd yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

12.3  15C116F – Cais llawn i wneud gwaith altro ac ymestyn ynghyd â chodi garej yn 5 Bythynnod Gwenllyr, Malltraeth

 

Cyfeiriwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion oherwydd ei fod wedi ei alw i mewn gan Aelod Lleol.

 

Dywedodd y Rheolwr Rheoli Datblygu mai’r mater allweddol ydi a yw’r datblygiad arfaethedig yn cydymffurfio gyda darpariaethau ym mholisïau’r Cyngor ar gyfer addasiadau gwledig.  Cafodd cais tebyg ei wrthod gan y Pwyllgor ym mis Mai 2014.  Mae maen prawf iii ym Mholisi 55 Cynllun Lleol Ynys Môn a Pholisi HP8 y Cynllun Datblygu Unedol a Stopiwyd yn dweud y dylai cynllun addasu barchu cymeriad, maint a lleoliad yr adeilad cyfredol, gan wneud dim ond newidiadau allanol bychan, ac eithrio lle gellir dangos y byddai’n arwain at wella edrychiad yr adeilad yn sylweddol.  Mae’r adeilad cyfredol yn 100.7 o fetrau sgwâr.  Byddai’r estyniad arfaethedig oddeutu 97.5m ac yn gynnydd o ddim llai na 97% ac yn dyblu maint yr annedd gyfredol.  Gan na fyddai angen caniatâd cynllunio i droi’r garej yn lle byw, ystyrir ei bod yn rhesymol ei chynnwys yn y clandriad.  Mae asiant yr ymgeisydd yn anghytuno gan ddweud y byddai’r estyniad yn cyfateb i 59% o’r adeilad cyfredol ar ôl peidio a chynnwys y garej ddwbl i weithio’r ffigyrau allan. Ni fu unrhyw newid o bwys ers gwrthod y cais ym mis Mai ac er bod y cynnig yn llai na’r cynnig a gyflwynwyd ym mis Mai mae’n parhau i fod yn fawr ac ni ellir ei ystyried fel mân-waith altro.  Yr argymhelliad felly oedd gwrthod y cais.

 

Estynnodd y Cadeirydd wahoddiad i Mr Berwyn Owen annerch y Pwyllgor i gefnogi’r cais. Tynnodd sylw at rinweddau’r cynnig yn yr ystyr ei fod yn gais gan deulu sydd angen mwy o le fel bod modd iddynt edrych ar ôl dau ŵyr a chanddynt anghenion arbennig.  Nid yw elfen ddomestig yr estyniad yn fawr gan nad yw ond hanner maint y bwthyn gwreiddiol.  Cynlluniwyd yr estyniad fel y byddai yng nghefn yr adeilad cyfredol ac ni fyddai modd ei weld felly o’r ffordd sy’n rhedeg trwy Falltraeth; ni fyddai chwaith yn amharu ar fwynderau’r ychydig o bobl sy’n defnyddio llwybr cyhoeddus sy’n rhedeg ochr yn ochr â safle’r cais.  Nid oes gan Swyddog Llwybrau’r Cyngor unrhyw wrthwynebiad i’r cynnig.  Nid yw’r bwthyn cyfredol o fewn ardal gadwraeth nac yn adeilad rhestredig.  Nid yw’r bwthyn mewn llecyn ar ei ben ei hun ond yn rhan o glwstwr o fythynnod tebyg ac nid oes neb yn y cyffiniau wedi gwrthwynebu’r cynnig.

 

Nid oedd gan Aelodau’r Pwyllgor unrhyw gwestiynau i Mr. Berwyn Owen.

 

Anerchwyd y Pwyllgor gan y Cynghorydd Peter Rogers fel Aelod Lleol a dywedodd ei fod o blaid y cynnig a bod yr ymgeiswyr wedi ceisio ailystyried y cynnig ar ôl iddo gael ei wrthod y tro diwethaf, er mwyn iddo gwrdd â’r gofynion.  Roedd yn cydnabod yr anghysondeb o ran maint y cynnig ond pwysleisiodd bod hynny’n ymwneud â ph’un a oedd y garej wedi ei chynnwys yn y ffigyrau yn hytrach nag unrhyw waith altro arfaethedig ar y lle byw.  Nid yw unrhyw un o’r cymdogion yn yr ardal yn gwrthwynebu’r cynnig.  Mae yna lythyr yn cefnogi sy’n dwyn sylw at bwynt pwysig.  Mae parch gwirioneddol i’r ffordd mae’r teulu hwn a’r ymgeiswyr wedi ysgwyddo eu cyfrifoldebau tuag at eu wyrion sydd ag anghenion sy’n gysylltiedig ag awtistiaeth a’r gofal ysbaid hanfodol y maent wedi medru ei roi i’w merch o ganlyniad.

 

Dywedodd y Cynghorydd Ann Griffith, sydd hefyd yn Aelod Lleol, ei bod yn cefnogi’r sylwadau a wnaed gan y Cynghorydd Peter Rogers. 

 

Mewn ymateb i gais gan Aelodau’r Pwyllgor, dangoswyd y cynlluniau arfaethedig gan y Rheolwr Rheoli Datblygu ac eglurodd beth fyddent yn ei olygu o gymharu â’r adeilad sydd ar y safle ar hyn o bryd.  Gofynnodd y Cynghorydd R. O. Jones a fyddid wedi medru ystyried bod y cais yn un y gellid ei gymeradwyo pe bai hwn yn blot adeiladu.  Dywedodd y Swyddog y byddai’r cyd-destun polisi yn wahanol yn yr achos hwnnw ac y byddai cais dan yr amgylchiadau hynny yn cael ei ystyried dan bolisi gwahanol gyda gofynion gwahanol.

 

Dywedodd y Cynghorydd Jeff Evans ei fod yn cefnogi’r cais o gofio nad oedd unrhyw wrthwynebiadau lleol iddo ac am ei fod yn teimlo na fyddai’n cael unrhyw effaith fawr ar yr ardal o’i gwmpas.  Roedd y cynnig wedi ei ddiwygio ac nid oedd y lle byw yn rhy fawr yn ei feddwl gan ei fod yntau hefyd yn credu na ddylid cynnwys y garej yn y ffigyrau.  Cynigiodd y dylid cymeradwyo’r cais.  Eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Vaughan Hughes a oedd yn credu mai ymyrryd er mwyn ymyrryd oedd hyn a bod teulu’n ceisio ysgwyddo ei gyfrifoldebau heb droi at yr Awdurdod Lleol am gymorth.

 

Dywedodd y Swyddog bod yr un ystyriaethau polisi ac egwyddorion yn berthnasol i’r cais hwn ag i’r cais blaenorol a gafodd ei wrthod.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Lewis Davies y dylid gwrthod y cais am resymau polisi ac oherwydd ei fod yn credu nad oedd ei ddyluniad yn gydnaws â’r dirwedd ac y byddai felly’n cael effaith andwyol ar yr Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol.  Eiliwyd ei gynnig i wrthod gan y Cynghorydd Kenneth Hughes er budd cysondeb.

 

Yn y bleidlais ddilynol, pleidleisiodd y Cynghorwyr Jeff Evans, Ann Griffith, Vaughan Hughes, R. O. Jones a Nicola Roberts o blaid y cais.  Pleidleisiodd y Cynghorwyr Lewis Davies, John Griffith, Kenneth Hughes, Victor Hughes, Raymond Jones a W. T. Hughes yn erbyn y cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog.

 

Penderfynwyd gwrthod y cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog ac am y rhesymau a roddwyd yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

12.4  15C212 – Cais llawn i wneud gwaith adfer i’r bwthyn presennol ac addasu’r adeilad allanol i ffurfio dwy annedd yn Tyddyn Cook, Hermon

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais Aelod Lleol.

 

Fel Aelod Lleol, dywedodd y Cynghorydd Ann Griffith ei bod wedi galw’r cais i mewn oherwydd pryderon lleol yn y pentref.  Darllenodd lythyr yn gwrthwynebu gan un o drigolion y pentref a oedd yn ymhelaethu ar y pryderon hynny o ran diffyg mynediad digonol i gerbydau i lawr y lôn fechan i Tyddyn Cook; byddai’r sŵn a’r styrbans cyffredinol yn sgil y cynnig yn tynnu’n groes i Gynllun Lleol y Cyngor; byddai bygythiad i gymeriad cymdeithasol a ffisegol y pentref a’i Gymreictod yn sgil y cynnig a hefyd byddai bygythiad posib i rywogaeth bywyd gwyllt o bwys gan fod Tyddyn Cook yn gartref i amryw o ystlumod soprano leiaf sy’n cael eu gwarchod yn y DU gan ddeddfwriaeth ddomestig a rhyngwladol.

 

Cadarnhaodd y Rheolwr Rheoli Datblygu fod pedwar llythyr wedi dod i law ers drafftio’r adroddiad yn gwrthwynebu ar seiliau tebyg i’r rheini y cyfeiriwyd atynt gan yr Aelod Lleol.  Dywedodd y Swyddog fod y materion allweddol yn ymwneud â chydymffurfiaeth y cynnig gyda pholisi; ei effaith ar fwynderau eiddo cyfagos a ph’un a fyddai’n cael effaith andwyol ai peidio ar ddiogelwch y briffordd.  Mae yna adeilad ar y safle sy’n addas ar gyfer ei addasu heb fod angen gwneud gwaith adeiladu mawr fel y cadarnheir gan yr Adroddiad Strwythurol.  Nid oes unrhyw eiddo wrth ymyl y cynnig ac nid ystyrir y byddai traffig yn sgil y datblygiad yn cael effaith andwyol ar yr anheddau hynny sydd wrth y gyffordd i’r safle.  Wrth ddelio gydag ymholiad a wnaed cyn cyflwyno’r cais ar gyfer y cynnig hwn, ni chodwyd unrhyw bryderon gan yr Awdurdod Priffyrdd.  Ar adeg ysgrifennu’r adroddiad roedd disgwyl ymateb gan Cyfoeth Naturiol Cymru ac argymhellir y dylai unrhyw faterion a all godi o bresenoldeb ystlumod ar y safle gael sylw trwy roi awdurdod dirprwyol i’r swyddogion.

 

Cadarnhaodd yr Uwch Beiriannydd (Rheoli Datblygu) nad oedd yr Awdurdod Priffyrdd wedi gweld y llythyrau a oedd yn gwrthwynebu a’r materion a godwyd ynddynt mewn perthynas â’r fynedfa.  Fodd bynnag, er yn cydnabod bod y ffordd fynediad yn gul, lôn breifat yw hon ac mae’n lledu lle mae’n cyfarfod â’r briffordd. Mae’r gwelededd o’r gyffordd yn dderbyniol ac yn cwrdd â’r safonau.  Mae’r Awdurdod Priffyrdd yn fodlon gyda’r mynediad a diogelwch y briffordd.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Ann Griffith am i’r cais gael ei ohirio fel bod modd ystyried y llythyrau a oedd yn gwrthwynebu.  Dywedodd y Rheolwr Rheoli Datblygu fod cynnwys y llythyrau hyn wedi cael sylw er iddynt gyrraedd ar ôl drafftio’r adroddiad.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Kenneth Hughes y dylid cymeradwyo’r cais ac fe gafodd ei eilio gan y Cynghorydd John Griffith.  Cynigiodd y Cynghorydd Ann Griffith y dylid gwrthod y cais ar sail mynediad annigonol; effaith ar fwynderau ac ar yr iaith Gymraeg a phryderon ynghylch bywyd gwyllt.  Eiliwyd ei chynnig i wrthod gan y Cynghorydd Lewis Davies.

 

Yn y bleidlais ddilynol pleidleisiodd y Cynghorydd Ann Griffith, Lewis Davies, Raymond Jones a Victor Hughes yn erbyn y cais.  Pleidleisiodd y Cynghorwyr Kenneth Hughes, John Griffith, Jeff Evans, R. O. Jones, Vaughan Hughes, Nicola Roberts a W. T. Hughes o blaid y cais.

 

Penderfynwyd caniatáu’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog a chyda’r amodau oedd yn yr adroddiad ysgrifenedig, ac i ddirprwyo awdurdod i swyddogion i ddelio ag unrhyw faterion all godi oherwydd presenoldeb ystlumod ar y safle.

 

12.5  20LPA962B/FR/CC – Cais llawn i greu llecyn eistedd a phicnic, gwelliannau i’r maes parcio ynghyd â gwelliannau i’r ramp mynediad yn Nhraeth Gogleddol Cemaes, Cemaes.

 

Cyfeiriwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion oherwydd mai cais gan y Cyngor ydoedd ar dir y mae’r Cyngor a’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn berchen arno.

 

Cynigiodd y Cynghorydd R. O. Jones y dylid cymeradwyo’r cais ac fe gafodd ei eilio gan y Cynghorydd Lewis Davies.

 

Penderfynwyd caniatáu’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog gyda’r amodau oedd wedi’u nodi yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

12.6   28C12D – Cais llawn i ddymchwel y tŷ presennol ynghyd â chodi annedd yn ei le gyda tho teils heulol PV integredig yn Broadsands, Belan, Rhosneigr

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion oherwydd bod y tir y bwriedir gosod y gwaith pibellu arno er mwyn cysylltu â’r brif garthffos yn dir y mae’r Cyngor yn berchen arno. 

 

Cynigiodd y Cynghorydd Vaughan Hughes y dylid cymeradwyo’r cais. Eiliwyd ei gynnig gan y Cynghorydd Lewis Davies.

 

Penderfynwyd caniatáu’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog a chyda’r amodau oedd yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

12.7  28C497 – Cais llawn i godi 12 annedd ynghyd ag adeiladu mynedfa newydd i gerbydau ar dir ger y Queen’s Head, Tŷ Croes.

 

Roedd y cais yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion oherwydd ei fod yn gais ar dir y Cyngor.

 

Dywedodd y Rheolwr Rheoli Datblygu bod y prif faterion yn ymwneud â’r egwyddor o ddatblygu tai fforddiadwy fel safle eithriad ac effeithiau hynny ar ddeiliaid cyfagos.  Mae safle’r cais y tu allan, ond yn union gyfagos i ffin ddatblygu Bryn Du fel y caiff ei hamlinellu dan Bolisi HP4 y Cynllun Datblygu Unedol a Stopiwyd.  Mae Polisi 52 y Cynllun Lleol a Pholisi HP7 y CDU a Stopiwyd yn caniatáu, fel ychwanegiad i dir i gyfarfod â’r angen tai yn gyffredinol, i dir ychwanegol gael ei ryddhau i gyfarfod â’r angen am dai fforddiadwy mewn ardal fel safleoedd eithriad yn unig i bwrpas tai fforddiadwy yn lleol  lle y gellir dangos bod angen am dai o’r fath.  Roedd arolwg anghenion tai lleol a gynhaliwyd yn ward Llanfaelog (Llanfaelog, Rhosneigr, Pencarnisiog a Bryn Du) yn 2013 yn dangos bod 34 aelwyd ag angen cyffredinol am dai ac felly roedd cefnogaeth i’r cais drwy bolisi.  Roedd gosodiad a dyluniad y cynllun wedi ei newid i’r hyn a gyflwynwyd yn wreiddiol i roi sylw i bryderon trigolion lleol.  Er i wrthwynebiadau gael eu derbyn ynglŷn â cholli preifatrwydd a mwynderau, roedd lle i gredu na fyddai’r datblygiad yn cael effaith ar fwynderau na phreifatrwydd i’r fath raddau ag y gellid cyfiawnhau gwrthod y cais.  Roedd yr argymhelliad yn un o ganiatáu gydag amodau; nid oes angen cytundeb adran 106 oherwydd mai’r Cyngor sydd yw perchennog safle’r cais.

 

Siaradodd y Cynghorydd Richard Dew a G. O. Jones fel Aelodau Lleol o blaid y cais gan gadarnhau’r angen am dai fforddiadwy yn yr ardal hon.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Vaughan Hughes bod y cais yn cael ei ganiatáu ac eiliwyd hynny gan y Cynghorydd Lewis Davies.

 

Penderfynwyd caniatáu’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog gyda’r amodau oedd yn yr adroddiad ysgrifenedig ac fel yr adroddwyd i’r Pwyllgor, ac ar yr amod na fyddai unrhyw faterion newydd yn cael eu codi mewn sylwadau a wneir ar y cynllun newydd.

 

12.8  34LPA1006/CC – Cais llawn i wneud gwaith altro ac ymestyn yn Fflatiau Glan Cefni, Llangefni

 

Roeddid yn adrodd ar y cais hwn i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion oherwydd mai cais ydoedd ar dir y Cyngor. 

 

Cynigiodd y Cynghorydd Nicola Roberts y dylid caniatáu’r cais.  Eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd R. O. Jones.

 

Penderfynwyd caniatáu’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog a chyda’r amodau oedd yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

12.9  36C336 – Cais amlinellol i godi annedd gyda’r holl faterion wedi eu cadw yn ôl ar dir ger Ffordd Meillion, Llangristiolus

 

Yr Aelod Lleol oedd wedi gofyn i’r cais hwn gael dod gerbron y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.

           

Dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio mai’r prif fater oedd un o gydymffurfio â pholisi a hefyd yr effeithiau ar fwynderau’r eiddo oddi amgylch.  Diffinnir Llangristiolus fel anheddiad rhestredig o dan Bolisi 50 Cynllun Lleol Ynys Môn ac fel pentref o dan Bolisi HP4 y CDU a Stopiwyd.  Ystyrir bod ceisiadau am blotiau unigol o fewn neu ar ffin anheddiad yn dderbyniol o dan Bolisi 50 y Cynllun Lleol.  Mae’r CDU a Stopiwyd, ac sydd yn ystyriaeth o bwys o ran penderfyniadau cynllunio, yn dangos bod y ffin ddatblygu yn dilyn y ffordd drwy’r stad breswyl sydd yn union o flaen safle’r cais.  Ystyrir felly bod cyfiawnhad o ran polisi dros argymell caniatáu’r cynnig oherwydd bod y safle yn amlwg ar ffin, os nad o fewn y pentref.  Roedd y Swyddog yn credu hefyd bod digon o le ar y safle i allu cymryd yr annedd a fwriedir heb i hynny gyfateb i orddatblygu’r safle er niwed i’r ardal o gwmpas.  Yr argymhelliad oedd un o ganiatáu.

 

Roedd y Cynghorydd Victor Hughes, oedd yn siarad fel Aelod Lleol, am dynnu sylw at y materion canlynol:

 

  Yr effaith yr oedd Polisi 50 Cynllun Lleol Ynys Môn wedi ei gael yn ei farn ef yn newid cymeriad Llangristiolus a’r ardal oddi amgylch.

  Yr effaith gronnol yr oedd caniatáu ceisiadau cynllunio fel hwn fis ar ôl mis wedi ei gael ar yr Iaith Gymraeg ac ar gymeriad Cymreig yr ardal.  Arferai pentref Llangristiolus fod ymysg y mwyaf Cymreig ym Môn; heddiw mae 93 o blant yn ysgol gynradd y pentref ac y mae 58 ohonynt o gartrefi Cymraeg a 35 ohonynt o gartrefi di-Gymraeg.

  Pe bai yr eiddo yn gartref fforddiadwy (ac nid yw’r eiddo arfaethedig hwn yn un) byddai’n llawer haws i gyplau lleol allu eu prynu. 

  Mae’n hollol ddiwerth gwneud darpariaethau polisi ar gyfer yr Iaith Gymraeg pan gaiff hwnnw wedyn ei anwybyddu yn ymarferol.  Mae’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion dros yr 15 mlynedd ddiwethaf wedi newid natur y pentref er y gellir nodi y cafwyd rhai dylanwadau cadarnhaol.  Mae cadw cydbwysedd yn hynod o ddelicet.

  Nid y Pwyllgor wnaeth benderfynu lle mae’r ffin ddatblygu ond rhaid iddo gydnabod ei bod yn bodoli.  Ar y chwith i safle’r cais ceir lle am annedd arall ac i’r dde mae digon o le am bedair neu fwy o anheddau eraill. Mae’r ffin yn dilyn llwybr tir yr ymgeisydd yr holl ffordd o amgylch ac y mae yna safleoedd tebygol eraill ar gyfer eu datblygu ar y ffin honno ac fe allai pob un ohonynt gael eu cyflwyno i’r Pwyllgor o dan Bolisi 50.

  Cafodd cais tebyg o fewn tafliad carreg i safle’r cais presennol ei wrthod yn ddiweddar o dan yr un polisi.  Gwrthodwyd y cais hefyd ar apêl.  Fe ddylid cael cysondeb.

  Nid oedd y cynnig a gafodd ei wrthod yn ymestyn cymaint i mewn i’r cefn gwlad agored â’r cynnig presennol.

  Roedd wedi gwrthwynebu’r cais ac wedi gofyn am gefnogaeth y Pwyllgor i ddod â threfn gynllunio yn ôl i bentref Llangristiolus trwy ddatblygu o fewn y ffin a thrwy roi diwedd ar ddatblygiadau tameidiog ym mhob cornel o’r pentref.

  Ceisiwyd cael eglurhad ynglŷn â’r cyflymder y daethpwyd â’r cais hwn gerbron y Pwyllgor ac y rhoddwyd sylw iddo.

  Bod unrhyw gyfeiriad at lythyr gan y Cyngor Cymuned wedi ei adael allan o adroddiad y Swyddog.

 

Cynigiodd y dylai’r cais gael ei wrthod. 

 

Dywedodd y Rheolwr Rheoli Datblygu bod y Cynllun Datblygu wrth iddo werthuso effeithiau polisïau wedi cymryd ystyriaeth o’r effeithiau tebygol ar yr Iaith Gymraeg i’r graddau fod asesiad o’r fath ar sail cais wrth gais yn ddianghenraid. Dylai’r Pwyllgor ystyried pwysau’r dystiolaeth oedd gerbron.  Efallai, neu efallai ddim y byddir yn cael ceisiadau pellach.  Un o’r asesiadau sydd i’w gwneud o dan Bolisi 50 yw a yw’r cynnig yn ymwthio’n weledol y tu hwnt i’r pentref neu a ydyw yn eistedd o fewn y pentref.  Yn yr achos hwn, yn wahanol i’r cynnig a wrthodwyd ar apêl ac y cyfeiriwyd ato gan yr Aelod Lleol, roedd y Swyddog wedi asesu bod y cynnig hwn yn eistedd yn dwt o fewn y pentref.  Tra bo’r Gwasanaeth Cynllunio yn gwneud ei orau i ddelio gyda’r holl geisiadau mor fuan ag sy’n bosibl, nid yw’r cyflymder y byddir yn delio ag unrhyw gais yn rhywbeth sydd o bwys wrth benderfynu arno.  Cadarnhaodd y Swyddog nad oedd unrhyw ohebiaeth wedi ei dderbyn gan y Cyngor Cymuned.

 

Roedd y Cynghorydd Nicola Roberts am egluro datganiad a wnaeth yn y cyfarfod blaenorol o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion yng nghyswllt yr Iaith Gymraeg.  Mewn cysylltiad â’r cynnig awgrymodd bod y ffin a ddangoswyd i’r Pwyllgor bellach wedi dyddio ac nad oedd yn cynnwys yr holl ddatblygiadau oedd bellach o fewn y pentref.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd John Griffith at fap o ffin ddatblygu Llangristiolus ac awgrymodd bod y safle lle mae Ffordd Meillion yn estyniad i’r ffin ddatblygu wreiddiol i’r pentref gyda hynny’n golygu bod y Pwyllgor yn ystyried cais ar safle sy’n ffurfio estyniad ar estyniad, a thrwy hynny yn codi’r cwestiwn ynghylch ble y bydd y gwaith datblygu’n dod i ben.  Roedd yn credu ei bod yn anochel y byddai cynnig i ddatblygu yn cael ei gyflwyno y naill ochr i’r cynnig presennol.  Eiliodd y cynnig gan y Cynghorydd Victor Hughes i wrthod y cais.

 

Dywedodd y Cynghorydd Lewis Davies fod ganddo bryderon ynglŷn â safle’r cais a’r tebygrwydd y ceid datblygu pellach.  Roedd y pentref wedi ei ymestyn yn llinellog gan ddatblygiadau nad ydynt ar gyfer pobl leol.  Dywedodd na allai gefnogi’r cais. 

 

Cynigiodd y Cynghorydd Kenneth Hughes y dylid caniatáu’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog.  Ni chafodd ei gynnig ei eilio.

 

Yn y bleidlais a ddilynodd, pleidleisiodd y Cynghorwyr Lewis Davies, Jeff Evans, John Griffith, Ann Griffith, Victor Hughes, Raymond Jones R. O. Jones a Nicola Roberts i wrthod y cais yn groes i argymhelliad y Swyddog a hynny am y rhesymau a ganlyn -

 

  Dim angen lleol am y datblygiad

  Byddai caniatáu’r cynnig yn gosod cynsail ar gyfer datblygu pellach yn y dyfodol

 Mae’r cynnig yn gorwedd y tu allan i ffin ddatblygu’r pentref, a

  Nid yw’r cynnig yn ffurfio estyniad rhesymegol i’r pentref.

 

Penderfynwyd gwrthod y cais yn groes i argymhelliad y Swyddog am y rhesymau a roddwyd.

 

Yn unol â gofynion Cyfansoddiad y Cyngor, bydd y cais yn cael ei ohirio’n awtomatig i’r cyfarfod nesaf i ganiatáu i’r swyddogion ymateb i’r rhesymau a roddwyd dros wrthod y cais.

 

12.10  30LPA1007/CC – Cais llawn i wneud gwaith altro ac ymestyn yn Fflatiau Maes y Coed, Porthaethwy

 

Roedd y cais wedi ei ddwyn gerbron y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion oherwydd ei fod yn gais ar dir y Cyngor.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Lewis Davies y dylid caniatáu’r cais.  Eiliwyd hynny gan y Cynghorydd R. O. Jones.

 

Penderfynwyd caniatáu’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog a chyda’r amodau oedd yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

12.11  145C89A – Cais ôl-ddyddiol i ddefnyddio tir fel safle carafannau teithio i hyd at 12 carafan o 1 Mawrth i 31 Rhagfyr ym mhob blwyddyn a hefyd ddarparu lle storio dros y gaeaf i hyd at 12 carafan deithiol yn Rhos yr Eithin, Niwbwrch.

 

Dywedodd y Cadeirydd wrth y Pwyllgor y derbyniwyd e-bost yn dweud bod y cais yn cael ei dynnu’n ôl.

 

Penderfynwyd nodi bod y cais wedi ei dynnu’n ôl.

Dogfennau ategol: