Eitem Rhaglen

Moderneiddio Ysgolion - Caergybi

Cyflwyno adroddiad y Cyfarwyddwr Dysgu Gydol Oes.

Cofnodion:

Cyflwynwyd i’r Pwyllgor ei ystyried adroddiad y Rheolwr Rhaglen (Moderneiddio Ysgolion) yn cynnwys canlyniad y broses ymgynghori ffurfiol a wnaed yng nghyswllt y bwriad i uno Ysgol y Parc, Ysgol Llaingoch ac Ysgol Parch Thomas Ellis mewn ysgol newydd ar safle Cybi fel y safle oedd yn cael ei ffafrio.

 

Yn y drafodaeth gynhwysfawr a ddilynodd ar y cynigion oedd wedi eu cynnig, cyfeiriodd y Pwyllgor at y materion a ganlyn gan ofyn am gael eglurhad pellach arnynt gan y Swyddogion.

 

  Pa mor ymarferol oedd cael dwy yn hytrach na thair ysgol yn uno ar safle Cybi a thrwy hynny greu ysgol lai ei maint.  Dywedodd y Cyfarwyddwr Dysgu Gydol Oes bod y bwriad i uno tair ysgol fel yr opsiwn oedd yn cael ei ffafrio ac fel sail yr ymgynghori yn hollol glir.  Cyfeiriodd at adran 7.7 yr adroddiad oedd yn trafod digonolrwydd ac addasrwydd safle Cybi fel cartref i’r tair ysgol unedig.

  Argaeledd adroddiad traffig llawn ar lein ac awgrymwyd bod cydranddeiliaid angen mwy o amser i’w ystyried.  Nodwyd hefyd nad oedd unrhyw gyfeiriad at y ffactorau tywydd.  Dywedodd y Cyfarwyddwr Dysgu Gydol Oes bod yr adroddiad y cyfeiriwyd ato yn cael ei ysgrifennu yn ystod y broses ymgynghori ond nad oedd ar gael yn ystod y cyfnod ymgynghori.   Mae’r adroddiad llawn yn awr wedi ei ryddhau ac y mae’n crynhoi cynnwys yr Asesiad Effaith Traffig a dderbyniwyd ac y mae hwnnw yn adroddiad manwl iawn sy’n delio â nifer o faterion traffig.  Roedd yr adroddiad ar yr ymgynghori yn adran 7.2 yn rhoi sylw i’r pryderon ynglŷn ag Iechyd a Diogelwch ac yn amlygu gwelliannau a wnaed i lwybrau cerdded i’r ysgol.  Roedd y materion hyn wedi eu lleisio yn y cyfarfodydd ymgynghori ond ni ddeliwyd yn llawn â materion traffig oherwydd nad oedd yr adroddiad ar gael ar y pryd.  Bydd adran ar faterion traffig ar ddiwrnod gwlyb yn cael ei gynnwys pan fydd wedi ei gwblhau.

  Pa mor ddigonol a thrwyadl oedd y broses ymgynghori a’r graddau yr ymgysylltwyd â’r cymunedau dysgu a effeithir o ystyried mai dim ond 7 ymateb a gafwyd gan rieni yn Ysgol y Parc a dim ond un ymateb gan riant yn Ysgol Parch Thomas Ellis.  Dywedodd y Cyfarwyddwr Dysgu Gydol Oes bod yr adroddiad yn adran 1.9 yn cyfeirio at y cyfarfodydd ffurfiol a gynhaliwyd gyda’r staff, llywodraethwyr a rhieni yn y tair ysgol.  Cyn hynny, roedd cyfarfodydd anffurfiol wedi eu cynnal ac roedd hynny felly yn mynd y tu hwnt i ofynion cyfarwyddyd Llywodraeth Cymru.  Roedd y broses yn ei chyfanrwydd wedi glynu at y cyfarwyddyd.  Fodd bynnag, gellir bob amser ddysgu gwersi o gynnal ymgynghoriadau ac efallai yn yr achos hwn y gallai’r wers fod wedi bod yn fwy ymatebol a thrwy hynny yn sicrhau bod y broses ymgynghori yn ychwanegu gwerth.

  Absenoldeb unrhyw gofrestr risg yn gysylltiedig â’r prosiect fel oedd wedi ei nodi gan Estyn.  Cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Dysgu Gydol Oes bod y cynnig wedi derbyn asesiad risg ac y byddai trafodaeth yn dilyn o amgylch y risgiau hynny.

  Pa mor ddigonol oedd llecynnau awyr agored a meysydd chwarae ar safle’r ysgol newydd arfaethedig.  Cyfeiriodd y Cyfarwyddwr Dysgu Gydol Oes at y cynllun yn Atodiad 11 yr adroddiad oedd yn nodi bod dwy ardal chwaraeon aml-ddefnyddiwr ar gael i ddisgyblion ar y safle.  Eglurodd bod y cynllun ar hyn o bryd ar ffurf amlinellol ac wrth iddo esblygu ymhellach bydd mwy o sylw’n cael ei roi i fater y meysydd chwarae.

  Rheoli ysgol gynradd o’r maint hwn a diogelu a hyrwyddo’r iaith Gymraeg yn arbennig ei defnydd ar iard yr ysgol o ystyried y bydd yn ysgol eithaf mawr mewn ardal drefol.  Cyfeiriodd y Cyfarwyddwr Dysgu Gydol oes at adran 7.7 yr adroddiad oedd yn nodi’r safonau dylunio y mae’n rhaid i bob ysgol gynradd newydd eu bodloni.  At hyn, roedd sylw wedi ei roi i ddwysedd poblogaeth yn yr ysgol newydd arfaethedig o ran y lle oedd ar gael i bob disgybl y tu allan i’r adeilad.  O safbwynt yr iaith Gymraeg, byddai’r Polisi Iaith yn berthnasol i unrhyw gynnig.  Ymhellach i hyn, mae’r Awdurdod yn rhoi pwyslais cynyddol ar ddefnydd yr iaith Gymraeg yn y gymuned.

  Y gostyngiad o ran costau amcangyfrifiedig yr ysgol newydd ac a oedd hynny wedi cyfaddawdu pethau o ran ansawdd.  Dywedodd y Cyfarwyddwr Dysgu Gydol Oes mai cynllun amlinellol oedd y cynllun gwreiddiol ac wrth i’r cynllun symud yn ei flaen, roedd swyddogion wedi dod yn gynyddol ymwybodol o “adeilad safonedig” ac roedd hynny wedi dod a’r costau amcangyfrifiedig i lawr ond nid ar draul ansawdd.

 

Gwrandawodd y Pwyllgor ar Bennaeth Ysgol  Llywelyn, Sir Ddinbych yn siarad am ei phrofiadau hi fel pennaeth ysgol gynradd fawr.  Pwysleisiodd ei bod yn bwysig cael rheolaeth briodol yn ei lle a systemau cyfathrebu a bod angen rheoli gwagle yn effeithiol.  Cyfeiriodd at y trefniadau oedd mewn grym i reoli disgyblion fynd i mewn i’r ysgol ar ddechrau’r diwrnod ysgol a phan oeddent yn mynd oddi yno ar ddiwedd y dydd.  Dywedodd y gall ysgol fawr yn aml gynnig mwy o arbenigedd a chyfleon cyfoethogiad i ddisgyblion.  Yr oedd yn gwneud yn sicr ei bod yn weladwy i ddisgyblion fel ei bod hi yn eu hadnabod hwy a hwythau yn ei hadnabod hi.

 

Rhoddwyd cyfle i’r Cynghorwyr Jeff Evans, Trefor Lloyd Hughes a Dafydd Thomas i roi eu safbwyntiau i’r Pwyllgor fel Aelodau Lleol.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd R. Llewelyn Jones at bryderon penodol fel a ganlyn:

 

  Yr ymateb a gafwyd gan Estyn yn arbennig y ffaith nad oedd yr Awdurdod wedi nodi'r risgiau priodol yn gysylltiedig â’r cynnig.

  Ffyrdd a rhwyddineb mynediad i’r ysgol newydd i deuluoedd yn yr ardal oddi amgylchawgrymwyd y gallai’r rhieni dreialu hyn er mwyn amlygu unrhyw broblemau posibl, yn arbennig ym misoedd y gaeaf.

  Y risg y gallai rhieni ddewis peidio ag anfon eu plant i’r ysgol newydd a thrwy hynny greu llefydd gwag yn yr ysgol newydd.

  Cyfleusterau yn yr ysgol yn cynnwys y ddarpariaeth o ddodrefn newydd.

  Capasiti’r Pennaeth i ymgymryd â’r her o ysgol newydd o’r maint hwn.

  Effaith y cynigion ar grwpiau bregus yn cynnwys plant AAA.

  Yr angen am fwy o fanylder mewn perthynas â’r cynigion a sicrwydd bod y gyllideb yn ei lle i dalu amdanynt.

  Cynllunio ar gyfer integreiddio plant i’r ysgol newydd.

  Materion traffig a chyfleusterau llwybrau troed.

  Teithio cynaliadwy.

  Yr angen i gael Cynllun Busnes ar gyfer yr ysgol newydd i egluro’r costau

  Delio ag adeiladau gwag o amgylch safle’r ysgol newydd.

 

Ymatebodd y Cyfarwyddwr Dysgu Gydol Oes i’r materion a godwyd.

 

Tynnodd y Cadeirydd sylw'r Aelodau at y ffaith bod y cyfarfod wedi bod yn eistedd am dair awr, ac yn unol â gofynion para. 4.1.10 y Cyfansoddiad gofynnodd i’r Aelodau oedd yn bresennol a oeddent yn dymuno i'r cyfarfod barhau.  Pleidleisiodd yr aelodau oedd yn bresennol i’r cyfarfod barhau.

 

Yn dilyn rhoi ystyriaeth ofalus i’r wybodaeth ysgrifenedig  a llafar a gyflwynwyd, penderfynwyd cefnogi’r cynigion o fewn yr adroddiad ac i argymell i’r Pwyllgor Gwaith ei fod yn cymeradwyo uniad tair ysgol (Ysgol Parchedig Thomas Ellis, Ysgol Llaingoch ac Ysgol Y Parc) mewn adeilad ysgol newydd ar safle Cybi a bod i’r ysgol newydd y statws o Ysgol Eglwys yng Nghymru dan Reolaeth Gwirfoddol.

 

(Pleidleisiodd y Cynghorwyd R. Llewelyn Jones yn erbyn y cynigion; ataliodd y Cynghorydd Ann Griffith ei phleidlais ac nid oedd y Cynghorydd Peter Rogers yn bresennol pan ymgymerwyd y bleidlais).

 

DIM CAMAU GWEITHREDU PELLACH YN CODI

 

Dogfennau ategol: