Eitem Rhaglen

Cwestiynau a dderbyniwyd yn unol â Rheol 4.1.12.4 y Cyfansoddiad

Gofynnwyd y cwestiwn isod y cafwyd rhybudd ohono gan Gynghorydd R.Ll. Jones i Arweinydd y Cyngor :-

 

“ Mae ymgynghoriad Wylfa B bellach wedi cychwyn ac rydym ni, fel Cyngor Sir, wedi cael sawl cyfarfod gyda’r datblygwr yn egluro’r holl fanteision a ddaw i’r ynys hon yn ei sgil.

Er bod trigolion lleol eisiau swyddi, maent yn parhau i fod yn bryderus iawn am y risgiau a’r angen i edrych ar ôl y gwastraff y bydd gorsaf bŵer niwclear ar Ynys Môn yn ei gynhyrchu. Er mwyn cael cydbwysedd, rwy’n gofyn am gael trefnu SEMINAR rhwng y Cyngor hwn a chynrychiolwyr sy’n gwrthwynebu’r cynnig i adeiladu Wylfa B ac yn gofyn i chi a’ch grŵp mwyafrifol gefnogi hyn. Mae angen i drigolion lleol gael llais yn yr ymgynghoriad hwn a chael eu briffio’n llawn. Hyd yma, ymddengys mai dim ond datblygwr tramor o’r Almaen, sydd bellach wedi tynnu allan, ac o Japan sydd wedi rhoi eu barn i ni. Nid oes yr un o’r gwledydd hyn eisiau adeiladu gorsafoedd niwclear yn eu gwledydd eu hunain.”

Cofnodion:

Cafwyd cwestiwn a gyflwynwyd trwy rybudd gan y Cynghorydd R. Llewelyn Jones ac a ofynnwyd i Arweinydd y Cyngor :-

 

“Mae ymgynghoriad Wylfa B bellach wedi cychwyn ac rydym ni, fel Cyngor Sir, wedi cael sawl cyfarfod gyda’r datblygwr yn egluro’r holl fanteision a ddaw i’r ynys hon yn ei sgil. Er bod trigolion lleol eisiau swyddi, maent yn parhau i fod yn bryderus iawn am y risgiau a’r angen i edrych ar ôl y gwastraff y bydd gorsaf bŵer niwclear ar Ynys Môn yn ei gynhyrchu. Er mwyn cael cydbwysedd, rwy’n gofyn am gael trefnu Seminar rhwng y Cyngor hwn a chynrychiolwyr sy’n gwrthwynebu’r cynnig i adeiladu Wylfa B ac yn gofyn i chi a’ch grŵp mwyafrifol gefnogi hyn. Mae angen i drigolion lleol gael llais yn yr ymgynghoriad hwn a chael eu briffio’n llawn. Hyd yma, ymddengys mai dim ond datblygwyr tramor o’r Almaen, sydd bellach wedi tynnu allan, ac o Japan sydd wedi rhoi eu barn i ni. Nid oes yr un o’r gwledydd hyn eisiau adeiladu gorsafoedd niwclear yn eu gwledydd eu hunain.”

 

Atebodd Arweinydd y Cyngor drwy ddweud bod y Cyngor fel un oedd yn cefnogi’r prosiect yn ogystal â’r rhai oedd yn gwrthwynebu Wylfa Newydd i gyd yn gydranddeiliaid o fewn y broses a’u bod felly yn rhan o’r ymgynghoriad a’r cyfarfodydd briffio sy’n cael eu cynnal gan Horizon. Bydd y penderfyniad yn cael ei wneud yn San Steffan. Roedd cyfarfod o’r Grŵp Cydranddeiliaid wedi ei gynnal y noson flaenorol lle roedd preswylwyr lleol yn cael eu cynrychioli gan nifer o sefydliadau. Mae gwybodaeth yn cael ei rhannu ac mae gan wrthwynebwyr hawl i ymateb yn yr un ffordd â’r Cyngor. Roedd yn credu bod yr agwedd a gymerwyd yn un wastad ac yn trin pawb yn gyfartal. Tra roedd yn ymwybodol bod yna wahaniaeth barn ar draws yr Ynys ni allai weld y byddai Seminar yn darparu consensws. Y darparwr sy’n gallu darparu’r wybodaeth - i’r rhai sy’n gwrthwynebu yn ogystal ag i’r rhai sy’n cefnogi’r prosiect. Dywedodd na allai felly weld unrhyw fantais mewn cynnal Seminar ar wahân gyda gwrthwynebwyr.

 

Fel cwestiwn atodol dywedodd y Cynghorydd R. Llewelyn Jones bod mwy o bŵer yng Nghymru nac yn Lloegr i ddylanwadu ar adeiladau niwclear oherwydd y ffordd y mae’n gallu delio â’r Gorchymyn Caniatâd Datblygu ac fe all y cynlluniau hynny yng Nghymru gael eu herio cyn eu cyflwyno i’r Ysgrifennydd Gwladol. Dyma gyfle i’r Awdurdod i ddweud ei fod yn gwrthwynebu’r datblygiad yn gyfan gwbl hyd nes y ceir manylion ynglyn â sut y byddir yn delio â’r gwastraff. Cwestiynodd a oedd yn gyfreithlon a’i peidio i ganiatáu i gwmni ddechrau clirio safle i baratoi ar gyfer strwythur mawr cyn ei fod wedi cyflwyno tystiolaeth gredadwy ynglyn â sut y bydd yn cael gwared o wastraff niwclear diwydiannol hynod beryglus. Gofynnodd i’r Arweinydd gysylltu â’r Prif Weinidog a sefydlu beth y mae ef a’i lywodraeth yn ei wneud i sicrhau nad yw Ynys Môn yn cael ei gadael ar ei phen ei hun yn galw am ddealltwriaeth glir o’r hyn sy’n mynd i ddigwydd i wastraff niwclear presennol ac yn y dyfodol ar yr Ynys. Roedd y bobl leol yn haeddu a rhaid iddynt gael ateb clir i’r cwestiwn hwn cyn mynd yn rhy bell i lawr y llwybr niwclear.

 

Dywedodd Arweinydd y Cyngor nad yw polisi ynni wedi ei ddatganoli i Lywodraeth Cymru ond mae corum wedi dweud bod gan Lywodraeth Cymru yr hawl i ddatblygu polisi ar wastraff; nid oedd yn gwybod hyd yn hyn bod hynny wedi’i ddatblygu. Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Datblygu Cynaliadwy bod cynrychiolwyr Corum, fel y corff sy’n uniongyrchol gyfrifol am ddelio â gwastraff niwclear wedi ymweld â’r Cyngor. Mae angen rhoi sylw penodol i’r mater o wastraff niwclear o fewn yr ymgynghoriad ond mae yna hefyd rôl i Lywodraeth Cymru o ran ffurfio polisi i fynd â materion yn eu blaenau.