· Cymdeithas Gemau’r Ynysoedd Ynys Môn
Derbyn cyflwyniad a chais gan Gymdeithas Gemau’r Ynysoedd Ynys Môn.
· Bwrdd Prosiect Camerâu Goruchwylio’r Pum Tref
Derbyn cyflwyniad a chais gan Bwrdd Proseict Camerâu Goruchwylio’r Pum Tref.
Cofnodion:
· Cymdeithas Gemau’r Ynysoedd Ynys Môn
Croesawodd y Cadeirydd gynrychiolwyr o Gymdeithas Gemau’r Ynysoedd Ynys Môn i roi cyflwyniad yng nghyswllt cais am gymorth grant gan Ymddiriedolaeth Elusennol Ynys Môn.
Rhoddodd y cynrychiolwyr grynodeb o weithgareddau Cymdeithas Gemau’r Ynysoedd Ynys Môn gan adrodd am lwyddiant nifer o athletwyr sydd wedi cynrychioli Ynys Môn yng Ngemau’r Ynysoedd dros y blynyddoedd.
Roedd y fid am gymorth grant yn un am brosiect 5 mlynedd fel a ganlyn:-
Blwyddyn 1 - £50,000 (Bydd £10k tuag at Gystadleuaeth Gymnasteg Rhyng-Gemau 2015)
Blynyddoedd 2 i 5 - £40,000 y flwyddyn
Nodwyd y byddai bid lwyddiannus yn sicrhau dyfodol Gemau’r Ynysoedd dros y 5 mlynedd nesaf.
Roedd y rhesymau am y fid am gymorth grant fel a ganlyn:-
· roedd y cais yn cael ei wneud er mwyn gwella perfformiad;
· i gynyddu cynrychiolaeth;
· i gynyddu ymwybyddiaeth yn lleol;
· i ymestyn yr iaith a diwylliant;
· sicrwydd ariannol i Gymdeithas Gemau’r Ynysoedd Ynys Môn;
· sicrhau cynrychiolaeth Ynys Môn;
· i ddatblygu athletwyr;
· i ddatblygu hyfforddwyr a swyddogion;
Dywedwyd hefyd y bydd Ynys Môn yn Lletya’r gystadleuaeth Gymnasteg Rhyng-Gemau 2015 gyda 8 Ynys yn cystadlu. Bydd y gystadleuaeth yn cael ei chynnal yng Nghaergybi dros 5 diwrnod.
I ddilyn, cafwyd sesiwn o gwestiynau ac atebion gan Aelodau Ymddiriedolaeth Elusennol Ynys Môn i’r cynrychiolwyr o Gymdeithas Gemau’r Ynysoedd Ynys Môn a thrafodwyd y materion a ganlyn:-
· cefnogaeth unfrydol i Gymdeithas Gemau’r Ynysoedd Ynys Môn ac estynnwyd canmoliaeth uchel i’r athletwyr ar eu llwyddiant yng Ngemau’r Ynysoedd.;
· dylai cynllun busnes a mantolen ariannol fod wedi eu hatodi i’r cais am gymorth grant;
· dylid rhoi manylion ynglŷn â gweinyddwyr Cymdeithas Gemau’r Ynysoedd Ynys Môn.
· dylai pob plentyn a pherson ifanc gael y cyfle i ragori mewn gweithgareddau chwaraeon;
PENDERFYNWYD yn unfrydol:-
· I gymeradwyo’r cais am gyllid a wnaed gan Gymdeithas Gemau’r Ynysoedd Ynys Môn am £50k yn y flwyddyn gyntaf a £40k wedi hynny am y 4 blynedd ddilynol;
· Y dylai Cymdeithas Gemau’r Ynysoedd Ynys Môn roi manylion am weinyddwyr y Gymdeithas i Ymddiriedolaeth Elusennol Ynys Môn;
· Bod mantolen ariannol a Chynllun Busnes llawn Cymdeithas Gemau’r Ynysoedd Ynys Môn yn cael eu cyflwyno i Ymddiriedolaeth Elusennol Ynys Môn cyn rhyddhau’r cyllid grant.
· Bwrdd Prosiect Camerâu Diogelwch y Pum Tref
Rhoddodd y Cadeirydd groeso i Mr Cliff Everett, Clerc Cyngor Tref Caergybi fel cynrychiolydd Bwrdd Prosiect Camerâu Diogelwch y Pum Tref a’r Arolygydd Guy Blackwell, Heddlu Gogledd Cymru i roi cyflwyniad yn gysylltiedig â chais am gymorth grant gan Ymddiriedolaeth Elusennol Ynys Môn.
Dywedodd Mr Everett mai ymgyrch oedd y prosiect hwn ar ran y 5 Cyngor tref i weithio mewn partneriaeth i fabwysiadu a rheoli gwasanaeth Camerâu Diogelwch newydd am y 10 mlynedd nesaf gyda golwg ar gael trafodaeth bellach gyda datblygwyr mawr am eu cyfraniad tuag at wella diogelwch y cyhoedd ar Ynys Môn. Bydd pob Cyngor Tref yn cymryd cyfrifoldeb am eu cynllun eu hunain o ran y dyluniad cychwynnol, cynllunio, caffael, ardaloedd goruchwylio, cynnal a chadw ac anghenion monitro / mynediad. Bydd Heddlu Gogledd Cymru a Phartneriaid Diogelwch Cymunedol yn parhau i weithio’n agos gyda phob un o’r Cynghorau Tref o dan nawdd Deddf Trosedd ac Anhrefn 1998.
Mae’r 5 Cyngor Tref wedi cael dyfynbrisiau ar gyfer cynnal a chadw eu systemau Camerâu Diogelwch ar gost o £20k y flwyddyn dros gyfnod ymrwymedig o 10 mlynedd. Mae trafodaethau’n cael eu cynnal o fewn y 5 Cyngor Tref ynglŷn â rheolaeth y cynllun – a ddylai hynny fod o dan y strwythur presennol neu drwy gwmni cyfyngedig drwy warant.
Dywedodd Mr Everett mai cais oedd hwn am gyllid grant unwaith ac am byth o £195,000.
Dywedodd yr Arolygydd Guy Blackwell nad bwriad y cynllun hwn yw parhau i weithredu’r Camerâu Diogelwch blaenorol ond i weithredu system newydd gyda chefnogaeth Heddlu Gogledd Cymru.
Dywedodd yr Ysgrifennydd y cafwyd cyngor cyfreithiol gan Weightmans LLP yng nghyswllt y cais hwn ac fe hysbyswyd y cynrychiolwyr o Fwrdd Prosiect Camerâu Diogelwch y 5 Tref ynglŷn â’r ymateb a gafwyd gan Weightmans LLP ymlaen llaw. Y Cyngor a gafwyd oedd bod angen cael gwahaniad clir rhwng darpariaeth y Cyngor o’r gwasanaeth Camerâu Diogelwch a sut y bydd y gwasanaeth yn cael ei ddarparu i’r dyfodol. Dywedwyd ymhellach bod rhai anawsterau gyda’r cais hwn fel y mae’n cael ei gynnig ar hyn o bryd a hynny’n codi o ‘fudd anuniongyrchol’ o ystyried na chafwyd gwahaniad pendant.
I ddilyn cafwyd sesiwn o gwestiynau ac atebion gan Aelodau Ymddiriedolaeth Elusennol Ynys Môn i gynrychiolwyr Bwrdd Prosiect Camerâu Diogelwch y 5 Tref a chodwyd y materion a ganlyn:-
· roedd Ymddiriedolaeth Elusennol Ynys Môn yn cefnogi’r cais mewn egwyddor;
· bydd angen cael gwahaniad pendant rhwng darpariaeth y Cyngor Sir o Gamerâu Diogelwch er mwyn bodloni deddfwriaeth y Comisiwn Elusennol;
· mae angen rhoi sicrwydd i breswylwyr yr Ynys bod Camerâu Diogelwch yn eu lle i atal ac i weithredu i stopio trosedd ac ymddygiad gwrthgymdeithasol;
Cynigiodd Mr. W.T. Hughes y dylid cymryd pleidlais wedi’i chofnodi. Ni chariwyd y cynnig.
PENDERFYNWYD:-
· cymeradwyo, mewn egwyddor, y cais am gyllid a wnaed gan Fwrdd Prosiect Camerâu Diogelwch 5 Tref, yn amodol ar gael sicrwydd bod ‘gwahaniad pendant’ yn cael ei nodi rhwng darpariaeth Camerâu Diogelwch y Cyngor Sir;
· y bydd angen cynnal trafodaethau pellach gyda Bwrdd Prosiect Camerâu Diogelwch y 5 Tref a Swyddogion yr Ymddiriedolaeth Elusennol.
Dogfennau ategol: