Eitem Rhaglen

Gwahardd y Wasg a'r Cyhoedd

Ystyried mabwysiadu’r canlynol:-

 

"Dan Adran 100 (A)(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, gwahardd y wasg a'r cyhoedd o'r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem ganlynol oherwydd y posibilrwydd y  caiff gwybodaeth eithriedig ei rhyddhau fel y diffinnir hi yn Atodlen 12A y Ddeddf a'r Prawf Budd y Cyhoedd sydd ynghlwm".

 

 

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i fabwysiadu’r canlynol:

 

Dan Adran 100 (A)(4) Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, gyrrwyd y wasg a'r cyhoedd allan o'r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem a ganlyn, oherwydd y tebygrwydd y câi gwybodaeth ei rhyddhau a honno'n wybodaeth y gwna Atodlen 12A y Ddeddf eithriad ohoni fel y diffinnir y wybodaeth yn y Ddeddf ac yn y Prawf Budd y Cyhoedd sydd ynghlwm.

 

Cyn cymryd pleidlais ar y mater hwn o gau allan y wasg a’r cyhoedd, dywedodd y Cadeirydd nad oedd ef yn bersonol wedi bod yn hapus i dderbyn y ddarpariaeth ar gyfer cau allan y wasg a'r cyhoedd.  Roedd hwn yn un o'r achosion hynny lle yr oedd yn teimlo y dylai'r mater o gau allan y wasg a’r cyhoedd a’i peidio gael ei drafod cyn bod penderfyniad yn cael ei wneud.  Eglurodd ei fod wedi cael trafodaeth fer gyda'r Uwch Gyfreithiwr ac roedd wedi gofyn i’r Swyddog egluro’r sefyllfa gyfreithiol mewn perthynas â sut y mae angen i’r Pwyllgor ddelio â'r mater hwn.  Mae’r Prawf Budd y Cyhoedd yn nodi dau reswm pam ei fod yn cael ei argymell bod y diddordeb i’r cyhoedd wrth  gynnal yr eithriad yn gorbwyso’r diddordeb cyhoeddus o ddatgelu'r wybodaeth, sef -

 

  Bod gwybodaeth yn ymwneud â materion sensitif ynglŷn ag arian a busnes yr Awdurdod yn mynd i gael ei drafod.

  Roedd yr adroddiad hefyd yn cynnwys gwybodaeth y gellid yn rhesymol ddisgwyl y byddai’n golygu y byddid yn ymgynghori neu’n negodi gyda staff yr Awdurdod ac y gallent gael eu hadnabod yn anuniongyrchol pe cai’r adroddiad ei drafod yn y parth cyhoeddus.

 

Dywedodd y Cadeirydd ei fod yn arbennig o anhapus gyda'r ail reswm oherwydd ei bod yn amlwg bod trafodaethau wedi eu cynnal ac yn parhau ynglŷn â chwtogi niferoedd staff.  Mae'n wybodaeth gyffredinol bod bwriad i dorri yn ôl ar swyddi e.e. mae gwahoddiad wedi mynd allan i staff sy’n dymuno cael eu hystyried ar gyfer diswyddo gwirfoddol.  Felly roedd yn credu bod sail dros amau a yw hwn yn rheswm dros gau allan y wasg a’r cyhoedd.  O safbwynt y rheswm cyntaf, roedd yn credu y byddai angen gofyn am resymau penodol pam fod hwn yn bodoli oherwydd ar y llaw arall, mae’n cael ei gydnabod bod y mater yn ymwneud ag arian cyhoeddus a bod diddordeb cyhoeddus mewn sicrhau tryloywder mewn perthynas â sut y caiff busnes y Cyngor ei drefnu a'r strwythur y mae'n ei fabwysiadu wrth gyflawni ei wasanaethau.  Yn bersonol, roedd yn credu bod llawer iawn o bwysau’n cael ei roi i hyn, yn y ddadl arbennig hon.

 

Dywedodd yr Uwch Gyfreithiwr ei fod yn cynrychioli'r Swyddog Monitro oedd ag ymrwymiad arall.  Roedd wedi rhoi cyngor ar y mater i'r Pwyllgor Gwaith a hefyd wedi rhoi cyngor ysgrifenedig i'r Cynghorydd R G Parry, OBE mewn perthynas â'r Pwyllgor Sgriwtini.  Cyngor y Swyddog Monitro oedd eithrio'r mater rhag cael ei drafod yn gyhoeddus am ddau reswm, yn gyntaf oherwydd ei fod yn ymwneud â gwybodaeth yn ymwneud â materion ariannol neu fusnes ac yn ail mae'n ymwneud â gwybodaeth yn ymwneud ag ymgynghoriadau all godi yng nghyswllt materion cyflogaeth rhwng yr Awdurdod a'i weithwyr.  O safbwynt yr ail, roedd y Swyddog Monitro yn nodi’n benodol bod y drafodaeth yn ymwneud yn bennaf â rhai swyddi penodol o fewn y dogfennau a gyflwynwyd.  Yn dilyn ystyried a oedd unrhyw sail dros eithrio, roedd y Swyddog Monitro wedi cynnal Prawf Diddordeb Cyhoeddus h.y. prun a fyddai datgelu a’i peidio er diddordeb y cyhoedd.  Cyn belled ag yr oedd busnes a materion ariannol yr Awdurdod yn y cwestiwn, roedd yn gwneud y pwynt ar un llaw bod gan y cyhoedd ddiddordeb a hawl i wybod sut y mae’r Awdurdod yn gwario arian cyhoeddus ac ar y llaw arall roedd yn rhoi cyngor bod busnes a materion ariannol y Cyngor yn golygu trafod gwybodaeth sensitif a bod yr adroddiad yn cynnwys gwybodaeth y gellid yn rhesymol ddisgwyl y byddai’n arwain at ymgynghori gyda staff yr Awdurdod ac y gallent gael eu hadnabod yn anuniongyrchol, yn benodol y categori o weithwyr allai gael eu heffeithio.  Dyna oedd  cyngor y Swyddog Monitro.  Roedd y mater wedi ei eithrio mewn trafodaethau hyd yn hyn ac fel y bydd y Pwyllgor yn gwybod, mae gan bob pwyllgor yr awdurdod i benderfynu drwy bleidlais y mwyafrif a ydyw’n cytuno i eithrio'r mater a’i peidio.

 

Gofynnodd y Cadeirydd a oedd gan unrhyw Aelod o’r Pwyllgor gwestiwn neu sylw neu gynnig i’w wneud.

 

Ceisiodd y Cynghorydd Ann Griffith gael cadarnhad bod y bleidlais yn gorwedd gyda’r Pwyllgor.  Cadarnhaodd y Cadeirydd mai dyna oedd yr achos.  O ystyried hynny, dywedodd y Cynghorydd Ann Griffith ei bod yn credu y dylai’r Pwyllgor bleidleisio ar y mater a chynigiodd na ddylai’r wasg a’r cyhoedd gael eu gwahardd yn ystod y drafodaeth ar y mater galw i mewn fyddai’n dilyn.  Eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Lewis Davies.

 

Penderfynwyd peidio a gwahardd y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar y cais galw i mewn.

 

Cadarnhaodd y Cadeirydd y byddai'r cyfarfod yn agored i'r wasg a'r cyhoedd.

 

Dywedodd y Cadeirydd wedyn wrth y Pwyllgor bod y Rheolwr Sgriwtini wedi crybwyll wrtho nad oedd y cyfarfod wedi cael ei hysbysebu fel cyfarfod cyhoeddus, ac y dylai'r Pwyllgor ohirio'r drafodaeth fel y gallai’r cyfarfod gael ei hysbysebu fel cyfarfod cyhoeddus, neu fe allai’r Pwyllgor ganlyn ymlaen gyda’r cyfarfod heddiw a datgan ei ganfyddiadau yn gyhoeddus.

 

Fel Arweinydd yr Wrthblaid, dywedodd y Cynghorydd R.G. Parry, OBE ei fod yn credu ei bod yn deg bod y wasg a'r cyhoedd yn cael cyfle i fod yn bresennol ar gyfer y drafodaeth, a bod hynny’n bwysig er budd tryloywder a bod yn hollol agored.

 

Gofynnodd y Cadeirydd i'r Pwyllgor a oedd yn dymuno canlyn ymlaen, neu a oedd yn dymuno ail-drefnu'r cyfarfod fel y gellid ei gynnal yn gyhoeddus.

 

Dywedodd y Cynghorydd Lewis Davies ei fod yn credu bod angen bod yn dryloyw er lles y cyhoedd, a bod yn rhaid i’r cyfarfod fod yn agored iddynt.  Cynigiodd felly y dylid cynnal cyfarfod arall.  Eiliwyd y cynnig.

 

Rhoddodd y Cadeirydd y cynnig i ohirio'r cyfarfod ac i’w ail-drefnu fel cyfarfod cyhoeddus i bleidlais.

 

Penderfynwyd gohirio’r cyfarfod a’i ail-drefnu fel cyfarfod cyhoeddus.

Dogfennau ategol: