Eitem Rhaglen

Gweddill y Ceisiadau

12.1  11LPA896D/CC – Maes Mona, Amlwch

12.2  15C91D – Ty Canol, Malltraeth

12.3  39C305C – 5 Cambria Road, Porthaethwy

12.4  40C233B/VAR – The Owls, Dulas

12.5  44C311 – 4 Council Houses, Rhosgoch

12.6  44LPA1005/TPO/CC – Ty’n y Ffrwd, Rhosybol

12.7  46C192B/FR – Dinghy Park, Porth Castell, Ravenspoint Road, Trearddur

Cofnodion:

12.1  11LPA896D/CC – Cais amlinellol gyda rhai materion wedi eu cadw yn ôl ar gyfer codi 40 o unedau preswyl ar dir ger Maes Mona, Amlwch

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan mai’r Cyngor Sir yw’r ymgeisydd a pherchennog y tir.

 

Dywedodd y Rheolwr Rheoli Datblygu fod y cais am 40 o anheddau ac y bydd 30% ohonynt yn rhai fforddiadwy. Gyda’r cais, cafwyd cynllun topograffaidd manwl o’r fynedfa i gerbydau i’r A5025 ‘Ffordd Porth Llechog’ gan gynnwys y lleiniau gwelededd a gynigir; Adroddiad Sgopio Ecolegol; manylion am y modd y bwriedir draenio dŵr budr a dŵr wyneb ac Asesiad o’r Effaith ar yr Iaith Gymraeg. Mae Adran Dysgu Gydol Oes y Cyngor wedi gofyn am gyfraniad ariannol tuag at gyfleusterau yn Ysgol Gynradd Amlwch.

 

Fel un o’r aelodau lleol, dywedodd y Cynghorydd R O Jones yr hoffai gael cadarnhad ynghylch lleoliad y datblygiad tai a’r cyfleuster gofal ychwanegol arfaethedig cyn y bydd y cynlluniau manwl yn cael eu cyflwyno yn y man.

 

Cynigiodd y Cynghorydd R O Jones y dylid cymeradwyo cais ac fe eiliwyd ei gynnig gan y Cynghorydd Lewis Davies.

 

Penderfynwyd caniatáu'r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog gyda’r amodau a nodwyd yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

12.2   15C91D – Cais llawn i ddymchwel yr ystafell ardd bresennol ynghyd â chodi adeilad pwll nofio yn ei le yn Tŷ Canol, Malltraeth

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio ar Gorchmynion ar gais Ann Griffith, un o’r Aelodau Lleol.

 

Dywedodd y Rheolwr Rheoli Datblygu y cafwyd llythyr o wrthwynebiad ers adeg ysgrifennu’r adroddiad. Nodwyd bod y tir yn yr ardal yn gorsiog ac yn dueddol o gael ei effeithio gan lifogydd ac y bydd angen ymchwilio i wneud yn siŵr na fyddai cael gwared ar y dŵr o’r pwll nofio yn cael effaith ar y tir amaethyddol y tu cefn i’r safle.

 

Dywedodd y Cynghorydd Lewis Davies fod Malltraeth yn yr AHNE a gofynnodd a oeddid wedi ymgynghori gyda’r Swyddog AHNE mewn perthynas â’r cais hwn. Dywedodd y Rheolwr Rheoli Datblygu mai ffin yr AHNE yw’r lôn o flaen yr eiddo hwn ac nad oeddid wedi ymgynghori gyda Swyddog AHNE y Cyngor.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Lewis Davies ohirio’r cais fel y gellid ymgynghori gyda Swyddog AHNE y Cyngor Sir. Eiliwyd ei gynnig gan y Cynghorydd Nicola Roberts.

 

Penderfynwyd gohirio ystyried y cais er mwyn ymgynghori gyda'r Swyddog AHNE a Swyddogion Priffyrdd mewn perthynas â'r cais hwn.

 

12.3  39C305C – Cais llawn ar gyfer addasu ac ehangu yn 5 Ffordd Cambria, Porthaethwy.

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais un o’r Aelodau Lleol.

 

Rhoes y Cadeirydd wahoddiad i Mr J Cole, yr ymgeisydd,  annerch y Pwyllgor.

 

Dywedodd Mr Cole na fu modd iddynt symud i’r eiddo ers mis Ionawr, yn bennaf oherwydd bod Ffordd Cambria wedi dymchwel oherwydd y glaw trwm a gafwyd y gaeaf diwethaf. Mae’r cynnig yn un i wella’r eiddo yng nghyd-destun yr ardal gadwraeth. Mae dwy elfen i’r cais; mae’r ddwy’n ymwneud â throsglwyddo’r lle byw i’r llawr cyntaf, h.y. gosod ffenestri Ffrengig yn lle’r ddwy ffenestr ar y llawr cyntaf. Bydd hyn yn gwella’r olygfa ac yn gostwng costau goleuo; adeiladu pont ddur wedi ei galfaneiddio y tu cefn i’r adeilad, cysylltu’r llawr cyntaf gyda’r ardd fechan sydd ar dir uwch. O ran yr ail gais hwn, maent wedi gwrando ar sylwadau’r cymdogion a’r Swyddog Cadwraeth a bydd y cynnig hwn yn cynnwys toeau crib a strwythur pontio yn lle’r estyniad yr oedd bwriad i’w godi.

 

Gofynnodd y Cynghorydd John Griffith a fyddai’r ramp yn cael ei ddefnyddio gan gerddwyr eraill? Dywedodd Mr Cole y byddai’n darparu mynediad uniongyrchol i’r ardd gefn fechan sydd y tu cefn i’r eiddo ar hyn o bryd ac fel dihangfa dân.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Lewis Davies y dylid caniatáu’r cais ac fe eiliwyd ei gynnig gan y Cynghorydd K P Hughes.

 

Penderfynwyd caniatáu'r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog yn amodol ar yr amodau a nodwyd yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

12.4  40C233B/VAR - Cais i ddiwygio amod (01) (Trac a ganiateir ar gyfer defnydd amaethyddol) ar ganiatâd cynllunio 40C233 i ganiatáu cadw’r trac ar gyfer ddefnydd amaethyddol a symudiad cerbydau ar gyfer gofynion gweithredol Parc Carafannau Tyddyn Isaf yn unig yn The Owls, Dulas

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan y Cynghorydd D R Hughes fel un o’r Aelodau Lleol.

 

Dywedodd y Rheolwr Rheoli Datblygu fod yr adran briffyrdd o’r farn na fyddai’r defnydd arfaethedig yn cael effaith andwyol ar y fynedfa bresennol a’r briffordd a fabwysiadwyd oherwydd bod cerbydau amaethyddol eisoes yn defnyddio’r ffordd breifat hon. Nododd fod y Cynghorydd D R Hughes wedi gofyn am ymweliad safle fel y gallai’r Aelodau cael golwg arno.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Nicola Roberts ymweliad safle ac eiliwyd ei chynnig gan y Cynghorydd Lewis Davies.

 

Y rheswm am y cynnig oedd caniatáu i’r Aelodau gael gweld yr effaith ar yr AHNE a’r dirwedd o gwmpas y safle.

 

Penderfynwyd ymweld â'r safle er mwyn i'r Aelodau gael golwg ar y safle

 

12.5  44C311 - Cais amlinellol gyda rhai materion wedi eu cadw’n ôl ar gyfer codi un annedd ar dir ger 4 Tai Cyngor, Rhosgoch

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais y Cynghorydd Aled Morris Jones fel un o’r Aelodau Lleol.

 

Dywedodd y Rheolwr Rheoli Datblygu y byddai’r cynnig mewn lleoliad na fyddai’n gysylltiedig â’r anheddiad oherwydd nad oes unrhyw anheddau'r ochr arall i’r ffordd ac mae’r safle ar dir uwch. Ystyrir y byddai’r annedd arfaethedig yn niweidio edrychiad yr ardal mewn modd annerbyniol gan ymwthio i gefn gwlad agored.

 

Fel Aelod Lleol, dywedodd y Cynghorydd Aled M Jones fod y cynnig hwn ar gyrion pentref Rhosgoch yn ymyl y Tai Cyngor a adeiladodd yr awdurdod hwn nifer o flynyddoedd yn ôl. Yn ei farn ef, roedd Polisi 50 yn berthnasol i’r datblygiad, sef datblygu ar gyrion anheddiad. Dywedodd y Cynghorydd Jones fod 2 o dyrbinau gwynt mawr gyferbyn â safle’r cais. Yn ei farn ef, nid oedd y cais hwn yn groes i bolisi ac y dylid ei gymeradwyo.

 

Dywedodd y Cynghorydd R O Jones ei fod yn dymuno cefnogi’r hyn a ddywedwyd gan y Cynghorydd Aled M Jones ac yn ei farn ef, ni fyddai’n annedd arfaethedig yn niweidio’r dirwedd ac mae’n cydymffurfio gyda Pholisi 50. Cynigiodd y dylid cymeradwyo’r cais. Eiliwyd ei gynnig gan y Cynghorydd Jeff Evans.

 

Ym marn y Cynghorydd T V Hughes, gallai’r cais arfaethedig osod cynsail yn yr ardal gydag estyniad arall i’r cefn gwlad. Cynigiodd y Cynghorydd Hughes y dylid gwrthod y cais ac fe eiliwyd ei gynnig gan y Cynghorydd Lewis Davies.

 

Pleidleisiwyd fel a ganlyn :-

 

I ganiatáu'r cais yn groes i argymhelliad y Swyddog: 

 

Y Cynghorwyr Jeff Evans, John Griffith, Kenneth P. Hughes, Vaughan Hughes, R. O. Jones, Nicola Roberts                                  Cyfanswm 6

 

I wrthod y cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog:

 

Y Cynghorwyr Lewis Davies, T.V. Hughes, Raymond Jones Cyfanswm 3

 

Penderfynwyd caniatáu’r cais yn groes i argymhelliad y Swyddog am y rhesymau a roddwyd.

 

Yn unol â gofynion Cyfansoddiad y Cyngor, bydd y cais yn cael ei ohirio’n awtomatig i’r cyfarfod nesaf i ganiatáu i’r swyddogion ymateb i’r rhesymau a roddwyd dros wrthod y cais.

 

12.6  44LPA1005/TPO/CC – Cais i dynnu i lawr 2 goeden onnen a 3 choeden sycamorwydden sydd wedi eu diogelu o dan Orchymyn Diogelu Coed yn Ty’n y Ffrwd, Rhosybol

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod y cais ar dir y mae’r Cyngor yn berchen arno.

 

Cynigiodd y Cynghorydd R O Jones y dylid caniatáu’r cais ac fe eiliwyd ei gynnig gan y Cynghorydd K P Hughes.

 

Penderfynwyd caniatáu'r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog gyda’r amodau a nodwyd yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

12.7  46C192B/FR – Cais llawn ar gyfer gosod arfwisg graig o flaen y wal strwythur caergawell presennol yn Dinghy Park, Porth Castell, Ravenspoint Road, Trearddur

 

(Gwnaed datganiad o ddiddordeb gan y Cynghorydd T V Hughes ac aeth allan o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth a’r bleidlais ar yr eitem).

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais y Cynghorydd D R Thomas, sef un o’r Aelodau Lleol.

 

Dywedodd y Cynghorydd R O Jones fod yr Aelod Lleol wedi gofyn am ymweliad safle fel y gallai’r Aelodau weld effaith hyn ar yr arfordir ac ar yr AHNE. Eiliwyd ei gynnig gan y Cynghorydd Nicola Roberts.

 

Penderfynwyd ymweld â'r safle er mwyn i'r Aelodau gael golwg ar y safle.

Dogfennau ategol: