Cyflwyno’r Cerdyn Sgorfwrdd Corfforaethol am Chwarter 2 2014/15.
Cofnodion:
Cyflwynwyd i sylw’r Pwyllgor wybodaeth ynghylch perfformiad yn erbyn dangosyddion allweddol mewn perthynas â Rheoli Pobl, Rheolaeth Ariannol, Rheoli Perfformiad a Gwasanaeth Cwsmer ar ddiwedd Chwarter 2 2014/15 fel y cafodd ei grynhoi yn y Cerdyn Sgorio Corfforaethol.
Cyflwynwyd y Cerdyn Sgorio Corfforaethol gan yr Aelod Portffolio ar gyfer Perfformiad a’r Cynllun Corfforaethol fel un a oedd yn adlewyrchu gwelliant cyffredinol yn erbyn y Dangosyddion Perfformio gyda’r eithriadau yn cael sylw yn y naratif a gyflwynwyd gyda’r Cerdyn Sgorio.
Yn y drafodaeth ddilynol ar y wybodaeth a gyflwynwyd codwyd y pwyntiau a ganlyn gan y Pwyllgor:
• Mewn perthynas â Gwasanaeth Cwsmer, cyfeiriwyd at y ffaith, yn achos gohebiaeth gyda chynghorau cymuned, nad oedd y Cyngor ond wedi ymateb 2 waith allan o 12 o fewn yr amserlen ofynnol sy’n awgrymu nad yw gwelliannau damcaniaethol yn y gwasanaeth i’r cwsmer bob amser yn cael eu gweithredu’n ymarferol. Cadarnhaodd y Pennaeth Dros Dro ar gyfer Gwasanaethau Democrataidd fod yr ohebiaeth dan sylw wedi ei hanfon ymlaen at y gwasanaethau perthnasol am ymateb. Roedd y Pwyllgor yn cydnabod y gwaith clodwiw a oedd yn cael ei wneud gan staff fel y tystiolaethir yn Nangosyddion Perfformio 1, 3 a 4 ar gyfer Gwasanaeth cwsmer ond roedd angen atgyfnerthu hynny trwy barhau i wneud gwelliannau yn y maes hwn ac mewn meysydd eraill.
• Nid oes manylion wedi eu cynnwys gyda rhai Dangosyddion Perfformiad a fyddai wedi cynorthwyo’r Pwyllgor i werthuso perfformiad e.e. Sgorau Cwsmeriaid Cudd a Dangosyddion Perfformio Addysg mewn perthynas â phresenoldeb disgyblion, gwaharddiadau a nifer y prentisiaethau a grëwyd dan y cynllun Prentisiaeth Menai. Dywedodd yr Aelod Portffolio ar gyfer Perfformiad y byddai’r Siarter Gwasanaeth Cwsmeriaid a gymeradwywyd yn ddiweddar gan y Pwyllgor Gwaith yn cyfrannu tuag at lenwi bylchau yn y data. Esboniodd y Rheolydd Rhaglen a Chynllunio Busnes fod y cysyniad Cwsmer Cudd yn Ddangosydd newydd a bod gwaith yn cael ei wneud i sefydlu’r prosesau a fydd yn darparu sail tystiolaeth ar ei gyfer. Bydd hwn yn Ddangosydd blynyddol ac erbyn diwedd Chwarter 4 bydd y bylchau wedi eu llenwi. Wrth i’r prosesau gwasanaeth cwsmer wella bydd modd ei gynnwys yn fwy rheolaidd o fewn prosesau fel bod modd adrodd yn chwarterol. Cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Dysgu Gydol Oes fod prentisiaethau wedi eu creu ond bod angen i’r wybodaeth gael ei bwydo i mewn i’r system cofnodi perfformiad. Mewn perthynas â’r Dangosyddion eraill yn y maes Addysg lle na roddwyd data ar eu cyfer, dywedodd y Pennaeth Dysgu nad yw’r amserlen ar gyfer y Cerdyn Sgorio Corfforaethol yn cyd-fynd gyda’r amserlen sydd gan Lywodraeth Cymru ar gyfer cyhoeddi data ynglŷn â chanlyniadau arholiadau’r haf diwethaf. Nid yw’r holl ddata a gasglwyd hyd yma ynghylch perfformiad y llynedd wedi ei ddilysu gan Lywodraeth Cymru eto. Mae rhywfaint o’r data yn dechrau dod trwodd yn awr a bydd gwybodaeth ynghylch gwaharddiadau dros dro a pharhaol hefyd yn dechrau dod trwodd ym mis Ionawr. Fodd bynnag, cadarnhaodd y Swyddog fod y sgôr o ddim yn erbyn y Dangosydd hwn yn gywir oherwydd na fu unrhyw waharddiadau o ysgolion uwchradd yn ystod y cyfnod.
• Absenoldeb data cymharol ar gyfer 2013/14 ar gyfer salwch tymor byr a thymor hir dan y pennawd Rheoli Pobl. Cadarnhaodd y Rheolydd Rhaglen a Chynllunio Busnes y bydd y wybodaeth hon ar gael yn y Cerdyn Sgorion ar gyfer Chwarter 3.
• Mynegodd y Cadeirydd bryder nad oedd y wybodaeth y gofynnwyd amdani ynglŷn â nifer y Gweithwyr Llawn Amser wedi dod i law ac nad oedd ar gael ar gyfer cyfarfod ar 10 Medi. Dywedodd yr Aelod Portffolio ar gyfer Perfformiad bod y wybodaeth yn cael ei chasglu a’i pharatoi ar gyfer y chwarter nesaf ac y bydd yn cael ei hanfon ymlaen i’r Cadeirydd yn y pythefnos nesaf.
• Dywedodd Aelod ei bod wedi gofyn i’r Prif Weithredwr fel Cadeirydd y Panel Rhiantu Corfforaethol i egluro statws ambr y dangosydd SCC / 041a - canran y plant perthnasol cymwys, a’r plant cymwys a oedd yn berthnasol, sydd â chynlluniau llwybr fel sy’n ofynnol. Nodwyd y pwynt gan y Pwyllgor.
• Mynegwyd pryder gan Aelod ynghylch y ffaith bod SCA / 01b yn parhau i ddangos yn goch - y ganran o ofalwyr ar gyfer oedolion a oedd wedi cael asesiad neu adolygiad o’u hangenion yn ystod y flwyddyn. Nododd y Pwyllgor y pwynt a wnaed ond ychwanegodd bod eglurhad ar y sefyllfa wedi ei ddarparu yn y cyfarfod diwethaf. Cadarnhaodd y Rheolydd Rhaglen a Chynllunio Busnes bod perfformiad wedi gwella yn Chwarter 2 fel y nodwyd yng nghorff yr adroddiad.
• Mynegwyd anesmwythyd a gofynnwyd am eglurhad ynghylch pam roedd HHA / 017a yn dangos yn goch - nifer y dyddiau yr oedd teuluoedd digartref gyda phlant wedi eu treulio mewn llety gwely a brecwast ar gyfartaledd. Dywedodd y Swyddog Opsiynau Tai a oedd wedi cael gwahoddiad i ddod i’r Pwyllgor fod y Dangosydd hwn yn cyfeirio at aelwydydd digartref ac nid yw’n cynnwys teuluoedd digartref gyda phlant sydd wedi eu lleoli mewn llety hunanarlwyo dros dro yn hytrach na llety gwely a brecwast. Nododd y Pwyllgor felly fod y geiriad yn gamarweiniol. Esboniwyd bod hwn yn ddangosydd cenedlaethol ac nad oedd modd newid y geiriad felly. Cytunwyd o’r herwydd i gynnwys nodyn o eglurhad gyda’r dangosydd i egluro’r sefyllfa mewn perthynas â theuluoedd a phlant digartref.
• Gofynnwyd am sicrwydd bod uwch reolwyr yn rhoi sylw i Ddangosydd 9 dan y pennawd Rheoli Pobl mewn perthynas â’r ganran o ADP a gwblhawyd o fewn yr amserlen.
• Gofynnwyd am eglurhad ynghylch statws coch y Prosiect Hamdden. Dywedodd y Rheolydd Rhaglen a Chynllunio Busnes nad yw’r prosiect hyd yma wedi cael mandad gan y Bwrdd Prosiect.
Penderfynwyd nodi –
• Y meysydd y mae’r Uwch Dimau Arweinyddiaeth yn llwyddo i sicrhau gwelliannau ynddynt i'r dyfodol fel yr amlinellir ym mharagraffau 4.1.1 i 4.1.6
• Eglurhad y Swyddogion a’r Aelod Portffolio ar y meysydd pryder y dygwyd sylw atynt gan y Pwyllgor yn ystod y drafodaeth i’w cyfathrebu i’r Pwyllgor Gwaith yn ei gyfarfod ar 1 Rhagfyr.
CAMAU GWEITHREDU’N CODI:
• Mewn perthynas â HHA / 017a, bod y Rheolydd Rhaglen a Chynllunio Busnes yn cynnwys nodyn o eglurhad ar gyfer y Dangosydd mewn perthynas â Theuluoedd a Phlant Digartref.
• Mewn perthynas â Dangosyddion 3 a 400 dan y pennawd Rheoli Pobl, bod y rheolydd Rhaglen a Chynllunio Busnes yn darparu data erbyn Chwarter 3 ar gyfer absenoldebau salwch tymor byr a thymor hir 2013/14.
• Mewn perthynas â Dangosydd 29 dan y pennawd Rheoli Perfformiad, bod y Cyfarwyddwr Dysgu’n darparu data mewn perthynas â nifer y prentisiaethau a gafodd eu creu dan y cynllun Prentisiaeth Menai erbyn Chwarter 3.
Dogfennau ategol: