Eitem Rhaglen

Cytundebau Bysiau Ysgol - Tendrau a Strwythur Taliadau

Cyflwyno adroddiad y Swyddog Addysg Uwchradd.

Cofnodion:

Penderfynwyd dan Adran 100 (A)(4) Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, gyrrwyd y wasg a'r cyhoedd allan o'r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem a ganlyn, oherwydd y tebygrwydd y câi gwybodaeth ei rhyddhau a honno'n wybodaeth y Cyflwynwyd i sylw’r Pwyllgor adroddiad y Swyddog Addysg Uwchradd yn amlinellu newidiadau arfaethedig i'r tendrau bws ysgol a’r strwythur taliadau.  Roedd yr adroddiad yn nodi'r materion sydd angen cael sylw fel rhan o’r broses ail-dendro, a hefyd y cynigion i gyflwyno'r polisi dim pas, dim teithio i’r holl ddisgyblion; hefyd y cynnydd mewn taliadau yn unol â chostau gwirioneddol a rhesymoli gwasanaethau bysiau anstatudol.

 

Dywedodd y Swyddog Addysg Uwchradd beth oedd y rhesymeg dros gyflwyno y polisi dim pas dim teithio fyddai’n ei gwneud yn haws i’r Awdurdod Addysg sicrhau’r trefniadau iechyd a diogelwch o ran gallu darparu rhestr o deithwyr mewn amgylchiadau lle bo angen hynny.  O ran y taliadau, eglurodd y Swyddog y bydd y contractau newydd ar gyfer teithio ar y bws yn parhau i gynnwys newidiadau blynyddol ar gyfer chwyddiant i’r adran.  Tra bod yr adran hyd yn hyn wedi gallu derbyn y costau hyn heb gynyddu’r gost i’r teithiwr, mae’r sefyllfa ariannol bresennol yn ei gwneud yn anodd i gadw’r sefyllfa hon.  Cyfeiriodd at y strwythur codi tâl presennol o’i gymharu â'r sefyllfa mewn siroedd eraill ac ehangodd ar yr opsiynau dros newid a’u goblygiadau refeniw.  Mewn perthynas â darparu gwasanaethau bws anstatudol, dywedodd y Swyddog mai’r bwriad yw stopio darparu'r gwasanaethau anstatudol oedd i’w weld yn yr adroddiad ac sydd yn seiliedig ar drefniadau hanesyddol ac nad ydynt yn unol â pholisi cludiant presennol y Cyngor.  Byddai hyn hefyd yn sicrhau cysondeb o ran cyfle i’r holl deuluoedd ar draws yr Ynys nad ydynt yn cael dewis darpariaeth o’r fath ar hyn o bryd. 

 

Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i’r cynigion gan geisio cael sicrwydd ynglŷn â’r materion a ganlyn:

 

           Na fyddai’r cynnydd arfaethedig yn y taliadau yn anfanteisio'r disgyblion o ardaloedd difreintiedig.  Cadarnhaodd y Swyddog Addysg Uwchradd bod system o gefnogaeth ar gael i deuluoedd tlotach o dan y Lwfans Cynhaliaeth Addysgol ar gyfer y rhai mewn addysg bellach.  Bydd asesiad effaith ac ymgynghori llawn yn cael ei gynnal gyda chydranddeiliaid er mwyn sicrhau na fydd unrhyw rhieni/disgyblion/ysgolion yn dioddef eu hanfanteisio a bod system dalu deg yn cael ei chyflwyno.

 

           Y bydd elfen o ddiogelwch er mwyn sicrhau na fydd disgyblion sy’n colli eu tocyn teithio yn cael eu rhwystro rhag derbyn gwasanaeth bws ac y bydd eu diogelwch yn cael ei sicrhau bob amser.  Dywedodd y Swyddog Addysg Uwchradd y bydd angen sefydlu trefniadau dros dro digonol i ddisgyblion sydd wedi colli eu pasys.

 

           Trefniadau ar gyfer monitro gweinyddu’r system.  Dywedodd y Pennaeth Dysgu mai’r ffordd ymlaen oedd yn cael ei ffafrio yw symud tuag at system electronig e.e. trwy ymestyn y system Squid o dalu am brydau ysgol lle mae taliadau’n cael eu gwneud ar-lein neu trwy drefnu system dalu debyd uniongyrchol.

           Yr angen i hysbysu’r rhieni, disgyblion a’r llywodraethwyr ynglŷn â’r newidiadau arfaethedig mewn ffordd sy’n sicrhau eu bod yn deall yn llawn yr hyn y mae yn ei olygu a pha gefnogaeth sydd ar gael.  Cadarnhaodd y Swyddog Addysg Uwchradd bod gwaith yn cael ei wneud gyda swyddogion lles a grwpiau cefnogi e.e. y Tîm o Amgylch y Teulu i hysbysu rhieni a theuluoedd am eu hawliau.

 

           Yr angen i gynnal asesiad risg mewn perthynas â’r bwriad i ddiweddu’r gwasanaethau anstatudol fel a nodwyd yn yr adroddiad.  Dywedodd y Swyddog Addysg Uwchradd mai hynny fyddai’r cam cyntaf yn y broses.

 

Penderfynwyd

 

           Cefnogi cyflwyno polisi dim pas, dim teithio i’r holl ddisgyblion (ataliodd y Cynghorydd A. Griffith ei phleidlais)

           I gefnogi cynyddu’r taliadau yn unol â chostau gwirioneddol o Medi 2015 yn unol ag Opsiwn 2 yn yr adroddiad.

           I roi cefnogaeth i beidio â pharhau gyda’r gwasanaethau bws anstatudol o fis Medi 2015 fel cyfeiriwyd ato yn yr adroddiad, yn amodol ar gwblhau asesiad risg o’r llwybrau teithio dan sylw.

 

DIM CAMAU PELLACH YN CODI.