Cyflwyno adroddiad gan yr Uwch Reolwr Partneriaethau Gwynedd a Môn.
Cofnodion:
Cyflwynwyd – adroddiad gan Uwch Reolwr Partneriaethau Gwynedd a Môn.
Dywedodd yr Uwch Reolwr Partneriaeth bod Bwrdd Gwasanaeth Gwynedd a Môn wedi gwneud nifer o benderfyniadau arwyddocaol yn ymwneud â’i weledigaeth a’i gyfeiriad strategol i’r dyfodol. Yn y cyfarfod diwethaf o’r Bwrdd Gwasanaeth Lleol a gynhaliwyd ar 26 Medi 2014 roedd ystyriaeth wedi ei roi i’r canlynol:-
• Cyfres ddrafft o egwyddorion gweithredu i sylfaenu gweithrediad a gwaith y Bwrdd;
• Rhai gwerthoedd partneriaeth sylfaenol;
• Cylch gorchwyl drafft;
• Blaenoriaethau allweddol a rennir ar gyfer eu darparu dros y ddwy flynedd nesaf;
• 10 UCHAF o faterion BGLl sydd ar y radar.
Y tair blaenoriaeth allweddol a rennir ac sydd yn dod i’r amlwg i’r BGLl yw :-
• Blaenoriaeth Allweddol 1 – Pobl Hŷn
• Blaenoriaeth Allweddol 2 – Teuluoedd sydd mewn anghaffael
• Blaenoriaeth Allweddol 3 – Cymunedau Cynaliadwy/Adfywio Cymunedol
gyda thri o Alluogwyr yn eu sylfaenu – Technoleg, Iaith a Diwylliant ac Ymgysylltiad.
Yn amodol ar gael cymeradwyaeth BGLl ar 28 Tachwedd, y cam nesaf fyddai
datblygu pob ffrwd waith ymhellach gan roi ystyriaeth arbennig i’r canlynol :-
• Canlyniadau sefydliadol a ddymunir yn ôl pob Blaenoriaeth Allweddol a Galluogwr ar gyfer pob partner BGLl dros y 2 flynedd nesaf;
• Sail tystiolaeth ar gyfer pob Blaenoriaeth/Galluogwr;
• Cyfraniad partneriaeth BGLl i bob ffrwd waith;
• Y strwythur darparu a llywodraethiant o dan y BGLl i wneud cynnydd gyda phob Blaenoriaeth Allweddol a Galluogwr.
Adroddodd y Swyddog ymhellach mai un ffrwd waith gyfredol oedd wedi ei blaenoriaethu oedd datblygu trefniadau sgriwtini aelodau etholedig sy’n sylfaen i waith Bwrdd Gwasanaethau Lleol Gwynedd ac Ynys Môn. Y prif amcan fu ystyried sut i ddatblygu trefniadau sgriwtini cadarn, a darparu lefel briodol o her i’r Bwrdd ar y cyd ar draws y ddwy Sir er mwyn adlewyrchu mandad y BGLl. Yng ngoleuni cefnogaeth Aelodau Etholedig Cynghorau Gwynedd ac Ynys Môn, roedd gwaith wedi ei wneud gyda datblygu trefniadau sgriwtini BGLl ar y cyd :-
• Grŵp Prosiect Tasg a Gorffen Aml-asiantaethol wedi ei sefydlu. Roedd yr aelodaeth yn cynnwys Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, Gwasanaeth Tân ac Achub, Heddlu Gogledd Cymru, Parc Cenedlaethol Eryri, Awdurdodau Lleol. Roedd y Grŵp ar hyn o bryd yn negodi cynrychiolaeth trydydd sector.
• Roedd papur opsiynau cychwynnol wedi ei ddatblygu yn amlinellu’r modelau sgriwtini ar y cyd posib i’w hystyried gan Aelodau Etholedig.
• Mewnbwn a mentora wedi’u negodi gan y Ganolfan ar gyfer Sgriwtini Cyhoeddus trwy gydol y broses o ddatblygu’r trefniadau sgriwtini ar y cyd ar gyfer Ynys Môn a Gwynedd.
Adroddwyd ymhellach y byddai’r camau nesaf yn y ffrwd waith sgriwtini ar y cyd yn canolbwyntio ar:
• Cwblhau’r papur gwerthuso opsiynau yn rhoi ystyriaeth i fanteision ac anfanteision pob model sgriwtini;
• Cyflwyno cynigion ar gyfer trefniadau sgriwtini ar y cyd i’w hystyried gan Bwyllgorau Sgriwtini’r ddau Awdurdod Lleol yn gynnar yn y flwyddyn newydd. (Y
cynigion i gynnwys gwerthusiad opsiynau llawn ar gyfer pob model).
• Ceisio cael mewnbwn y Trydydd Sector i’r Gwerthusiad Opsiynau o’r modelau sgriwtini.
Materion a godwyd gan Aelodau :-
• Cyfeiriodd yr Aelodau at gyfrifoldebau penodol BGLl gan gwestiynu unrhyw bwerau oedd gan y BGLl i sicrhau bod trefniadau llywodraethu a rheoli perfformiad priodol yn eu lle i weithredu gwelliannau, bod rheolwyr a staff llinell flaen ar draws asiantaethau yn gweithio’n effeithiol gyda’i gilydd a bod blaenoriaethau cytunedig yn cael eu hadlewyrchu yng nghynlluniau corfforaethol y sefydliadau unigol. Ymatebodd yr Uwch Reolwr Partneriaethau trwy gyfeirio at drefniadau oedd yn eu lle gan Lywodraeth Cymru trwy gyfarwyddyd statudol - Cydamcanu, Cydymdrechu. Nid oedd y Bwrdd ar hyn o bryd yn swyddogaeth statudol ond byddai’n dod yn un statudol yn dilyn dyfodiad y Mesur Lles Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) (o Ebrill 2016).
• Gofynnwyd cwestiynau hefyd ynglŷn â sut byddai diddordebau’r Trydydd Sector yn cael eu cynrychioli yn y trefniadau sgriwtini BGLl ar y cyd arfaethedig. Dywedodd yr Uwch Reolwr Partneriaethau bod trafodaethau’n parhau gyda chyrff cynrychioliadol yng Ngwynedd ac Ynys Môn. Byddai canlyniad y trafodaethau hyn yn cael eu hadlewyrchu yn y cynigion fyddai’n cael eu cyflwyno er ystyriaeth Aelodau Etholedig yn gynnar yn y flwyddyn newydd.
PENDERFYNWYD :-
• I dderbyn yr adroddiad a chefnogi’r blaenoriaethau allweddol arfaethedig a galluogwyr y Bwrdd Gwasanaethau Lleol fel yr oeddynt wedi eu hamlinellu yn yr adroddiad.
• I nodi’r cynnydd hyd yn hyn a’r camau nesaf a fwriedir i ddatblygu trefniadau sgriwtini ar y cyd aelodau etholedig sy’n sylfaen i waith y BGLl.
GWEITHREDU : Adroddiad i’w gyflwyno i’r cyfarfod nesaf o’r Pwyllgor Sgriwtini Partneriaeth ac Adfywio yn rhoi gwerthusiad o fodelau sgriwtini posibl ar gyfer datblygu trefniadau sgriwtini ar y cyd i’r BGLl gyda Chyngor Gwynedd.
Dogfennau ategol: