Eitem Rhaglen

Newidiadau Arfaethedig i'r Polisi a'r Strategaeth ar gyfer adnewyddu Tai Sector Preifat

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Gwasaneth Tai.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad gan Bennaeth y Gwasanaethau Tai mewn perthynas â’r uchod.

 

Adroddwyd bod y Cyngor wedi cynnig grantiau i wella tai sector preifat.  Roedd y Gorchymyn Diwygio Rheolaethol (Cymorth Tai) (Lloegr a Chymru) 2002 wedi newid y fframwaith deddfwriaethol oedd yn rheoli gallu Awdurdodau Lleol i ddarparu cymorth ariannol i berchnogion tai ac mae’n caniatáu i awdurdodau gynnig benthyciadau ariannol. Tra’n cydnabod bod benthyca arian drwy ddarparu benthyciadau ad-daladwy yn ddull mwy economaidd o ddefnyddio adnoddau cyfyngedig y Cyngor, y bwriad yw y bydd y Gwasanaethau Tai yn cyflwyno cymorth trwy fenthyciadau arian yn lle rhai o’r grantiau presennol.  Yn Ionawr 2015, mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu lansio Cronfa Gwella Cartrefi Ad-daladwy fel y gall awdurdodau lleol ddarparu cynllun benthyca i wella tai.  Er mwyn gallu cymryd rhan yn y cynllun hwn, bydd angen i’r Cyngor fod mewn sefyllfa i gynnig benthyciadau o dan ei Bolisi Adnewyddu Tai Sector Preifat, cyn y gellir sicrhau cronfeydd.  Bydd angen gwneud newidiadau felly i’r Polisi Adnewyddu Tai Sector Preifat fel ei fod yn adlewyrchu’r newidiadau a fwriedir.  Ni fydd grantiau cyfleusterau mandadol i’r anabl yn cael eu heffeithio a bydd y rhain yn parhau i fod ar gael o dan ddarpariaethau Deddf Grantiau Tai, Adeiladu ac Adfywio 1996.

 

Dywedwyd y bydd yr adroddiad hwn yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor Gwaith nesaf i’w gymeradwyo.

 

Materion a godwyd gan yr Aelodau :-

 

  Roedd yr Aelodau yn croesawu’r benthyciadau di-log o £1,000 hyd at uchafswm o £25,000 ar gyfer gwella tai ond roeddent yn bryderus ynglŷn â sut y bydd yr awdurdod yn gweinyddu hyn oll ac yn lliniaru rhag y risg na fyddai’r ymgeiswyr yn talu’r dyledion yn ôl. Dywedodd y Swyddogion y bydd yr ymgeiswyr yn destun asesiad fforddiadwyaeth er mwyn sicrhau y gallant fforddio’r benthyciad ac nad oes ganddynt hanes o gredyd gwal.  Bydd yr holl fenthyciadau yn cael eu diogelu fel pridiant yn erbyn yr eiddo. Bydd y gwaith hwn yn cael ei wneud fel rhan o waith gweinyddu’r benthyciad gan Street UK Services Limited.

 

  Dywedodd yr Aelodau eu bod yn dymuno gweld mwy o gartrefi gwag yn cael eu huwchraddio a’u bod ar gael i deuluoedd lleol ac i’r digartref.

 

  Bydd y gweithwyr fydd yn dod i Ynys Môn i adeiladu’r orsaf Wylfa Newydd arfaethedig yn cael effaith ar y tai fydd ar gael i’w rhentu ym Môn.

 

PENDERFYNWYD :-

 

  Cefnogi’r newidiadau i’r strategaeth a’r polisi adnewyddu tai sector preifat (fel yn Atodiad 1) yn amodol ar yr ymgynghori gyda phartneriaid a sefydliadau allanol.

 

  Cefnogi penodi Street UK Services Limited, sef darparwr trydydd parti, i weinyddu a rheoli cynlluniau benthyciadau ar ran y Cyngor a throsglwyddo i Street UK Services Limited yr arian a ddyrannwyd i’r Cyngor ar gyfer rhoi benthyciadau fel ‘Arian Cyfleusterer mwyn gwasanaethu’r benthyciadau, yn amodol ar argymhellion y Swyddog Adran 151.

 

GWEITHREDU: Nodi y bydd yr adroddiad hwn yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor Gwaith ar 1 Rhagfyr 2014 i’w ystyried.

 

Dogfennau ategol: