Eitem Rhaglen

Cau allan y wasg a'r cyhoedd

Ystyried mabwysiadu’r canlynol :-

 

“O dan Adran 100(A)(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem a ganlyn oherwydd gallai olygu datgelu gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym Mharagraff 12, Rhan 1 o Atodlen 12A i’r Ddeddf honno a’r Prawf Budd y Cyhoedd sydd ynglwm.”

Cofnodion:

Dywedodd y Prif Weithredwr mai’r arfer pan mae eitem yn un masnachol sensitif neu’n effeithio ar staff, yw dilyn proses i ystyried a ddylai’r materion hynny gael eu trafod mewn cyfarfod agored neu gyfarfod caeëdig.  Yn yr achos arbennig hwn, penderfynodd y Swyddogion y dylai’r mater hwn gael ei drafod yn breifat ond y gallai rhannau perthnasol o’r Prosiect Gweithio’n Gallach gael eu rhyddhau i’r parth cyhoeddus.  Dywedodd ymhellach bod Swyddogion yn ystyried na ddylai’r Prosiect Gweithio’n Gallach gael ei drafod yn llawn mewn cyfarfod cyhoeddus oherwydd bod gwybodaeth wedi ei chynnwys sy’n fasnachol sensitif h.y. gwerth asedau’r Cyngor cyn iddynt gael eu rhoi ar y farchnad agored. 

 

Dywedodd y Swyddog Monitro bod y Prawf Budd Cyhoeddus oedd ynghlwm wrth yr adroddiad yn nodi’r rhesymau dros gynnal y drafodaeth yn gyhoeddus neu’n breifat.  Wedi pwyso a mesur, daethpwyd i’r casgliad yn y Prawf Budd Cyhoeddus y dylid cynnal y drafodaeth mewn sesiwn breifat yn y lle cyntaf fel y gallai’r Aelodau gyfnewid eu safbwyntiau’n rhydd ac yn ddidwyll.  Y pryderon cyfreithiol penodol oedd bod yna wybodaeth oedd yn fasnachol sensitif yn yr adroddiad.  Roedd y wybodaeth yn disgyn i 3 chategori:-

 

  • Gwerthu asedau i helpu i ariannu’r Prosiect hwn sy’n nodi mewn manylder beth yw’r derbyniadau a ddisgwylir. 
  • Gwybodaeth fanwl am y gwaith caffael sydd ei angen er mwyn cyflawni’r Prosiect h.y. cyflenwadau a gwasanaethau y bydd angen i’r Cyngor eu prynu.
  • Cyfeiriadau at safbwyntiau Swyddogion ynglŷn â nodweddion penodol rhai contractwyr a enwir.

 

Felly roedd y cyngor cyfreithiol yn parhau, sef y dylid cynnal y drafodaeth mewn fforwm preifat.  Fodd bynnag, fe ddywedodd y Swyddog Monitro os oedd y Cyngor yn bwriadu peidio â dilyn y cyngor hwnnw fel roedd y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol wedi bwriadu ei wneud yn y gyfarfod a gynhaliwyd ar 4 Tachwedd, nododd y dylai’r Cyngor gyfyngu’r risg fel a ganlyn:-

 

  • Osgoi cyfeirio at y wybodaeth fasnachol sensitif yn y drafodaeth gan y Cyngor;
  • Rhoi awdurdod i’r Swyddog Monitro, pe bai’r Cyngor yn penderfynu cynnal y drafodaeth yn gyhoeddus, i ryddhau’r papurau ac i olygu’r wybodaeth fasnachol sensitif yn dilyn y cyfarfod.  Mae yna 12 set o olygiadau yn y ddogfen.

 

Nododd Arweinydd y Cyngor y cyngor manwl a gafwyd gan y Swyddog Monitro a chynigiodd pe na bai’r wybodaeth fasnachol sensitif yn cael ei thrafod yn gyhoeddus, y dylai’r adroddiad ar y Prosiect Gweithio’n Gallach gael ei drafod yn gyhoeddus ac i olygu’r wybodaeth fasnachol sensitif o fewn yr adroddiad wedi hynny.  Eiliodd y Cynghorydd Alwyn Rowlands y cynnig.

 

Dywedodd Cadeirydd y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol bod y Pwyllgor Gwaith a gynhaliwyd ar 20 Hydref 2014 wedi cymeradwyo’r Prosiect Gweithio’n Gallach ac i’r mater wedi hynny gael eiAlw i Mewni’w drafod ymhellach gan y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol ac roedd y Pwyllgor hwnnw wedi gofyn i’r mater gael ei drafod yn gyhoeddus.  Gohiriwyd y cyfarfod hwnnw ac yn dilyn y penderfyniad hwnnw, mae’r mater bellach wedi dod gerbron y Cyngor llawn.  Dywedodd ymhellach y dylai’r sesiwn friffio ar y Prosiect Gweithio’n Gallach fod wedi cael ei chynnal cyn y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol a gynhaliwyd ar 15 Hydref 2014 er mwyn caniatáu cynnal trafodaethau..

 

PENDERFYNODD yr Aelodau yn unfrydol y dylid trafod y mater yn gyhoeddus ond gyda rhannau wedi’u golygu fel a nodwyd gan y Swyddog Monitro. 

 

Dogfennau ategol: