Eitem Rhaglen

Prosiect Gweithio'n Gallach

Cafwyd cais am gyfarfod arbennig o’r Cyngor gan y Cynghorwyr Lewis Davies, Ann Griffith, John Griffith, Trevor Ll. Hughes, Vaughan Hughes, Llinos M. Huws, Carwyn E. Jones, R. Meirion Jones, Alun W. Mummery, Bob Parry OBE, Dylan Rees, Nicola Roberts yn unol ag Adran 4.1.3.1 y Cyfansoddiad i ailystyried y penderfyniad a wnaeth y Pwyllgor Gwaith ar 20 Hydref, 2014 mewn perthynas â’r Prosiect Busnes Gweithio’n Gallach ac i drafod y mater hwn yn gyhoeddus.

 

Y dogfennau perthnasol :-

 

·           Gwybodaeth gefndirol ar gyfer y cais am gyfarfod arbennig.

·           Copi o’r penderfyniad a wnaeth y Pwyllgor Gwaith ar 20 Hydref, 2014.

·           Copi o’r adroddiad a gyflwynwyd i’r Pwyllgor Gwaith ar 20 Hydref, 2014.

Cofnodion:

Roedd cais am gyfarfod Arbennig o’r Cyngor wedi ei wneud gan y Cynghorwyr Lewis Davies, Ann Griffith, John Griffith, Trevor Ll. Hughes, Vaughan Hughes, Llinos M. Huws, Carwyn E. Jones, R. Meirion Jones, Alun W. Mummery, Bob Parry OBE, Dylan Rees a Nicola Roberts yn unol ag Adran 4.1.3.1 y Cyfansoddiad, er mwyn ailystyried y penderfyniad a wnaeth y Pwyllgor Gwaith ar 20 Hydref, 2014 mewn perthynas â’r Prosiect Gweithio’n Gallach ac i ystyried y mater yn gyhoeddus.  Roedd copi o’r rhesymau am y cais ynghlwm yn Rhaglen y cyfarfod.

 

Gofynnodd Cadeirydd y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol Gwestiwn ynghylch y ffaith bod y Pwyllgor Gwaith wedi penderfynu cymeradwyo’r Prosiect Gweithio’n Gallach ar 20 Hydref, 2014 yn amodol ar ryddhau adnoddau cyfalaf a refeniw.  Cyfeiriodd at Gyfansoddiad y Cyngor 4.3.2.3 - Penderfyniadau a wnaed y tu allan i’r gyllideb a chwestiynodd a oedd penderfyniad y Pwyllgor Gwaith o fewn rheoliadau’r Cyngor oherwydd bod Atodiad 6 yr adroddiad yn nodi y byddai’r Prosiect yn cael ei weithredu ar unwaith ym mis Rhagfyr.  Gofynnwyd cwestiynau ynglŷn â sut y byddai’r Prosiect hwn yn cael ei ariannu.

 

Dywedodd y Swyddog Monitro na all y Pwyllgor Gwaith ond gwneud penderfyniadau gwario lle mae’r cyllid ar gyfer y gwariant hwnnw eisoes wedi’i ddyrannu.  Gan fod y Prosiect yn un aml-haenog, efallai bod peth o’r cyllid eisoes wedi’i gynnwys yn y gyllideb.  Efallai na fydd rhai elfennau o’r y Prosiect angen cyllid e.e. gwerthu asedau; materion i’r Pwyllgor Gwaith fydd y rhain.  Bydd unrhyw beth arall yn benderfyniad i’r Cyngor.

 

Dywedodd y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) / Y Swyddog Adran 151 Dros Dro ei bod yn bosib nad oedd unrhyw weithgaredd sydd wedi digwydd o fewn y flwyddyn hon yng nghyswllt Gweithio’n Gallach angen unrhyw gyllideb h.y. amser Swyddogion neu arian o gyllidebau adrannol oedd eisoes wedi ei neilltuo.  Fodd bynnag, os bydd angen unrhyw arian yn ystod y flwyddyn ariannol hon, mae gan y Cyngor arian wrth gefn wedi’i neilltuo a gellir ei ddefnyddio drwy’r prosesau cywir i ryddhau cyllid.  Dywedodd ymhellach nad oes unrhyw ddarpariaeth gyfalaf yn ei lle ar hyn o bryd ar gyfer y Prosiect hwn ac mae’r Pwyllgor Gwaith wedi cydnabod hynny drwy gytuno ag egwyddor y Prosiect yn unig.  Dywedodd y Swyddog ei fod yn credu bod y Pwyllgor Gwaith yn ei gyfarfod ar 20 Hydref, 2014 wedi gwneud penderfyniad cyfreithlon o dan y ddarpariaeth gyfansoddiadol.

 

Rhoddodd Cadeirydd y Cyngor wahoddiad i’r Cynghorydd Bob Parry OBE, fel Arweinydd yr Wrthblaid i siarad gerbron y cyfarfod.  Mynegodd y Cynghorydd Parry mai prif bryderon Grŵp yr Wrthblaid i’r Prosiect Gweithio’n Gallach oedd y gwariant yng nghyswllt y Prosiect.  Mae’r Prosiect yn ddibynnol ar werthu asedau’r Cyngor ar y farchnad agored a’u bod yn cael eu gwerthu’n gyflym.  Dywedodd ymhellach ei fod yn gwerthfawrogi bod elfennau o'r Prosiect Gweithio’n Gallach yn dderbyniol ond nododd yn benodol na fyddai gwario dros £1m ar y Pencadlys yn dderbyniol i breswylwyr yr Ynys a’r adeg pan fo’r Awdurdod yn ystyried cynyddu’r Dreth Gyngor.  Roedd y mater o ad-drefnu llywodraeth leol hefyd yn ffactor yr oedd angen ei ystyried.

 

Y prif faterion a leisiwyd gan Grŵp yr Wrthblaid oedd:-

 

·           Diswyddiadau posibl mewn swyddi gweinyddol;

·           Roedd gwario dros £1.5m ar Bencadlys y Cyngor Sir yn annerbyniol;

·           Mae angen gwella TGCh er mwyn moderneiddio’r Awdurdod gyda mwy o adnoddau yn cael eu rhoi i mewn i’r gyllideb TGCh o’r Prosiect Gweithio’n Gallach;

·           Roedd angen  ymchwilio’n llawn i’r arbedion effeithlonrwydd ynni yn y Pencadlys h.y. goleuo LED, paneli heulol;

·           Roedd y Prosiect yn dibynnu ar werthu asedau’r Cyngor a’u gwerthu’n fuan;

·           Materion parcio a iechyd a diogelwch gyda mwy o staff yn gweithio yn y Pencadlys.

 

Rhoddodd y Deilydd Portffolio (Trawsnewid) y cefndir manwl i’r Prosiect Gweithio’n Gallach gan sôn am y sesiwn friffio a gynhaliwyd â staff.  Mae’r Prosiect Gweithio’n gallach yn cael ei ddarparu fel ystod o arbedion fel oedd wedi ei amlinellu yn yr adroddiad.  Mae angen gwella Technoleg Gwybodaeth er mwyn annog a hyrwyddo gweithio’n hyblyg o fewn yr awdurdod.  Yn seiliedig ar gyngor a gafwyd gan y Swyddog Adran 151, mae’n annhebygol y ceir arbedion drwy fabwysiadu agwedd dameidiog.  Mae nifer o agweddau o fewn yr adroddiad yn  syniadau a roddwyd gerbron gan staff ac fe all y rheolwyr yn awr weithio i foderneiddio cyfleusterau, y ddarpariaeth o wasanaethau ac arferion gweithio o fewn y Cyngor.  Bydd derbyniadau cyfalaf yn cael eu defnyddio i gyfrannu at fuddsoddiad cyfalaf yng nghyswllt y Prosiect gyda hynny’n arwain at welliannau o fewn yr awdurdod.  Bydd yr arbedion £730k y flwyddyn yn deillio o’r Prosiect hwn.

Pwysleisiodd y Deilydd Portffolio mai Prosiectbuddsoddi i arbedyw’r Prosiect hwn.

 

Cyfeiriodd at y mater o ddiswyddiadau posibl mewn swyddi gweinyddol fel a nodwyd gan Grŵp yr Wrthblaid.  Eglurodd ei fod yn cael ei ragweld y byddai’r swyddi hyn yn cael eu colli drwy  broses naturiol h.y. diswyddiadau gwirfoddol ac ymddeoliadau.

Dywedodd Arweinydd Grŵp yr Wrthblaid y dylid adolygu’r penderfyniad ynglŷn â’r Prosiect Gweithio’n gallach ac y dylai symud ymlaen mewn camau.  Cymerwyd pleidlais wedi’i chofnodion yn unol â darpariaethau rhan 4.1.18.5 y Cyfansoddiad.

 

Roedd y bleidlais wedi’i chofnodi fel a ganlyn:-

 

Y dylid adolygu’r penderfyniad ar y Prosiect Gweithio’n Gallach ac ystyried symud ymlaen gyda’r Prosiect trwy broses cam wrth gam:-

 

Cynghorwyr Lewis Davies, Ann Griffith, John Griffith, Vaughan Hughes, Llinos M. Huws, Carwyn E. Jones, R. Meirion Jones, Alun W. Mummery, Bob Parry OBE, Dylan Rees, Nicola Roberts.                                                                         CYFANSWM 11

 

 

Yn erbyn y cynnig:-

 

Cynghorwyr Jim Evans, R.A. Dew, D.R. Hughes, K.P. Hughes, T.V. Hughes, W.T. Hughes,  A.M. Jones, G.O. Jones, H.E. Jones,  J. Arwel Roberts, Alwyn Rowlands, D.R. Thomas, Ieuan Williams.                                                                         CYFANSWM 13

 

Atal pleidlais:                                                                                                          DIM

 

 

PENDERFYNWYD gwrthod y cynnig a datganodd y Cadeirydd nad oedd y cynnig wedi ei basio.