Eitem Rhaglen

Cofnodion Cyfarfod 7 Tachwedd, 2014

Cyflwyno cofnodion cyfarfod arbennig y Pwyllgor Archwilio a gynhaliwyd ar 7 Tachwedd, 2014.

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion y cyfarfod arbennig o’r Pwyllgor Archwilio a gynhaliwyd ar 7 Tachwedd 2014 a chadarnhawyd eu bod yn gywir.

Yn codi o’r cofnodion

 

           Adroddodd y Cyfrifydd Cyfalaf a Rheoli Trysorlys yn ôl i’r Pwyllgor fel y gofynnwyd iddo wneud gyda gwybodaeth mewn perthynas â’r cyfraddau benthyca cyfartalog ar draws awdurdodau yng Nghymru.  Roedd wedi trefnu’r wybodaeth ar ffurf tabl a threfn restrol yn seiliedig ar ddata a gafwyd o wefan y Bwrdd Benthyciadau Gwaith Cyhoeddus (BBGC).  Er y gall meincnodi yn erbyn awdurdodau eraill fod yn ddefnyddiol, esboniodd y Swyddog ei bod yn bwysig pwysleisio hefyd fod amseriad y benthyca hanesyddol yn dibynnu ar pryd yr oedd y rhaglen gyfalaf angen benthyca er mwyn cyllido’r cynlluniau ynddi.  Am y rheswm hwn, efallai bod rhai awdurdodau wedi bod angen cyllid allanol i gyllido’r rhaglen ar adeg pan oedd cyfraddau llog yn isel tra bod eraill wedi gorfod benthyca i gyllido rhaglenni pan oedd cyfraddau’n uchel.  Yn ogystal, gall y dull hwn o weithredu hefyd gymylu’r darlun yn yr ystyr bod perfformiad awdurdod yn seiliedig ar gyfraddau llog ar fenthyciadau a all dyddio’n ôl ddegawdau ac na ellir eu haildrefnu oherwydd y premiymau a godir am wneud hynny a fyddai’n gorbwyso’r arbedion.

 

Dywedodd y Swyddog mai’r Gyfradd Sefydlog Gyfartalog ar gyfer benthyciadau gan y BBGC ar draws awdurdodau lleol yng Nghymru oedd 5.58% sy’n golygu bod ffigyrau Cyngor Sir Ynys Môn (CSYM), sef 5.72%, ychydig yn uwch na’r cyfartaledd trwy Gymru.  Trwy restru’r awdurdodau yn ôl maint y gyfradd sefydlog ar gyfer benthyciadau gan BBGC, Ynys Môn oedd y pedwerydd ar ddeg isaf allan o’r 22 awdurdod lleol yng Nghymru o ran cyfraddau llog sefydlog.  Trwy restru’r awdurdodau yn ôl y maint cyfraddau llog sefydlog ar gyfer benthyciadau BBGC ar sail ranbarthol, roedd y gyfradd llog sefydlog ar gyfer CSYM y drydedd isaf o’r chwe awdurdod lleol yng Ngogledd Cymru.

 

Nodwyd y wybodaeth gan y Pwyllgor.

 

           Cadarnhaodd y Rheolydd Archwilio Mewnol ei fod wedi cysylltu â Chronfa Bensiwn Gwynedd i sefydlu a fyddai swyddog o’r Gronfa yn medru dod i’r cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Archwilio i ddiweddaru’r Aelodau ar unrhyw faterion perfformiad. Er nad oedd modd iddo ddod i’r cyfarfod, roedd wedi cynnig opsiynau eraill, sef bod Aelodau’r Pwyllgor yn gofyn am atborth gan yr Aelod Etholedig sy’n cynrychioli Cyngor Sir Ynys Môn (yr Aelod Portffolio ar gyfer Cyllid) ar y Pwyllgor Cronfa Bensiwn, neu eu bod yn anfon unrhyw gwestiynau yn uniongyrchol at Reolwyr y Gronfa.

 

Dywedodd y Pennaeth Adnoddau a’r Swyddog Adran 151 Dros Dro mai’r drefn arferol bob blwyddyn yw i’r awdurdod pensiwn gynnal cyfarfod gyda Swyddogion Adran 151 yr awdurdodau hynny sy’n rhan o’r Gronfa, a hynny er mwyn rhoi sylw i unrhyw faterion sy’n ymwneud â pherfformiad, buddsoddiad a / neu ddiffygion ac ati.  Er nad oedd wedi cael gwybod pa bryd y byddai’r cyfarfod hwnnw’n cael ei gynnal, roedd yn rhagdybio y byddai’r nesaf ym mis Mawrth y flwyddyn nesaf os oedd yr un diwethaf wedi ei gynnal ym Mawrth 2014.  Cadarnhaodd y byddai’n fodlon adrodd yn ôl i’r Pwyllgor ar y dyddiad cyntaf sydd ar gael ar ôl y cyfarfod a gallai’r Pwyllgor wedyn fynd ar drywydd unrhyw faterion a all godi gyda Gwynedd os oedd angen.

 

Roedd y Pwyllgor yn credu ei bod yn bwysig iddo gael diweddariad ar y Gronfa Bensiwn oherwydd bod materion perfformiad wedi eu hamlygu yn y cyflwyniad a gafwyd ym mis Medi 2013 ac oherwydd bod y diffyg yn y Gronfa Bensiwn yn cael effaith ar Fantolen yr Awdurdod.  Cynigiwyd a derbyniwyd y dylid gofyn i’r Aelod Portffolio ar gyfer Cyllid friffio’r Pwyllgor Archwilio yn ei gyfarfod nesaf mewn perthynas â’r Gronfa Bensiwn ac unrhyw fater arall a all fod wedi codi mewn cyfarfodydd o’r Pwyllgor Cronfa Bensiwn.

 

Dywedodd Mrs Sharon Warnes wrth y Pwyllgor ei bod wedi bod mewn cyfarfod o Bwyllgor Archwilio Cyngor Gwynedd ym mis Medi i weld sut roedd yr Aelodau Lleyg yn cymryd rhan ynddo, a bod y Gronfa Bensiwn wedi'i thrafod yno fel rhan o’r drefn ar gyfer cyflwyno’r cyfrifon a dywedwyd yno fod perfformiad y Gronfa wedi gwella.  Soniwyd am y posibilrwydd hefyd o sefydlu pwyllgor a fyddai’n cynnwys cynrychiolwyr o bob un o’r partneriaid o fewn y Gronfa Bensiwn i gadw llygad ar y Gronfa.  Awgrymodd efallai y byddai’n werth holi a oedd y fforwm hwnnw wedi ei sefydlu erbyn hyn a’i oblygiadau.

 

Nododd y Pwyllgor y diweddariad a gafwyd gan y Rheolydd Archwilio Mewnol ynghyd â’r wybodaeth ychwanegol gan Mrs Sharon Warnes.

 

CAMAU GWEITHREDU YN CODI:

 

           Bod y Rheolydd Archwilio Mewnol yn gofyn i’r Aelod Portffolio ar gyfer Cyllid friffio’r Pwyllgor yn ei gyfarfod nesaf ar y Gronfa Bensiwn ac unrhyw faterion cysylltiedig.

           Bod y Pennaeth Adnoddau a’r Swyddog Adran 151 Dros Dro yn adrodd yn ôl ar unrhyw faterion o bwys a gododd yn y cyfarfod rhwng Swyddogion Adran 151 yr awdurdodau a oedd yn rhan o’r Gronfa Bensiwn.

Dogfennau ategol: