Eitem Rhaglen

Adroddiad

Y Pwyllgor Safonau i dderbyn ac ystyried adroddiad gan yr Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus ar gyfer Cymru mewn perthynas â honiadau bod Cynghorydd Sir wedi torri’r côd Ymddygiad ar gyfer Aelodau.

(PAPUR ‘C’)

Cofnodion:

 

Cyflwynwyd - adroddiad gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru (OGCC) yn ymchwilio i gŵyn a godwyd gan y Prif Weithredwr mewn perthynas ag achosion honedig o dorri’r Côd Ymddygiad i Aelodau mewn perthynas â’i gysylltiad â’r Cyngor Sir yn gwerthu darn o dir yn Nwyran a chronoleg o ddigwyddiadau a Rhestr o Faterion a baratowyd gan Mr Keith-Lucas ac a ddarparwyd ymlaen llaw i’r holl bartïon.

 

Rhoddodd y Cadeirydd amlinelliad o’r weithdrefn ar gyfer y Gwrandawiad a chytunodd pawb oedd yn bresennol i’r weithdrefn fel yr oedd wedi ei nodi yn y Rhaglen.

 

Gwnaeth y Cynghorydd Rogers sylwadau ynghylch pam y dylai’r honiadau gael eu taflu allan heb wrandawiad, yn cynnwys cysylltiad y Swyddog Ymchwilio â mater blaenorol, absenoldeb tystiolaeth ychwanegol gan y swyddogion a phryder y Cynghorydd Rogers ynglŷn â phriodoldeb camau eraill a gymerwyd gan y Cyngor. Eglurodd cynrychiolydd OGCC nad oedd ganddi unrhyw gysylltiad â mater arall ar wahân i’r ffaith ei bod yn gwybod fod cydweithiwr/wraig wedi cael sgwrs ar y ffôn gyda’r Cynghorydd Rogers. Cynghorodd Mr Keith-Lucas nad oedd unrhyw un o’r materion a gyflwynwyd yn annilysu’r gwrandawiad ac y dylai’r Pwyllgor ddod i benderfyniad ar yr honiadau yn seiliedig ar y ffeithiau yn unig ac na fyddai modd cael tystiolaeth ynghylch y ffeithiau hynny ond trwy wrandawiad. Penderfynodd y Pwyllgor fwrw ymlaen gyda’r gwrandawiad.

 

Gwahoddodd y Cadeirydd Ms. Ginwalla (yn cynrychioli Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru) i gyflwyno’i hadroddiad yn ffurfiol a oedd yn amlinellu’r materion allweddol am y gŵyn a dderbyniwyd gan y cyn Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru a’r achos honedig o dorri’r Cod Ymddygiad oherwydd methiant y Cynghorydd Rogers i gofnodi ei ddiddordeb personol a rhagfarnus mewn materion yn ymwneud â gwerthu tir yn 6 Glandŵr, Dwyran. Ar ôl ystyried y gŵyn, roedd y cyn Ombwdsmon wedi penderfynu bod digon o dystiolaeth i ddechrau ymchwiliad. Casglwyd tystiolaeth gan Swyddogion y Cyngor ynghyd ag e-byst, llythyrau a gohebiaeth yng nghyswllt y mater hwn. Cafwyd datganiad hefyd gan Mr. Geal. Roedd yr Ombwdsmon wedi’i fodloni bod perthynas agos yn bodoli rhwng y Cynghorydd Rogers a Mr Geal rhwng Mawrth 2012 ac Awst 2013. Cryfhawyd y berthynas honno gyda phriodas rhwng plant y ddau yn 2013.

 

Rhoddwyd cyfle i Aelodau’r Pwyllgor Safonau ac i’r Cynghorydd Rogers ofyn cwestiynau i Ms. Ginwalla a chafwyd sesiwn cwestiwn ac ateb.

 

Rhoddodd 2 Swyddog o’r Adain Rheoli Stadau dystiolaeth fel tystion i’r Pwyllgor a rhoddwyd cyfle i Aelodau’r Pwyllgor Safonau a’r Cynghorydd Peter Rogers holi’r swyddogion.

 

Yn dilyn seibiant ar gyfer cinio, dywedodd y Cynghorydd P. Rogers y byddai Mr. Geal yn rhoi tystiolaeth fel tyst i’r Pwyllgor Safonau. Gofynnodd y Cadeirydd i Mr. Geal a oedd yn fodlon rhoi tystiolaeth yn gyhoeddus. Dywedodd Mr Geal ei fod yn fodlon gwneud hynny. Felly, penderfynodd y Pwyllgor barhau i drafod mewn sesiwn agored.

 

Rhoddwyd cyfle i Aelodau’r Pwyllgor Safonau a’r Cynghorydd Rogers ofyn cwestiynau i Mr. Geal.

 

Gwahoddodd y Cadeirydd y Cynghorydd Rogers i annerch y Pwyllgor Safonau. Roddwyd cyfle wedyn i Aelodau’r Pwyllgor Safonau a chynrychiolydd Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru ofyn cwestiynau i’r Cynghorydd Rogers.

Ymneilltuodd y Pwyllgor Safonau i sesiwn breifat i wneud penderfyniad ynghylch a oedd y Côd wedi cael ei dorri ai peidio.

 

Penderfynodd y Pwyllgor fel a ganlyn:-

 

(a)    Bod y Cynghorydd Rogers wedi bod yn gweithredu yn rhinwedd ei swydd fel aelod o Gyngor Sir Ynys Môn ar yr amseroedd perthnasol a’i fod o’r herwydd yn ddarostyngedig i Gôd Ymddygiad y Cyngor;

 

(b)    Bod ei berthynas gyda Mr Geal yn cyfateb i gysylltiad personol agos cyn dyddiad ymwneud y Cynghorydd Rogers â’r mater hwn am y tro cyntaf ym mis Mawrth 2012, ac, oherwydd bod trafodion y tir yn effeithio ar les Mr Geal, bod gan y Cynghorydd Rogers felly ddiddordeb personol yn nhrafodion y tir o’r dyddiad hwnnw;

 

(c)    Nid oedd y Cynghorydd Rogers, yn ôl ei gyfaddefiad ei hun, wedi ystyried a oedd ganddo ddiddordeb personol yn y trafodion, yn groes i Baragraff 10(1) y Cod Ymddygiad, nid oedd wedi datgelu’r diddordeb personol hwnnw mewn gohebiaeth nac mewn unrhyw gyfarfod, ac o’r herwydd, roedd wedi methu â chydymffurfio â Pharagraffau 11(1) a 11(2)(a) y Côd Ymddygiad, ac wedi methu â hysbysu’r Swyddog Monitro o’i ddiddordeb personol, yn groes i Baragraff 11(4);

 

(d)    Nid oedd perthynas y Cynghorydd Rogers â Mr Geal wedi newid i unrhyw raddau sylweddol drwy gydol cyfnod y mater hwn, er gwaethaf y briodas rhwng aelodau’r 2 deulu ym mis Medi 2013;

 

(e)    Trwy gydol y trafodion, ceisiodd y Cynghorydd Rogers hwyluso’r trafodion tir er budd Mr Geal a’r Cyngor Sir, ac nid oedd wedi ceisio sicrhau mantais i Mr Geal ar draul y Cyngor. Felly, nid oedd ei ddiddordeb personol erioed yn un y gellid yn rhesymol ei weld fel un fyddai’n debygol o gael effaith niweidiol ar ei amgyffrediad o’r diddordeb cyhoeddus, ac o’r herwydd, nid oedd yn cyfateb i ddiddordeb rhagfarnus;

 

(f)     Nid oedd y Cynghorydd Rogers ar unrhyw adeg wedi defnyddio ei swydd i roi pwysau afresymol ar unrhyw swyddog na chydag unrhyw fwriad anghyfiawn. Ymhellach, daeth y Pwyllgor i’r farn nad oedd unrhyw fantais ariannol i Mr Geal wrth newid o gyfamod caethiwus i drefniant crafangu’n ôl, gan ddod i’r casgliad felly nad oedd wedi defnyddio ei safle yn amhriodol i geisio sicrhau unrhyw fantais i Mr Geal.

 

Yna, ailddechreuodd y Pwyllgor a chynghorodd y Cadeirydd y Cynghorydd Rogers bod yn rhaid i’r Pwyllgor yn awr benderfynu a ddylai bennu unrhyw gosb, ac, os felly, beth fyddai’n gosb briodol, a gofynnwyd am sylwadau gan Ms. Ginwalla a’r Cynghorydd Rogers.

 

Ymneilltuodd y Pwyllgor wedyn i sesiwn breifat i ystyried y mater o gosb.

 

Cymerodd y Pwyllgor i ystyriaeth y ffaith na fu unrhyw fantais ariannol i Mr Geal, nac ychwaith unrhyw niwed ariannol i’r Cyngor. Roedd yn cydnabod bod y Cynghorydd Rogers drwy gydol y broses wedi bod yn ceisio datrys materion stad ehangach a’i fod wedi ymddiheuro am ei fethiant i nodi bod ganddo ddiddordeb personol yn y trafodion, ond roeddynt yn bryderus am ei feirniadaeth o’r Swyddog Ymchwilio.

Penderfynodd y Pwyllgor fel a ganlyn:-

 

·   Atal y Cynghorydd Rogers rhag bod yn Aelod o’r Cyngor Sir am gyfnod o fis;

 

·      Mynegi i’r Prif Weithredwr bryderon y Pwyllgor bod y wybodaeth ynghylch cyflwyno’r gwyn a’I natur wedi cael ei rhyddhau’n gyhoeddus fe ymdengys gan rywun o’r Cyngor Sir;

 

·      Mynegi i’r Prif Weithredwr bryder y Pwyllgor bod y trafodion yng nghyswllt y tir hwn wedi cymryd cymaint o amser i’w datrys. Bydd y 2 gynrychiolydd o’r Cyngor Sir ar y Pwyllgor Safonau yn gofyn am gyfarfod gyda’r Prif Weithredwr ynglŷn â’r mater hwn i weld a fyddai’n bosibl cyflwyno system o dargedau ar gyfer cwblhau trafodion o’r fath, oherwydd bod oedi o’r math hwn yn creu rhwystredigaeth i’r darpar brynwr ac, yn ogystal, fe allai fod yn niweidiol i’r awdurdod ar adeg y mae angen iddo gynhyrchu incwm;

·      Argymell, pryd bynnag y mae gwahoddiad i dendro am dir yn cael ei anfon allan gan y Cyngor Sir neu ar ei ran, bod yn rhaid i’r gwahoddiad hwnnw gynnwys manylion llawn am y tir sydd ar werth ac am y telerau a’r amodau sy’n gysylltiedig â’r gwerthiant, yn cynnwys unrhyw gyfamodau cyfyngol a ffioedd, fel y gall darpar brynwyr ddeall yn union beth y mae’r Cyngor Sir yn ceisio ei werthu ac fel y gall y darpar brynwr ofyn cwestiynau a chyflwyno bid bendant am yr eiddo;

 

Ailddechreuodd y Pwyllgor a hysbysodd y Cadeirydd y Cynghorydd Rogers o benderfyniad y pwyllgor.

 

· Mynegii’r Prif Weithredwr bryderon y Pwyllgor bod y wybodaeth ynghylch cyflwyno’rgŵyn a’i natur wedi cael ei rhyddhau’n gyhoeddus feymddengys ganrywun o’r Cyngor Sir; Tudalen