Eitem Rhaglen

Ceisiadau yn Codi

7.1  21C40A – Penrhyn Gwyn, Llanddaniel

7.2 38C201A/EIA/RE – Ysgellog, Rhosgoch

7.3  41C125B/EIA/RE – Bryn Eryr Uchaf, Porthaethwy

Cofnodion:

7.121C40A - Cais llawn i godi sied amaethyddol ar gyfer cadw anifeiliaid a phwll cribol ar dir yn Penrhyn Gwyn, Llanddaniel

 

Mae’r cais wedi cael ei alw i mewn gan Aelod Lleol ar gyfer ei benderfynu gan y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion. Yn ei gyfarfod ar 3 Medi 2014, penderfynodd y Pwyllgor ymweld â’r safle. Ymwelwyd â’r safle ar 17 Medi 2014. Yn ei gyfarfod ar 1 Hydref, penderfynodd y Pwyllgor ohirio gwneud penderfyniad ar y cais yn dilyn derbyn ymateb i’r ymgynghori gan yr Adran Iechyd yr Amgylchedd ynghyd ag ychwaneg o wrthwynebiadau. Anfonwyd y rhain at yr ymgeiswyr er mwyn caniatáu iddynt eu hystyried cyn y gwneir penderfyniad. Yn ei gyfarfod ar 5 Tachwedd, penderfynodd y Pwyllgor unwaith eto i ohirio gwneud penderfyniad ar y cais er mwyn caniatáu i’r ymgeisydd y cyfle i gyflwyno sylwadau. Dywedodd y Rheolwr Rheoli Datblygu y cafwyd dau lythyr pellach o wrthwynebiad ynghyd â llythyr gan Asiant yr eiddo cyfagos.

 

Dywedodd y Cynghorydd Eifion Jones, Aelod Lleol, fod y datblygiad yn annerbyniol o agos at yr eiddo agosaf ac roedd o’r farn y dylai’r ymgeisydd ystyried ail-leoli’r sied arfaethedig.

 

Dywedodd y Cynghorydd Lewis Davies ei fod ef yn cytuno fod y sied yn annerbyniol o agos ar yr annedd gyfagos a chynigiodd y dylid ail-gadarnhau’r penderfyniad blaenorol a wnaed i wrthod y cais. Eiliwyd ei gynnig gan y Cynghorydd Jeff Evans.

 

Cynigiodd y Cynghorydd K P Hughes y dylid caniatáu’r cais ac eiliwyd ei gynnig gan y Cynghorydd R O Jones.

 

PENDERFYNWYD cadarnhau penderfyniad blaenorol i wrthod y cais yn groes i argymhelliad y Swyddog oherwydd ei agosrwydd at yr annedd agosaf a'r potensial ar gyfer sŵn ac effaith arogleuon.

 

7.2  38C301A/EIA/RE - Cais llawn i godi dau dyrbin gwynt 4.6MW hyd at 59m o uchder, rotor a fydd hyd at 71m ar ei draws a 92.5m i flaen fertigol y llafn ynghyd ag is-orsaf ac adeilad rheoli, llefydd caled cysylltiedig, trac mynediad newydd yn cysylltu i’r tyrbinau arfaethedig o’r tyrbinau presennol, iard adeiladu dros dro a lle troi ac isadeiledd arall sy’n berthnasol ar dir ger Ysgellog, Rhosgoch.

 

Ar ôl datgan diddordeb yn y cais hwn, gadawodd y Cynghorydd W T Hughes y cyfarfod yn ystod y drafodaeth arno. Aeth y Cynghorydd Ann Griffith, Is-gadeirydd i’r Gadair ar gyfer yr eitem hon.

 

Gwnaeth y Cynghorwyr R O Jones a John Griffith ddatganiad o ddiddordeb personol yn y cais.

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion oherwydd y penderfyniad a wnaed i beidio â defnyddio pwerau dirprwyedig mewn perthynas â datblygiadau tyrbinau gwynt.

 

Anerchodd Mr R J G Carter y Pwyllgor fel un a oedd yn gwrthwynebu’r cais. Dywedodd ei fod wedi byw gyda’i deulu oddeutu 900 metr i’r de o dyrbinau Ysgellog 1. Mae’r sŵn o’r tyrbinau hyn yn annioddefol ac yn flinderus ar adegau; ceir sŵn dyrnu cyson wrth i’r rotorau droi. Ar adegau, gellir cymharu’r sŵn i rymblan isel injan disel a gall ddigwydd unrhyw adeg o’r dydd neu’r nos a gall fod yn barhaus am ddiwrnodau ar y tro. Dywedodd Mr Carter ymhellach ei fod wedi cwyno sawl gwaith i Adran Iechyd yr Amgylchedd y Cyngor am lefelau’r sŵn. Yn ôl Canllawiau Cynllunio Atodol y Cyngor o ran uchder a phellter, dylai’r datblygiad arfaethedig hwn fod 1.8km o unrhyw eiddo. Petai’r datblygiad hwn yn cael ei ganiatáu, bydd eiddo Mr Carter oddeutu 800 metr i’r de ddwyrain o’r ddau dyrbin newydd gyda lefelau’r sŵn o’r rhain yn dyblu o ran dwyster ac annifyrrwch. Oherwydd natur wledig Rhosgoch, mae digonedd o fywyd gwyllt yma gyda rhai rhywogaethau a ddiogelir, h.y. nifer o wahanol fathau o ystlumod ac, o bosib, Madfallod Dŵr Cribog a Bwncathod.

 

Anerchodd Mr R Scurlock Jones y Pwyllgor i gefnogi’r cais. Dywedodd y bydd y tyrbinau gwynt arfaethedig wedi eu lleoli yn ymyl y tyrbinau gwynt cyfredol yn Ysgellog. Mae’r safle wedi ei leoli mewn ardal o’r Ynys lle ceir gwyntoedd cryfion; nid yw’r safle’n ymyl unrhyw safle cadwraeth ecolegol ac mae gryn bellter o eiddo preswyl. Ni fyddai’n rhaid adeiladu mynedfa newydd i’r safle ac ni fyddai ychwaith yn golygu unrhyw waith altro ar y briffordd gyhoeddus. Nid yw’r Weinyddiaeth Amddiffyn na Chyfoeth Naturiol Cymru wedi gwrthwynebu’r cais. Mae’r ymgeisydd yn gweithio gyda Gwasanaethau Amgylcheddol y Cyngor i sefydlu mesurau i liniaru’r niwsans sŵn o’r tyrbinau. Dywed TAN 8 ei bod yn well cael tyrbinau gwynt mewn clwstwr yn hytrach na sefydlu clwstwr newydd mewn lleoliad gwahanol. Dywedodd Mr Jones ymhellach fod y Swyddogion Cynllunio wedi codi pryderon ynghylch effaith codi dau dyrbin gwynt ar Blas Bodewryd, mae astudiaeth wedi dangos na fyddai hyn yn cael effaith andwyol. Mae Airvolution yn fodlon derbyn amod cynllunio i gomisiynu Astudiaeth Ecolegol.

 

Tra’n derbyn fod nifer o wrthwynebiadau i’r cais wedi dod i law o ran yr effaith ar fywyd gwyllt, priffyrdd, cysgod-gryniant, dywedodd Mr Jones fod y materion hynny wedi eu datrys. Nododd y cafwyd 30 o lythyrau o gefnogaeth gan bobl sy’n byw’n ymyl y safle.

 

Cafwyd dros £75k mewn budd cynllunio tuag at brosiectau lleol yn y gymuned yn sgil y tyrbinau sydd eisoes yn yr ardal hon. Byddai’r 2 dyrbin arfaethedig yn ychwanegol swm o £23k y flwyddyn i’r gymuned. Mae Airvolution wedi addo cyflogi cyflenwyr lleol. Byddai’r trydan a gynhyrchir yn rhatach i dros 3,000 o gartrefi bob blwyddyn. Byddai hyn yn arbed 5478 o dunelli o ddeuocsid carbon bob blwyddyn.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Nicola Roberts a oeddy trydan rhatach ar gyfer cartrefi’n cael ei ystyried fel budd cynllunio yn codi o’r cais? Dywedodd Mr Scurlock-Jones nad oedd y trydan rhatach i bobl leol yn benodol.

 

Gofynnodd y Cynghorydd John Griffith sut yr oedd yr ymgeisydd am ddiogelu’r ystlumod a’r madfallod yn yr ardal? Caniataodd y Cadeirydd i Mr John Gatley a oedd o blaid y cais, ateb y cwestiynau a godwyd. Dywedodd Mr Gatley fod yr ymateb i’r ymgynghori a dderbyniwyd gan arbenigwr yn cadarnhau nad yw’r cais yn peri risg sylweddol ac nad oes unrhyw bryderon ecolegol eraill yn gysylltiedig â lleoliad y safle y tu ôl i’r tyrbinau. Dywedodd y Cynghorydd John Griffith fod 2 dyrbin mawr eisoes yn yr ardal a nifer o dyrbinau eraill yn y cyffiniau. Mae’r tyrbinau hyn yn cael effaith niweidiol ar dirwedd Ynys Môn yn barod a bydd cael 2 dyrbin mawr eto yn golygu dirywiad pellach. Dywedodd Mr Gatley mai mater o farn oedd hynny a bod y cwmni’n teimlo’n wahanol. Mae angen ynni adnewyddadwy ac mae angen adeiladu mewn lleoliadau gydag adnoddau gwynt ardderchog megis Ynys Môn. Ystyrir bod codi tyrbinau gwynt newydd yn ymyl tyrbinau sydd eisoes wedi eu codi yn well na’u gwasgaru ar draws yr ardal.

 

Dywedodd y Rheolwr Rheoli Datblygu y cyflwynwyd adroddiad i’r cyfarfod diwethaf o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar 3 Rhagfyr 2014 yn argymell y dylid ymweld â’r safle er mwyn cael rhyw syniad o faint a chyd-destun y cynnig. Ymwelwyd â’r safle ar 17 Rhagfyr 2014. Nododd fod yr adroddiad i’r Pwyllgor yn un cynhwysfawr a oedd yn cyfeirio at y 6 rheswm dros wrthod y cais.

 

Dywedodd y Cynghorydd Lewis Davies ei fod ef, yn dilyn yr ymweliad safle, o’r farn bod y dirwedd eisoes wedi’i heffeithio oherwydd y 2 dyrbin mawr sydd ar y safle’n barod. Yn ei farn ef, roedd yr effaith gronnol yn fawr yn yr ardal eisoes. Dywedodd y Cynghorydd Davies fod nifer o Gynghorau Tref/Cymuned yn yr ardal yn erbyn y cais hwn er gwaethaf y ffaith fod yr ymgeisydd yn cynnig budd cynllunio i’r gymuned drwy gefnogi’r gymuned leol. Cynigiodd y Cynghorydd Lewis Davies y dylid gwrthod y cais. Eiliwyd ei gynnig gan y Cynghorydd K P Hughes.

 

Penderfynwyd gwrthod y cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog gyda’r amodau a nodwyd yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

7.3  41C125B/EIA/RE - Cais llawn ar gyfer codi tri thyrbin gwynt 800kW - 900kW hyd at 55m o uchder, rotor a fydd hyd at 52m ar ei draws a hyd at 81m i flaen fertigol y llafn, gwelliannau i’r fynedfa bresennol i lôn yr A5025, ynghyd â chodi 3 cabinet storio offer ar dir yn Bryn Eryr Uchaf, Porthaethwy.

 

Ar ôl datgan diddordeb yn y cais hwn, gadawodd y Cynghorydd W T Hughes y cyfarfod yn ystod y drafodaeth arno. Aeth y Cynghorydd Ann Griffith, Is-gadeirydd i’r Gadair ar gyfer yr eitem hon.

 

Cyflwynwyd y cais hwn i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion oherwydd bod y cais yn un Asesiad o’r Effaith ar yr Amgylchedd (AEA) y mae’n rhaid ei gyfeirio i’r Pwyllgor i benderfynu arno. Yn ychwanegol at hyn, penderfynwyd na fydd pwerau dirprwyedig yn cael ei defnyddio mewn unrhyw gais ar gyfer datblygiadau tyrbinau gwynt. Cyflwynwyd adroddiad i’r cyfarfod o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gynhaliwyd ym mis Rhagfyr 2013 yn argymell ymweliad safle cyn penderfynu ar y cais. Ymwelwyd â’r safle ar 18 Rhagfyr 2013. Mae’r cais wedi cael ei ohirio mewn cyfarfodydd dilynol o’r Pwyllgor ers Ionawr 2014 er mwyn caniatáu i’r ymgeisydd ymateb i wrthwynebiad a gafwyd gan Gyfoeth Naturiol Cymru ac mewn perthynas â chyswllt TG i Ysgol Llanddona. Mae cynigion lliniaru ynghylch ystlumod bellach wedi cael eu cynnig sy’n dderbyniol i Gyfoeth Naturiol Cymru gydag amodau a chadarnhawyd gan y Cyngor nad oes angen cyswllt TG mwyach gan fod Ysgol Llanddona wedi cau.

 

Anerchodd Dafydd I Roberts y cyfarfod fel un a oedd yn gwrthwynebu’r cais. Dywedodd Mr Roberts fod oddeutu 3 blynedd wedi mynd heibio ers cyflwyno’r cais am dyrbinau gwynt yng nghymunedau Rhoscefnhir a Phenmynydd. O ganlyniad uniongyrchol i hyn, sefydlwyd Anglesey Against Wind Turbines (AAWT).  Mae’r gwrthwynebiad i ddatblygu tyrbinau o’r fath yn gryf iawn a chyn ymgynghori ar y CCA, am gyfnod a oedd yn llai na 6 wythnos, casglwyd dros 8000 o lofnodion yn gofyn am gyfyngu maint y tyrbinau i 15 metr. Mae gwrthwynebiad cryf i Fferm Wynt Braint. Mae’r 7 Cyngor Cymuned/Tref sy’n ymylu ar yr ardal wedi cyflwyno eu gwrthwynebiadau i’r cynnig ac o’r 160 o anheddau sydd o fewn 1.5km o’r tyrbinau, mae 95% o’r deiliaid wedi datgan nad ydynt yn dymuno gweld tyrbinau’n cael eu codi ar y safle hwn. Mae maint y tyrbinau gwynt arfaethedig yn y safle hwn yn annerbyniol oherwydd maent ddwywaith maint y mast ym Mhenmynydd. Cafodd cais Tŷ Gwyn ei wrthod gan Arolygydd Llywodraeth Cymru yn seiliedig ar yr effaith weledol a materion perthnasol eraill. Dywedodd Mr Roberts y câi effaith andwyol ar y diwydiant twristiaeth. Mewn arolwg a gynhaliwyd yn ddiweddar, dywedodd 70% o’r ymatebwyr na fyddent yn dychwelyd i ardal ag ynddi dyrbinau gwynt. Caniataodd y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gais y llynedd ar gyfer maes carafannau yn Rhyd y Delyn. Rhyd y Delyn yw’r annedd agosaf at y datblygiad arfaethedig hwn ac ym marn Mr Roberts, câi’r cais effaith andwyol ar y maes carafannau cyn iddo agor. Mae’r diwydiant twristiaeth yn cynhyrchu dros £250 miliwn i’r economi leol.

 

Mae Arfordir Menai yn AHNE ac mae NCT8 yn nodi hefyd bod angen ystyried nifer y tyrbinau gwynt mewn unrhyw ardal. Ym marn Mr Roberts, roedd gormod o dyrbinau eisoes ar Ynys Môn. Petai’r cais hwn yn cael ei gymeradwyo, byddai’n agor y llifddorau i nifer o geisiadau eraill a byddai’r ardal rhwng Abermenai a Phenmon yn cael ei heffeithio am genhedlaeth.

 

Nid oedd gan Aelodau’r Pwyllgor unrhyw gwestiynau i Mr Roberts.

 

Anerchodd Mr Stephen Salt y Pwyllgor fel un a oedd yn cefnogi’r cais. Dywedodd Mr Salt fod West Coast Energy wedi bod yn gyfrifol am ddatblygu prosiectau ynni adnewyddadwy ar draws y DU am bron i 20 mlynedd. Mae West Coast Energy yn ymrwymo i gynorthwyo Llywodraeth Cymru yn ei hawydd i greu economi carbon isel gynaliadwy yng Nghymru. Bydd hyn o gymorth i’r ymgyrch i fynd i’r afael â newid hinsawdd a darparu cyflenwadau ynni diogel yn y dyfodol ond mae’r symudiad tuag at economi carbon isel yn golygu bod angen cynhyrchu ynni adnewyddadwy ar lefel leol ac oherwydd targedau uchelgeisiol Llywodraeth Cymru ar gyfer cynhyrchu ynni o’r fath, yn arbennig o ran cynlluniau ynni gwynt ar y tir, bydd angen cynyddol am gynlluniau lleol megis Fferm Wynt Braint er mwyn cyflawni uchelgais Llywodraeth Cymru. O ystyried y cefndir hwn o safbwynt polisi cenedlaethol, mae’n siomedig fod y Swyddogion Cynllunio yn argymell gwrthod Fferm Wynt Braint ar lefel leol am resymau sy’n ymwneud â’r effaith andwyol ar y dirwedd a’r effeithiau niweidiol o safbwynt gweledol a’r rhesymau mewn perthynas â threftadaeth ddiwylliannol ac effeithiau n, rhesymau y mae amheuaeth yn eu cylch. Gwerthfawrogir bod gan y Swyddogion Cynllunio dasg anodd o ran cydbwyso’r tensiwn rhwng Polisïau Cenedlaethol a Lleol ar gyfer cynhyrchu ynni adnewyddadwy ac ymateb i lu o bryderon lleol ynghylch datblygiadau ynni gwynt ar draws Ynys Môn. Dywedodd Mr Salt fod Bryn Eryr Uchaf, yn ei farn ef, yn lleoliad priodol ac addas ar gyfer cynhyrchu ynni adnewyddadwy. Cyflwynwyd dros 300 o lythyrau’n cefnogi’r datblygiad a gellir mynnu ar amodau a fyddai’n rhoi sylw i unrhyw faterion o bryder a godwyd gan yr ymgyngoreion statudol a chan y Swyddog Iechyd yr Amgylchedd o ran sŵn.

 

Daw Fferm Wynt Braint â buddion sylweddol o safbwynt amgylcheddol, economaidd a chymdeithasol gan gynnwys cronfa gymunedol a fydd yn rhannu 10% o’r elw gweithredol o’r fferm wynt gyda’r gymuned leol. Rhoddwyd addewid y byddir yn cyfrannu oddeutu £50,000 tuag at liniaru tlodi tanwydd a chynhesu cartrefi oer yn ystod blwyddyn gyntaf ei gweithrediad. Fferm Wynt Braint fydd y fferm wynt gyntaf yng Nghymru i elwa o’r fenter hon gyda National Energy Action Cymru.

 

Gofynnodd y Cynghorydd John Griffith faint o’r 300 llythyr o gefnogaeth oedd gan bobl leol. Dywedodd Mr Salt nad oedd manylion am yr union ganran ganddo ond cafwyd cefnogaeth o ardaloedd Llangefni a Bangor a byddai’r rheiny wedi bod yn gymysgedd o bobl leol ac ymwelwyr i’r ardal. Nid oedd y llythyrau o gefnogaeth wedi cael eu nodi yn adroddiad y Swyddog Cynllunio i’r cyfarfod. Dywedodd y Cynghorydd John Griffith fod Mr Dafydd I Roberts wedi dweud fod 95% o’r trigolion lleol wedi datgan eu gwrthwynebiad i’r cais; mae hyn yn gwrth-ddweud y datganiad o gefnogaeth ar gyfer y cais. Dywedodd Mr Salt ei fod yn gwerthfawrogi fod nifer o wrthwynebiadau i’r cais fel y nodir yn adroddiad y Swyddogion Cynllunio ond mae’r Llywodraeth yn ceisio cynhyrchu ynni o adnoddau carbon isel a rhaid datblygu ffermydd gwynt a dod o hyd i safleoedd addas. Mae Fferm Wynt Braint yn safle addas ar gyfer ei ddatblygu.

 

Dywedodd y Rheolwr Rheoli Datblygu fod 3 llythyr o wrthwynebiad i’r cais wedi dod i law yn dilyn cyflwyno adroddiad y Swyddogion Cynllunio a oedd y dwyn sylw at yr effaith niweidiol ar ystlumod. Nododd fod adroddiad y Swyddogion yn delio gyda’r mater penodol hwn a bod Cyfoeth Naturiol Cymru wedi ymateb drwy ddweud y bydd angen amod cynllunio petai cais o’r fath yn cael ei gymeradwyo. Dywedodd ymhellach fod y cais hwn wedi cael ei ohirio am nifer o fisoedd a bod Cyfoeth Naturiol Cymru wedi ymateb yn awr gan ddweud nad oes ganddynt unrhyw wrthwynebiad i’r cais. Dywedodd y Rheolwr Rheoli Datblygu hefyd y cafwyd 343 o lythyrau’n cefnogi’r cais ac ymddiheurodd nad oedd hynny’n glir yn yr adroddiad. Nododd mai llythyrau safonol oedd y llythyrau o gefnogaeth ac o’r herwydd, darllenodd un ohonynt i’r Pwyllgor. Nododd ymhellach nad oedd yr adran wedi dadansoddi ble y mae’r bobl yn byw.

 

Gohiriwyd y cais yn y cyfarfod diwethaf o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion oherwydd bod Adran Drafnidiaeth Llywodraeth Cymru wedi rhyddhau cyfarwyddyd na ddylid penderfynu ar y cais hyd oni fyddir wedi cytuno ar fanylion boddhaol ar gyfer Cynllun Rheoli Traffig. Nid yw’r mater wedi ei ddatrys ond mae’r ymgeisydd wedi mynegi ei fod yn dymuno i’r Pwyllgor ystyried y cais a byddai’n rhaid mynnu ar amod petai’r cais yn cael ei gymeradwyo. Fodd bynnag, ni fyddai’r caniatâd cynllunio’n cael ei ryddhau hyd oni fyddai ymateb boddhaol wedi dod i law gan Adran Drafnidiaeth Llywodraeth Cymru. Cytunodd y Pwyllgor y dylid ystyried y cais yn y cyfarfod hwn.

 

Dygodd y Rheolwr Rheoli Datblygu sylw at y pryderon a fynegwyd yn yr adroddiad manwl a gyflwynwyd i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion. Câi maint y datblygiad effaith andwyol sylweddol ar y dirwedd a’r effaith weledol ac ar dirwedd yr AHNE ac Eryri. Câi’r cais hefyd effaith andwyol ar yr ardal o gwmpas Eglwys St Gredifael sy’n adeilad rhestredig Graddfa II ac nid oes unrhyw beth yn yr adroddiad i ddangos na fyddai’r cynnig yn cael effaith andwyol ar y derbynyddion o ran effeithiau sŵn. Mae’r argymhelliad yn un o wrthod a gofynnodd am ganiatáu’r hawl i weithredu i’r Swyddog Cynllunio i ddelio gyda mater rheoli traffig cyn rhyddhau unrhyw benderfyniad ar y cais.

 

Dywedodd y Cynghorydd Lewis Davies fod digon o dystiolaeth yn ei farn ef i wrthod y cais hwn oherwydd yr effaith ar dwristiaeth a bywyd gwyllt a chynigiodd y dylid ei wrthod. Dywedodd y Cynghorydd R O Jones ei bod yn bwysig gwrando ar drigolion lleol ac eiliodd y cynnig.

 

PENDERFYNWYD dirprwyo i’r Pennaeth Gwasanaeth (Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd) yr hawl i wrthod y cais pan geir ymateb gan Adran Drafnidiaeth Llywodraeth Cymru yn unol ag argymhelliad y Swyddog ac am y rhesymau oedd yn yr adroddiad.

 

Dogfennau ategol: