Eitem Rhaglen

Cynigion Datblygu gan Gynghorwyr a Swyddogion

11.1  31C134H/DEL – Cae Cyd, Llanfairpwll

11.2  31C422 – Ceris, Llanfairpwll

Cofnodion:

11.1  31C134H/DEL – Cais dan Adran 73 i ddileu amodau (03), (04) a (05) (Côd Cartrefi Cynaliadwy) o ganiatad cynllunio rhif 31C134E ‘cais llawn ar gyfer codi 5 annedd ynghyd â chreu mynedfa i gerbydau’ ar dir ger Cae cyd, Llanfairpwll.

 

Cyflwynwyd y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion oherwydd bod yr ymgeisydd yn gyfaill agos i ‘swyddog perthnasol’ fel y diffinnir hynny ym mharagraff 4.6.10.2 y Cyfansoddiad.  Mae'r cais wedi cael ei sgriwtineiddio gan y Swyddog Monitro fel sy'n ofynnol o dan adran 4.6.10.4 o Gyfansoddiad y Cyngor.

 

Dywedodd y Rheolwr Rheoli Datblygu fod rhaid i ddatblygiadau tai newydd – dan NCT 22 – Cynllunio ar gyfer Adeiladau Cynaliadwy, gwrdd â gofynion y Côd ar gyfer Cartrefi Cynaliadwy a bod gofyniad o ran polisi i osod amodau cynllunio i gwrdd â’r amcan hwnnw.


Cynigiodd y Cynghorydd Lewis Davies
y dylid cymeradwyo’r cais ac fe eiliwyd ei gynnig gan y Cynghorydd R. O. Jones.

 

Penderfynwyd caniatáu'r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog gyda’r amodau a nodwyd yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

11.2  31C422 – Cais llawn i addasu ac ehangu gan gynnwys codi uchder y to i greu llawr cyntaf yn Ceris, Llanfairpwll.

 

Er nad yw’n Aelod o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion, gwnaeth y Cynghorydd R Meirion Jones ddatganiad o ddiddordeb yn y cais hwn fel Aelod Lleol ac aeth allan o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar y cais.

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion oherwydd bod yr ymgeisydd yn perthyn i swyddog perthnasol fel y diffinnir hynny ym mharagraff 4.6.10.2 y Cyfansoddiad.  Mae'r cais wedi cael ei sgriwtineiddio gan y Swyddog Monitro fel sy'n ofynnol o dan adran 4.6.10.4 o Gyfansoddiad y Cyngor.

 

Anerchodd Mr Sutton y cyfarfod fel un a oedd yn gwrthwynebu’r cais. Dywedodd ei fod yn siarad ar ran ei deulu ei hun a’i gymdogion. Y bwriad yn Ceris, Llanfairpwll, yw codi uchder yr eiddo gan 2 fetr a fyddai’n golygu y byddai elfen sylweddol o edrych drosodd; mae Ceris yn edrych dros ei ardd ef fel y mae. Mae’r coed ym mhen yr ardd yn Ceris ac sydd wedi eu plannu ar y ffin, eisoes yn cyfyngu ar oleuni ac yn tyfu drosodd i’r eiddo cyfagos. Dywedodd Mr Sutton nad oes fawr o broblem o ran edrych drosodd ar hyn o bryd ond y byddai cymeradwyo’r cais hwn yn newid y sefyllfa’n ddramatig. Ar hyn o bryd, mae llinellau to Ceris ac eiddo cyfagos yn gymesur ond byddai hynny’n newid a byddai’n anghydnaws a gweddill yr ardal weladwy.

 

Anerchodd Mr Owen Evans y cyfarfod fel un a oedd yn cefnogi’r cais. Dywedodd fod Ceris, Llanfairpwll, wedi ei leoli ar Ffordd Penmynydd, Llanfairpwll. Mae’r tai ar y ffordd hon yn amrwyio o ran dyluniadau archeolegol a maint. Mae Ceris, Penmynydd yn fyngalo dormer gyda chrib isel o 7 troedfedd. Mae’r perchenogion yn cael anhawster byw yn yr eiddo oherwydd ei faint. Dywedodd Mr Evans mai dim ond 2 eiddo sydd wedi gwrthwynebu’r cais, sef 8 a 9 Lôn y Wennol, Llanfairpwll. Mae gardd gefn Ceris yn ffinio ar 9 Lôn Wennol ond maent wedi eu gwahanu gan wrychyn 9 troedfedd ar y ffin. Mae’r cais cynllunio hwn yn cydymffurfio gyda chanllawiau cynllunio o ran materion dyluniad ac agosrwydd. Dywedodd Mr Evans ymhellach na fydd, yn ei farn ef, unrhyw eiddo’n colli preifatrwydd oherwydd codi lefel y to yn Ceris oherwydd mae un ffenestr ystafell wely yng nghrib y to ar hyn o bryd.

 

Dywedodd y Rheolydd Rheoli Datblygu fod 2 lythyr o wrthwynebiad wedi dod i law gan drigolion 8 a 9 Lôn y Wennol, Llanfairpwll ers i’r Swyddogion gwblhau’r adroddiad. Y materion a godwyd oedd colli goleuni, edrych drosodd, y dyluniad yn anghydnaws ac effaith codi lefel y to yn Ceris, Llanfairpwll. Yn ei farn ef, y ffactorau hyn oedd y prif faterion y bu’r Swyddogion Cynllunio’n eu hystyried wrth ddelio gyda’r cais hwn.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Lewis Davies y dylid cymeradwyo’r cais ac eiliwyd ei gynnig gan y Cynghorydd Nicola Roberts.

 

Penderfynwyd caniatáu'r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog gyda’r amodau a nodwyd yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

Dogfennau ategol: