Eitem Rhaglen

Adroddiad Blynyddol ar y Gwasanaeth Addysg

Cyflwyno Adroddiad Blynyddol y Gwasanaeth Addysg.

(Adroddiad i ddilyn)

Cofnodion:

Cyflwynwyd i sylw’r Pwyllgor adroddiad y Cyfarwyddwr Dysgu Gydol Oes yn ymgorffori canlyniadau ar ddiwedd Cyfnodau Allweddol yn ysgolion Ynys Môn am y flwyddyn ysgol 2013/14.  Roedd yr adroddiad hefyd yn cyfeirio at lefelau presenoldeb a chanlyniadau arolygiadau ysgol.

 

Adroddodd yr Uwch Reolydd Safonau Ysgolion a Chynhwysiad ar y canlyniadau ar gyfer pob cyfnod allweddol yng nghyd-destun yr hawl i dderbyn Prydau Ysgol am Ddim ac arwyddocâd y canlyniadau hynny o ran perfformiad yn y pum mlynedd a aeth heibio; y perfformiad yn erbyn y cyfartaledd cenedlaethol am yr un cyfnod a sefyllfa Ynys Môn o gymharu ag awdurdodau unigol eraill yng Nghymru, ynghyd â’r gwersi i’w dysgu o ran cynllunio ar gyfer gwelliant ar draws y sector ysgol cyfan ac mewn perthynas ag ysgolion sy’n tanberfformio.

 

Rhoddodd y Pwyllgor sylw manwl a gofalus i’r wybodaeth a gyflwynwyd a holwyd y Swyddogion fel a ganlyn –

 

  Gofynnodd y Pwyllgor am eglurhad ar sut roedd cyfrifoldebau wedi eu rhannu rhwng Swyddogion yr Awdurdod ac Ymgynghorwyr Her GwE mewn perthynas â chefnogi ysgolion a hyrwyddo gwelliant ar draws y sector ysgolion fel y gallai fod yn glir ynghylch atebolrwydd ac o ran pwy sy’n gyfrifol am beth.

 

  Rhoddodd y Pwyllgor sylw manwl i’r mater Prydau Ysgol Am Ddim (PYADd) o ran ei oblygiadau ar gyfer cyllid ysgolion a’r Grant Cynnal Refeniw ac yn nhermau’r ddyletswydd foesol i gynorthwyo’r teuluoedd/disgyblion hynny sy’n gymwys i dderbyn PYADd i wireddu eu hawliau.  Gofynnodd yr Aelodau beth sy’n cael ei wneud gan yr Awdurdod i annog cymaint o bobl â phosib i fanteisio ar PYADd ac i roi sylw i’r stigma neu’r canfyddiad o stigma a all barhau i fod yn gysylltiedig â disgyblion sy’n derbyn prydau ysgol am ddim.

 

   Dywedodd y Cyfarwyddwr Dysgu Gydol Oes fod camau cydunol wedi eu cymryd gan yr Awdurdod dros y ddwy flynedd ddiwethaf gan gynnwys ymgyrch i godi ymwybyddiaeth a chydweithio gyda’r Adain Budd-daliadau i dargedu teuluoedd sydd â hawl i dderbyn prydau ysgol am ddim ond nad ydynt yn gwneud hynny ar hyn o bryd.  Mae’r camau a gymerwyd wedi arwain at ganlyniadau ond gellid gwneud mwy.  Y ffactorau allweddol yw ymgysylltu gyda’r rhieni ac edrych ar systemau a phrosesau corfforaethol y Cyngor i hwyluso’r broses o wneud cais ac fel eu bod yn gyson gydag arferion mewn awdurdodau eraill.  Mewn perthynas â chael gwared ar y stigma sy’n gysylltiedig â PYADd, cyflwynwyd system fiometreg ar gyfer gwneud taliadau yn y sector uwchradd sy’n golygu na ellid gwahaniaethu rhwng y rheini sy’n derbyn PYADd a’r rheini nad ydynt.  Byddai angen buddsoddiad sylweddol i gyflwyno system debyg yn y sector cynradd ond mae gwaith yn cael ei wneud mewn un ysgol i dreialu system gyfrifiadurol ar gyfer rheoli PYADd.

 

  Nododd y Pwyllgor fod perfformiad ar gyfer y Cyfnod Sylfaen a Chyfnod Allweddol 2 wedi disgyn yn ôl neu wedi aros yr un fath o gymharu â’r cyfartaledd trwy Gymru a bod awdurdodau eraill yng Nghymru wedi ennill tir o gymharu ag Ynys Môn.  Gofynnodd yr Aelodau beth oedd yn cael ei wneud i wrthweithio hynny i wella perfformiad.  Dywedodd yr Uwch Reolydd Safonau Ysgol a Chynhwysiad bod angen rhoi sylw i’r Cyfnod Sylfaen a bod hynny wedi ei amlygu gyda’r holl Benaethiaid ar y cyd er mwyn sefydlu targedau ac i herio’r targedau hynny.  Mae gwybodaeth o’r broses hon yn cael ei choladu a fydd yn dangos a yw hyn wedi ei wneud i raddau digonol, a bydd yn arwydd posib hefyd ar gyfer canlyniadau’r flwyddyn nesaf.  Bydd Ymgynghorwyr Her o GwE yn cydweithio gydag ysgolion ar gyflawni targedau ac adolygu gwaith disgyblion ac arferion ysgolion er mwyn gwerthuso cynnydd.

 

  Gofynnodd y Pwyllgor am eglurhad ynghylch asesiadau athrawon o ran eu heffaith ar ganlyniadau a’u cysondeb ar draws y sector.  Dywedodd Uwch Ymgynghorydd Her GwE mai amcan y pedwar consortiwm addysg yw sicrhau lefel o sefydlogrwydd o ran dilysrwydd asesiadau athrawon.  Dywedodd y Cyfarwyddwr Dysgu Gydol Oes y bydd GwE a Grŵp Adolygu Cynnydd Ysgolion hefyd yn rhoi sylw i ysgolion sydd wedi bod yn y chwartel isaf am dair blynedd neu fwy i nodi’r rhesymau am y tanberfformiad hwnnw.  Dylai cyrff llywodraethu’r ysgolion hefyd ddarparu’r her hon o ran gosod targedau a’r canlyniadau a ddisgwylir o’r broses.

 

  Nododd y Pwyllgor y dylid annog holl aelodau’r cyrff llywodraethu p’un a ydynt yn gynghorwyr ai peidio i ofyn cwestiynau ac i herio’n gadarnach.  Dygodd yr Aelodau sylw at yr angen am hyfforddiant wedi ei dargedu yn hyn o beth i arfogi llywodraethwyr fel corff i gyfrannu’n effeithiol at wella perfformiad.  Dywedodd Uwch Ymgynghorydd Her GwE fod y mater wedi bod dan drafodaeth ac er bod lle i sesiynau ar y cyd, y teimlad yn gyffredinol, os bydd capasiti yn caniatáu, yw y dylai’r Ymgynghorydd Her weithio’n ochelgar gydag ysgolion unigol a’r cyrff llywodraethu ar ddata perfformiad.  Byddai gan GwE ddiddordeb mewn cychwyn trafodaeth pe bai gwahoddiad yn cael ei estyn i Ymgynghorydd Her arwain sesiwn gyda chorff llywodraethu.  Nid yw Ymgynghorwyr GwE yn mynychu cyfarfodydd cyrff llywodraethu, ond cynhelir ymweliadau monitro ag ysgolion y mae eu perfformiad wedi ei gategoreiddio fel coch neu amber ac mae aelodau o’r corff llywodraethu wedi bod yn rhan o’r ymweliadau hyn ac yn cael cyfle felly i ennill sgiliau sgriwtini.  Cyflwynir yr adroddiad cynnydd wedyn i’r corff llywodraethu cyfan.  Mae yna sawl maes cydweithredu gydag Aelodau y gellir ymchwilio ymhellach iddynt i ddatblygu’r rôl honno.

 

  Gofynnodd y Pwyllgor am eglurhad ar safle isel yr Awdurdod mewn perthynas â pherfformiad yn y Gymraeg fel iaith gyntaf yn CA2 ac effaith bosib datblygiadau mawr yn yr Ynys ar y Gymraeg yn yr ysgolion.  Gofynnodd yr Aelodau hefyd am wybodaeth gymharol ar gyfer dysgu Cymraeg fel ail iaith.  Dywedodd y Rheolydd Safonau Ysgol a Chynhwysiant fod safle’r Awdurdod yn isel o gymharu â nifer o awdurdodau eraill ac mae’n dra thebygol y byd yn parhau felly gan ei fod yn adlewyrchu’r ganran uchel o ddisgyblion a asesir yn y Gymraeg fel iaith gyntaf o gymharu â llawer o awdurdodau eraill ac oherwydd y ffordd yr oedd ystadegau yn cael eu casglu ar lefel Cymru gyfan.  Nid yw ystadegau ynghylch Cymraeg fel ail iaith yn cael eu cynhyrchu gan nad yw’n bwnc craidd er y gellid darparu gwybodaeth am y niferoedd yn siroedd Cymru os dymunir.  Mae angen monitro parhaus i ddiogelu a chyfnerthu’r perfformiad yr iaith Gymraeg.

 

  Nododd y Pwyllgor hefyd fod perfformiad mewn Gwyddoniaeth L4+ ar ddiwedd CA2 hefyd wedi disgyn.

 

  Holodd y Pwyllgor a allai’r grŵp o blant mewn unrhyw un flwyddyn ddylanwadu ar y ffigyrau perfformiad.  Ymatebodd yr  Uwch Reolydd Safonau Ysgolion a Chynhwysiad trwy ddweud fod ffigyrau perfformiad 2013 yn dda iawn ond ei fod yn gobeithio y byddai’r ystadegau ar gyfer 2015 yn cadarnhau bod 2013 yn flwyddyn eithriadol, ac nad oedd 2014 yn cynrychioli dirywiad gwirioneddol mewn perfformiad.  Dywedodd y Cyfarwyddwr Dysgu Gydol Oes fod y gostyngiad mewn perfformiad ar gyfer Mathemateg L4+ yn CA2 o 90% yn 2013 i 89.2% yn 2014 yn cyfateb i oddeutu 5 o ddisgyblion yn unig.

 

  Gofynnodd y Pwyllgor am eglurhad ar y dirywiad yn y perfformiad mewn Mathemateg ar gyfer disgyblion 15 oed a’r camau a gymerir i gywiro’r sefyllfa.  Dywedodd yr Uwch Reolydd Safonau Ysgol a Chynhwysiad fod perfformiad mewn Mathemateg yn un ysgol yn siomedig, a bod y canlyniadau wedi dirywio hefyd mewn tair ysgol arall.  Cadarnhaodd Uwch Ymgynghorydd Her GwE eu bod yn cydweithredu gydag un ysgol a bod hynny’n rhoi sylw i ystod o agweddau.  Mae gwaith hefyd yn cael ei wneud ar draws y sector uwchradd i gydweithio gyda’r uwch dimau arweinyddiaeth yn yr ysgolion i sefydlu pecyn cymorth a chanllawiau e.e. darpariaeth ar gyfer hyfforddi rheolwyr canol / penaethiaid adeiniau; hwyluso rhwydweithio ar draws y pedwar pwnc craidd, defnyddio’r drefn o gydweithio rhwng yr ysgolion i rannu arbenigedd ac arferion da.  Er bod nifer o ddatrysiadau creadigol yn cael eu gweithredu felly ar draws ysgolion, yr ystyriaethau sylfaenol yw ansawdd yr arweinyddiaeth o fewn adran y pwnc ac ansawdd y dysgu a’r gwaith yn y dosbarth.

 

  Cyfeiriodd y Pwyllgor at y system codau lliw ar gyfer categoreiddio ysgolion yn ôl eu perfformiad a oedd bellach wedi disodli’r System Bandio Ysgolion.  Er bod yr Aelodau’n derbyn bod cymorth penodol yn cael ei ddarparu ar gyfer ysgolion sy’n tanberfformio, holwyd a oedd yr Awdurdod yn gwneud y mwyaf o'r arbenigedd o fewn GwE i ysgogi ysgolion a allai, trwy dderbyn y gefnogaeth briodol, wella ymhellach gan sicrhau eu bod yn aros ar y blaen i’r cyfartaledd trwy Gymru.  Dywedodd y Cyfarwyddwr Dysgu Gydol Oes bod yna ysgolion y byddai’r Awdurdod yn dymuno eu gweld yn gwneud cynnydd a gwella, ac fel rhan o’r ymdrech hon, mae timau rheoli'r ysgolion yn cydweithio fel bod perchenogaeth ar y cyd o faterion addysg yn Ynys Môn.  Mae sail gadarn wedi ei sefydlu a bydd GwE yn rhan o’r daith honno.  Yn y sector cynradd, mae arferion da wedi eu sefydlu trwy i ysgolion weithio gyda’i gilydd ac mae hynny wedi cael dylanwad ar y canlyniadau.  Mae’r Awdurdod yn glir ynghylch ei gyfeiriad ac y gellir gwella eto.

 

  Nododd y Pwyllgor bod lefelau presenoldeb trwy Gymru yn gwella’n fwy sydyn nag yn Ynys Môn.  Gofynnodd yr Aelodau felly a oedd modd dysgu gwersi gan awdurdodau eraill.  Dywedodd yr Uwch Reolydd Safonau Ysgol a Chynhwysiad fod pwyllgor rhanbarthol yn edrych ar lefelau presenoldeb gyda golwg ar lunio strategaethau llwyddiannus ac arferion da.  Mae’r mater presenoldeb yn destun her yn yr un ffordd â phynciau’r cwricwlwm.

 

  Nododd y Pwyllgor fod Estyn wedi ailymweld â phum ysgol fel rhan o’r trefniadau monitro, ac ystyriwyd bod yr ysgolion hynny wedi gwneud digon o gynnydd i’w tynnu o’r categori monitro.  Holodd yr Aelodau a allai’r Awdurdod fod wedi ymyrryd yn gynt i sicrhau na fyddai’r ysgolion hyn wedi disgyn i’r categori monitro yn y lle cyntaf.  Dywedodd yr Uwch Ymgynghorydd GwE fod gan ysgolion mewn categorïau monitro gynlluniau wedi eu teilwrio i wella a miniogi perfformiad a’u bod yn cael eu monitro’n gadarn gan y corff llywodraethu.  Mae’r cwestiwn yn codi ynghylch pam nad oedd cynlluniau datblygu cyfredol y pum ysgol yn ddigon cadarn i sicrhau nad oeddent yn cael eu gosod mewn categori monitro.

 

Penderfynwyd –

 

  Derbyn yr adroddiad A gofyn i’r Cyfarwyddwr Dysgu Gydol Oes drefnu i’r Pwyllgor gael y wybodaeth ddilynol a ganlyn –

 

     Diweddariad ar strategaethau a gynlluniwyd ac a weithredwyd i sicrhau bod cymaint o ddisgyblion â phosib yn derbyn Prydau Ysgol am Ddim

     Gwybodaeth ynghylch cyfrifoldebau Swyddogion yr Awdurdod a chyfrifioldebau Ymgynghorwyr GwE mewn perthynas â gwella a chefnogi ysgolion

     Atborth gan y Grŵp Adolygu Cynnydd Ysgolion

     Gwybodaeth am system newydd Llywodraeth Cymru ar gyfer categoreiddio ysgolion yn unol â’u perfformiad a safle ysgolion Ynys Môn o fewn y system honno

     Gwybodaeth ynghylch nifer y disgyblion a aseswyd yn y Gymraeg fel iaith gyntaf ac ail iaith mewn awdurdodau trwy Gymru.

 

  Nodi fod y pwyllgor yn cydnabod bod angen hyfforddiant ar gyfer holl aelodau’r cyrff llywodraethu yng nghyd-destun gwella ysgolion a’u herio, ac y gellir adnabod y gofynion hyfforddi penodol hynny yn dilyn sesiwn hyfforddiant a drefnwyd gan GwE ar gyfer Aelodau Etholedig yn eu swyddogaethau fel llywodraethwyr ysgol.

 

CAM GWEITHREDU YN CODI: Rheolydd Sgriwtini i gydgysylltu gyda’r Cyfarwyddwr Dysgu Gydol Oes ar gyfer darparu a rhaglennu’r wybodaeth ychwanegol y gofynnwyd amdani.

Dogfennau ategol: