Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Plant.
Cofnodion:
Cyflwynwyd i sylw’r Pwyllgor, adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Plant yn nodi trefniadau’r gwasanaeth a dadansoddiad o berfformiad ac ansawdd mewn perthynas â chynnal Asesiadau Craidd ynghyd â’r camau gwella sydd wedi eu sefydlu.
Dywedodd y Pennaeth y Gwasanaethau Plant fod yr adroddiad dadansoddol wedi ei lunio yn sgil pryderon a fynegwyd gan y Pwyllgor ynghylch perfformiad y gwasanaeth o gymharu â’r DP ar gyfer cynnal asesiadau craidd o fewn amserlenni fel yr adlewyrchwyd yn y Cerdyn Sgorio Corfforaethol. Pwysleisiodd bod y waelodlin gychwynnol ar gyfer perfformiad, sef 22.34% (2010/11) yn isel iawn a bod y ffigyrau wedi gwella bob blwyddyn ac eithrio yn 2013/14 lle gwelwyd dirywiad mewn perfformiad. Gall nifer fechan iawn o achosion sgiwio’r ystadegau hyn os ydynt yn rhai cymhleth a gallai’r rhain gael effaith ar berfformiad. Er bod ffigyrau perfformiad ynddynt eu hunain yn rhan o’r naratif, nid ydynt yn rhoi darlun llawn o’r canlyniadau i blant nac o sgiliau, hyder a gallu’r gweithwyr cymdeithasol. Gwnaed cryn waith mewn perthynas ag ansawdd arferion asesiadau craidd gan gynnwys hyfforddiant a goruchwyliaeth ar gyfer gweithwyr cymdeithasol i’w huwchsgilio yn y maes hwn; mabwysiadu Fframwaith Risg sy’n seiliedig ar dystiolaeth a sefydlu Fframwaith Sicrhau Ansawdd sy’n cynorthwyo ac yn hyrwyddo gwelliannau mewn arferion.
Rhoddodd y Pwyllgor sylw i’r adroddiad a chymerodd sicrwydd o’r wybodaeth a gyflwynwyd fod mesurau yn parhau i gael eu gweithredu i wella arferion ac allbwn mewn perthynas ag amseroldeb asesiadau craidd. Gofynnodd y Pwyllgor am ragor o wybodaeth ac eglurhad gan y Swyddogion ynghylch y materion a ganlyn-
• Addasrwydd i bwrpas y ddogfen asesiad craidd ac a yw wedi ei diweddaru o gofio’r gwendidau sydd wedi eu hamlygu yn y fformat
• Cynlluniau ar gyfer cydweithio ar hyfforddiant gyda phartneriaid a grwpiau craidd er mwyn sicrhau cysondeb ar sail ranbarthol
• Defnyddio genogramau i gefnogi dadansoddiad
• Perfformiad o ran cwrdd ag amserlenni a’r ffactorau dylanwadol. Os nad yw’r targed gwasanaeth o 35 diwrnod yn cael ei gyflawni am ba reswm bynnag, dywedwyd wrth y pwyllgor bod ymdrechion yn cael eu gwneud i sicrhau bod yr asesiad craidd yn cael ei gwblhau wedyn o fewn amserlen resymol
• Argaeledd teclyn asesu ar gyfer asesu camdriniaeth rywiol.
• P’un a yw toriadau cyllidebol yn debygol o gael effaith ar gynnydd a/neu sefydlogrwydd y gwasanaeth. Rhoddwyd gwybod i’r Pwyllgor fod y Gwasanaethau Plant mewn cyfnod o newid a bod trawsnewid, newid diwylliant a gwneud rhai pethau’n wahanol yn her o fewn y cyd-destun ariannol cyfredol.
• Pwysigrwydd cael y wybodaeth iawn ar yr adeg iawn am deuluoedd a’u hamgylchiadau.
• Yr angen i friffio holl Aelodau’r Cyngor ar faterion sy’n ymwneud â’r Gwasanaethau Plant. Awgrymwyd y gellid trefnu cyflwyniad i’r perwyl. Hysbyswyd y Pwyllgor fod sesiwn wybodaeth wedi ei chynllunio ar gyfer Aelodau ar y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant newydd (Cymru) ac y gellid ei chyfuno gyda diweddariad ar ddatblygiadau yn y Gwasanaethau Plant. Mae’r Prif Swyddog Rhiantu Corfforaethol a Phartneriaethau hefyd yn llunio rhaglen i adolygu’r Panel Rhiantu Corfforaethol a’r Strategaeth Rhiantu Corfforaethol.
• Diffyg amserlen ar gyfer gwelliant parhaus a chynlluniedig. Dywedwyd wrth y Pwyllgor fod Cynllun Gweithredu wedi cael ei lunio a bod y Panel Ansawdd Gwasanaethau Plant yn monitro cynnydd, a bod rhai o’r materion lefel uchel am gael eu bwydo trwodd i’r Cynllun Darparu Gwasanaeth ar gyfer y flwyddyn nesaf.
Penderfynwyd derbyn yr adroddiad a’r argymhellion ynddo a nodi bod cynnydd o ran gwella arferion asesiadau craidd yn parhau.
CAM GWEITHREDU YN CODI: Bod y Cyfarwyddwr Cymuned, mewn ymgynghoriad gyda’r Aelod portffolio ar gyfer Tai a Gwasanaethau Cymdeithasol, yn ystyried ymgorffori diweddariad ar y Gwasanaethau Plant o fewn y trefniadau a gynlluniwyd i friffio Aelodau’r Cyngor ar y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru).
Dogfennau ategol: