Eitem Rhaglen

Cynigion Cychwynnol ar gyfer Cyllideb 2015/16

Ystyried cynigion cychwynnol y Pwyllgor Gwaith ar gyfer Cyllideb 2015/16.

 

Mae adroddiad y Pennaeth Adnoddau a Swyddog Adran 151 Dros Dro ynglyn â Chyllideb Refeniw ddrafft 2015/16 a gyflwynwyd  i gyfarfod 15 Rhagfyr , 2014 y Pwyllgor Gwaith ynghlwm.

 

 

Mae’r ddogfen sy’n sail i’r  Ymgynghori cyhoeddus (ddaeth i ben ar 23 Ionawr, 2015) ar gael trwy’r linc canlynol :

 

http://www.ynysmon.gov.uk/Journals/2015/01/05/g/e/v/CynigionCyllideb_201516_Cymraeg.pdf

 

 

Cofnodion:

Rhoddodd y Pwyllgor sylw i gynigion cychwynnol drafft y Pwyllgor Gwaith ar gyfer Cyllideb Refeniw 2015/16 fel y cawsant eu nodi yn yr adroddiad gan y Pennaeth Adnoddau a’r Swyddog Adran 151 Dros Dro a gyflwynwyd i gyfarfod o Bwyllgor Gwaith y Cyngor ar 15 Rhagfyr 2014.

 

Edrychodd y Pwyllgor yn fanwl ar y cynigion ar gyfer Arbedion Effeithlonrwydd a gyflwynwyd fesul gwasanaeth  (Atodiad B i’r adroddiad).  Roedd y Cyfarwyddwyr Corfforaethol a’u Penaethiaid Gwasanaeth perthnasol, ynghyd â’r Aelodau Portffolio a’r Aelodau Portffolio Cysgodol perthnasol  wedi cael gwahoddiad i fynychu’r cyfarfod hefyd yn ôl amserlen a drefnwyd ymlaen llaw.  Holwyd y Swyddogion a’r Aelodau Portffolio gan y Pwyllgor ynghylch -

 

  Y rhesymeg ar gyfer y cynigion arbedion a gyflwynwyd ac a gynigiwyd ar gyfer eu gweithredu

  Effaith pob cynnig ar ddarparu’r gwasanaeth dan sylw ac ar y rheini sy’n derbyn y gwasanaeth / grwpiau cleient pan fo’n berthnasol

  Y risgiau i’r dyfodol yn sgil gostwng neu beidio â darparu gwasanaeth, sef y risg i’r  gwasanaeth dan sylw a’r grŵp cleient a allai gael ei effeithio ac ar y Cyngor fel corfforaeth yn gyffredinol.

  Opsiynau wrth gefn posib ar gyfer gostwng cyllidebau a ph’un a oedd dewisiadau eraill wedi eu hystyried.

  P’un a oedd modd gwireddu’n llawn y cynigion a gyflwynwyd yn 2015/16.

 

Cyflwynodd y Pennaeth Adnoddau a’r Swyddog Adran 151 Dros Dro adroddiad llafar ar naw llinell ychwanegol o gynigion arbedion ar draws gwasanaethau nad oeddent wedi eu cynnwys yn yr adroddiad ysgrifenedig.  Nodwyd y rhain gan y Pwyllgor ac fe’u cymerwyd i ystyriaeth wrth werthuso’r pecyn cyllidebol drafft.

 

Yn y drafodaeth ddilynol, dygodd y Pwyllgor sylw at yr isod fel materion yr oedd yn dymuno cael rhagor o eglurhad yn eu cylch o ran goblygiadau’r cynnig:

 

  Cymuned

 

  Gofynnwyd am eglurhad ar y risg o roi'r gorau i ddefnyddio Cadeirydd Annibynnol ar gyfer y Panel Maethu a chyflawni’r swyddogaeth honno’n fewnol (£4K).

 

Dywedodd y Pennaeth Gwasanaethau Plant fod yr ystyriaethau’n cynnwys tynnu amser swyddog o waith arall i ymgymryd â'r rôl honno a cholli arbenigedd a sgriwtini allanol yr oedd cadeirydd annibynnol yn medru eu darparu ar gyfer y dasg.  Oherwydd bod y Gwasanaeth Maethu yn un a reoleiddir, gellir disgwyl efallai i reoleiddwyr allanol herio’r cynnig fel cam yn ôl.  Fel lliniariad, bydd y Gwasanaeth yn ymdrechu i adnabod swm sydd gyfwerth â’r arbediad o £4k o ran arall o’r gyllideb, a hynny er mwyn sicrhau fod y swyddog a ddynodwyd i wneud y gwaith yn cysgodi’r cadeirydd annibynnol yn y rôl honno ac i ostwng y risg o golli arbenigedd.

 

  Gostyngiad arfaethedig yng nghostau Asiantaethau Maethu Annibynnol (£75K).

 

Gofynnodd y Pwyllgor am sicrwydd bod y Gwasanaethau Plant yn medru gweithredu'r cynnig yn broffesiynol ac yn ddiogel a’u bod wedi rhoi sylw priodol i unrhyw effaith bosib ar y plant / pobl ifanc sydd wedi eu lleoli gydag asiantaethau annibynnol.

 

Dywedodd y Pennaeth Gwasanaethau Plant mai’r risg yw anallu i wireddu’r arbedion dan y cynnig hwn yn llawn oherwydd bod raid i anghenion y plant fod yn bennaf goruwch y targed ariannol.  Esboniodd y disgwylir gwneud arbedion o £13.5k trwy gaffael yn fwy effeithlon yn sgil ymuno â fframwaith maethu rhanbarthol Gogledd Cymru ac oddeutu £61k drwy ceisio lleoli plant sy’n derbyn gofal gyda gofalwyr maeth yr Awdurdod ei hun.  Mae gweithredu’r cynnig yn llwyddiannus yn seiliedig ar fedru recriwtio digon o ofalwyr maeth a darparu lleoliadau lleol ar gyfer plant sy’n trosglwyddo o leoliadau maethu annibynnol a bod symud lleoliad o fudd i’r plentyn.  Cydnabu fod y Pwyllgor yn dymuno bod yn siŵr ei fod yn gwneud yr hyn sydd orau i'r plant wrth iddo gymeradwyo’r cynnig.  Cadarnhaodd y Pwyllgor ei safbwynt fod raid i’r penderfyniad fod y penderfyniad iawn ar gyfer y plant dan sylw yn hytrach nag o ran y gyllideb, ac roedd yn fodlon bod y Gwasanaeth wedi gweithredu ar y sail honno.

 

  Gostyngiad arfaethedig yng Nghostau Lleoliadau Allsirol (£51K)

 

Dywedodd y Pennaeth Gwasanaethau Plant fod y rhain yn lleoliadau sy’n darparu lefel arbenigol o ofal addysg, iechyd a / neu ofal cymdeithasol i blant nad yw’r Awdurdod yn medru ei ddarparu o’i adnoddau mewnol.  Mae’r cynnig yn rhagdybio cwrdd â’r gofynion ‘status quo’ a hefyd yn caniatáu ar gyfer 78 o wythnosau ychwanegol os bydd angen un neu ddau o leoliadau yn ystod y flwyddyn.  Pwysleisiodd y Swyddog fod hwn yn wasanaeth sy’n cael ei arwain gan y galw a bod angen “rhwyd diogelwch” ar ffurf adnoddau y gall y gwasanaeth eu defnyddio i gwrdd ag anghenion nad ydynt wedi eu cynllunio neu nad oedd modd eu rhagweld - gall un lleoliad o’r fath gostio  hyd at £250k.  Rhaid i’r Awdurdod gael yr hyblygrwydd i fedru ymateb i anghenion nad oedd modd eu rhagweld uwchben y gyllideb yn seiliedig ar achos busnes. Cadarnhaodd y Swyddog Adran 151 y byddai’r ddarpariaeth hon mewn lle.

 

Nododd y Pwyllgor na fydd ond modd cyflawni’r arbedion yn y cynnig hwn os nad oes unrhyw alwadau annisgwyl a phwysleisiodd eto mai lles gorau’r plentyn unigol ddylai fod y sail ar gyfer gweithredu.

 

  Dod â chontract cyfredol y Gwasanaeth Iechyd Meddwl Plant a’r Glasoed i ben (CAMHS) (£38k)

 

Dywedodd y Pennaeth Gwasanaethau Plant fod y gwasanaeth hwn, yn hanesyddol, wedi cyllido swydd Gweithiwr Cymdeithasol o fewn CAMHS er nad oes dyletswydd orfodol i wneud hynny.  Fodd bynnag, mae gan yr Awdurdod ddyletswydd statudol i asesu a chefnogi plant a phobl ifanc sydd â phroblemau iechyd meddwl ac i gwrdd ag anghenion plant y gofelir amdanynt.  Mae’r Awdurdod wedi ceisio dylanwadu ar y swydd i sicrhau ei bod yn canolbwyntio ar gyfrifoldebau statudol yr Awdurdod yn hytrach na bod yn adnodd ar gyfer CAMHS.  Yr ail agwedd oedd sicrhau fod y swydd yn gallu datblygu arbenigedd o fewn y Gwasanaethau Plant ar faterion iechyd meddwl i blant.  Oherwydd bod y swydd yn wag ar hyn o bryd mae’r risg o ddileu’r swydd yn llai ond erys risg o ran diffyg darpariaeth ar gyfer y plant a’r bobl ifanc yng ngofal yr Awdurdod a chanddynt anghenion iechyd meddwl ac oherwydd y posibilrwydd y gallai anghenion iechyd meddwl nad ydynt yn cael sylw ar y pwynt hwn waethygu fel bod rhaid cael mewnbwn llawer drutach rhyw dro yn y d   yfodol.

 

Gofynnodd y Pwyllgor am wybodaeth fel y gallai ddeall pwysigrwydd y swydd yng nghyd-destun plant ddim yn medru cael mynediad i wasanaeth CAMHS.  Dywedodd y Pennaeth Gwasanaethau Plant mai arwyddocâd y swydd i’r Awdurdod yw ei bod yn golygu y gellir adnabod yn gynnar y plant hynny yn ei ofal sydd ag anghenion iechyd meddwl a bod ymyrraeth gynnar felly’n caniatáu i’r Awdurdod gyfeirio’r plant hynny i wasanaethau lles emosiynol yn hytrach na gwasanaethau iechyd meddwl gan ddod o hyd i ffordd o gwmpas y mater o fethu â chael mynediad i CAHMS.

 

  Arbedion Effeithlonrwydd y Trydydd Sector (£8k).  Gofynnodd y Pwyllgor am eglurhad ar effaith gostyngiad mewn cymorth ariannol ar y sefydliadau trydydd sector dan sylw.

 

Dywedodd y Pennaeth Gwasanaethau Plant fod yr arfer o ddyfarnu contractau blynyddol i sefydliadau trydydd sector a gwneud toriadau blynyddol ynddynt wedyn yn peri rhwystredigaeth i’r gwasanaeth oherwydd ei bod yn ymagwedd tymor byr nad yw’n cynnig sicrwydd ariannol.  Er bod gostyngiad o 10% yn y gyllideb wedi ei gynnig ac a fydd yn cael effaith ar dri sefydliad yn benodol yn y Gwasanaethau Plant, mae'r Awdurdod wedi ceisio lliniaru'r effaith trwy ymrwymo i gontract cyllido 3 blynedd a fydd yn cynnig elfen o sefydlogrwydd a diogelwch ariannol i’r sefydliadau.

 

Er yn nodi’r gostyngiad arfaethedig yn y cymorth cyllidol ar gyfer sefydliadau trydydd sector, cymeradwyodd y Pwyllgor y trefniant tair blynedd ar gyfer cyllido’r sefydliadau hynny ar y sail ei fod yn rhoi mwy o sicrwydd iddynt ac yn eu galluogi i gynllunio ymlaen.

 

Dywedodd y Pennaeth Adnoddau a’r Swyddog Adran 151 Dros Dro fod adolygiad eang o berthynas yr Awdurdod gyda’r holl sefydliadau trydydd sector wrthi’n cael ei gynnal ac nad ydyw eto wedi ei gwblhau. Amcangyfrifir bod y Cyngor yn talu cyfanswm oddeutu £10m i sefydliadau trydydd sector mewn blwyddyn. Nod yr adolygiad yw rhoddi perthynas yr Awdurdod gyda sefydliadau trydydd sector ar sylfaen gadarnach a darparu ar eu cyfer fwy o sicrwydd ynghylch llif cyllid a fydd yn rhyng-gysylltu’n well â blaenoriaethau corfforaethol y Cyngor. Yn wyneb hynny, rhybuddiodd yn erbyn rhoddi unrhyw sicrwydd ynghylch cyllid yn ystod y 2 i 3 blynedd nesaf hyd oni fydd yr adolygiad cyffredinol hwn wedi’i gwblhau. 

 

Nododd y Pwyllgor gyngor y Swyddog.

 

  Nododd y Pwyllgor fod y risg ambr sy'n gysylltiedig â chynnig arbedion Garreglwyd (y cynnig ynghylch arbedion ychwanegol yr adroddwyd arnynt ar lafar) yn ymwneud â methiant i werthu’r safle.

 

  Y gostyngiad arfaethedig yn y costau llety Gwely a Brecwast yn y Gwasanaeth Tai (£115k) (y cynnig ynghylch arbedion ychwanegol yr adroddwyd arnynt ar lafar).

 

  Dywedodd Pennaeth y Gwasanaeth Tai fod newidiadau yn y ddeddfwriaeth Ddigartrefedd yn ystod y flwyddyn yn debygol o arwain at gynnydd yn y galw am lety Gwely a Brecwast ac y bydd hynny, ynghyd â chyflwyno Credyd Cynhwysol ym mis Gorffennaf 2015 a gostyngiadau yn y Rhaglen Cefnogi Pobl yn rhoddi’r gyllideb hon dan bwysau cynyddol. Mae cynnig i ostwng y gyllideb hon gan £23,368 wedi cael ei gyflwyno er bod swm uwch wedi cael ei gymryd allan o’r gyllideb hon oherwydd tanwariant yn y gorffennol. Petai gorwariant yn y gyllideb oherwydd y ffactorau y soniwyd amdanynt, dywedodd y Swyddog yr hoffai dderbyn sicrwydd y bydd rhwyd diogelwch cyllidol ar gael ar gyfer y gyllideb hon.

 

Cadarnhaodd y Pennaeth Adnoddau a’r Swyddog Adran 151 Dros Dro mai’r arbediad arfaethedig yn y gyllideb ar gyfer costau Gwely a Brecwast yw £115k. Yn draddodiadol, roedd swm o £250k wedi ei neilltuo ar gyfer y gyllideb hon ond nid oedd mwy na £50k i £60k wedi cael ei wario gyda hynny’n cyfrif am yr arbediad o £115k. Fodd bynnag, gan fod hon yn gyllideb sy’n dibynnu ar y galw amdani a bod y ddarpariaeth yn un statudol, gellir rhyddhau arian o gronfa wrth gefn petai raid a hynny’n unol â phroses wedi ei rheoleiddio’n briodol.

 

Gofynnodd y Pwyllgor am sicrwydd fod digon o adnoddau ar gael yn y gronfa gorfforaethol wrth gefn ar gyfer yr amrediad o wasanaethau sy’n dibynnu ar y galw amdanynt ac a fydd efallai’n gorfod tynnu arian i’r gronfa honno.

 

Cadarnhaodd y Pennaeth Adnoddau a’r Swyddog Adran 151 Dros Dro y byddai’n rhaid cael proses wedi ei rheoleiddio’n briodol ar gyfer rhyddhau’r cyllid. Petai’r gronfa wrth gefn yn cael ei llethu gan y pwysau arni (ac mae hynny’n annhebygol) yna byddai’n rhaid tynnu arian o gronfa wrth gefn y Cyngor.

 

  Opsiynau y gellir troi atynt. Dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Plant y byddai unrhyw gynigion eraill ar gyfer nodi arbedion cyllidebol yn golygu adolygiad o’r math a’r lefel o ddarpariaeth sydd ar gael ar hyn o bryd.

 

    Cynllunio/Gwastraff/Priffyrdd

 

  Y bwriad i ostwng y cyfraniad a roddir i’r Uned Polisi Cynllunio ar y Cyd(£25k). Gofynnodd y Pwyllgor a fyddai Cyngor Gwynedd yn gostwng ei gyfraniad gan swm cyfatebol ac a fyddai’r toriad yn cael unrhyw effaith wirioneddol ar waith yr Uned.

 

Dywedodd y Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd fod y gostyngiad arfaethedig o £25k yn weddol fychan yng nghyd-destun y cyfraniad blynyddol o £300k ac, yn dilyn trafodaeth bellach, mae’n debygol y bydd cyfraniad Gwynedd yn gostwng gan swm tebyg. Dywedodd y Swyddog ei fod yn hyderus na fyddai’r cynnig, sy’n golygu gostwng oriau gwaith staff, yn cael effaith ar y Cynllun Datblygu ar y Cyd ac y gellir rheoli hyn.

 

  Y Gostyngiad Arfaethedig yn y Gyllideb ar gyfer Gwaith ar y Priffyrdd (£414k).

 

Dywedodd y Pennaeth Gwasanaethau Amgylcheddol a Thechnegol fod darpariaeth yn y gyllideb Refeniw ar gyfer Priffyrdd i dalu i gontractwyr am waith cynnal a chadw priffyrdd, swm oddeutu £1.75m y flwyddyn. Telir swm o £1.25m i Hogan’s am ailwynebu priffyrdd a neilltuir  £200k ar gyfer torri gwair - cyfanswm o £3.2m. Bydd y gyllideb hon yn gostwng i £2.5m yn fras os penderfynir gwneud yr arbediad. Mae’r cynnig o bosib yn golygu torri contractau gyda’r contractwyr; fodd bynnag, gwnaed bid am £2m yn y rhaglen gyfalaf fel benthyca pwyllog ar gyfer y flwyddyn nesaf a’r flwyddyn wedyn fel y gellir parhau i ddarparu’r un lefel o wasanaeth. Erbyn 2017/18, rhagwelir y bydd y gwaith sy’n gysylltiedig ag Wylfa newydd wedi cychwyn. 

 

Gofynnodd y Pwyllgor am eglurhad ynglŷn â’r risgiau cynhenid a oedd ynghlwm wrth dorri contractau gyda chontractwyr o ran y posibilrwydd y byddai hynny’n arwain at gostau. Cadarnhaodd y Pennaeth Gwasanaethau Amgylcheddol a Thechnegol fod risg yn gysylltiedig oherwydd bydd y contractwyr hynny wedi costio gwaith yn seiliedig ar y contract ac mae’n bosibl y gallai’r costau hynny fod yn uwch na’r arbedion os na fydd y cais am £2m ar gyfer benthyca pwyllog yn llwyddiannus.    

 

Nododd y Pwyllgor yr elfen o risg sydd ynghlwm wrth ostwng y gyllideb ar gyfer Gwaith ar y Priffyrdd yn y modd a ddisgrifir a hynny o ran y posibilrwydd o gostau gan nodi hefyd y gallai’r costau hynny fod yn uwch na’r arbedion os na fydd y fid am fenthyciadau pwyllog yn llwyddiannus.

 

  Cydweithio (Rheoli Gwastraff) (£50k).

 

Nododd y Pwyllgor fod y cynnig hwn yn annhebygol o gael ei wireddu yn 2015/16 oherwydd nad yw’r trafodaethau gyda Chyngor Gwynedd wedi symud ymlaen ddigon i fedru gweithredu’r cynnig mewn pryd.

 

    Gwerthu Gwastraff Gwyrdd (£75k)

 

Nododd y Pwyllgor y posibilrwydd na fydd yr arbediad hwn yn cael ei wireddu oherwydd yr oedi o ran sicrhau’r caniatadau angenrheidiol gan Lywodraeth Cymru a Chyfoeth Naturiol Cymru.   

 

 

   Addysg

 

  Gostyngiad yn y Gyllideb ar gyfer Gwella Safonau mewn Ysgolion (£43.4k)

 

Nododd y Pennaeth Dysgu mai GwE sydd bellach yn gyfrifol am yr elfen honno o’r gefnogaeth a roddir i ysgolion sy’n ymwneud â chodi safonau ac y comisiynir y gwasanaeth drwy gyfrwng Cytundeb Lefel Gwasanaeth gyda’r corff rhanbarthol. Mae’r Gwasanaeth yn credu y gallai gwrdd ag unrhyw anghenion ychwanegol o gyllidebau eraill.

 

  Newid y modd y darperir y Gwasanaeth Allgymorth sy’n rhan o’r Gwasanaeth Ieuenctid (£16.3k)

 

Gofynnodd y Pwyllgor am eglurhad o oblygiadau newid y modd y darperir yr elfen allgymorth o’r gwasanaeth yn achos y cymunedau hynny nad ydynt yn cael eu gwasanaethu gan glwb ieuenctid chwaith.

 

 Dywedodd y Pennaeth Dysgu fod rhaid i agwedd gwerth am arian y gwasanaeth allgymorth gael ei asesu yn wyneb trawsnewidiad y Gwasanaeth Ieuenctid yn ei gyfanrwydd. Daeth y Gwasanaeth i’r casgliad y gellir darparu’r gwasanaeth drwy ffynonellau eraill ac, yn achos y cymunedau hynny lle nad oes clwb ieuenctid, drwy ddefnyddio adeilad lleol. 

 

  Gwasanaeth Cwnsela – Gostyngiad yn y Cyfraniad (9k)

 

Gofynnodd y Pwyllgor a fyddai gostwng y cyfraniad â goblygiadau o ran sicrhau fod y gwasanaeth ar gael i’r holl blant ysgol sydd ei angen.

 

Dywedodd y Pennaeth Dysgu fod y gwasanaeth yn cael ei ddarparu ar y cyd â Chyngor Gwynedd. Mae trafodaethau ynghylch gweithredu arbedion oddeutu 5 –10% yn y gwasanaeth wedi cychwyn gyda Rheolydd y Gwasanaeth ac mae’r trafodaethau hynny’n canolbwyntio ar ostwng costau swyddfa gefn yn hytrach na’r ddarpariaeth o’r gwasanaeth. Nid yw Gwynedd wedi cadarnhau eu bwriad hyd yma.

 

  Gostyngiad 10% yn y Cyfraniad i’r Cydbwyllgor Anghenion Addysgol Arbennig (93k)

 

Dywedodd y Pennaeth Dysgu fod llinellau cyllidebol nad ydynt bellach yn cael eu defnyddio dan y Cydbwyllgor AAA ynghyd â gorwariant traddodiadol ar staffio. Teimlir y gall y gwasanaeth ddal gostyngiad 10% yn ei gyllideb ac y byddir yn canolbwyntio ar resymoli swyddogaethau gweinyddol.

 

  Gostyngiad yng Nghostau Lleoliadau All-sirol (£80k)

 

Er bod nifer y lleoliadau addysgol all-sirol wedi gostwng, dywedodd y Pennaeth Dysgu fod yr Awdurdod yn ceisio darparu ar gyfer plant yn lleol, mae hon yn gyllideb sy’n dibynnu ar y galw amdani a rhaid sicrhau hyblygrwydd fel y gellir ymateb i’r galw pan mae’n codi.

 

Nododd y Pwyllgor fod y Gwasanaeth yn fodlon gyda’r gyllideb oherwydd mae darpariaeth ynddi ar gyfer dibynnu am gymorth o’r arian wrth gefn corfforaethol pe gwelir cynnydd yn y galw am y gwasanaeth.

 

   Gostwng Cyfraniadau i’r Urdd/Ffermwyr Ifanc (£21k yr un)

 

Dywedwyd wrth y Pwyllgor fod y ddau sefydliad yn cael eu cyllido drwy Ymddiriedolaeth Elusennol Ynys Môn ac fe nodwyd y wybodaeth.

 

  Brecwast am ddim yn yr Ysgolion – Cyflwyno Ffi ar gyfer Disgyblion nad ydynt yn cael Cinio am Ddim (171k)

 

Roedd y Pwyllgor yn pryderu am yr effaith a gâi’r cynnig o bosibl ar deuluoedd lle nad yw’r plant yn cael cinio am ddim ond eu bod serch hynny, ar incwm isel. Pwysleisiodd y Pwyllgor bwysigrwydd cynnal Asesiad o’r Effaith ar Gydraddoldeb.

 

Dywedodd y Pennaeth Dysgu fod y cynnig yn cael ei gyflwyno fel awgrymiad ac na fydd yr ymgynghori’n cychwyn hyd oni fydd y Gwasanaeth wedi cael mandad i symud ymlaen. Yn ôl atborth anffurfiol, mae yna wahaniaeth barn ar y mater ond byddai’r ddarpariaeth yn parhau i fod ar gael i’r plant mwyaf bregus. Mae’r Gwasanaeth yn mofyn cymorth i ymchwilio i arbedion posibl dan y pennawd cyllidebol hwn.

 

Nododd y Pwyllgor y byddai’n cymryd hyd at dri mis i gwblhau cynnig swyddogol.

 

  Cynyddu Ffioedd Teithio ar gyfer Pobl Ifanc 16+ a Chodi ar Ddisgyblion 16+ mewn Ysgolion  (50k)

 

Nododd y Pwyllgor fod y cynnig eisoes wedi cael ei gymeradwyo’n ddemocratig ac na ddylid o’r herwydd ei gynnwys fel rhan o’r cynigion ar gyfer ymgynghori yn eu cylch. Nodwyd hyn gan y Pwyllgor a mynegwyd siom ynglŷn â’r diffyg ymgynghori ar y cynnig a’r modd y cafodd hyn ei reoli.  

 

  Busnes y Cyngor

 

  Gostyngiad yn y Contract Iechyd Galwedigaethol (£4k) (Adroddwyd ar lafar am arbedion ychwanegol)

 

Gofynnodd y Pwyllgor am eglurhad ynghylch effaith y gostyngiad. Dywedodd yr Aelod Portffolio ar gyfer Adnoddau Dynol fod y cynnig yn ffurfio rhan o’r adolygiad corfforaethol cyffredinol mewn perthynas â rheoli absenoldeb salwch a’r bwriad oedd i’r rheolwyr ymgymryd â’r rhan o’r gwaith sy’n ymwneud â diwydrwydd dyladwy.

 

 Roedd yr Aelodau’n pryderu am y baich a rydd hyn ar reolwyr oherwydd yn ôl y Cerdyn Sgorio Perfformiad Corfforaethol, maent eisoes yn ei chael yn anodd i gwblhau Cyfweliadau Dychwelyd i’r Gwaith yn unol â’r targed heb gael cyfrifoldebau ychwanegol.

 

  Nododd y Pwyllgor fod y manylion a roddwyd yn y papur ar y gyllideb ddrafft a gyflwynwyd i’r Pwyllgor Gwaith a’r manylion yn y ddogfen ymgynghori gyhoeddus, Cwrdd â’r Heriau, yn wahanol. Awgrymwyd y dylai’r cyhoedd gael yr un lefel o wybodaeth â’r Aelodau Etholedig ac y dylai’r dull o ymgynghori gyda’r cyhoedd yn y dyfodol fod yn gyson â’r dull a fabwysiedir wrth ymgynghori’n fewnol.

 

  Nododd y Pwyllgor fod y papur briffio ar Arbedion Effeithlonrwydd a ddarparwyd gan y Gwasanaeth Addysg wedi bod o gymorth o ran deall yn well a gwerthuso’r cynigion ar gyfer arbedion a gynigiwyd gan y gwasanaeth ac awgrymwyd y dylai gwasanaethau eraill ystyried mabwysiadu’r arfer hwn ar gyfer y dyfodol. 

 

  Nododd y Pwyllgor fod angen mabwysiadu dull cyson ac unffurf o ran delio gyda’r holl sefydliadau Trydydd Sector gan roddi rhybudd dyledus iddynt o’r toriadau cyllidol a’u hailgyfeirio at ffynonellau cyllido eraill os oes rhai ar gael.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Cymuned y gofynnwyd i’r sefydliadau Trydydd Sector drwy lythyr i amlinellu beth fyddai goblygiadau gostyngiad pellach o 5% yn y cymorth ariannol a bod 10 o sefydliadau wedi ymateb i’r llythyr hwnnw.

 

  Mynegodd y Pwyllgor bryderon ynghylch effaith gronnol toriadau ariannol ar siâp y Cyngor yn y dyfodol fel endid corfforaethol gydag ond ychydig iawn neu ddim cyfeiriad o gwbl at feysydd twf.

 

Dywedodd y Pennaeth Adnoddau a’r Swyddog Adran 151 Dros Dro fod rhaid i’r Cyngor, er mwyn goresgyn y ffaith ei fod yn dibynnu ar Lywodraeth Cymru am ei gyllid, yn gorfod chwilio am ffynonellau cyllido newydd nad ydynt yn cael eu dylanwadu’n drwm gan y Llywodraeth gan olygu y bydd angen iddo fanteisio i’r eithaf ar ffrydiau cyllido a chreu rhai newydd ac/neu gael gwared ar asedau hirsefydlog ac y bydd hynny’n golygu gwneud penderfyniadau heriol.

 

  Rhoes y Pwyllgor sylw i lefel y cynnydd yn y Dreth Gyngor yn wyneb cyfanswm gwerth y pecyn arbedion. Ymchwiliodd y Pwyllgor i’r posibilrwydd a fyddai cynnydd 5% yn golygu y gellid tynnu rhai arbedion yn ôl yn enwedig lle gallai’r arbedion hynny effeithio ar grwpiau mwy bregus gan bwyso a mesur yr opsiwn hwn yn erbyn budd ac ymarferoldeb lleihau baich y dreth ar drigolion Ynys Môn yn gyffredinol drwy weithredu cynnydd o lai na 5% yn y Dreth Gyngor. 

 

 

 

Penderfynwyd –

 

  O ran yr arbedion effeithlonrwydd y bwriedir eu gwneud yn y Gwasanaethau Plant mewn perthynas â chostau Plant sy’n Derbyn Gofal, nododd y Pwyllgor mai’r brif ystyriaeth o ran gweithredu’r arbediad hwn yn broffesiynol ac yn ddiogel yw lles gorau’r plentyn.

  Bod y Pwyllgor yn pryderu ynghylch goblygiadau toriadau arfaethedig mewn cyllidebau a gwasanaethau sy’n cael eu harwain gan y galw amdanynt (Lleoliadau Allsirol yn y Gwasanaethau Plant ac Addysg a darparu llety Gwely a Brecwast yn y Gwasanaethau Tai) a’i fod yn erfyn ar y Pwyllgor Gwaith i sicrhau fod darpariaeth ddigonol ar gael drwy gronfa wrth gefn gorfforaethol fel y gellir cwrdd ag unrhyw bwysau nad oedd modd eu rhagweld mewn perthynas â’r cyllidebau hynny ac unrhyw gyllidebau eraill sy’n cael eu harwain gan y galw amdanynt.

  Bod y Pwyllgor yn nodi bod angen dilysu a gwneud gwaith pellach ar rai o’r cynigion ar gyfer arbedion, e.e. Codi am Frecwast i ddisgyblion nad ydynt yn derbyn Cinio am Ddim a’r ffaith na fydd rhai arbedion efallai’n cael eu gweithredu, e.e. Gwerthu Gwastraff Gwyrdd ac y bydd hyn â goblygiadau i’r Gyllideb.

  Bod y Pwyllgor yn nodi y bydd y broses o bennu’r Gyllideb yn cael ei hadolygu gyda dadansoddiad o’r hyn a aeth yn dda a’r hyn y gellid ei wella ar gyfer rowndiau cyllidebol yn y dyfodol.

  Bod y Pwyllgor yn nodi ac yn canmol y ffaith fod y Papur Briffio ar Arbedion Effeithlonrwydd a baratowyd gan y Gwasanaeth Addysg wedi hwyluso’r broses o sgriwtineiddio’r cynigion a’i fod yn argymell fod gwasanaethau eraill yn mabwysiadu’r arfer hon yn y dyfodol. 

  Bod y Pwyllgor yn argymell cynnydd rhwng 4.5% a 5% yn y Dreth Gyngor.

 

CAMAU GWEITHREDU’N CODI:

 

Bod yr isod yn cael eu cyflwyno i’r cyfarfod o’r Pwyllgor hwn ar 10 Chwefror fel parhad o’r broses o sgriwtineiddio’r cynigion ar gyfer Cyllideb 2015/16.

 

  Cynigion ar gyfer Rhaglen Gyfalaf 2015/16.

  Yr ymateb i’r ymarfer ymgynghori cyhoeddus ar y cynigion ar gyfer Cyllideb 2015/16.

Dogfennau ategol: