Eitem Rhaglen

Datganiad ar y Strategaeth Rheoli Trysorlys 2015/16

Cyflwyno Datganiad ar y Strategaeth Rheoli Trysorlys am 2015/16.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Adnoddau a’r Swyddog Adran 151 Dros Dro yn cynnwys y Datganiad ar y Strategaeth Rheoli Trysorlys am  2015/16 i sylw’r Pwyllgor a hynny’n unol â Chôd Ymarfer CIPFA ar gyfer Rheoli Trysorlys.

 

Dygodd yr Uwch Gyfrifydd (Cynllunio Strategol) sylw at y prif ystyriaethau isod:

 

           Yn 2015/16 bwriedir rhoi sylw i absenoldeb dogfennaeth Arferion Rheoli Trysorlys (ARhT) yn yr Awdurdod gyda’r nod o sicrhau y bydd cyflenwad llawn o ddogfennau ARhT yn cael eu cyflwyno i’w cymeradwyo’n ddemocrataidd trwy’r sianelau Pwyllgor priodol cyn gynted ag y bo modd yn unol â’r Cynllun Dirprwyo arfaethedig ar gyfer Rheoli’r Trysorlys.

           Mai dim ond un diweddariad a gynigir i Ddatganiad 2014/15 ar gyfer Datganiad Rheoli Trysorlys 2015/16 sef:

           Na fydd adroddiadau chwarter un a chwarter tri ar faterion Rheoli Trysorlys yn cael eu cynhyrchu mwyach a chânt eu hadlewyrchu yn Rheolau Sefydlog yr Awdurdod fel sydd wedi ei nodi yn Atodiad 9 i’r adroddiad.

 

Bwriedir y bydd y categorïau buddsoddi posib a ddefnyddir ynghyd â’r meini prawf ar gyfer graddio credyd a therfynau buddsoddi yn cael eu hadolygu yn ystod y flwyddyn a bydd rhaid cymeradwyo unrhyw newidiadau ymlaen llaw yn unol â’r Cynllun Dirprwyo ar gyfer Rheoli’r Trysorlys.

 

           Mae’r bwriad i dynnu allan o’r system cymhorthdal ar gyfer y Cyfrif Refeniw Tai ar 2 Ebrill 2015 wedi ei gymryd i ystyriaeth yn y dangosyddion darbodus (yr ymhelaethir arnynt yn Atodiad 11) ar y sail a nodir yn Atodiad 12.

           Y dylai’r pennawd ar yr ail golofn yn nangosydd 19 yn Atodiad 11 ddarllen 2015/16 ar gyfer y terfynau uwch ac is (ac nid 2014/15).

 

Rhoddodd y Pwyllgor sylw i’r wybodaeth a gyflwynwyd a gofynnodd am eglurhad ar rai materion mewn perthynas â chost cymharol uchel trefniadau benthyca tymor byr yr Awdurdod a’r dynodiad o angen i fenthyca a’r hyn yr oedd hynny’n ei olygu.  Er i’r Pwyllgor nodi a derbyn bod y Strategaeth Rheoli Trysorlys yn seiliedig yn bennaf ar agwedd ddarbodus a gofalus tuag at fuddsoddi a benthyca, gofynnodd am sicrwydd bod y Strategaeth yn parhau i gael ei hadolygu a’i bod yn ymatebol i newidiadau yn y farchnad a newidiadau eraill a bod yr elfen hyblygrwydd hon wedi ei hamlygu yn y Strategaeth.

 

Cadarnhaodd yr Uwch Gyfrifydd (Cynllunio Strategol) fod rheoli trysorlys yn broses fyw a bod amrywiadau a newidiadau economaidd a/neu yn y farchnad, yn ogystal â chyngor gan ymgynghorwyr trysorlys yr Awdurdod, oll yn cael eu cymryd i ystyriaeth a’u bod yn siapio’r sefyllfa a’r arferion buddsoddi.

 

Penderfynwyd

 

           Nodi cynnwys yr adroddiad ar y Datganiad ar y Strategaeth Rheoli Trysorlys.

           Cymeradwyo’r Datganiad ar y Strategaeth Rheoli Trysorlys ar gyfer 2015/16 (gan gynnwys y Dangosyddion Darbodus a Rheoli Trysorlys) yn Atodiad A i’r adroddiad, a

           Anfon y Datganiad ar y Strategaeth Rheoli Trysorlys i’r Pwyllgor Gwaith heb ragor o sylwadau.

 

DIM CAM GWEITHREDU PELLACH YN CODI

 

Dogfennau ategol: