Eitem Rhaglen

Pwyllgor Archwilio - Adolygiad o'i Effeithiolrwydd 2014/15

Cyflwyno adroddiad y Rheolwr Archwilio Mewnol yn sgîl y gweithdy a gynhaliwyd ar 19 Ionawr, 2015.

Cofnodion:

Cyflwynwyd i’w ystyried ac ar gyfer sylwadau, adroddiad y Rheolwr Archwilio mewnol ar ganlyniad y gweithgor blynyddol ar effeithiolrwydd y Pwyllgor Archwilio a gynhaliwyd ar 19 Ionawr 2015.

 

Dywedodd y Rheolydd Archwilio fod yr adroddiad yn Atodiad A yn nodi canlyniadau gwerthusiad y gweithdy o Arferion Da’r Pwyllgor Archwilio ar ffurf rhestr wirio CIPFA - Hunanasesiad o Arfer Dda.  At ei gilydd, roedd hunanasesiad y Pwyllgor Archwilio o’i berfformiad yn erbyn arfer dda yn gadarnhaol ac ystyriwyd mai dim ond un o’r 20 arfer dda oedd ddim yn cael eu cyflawni gan y Pwyllgor a bod modd gwella 4 arall allan o 20 o ran pwrpas a llywodraethiant; cyflawni swyddogaethau’r Pwyllgor ac aelodaeth a chefnogaeth.  Yn ogystal, cwblhaodd y Rheolwr  Archwilio gopi o restr wirio CIPFA i nodi’r meysydd hynny lle 'roedd gan y Pwyllgor gryfderau, yn ei farn broffesiynol ef, ynghyd â’r meysydd y gellir eu gwella fel yr adroddwyd yn rhan 2.5 yr adroddiad. ‘Roedd Cynllun Gweithredu arfaethedig wedi ei gynnwys yn Atodiad C a oedd yn amlinellu sut a pha bryd yn ystod 2015/16 y bydd y gwendidau yn cael sylw a chan bwy.

 

Rhoddodd y Pwyllgor sylw i’r adroddiad ac yn gyffredinol roedd yn siomedig gyda chywair y gwerthusiad oherwydd fod iddo, ym marn y Pwyllgor, elfen negyddol. Cyflwynwyd safbwynt bod y Pwyllgor Archwilio wedi codi nifer o faterion o ran gwendidau a hepgoriadau mewn nifer o feysydd polisi ac arferion yn ystod y flwyddyn, yn arbennig felly’r trefniadau rheoli risg, ac nad yw’r rheini wedi eu cynnwys yn y gwerthusiad perfformiad ym mharagraff 2.5.  Pwysleisiwyd nad yw’r her a gynigir gan y Pwyllgor Archwilio ond yn effeithiol os yw’r sefydliad/rheolwyr yn gweithredu arni a’i bod yn ymddangos bod y Pwyllgor yn cael ei farnu oherwydd diffyg gweithredu ar lefel gorfforaethol boed hynny oherwydd materion adnoddau neu ystyriaethau eraill.

 

Dywedodd y Rheolydd Archwilio Mewnol y bydd casgliadau’r gweithgor hefyd yn cael eu defnyddio i siapio adroddiad blynyddol y Cadeirydd ar weithgareddau’r Pwyllgor Archwilio, sef y sianel briodol ar gyfer myfyrio’n briodol ar agweddau cadarnhaol gwaith y Pwyllgor yn ystod y flwyddyn.  Dylid ystyried adroddiad perfformiad y Rheolydd Archwilio Mewnol fel adroddiad eithrio.  Mae’r Pwyllgor Archwilio wedi bod yn gyson yn ei ymdrechion i sicrhau newid ond ni ellir ond ei weld fel Pwyllgor effeithiol os yw’r newid yn cael ei weithredu, a hyd yma nid yw’r gefnogaeth a’r symbyliad a ddarparwyd gan y Pwyllgor wedi bod yn effeithiol o ran cyflawni’r canlyniad a ddeisyfir, yn arbennig felly mewn perthynas â Rheoli Risg.

 

Nododd y Pwyllgor fod adroddiad gwaith ar drefniadau Rheoli Risg wedi ei raglennu ar gyfer ei gyfarfod mis Ebrill ac y gofynnir i Uwch Reolwyr roi cyfrif am unrhyw ddiffyg cynnydd bryd hynny.

 

Penderfynwyd derbyn yr adroddiad, nodi ei gynnwys a chymeradwyo datblygu’r Cynllun Gweithredu yn Atodiad C yn 2015/16 i fynd i’r afael â’r gwendidau a nodwyd.

 

DIM CAMAU GWEITHREDU PELLACH YN CODI

Dogfennau ategol: