Derbyn diweddariad gan yr Aelod Portffolio Cyllid ar Gronfa Bensiwn Gwynedd.
Cofnodion:
Yn unol â chais a wnaed gan y Pwyllgor Archwilio yn ei gyfarfod ar 10 Rhagfyr 2014, rhoddodd y Deilydd Portffolio Cyllid grynodeb i’r Pwyllgor o berfformiad Cronfa Bensiwn Gwynedd am 2013/14.
Dywedodd y Deilydd Portffolio Cyllid, fel cynrychiolydd Cyngor Sir Ynys Môn ar Bwyllgor Cronfa bensiynau Gwynedd am y wybodaeth oedd yn yr adroddiad crynhoi’r Gronfa Bensiwn a’r cyfrifon am 2013/14 –
• Yn amodol ar eu harchwilio, roedd y crynodeb o’r Cyfrifon yn dangos bod cyfanswm yr incwm am y cyfnod yn £83.523m o’i gymharu â £78.525m yn y flwyddyn flaenorol gyda’r mwyafrif ohono yn gyfuniad o gyfraniadau cyflogwr (£50.909m yn 2013/14) a chyfraniadau gweithwyr (£14.791m yn 2013/14).
• Am 2013/14 cyfanswm y gwariant oedd £55.267m, gyda’r rhan fwyaf ohono yn cynnwys budd-daliadau pensiwn (£34.424m).
• Bod gwarged o £28.256m ar y Gronfa ar ddiwedd 2013/4 oedd ar gael i fuddsoddi. Mae hyn yn sylweddol o ystyried bod camargraff gyffredinol nad oes digon yn cael ei dalu i mewn i’r Gronfa ar ffurf cyfraniadau blynyddol.
• Roedd sefyllfa asedau net y Gronfa yn sefyll ar £1,310m ar 31 Mawrth 2014 yn cynrychioli cynnydd o £117m yn ystod y flwyddyn. Mae agwedd fuddsoddi’r Gronfa yn seiliedig ar leihau risg drwy fuddsoddi ar draws ystod o wahanol ddosbarthiadau ased e.e. ecwitïau, eiddo ac yn fwy diweddar, seilwaith.
• Dychweliad cyffredinol y gronfa am 2013/14 oedd 8.2% yn erbyn meincnod o 6.3%. Dros dair blynedd roedd dychweliad y Gronfa yn 6.7% yn erbyn meincnod o 6.5%.
• Yn ystod 2013/14, cwblhawyd prisiad actiwarial tair blynedd y Gronfa ar Mawrth 2013. Roedd y lefel gyllido wedi cynyddu o 84% i 85%, sydd o flaen y cyfartaledd o 79% yn Lloegr a Chymru. Fodd bynnag, roedd y diffyg yn y Gronfa hefyd wedi cynyddu oherwydd yn rhannol i’r ffaith bod pobl yn byw’n hŷn a lefel isel o incwm gilt ar amser y prisiad.
• O gymharu â chronfeydd awdurdodau lleol eraill, roedd Cronfa Bensiwn Gwynedd yn 19fed allan o 85 o ran perfformiad buddsoddi sydd yn dangos perfformiad cadarn. Mae’n gronfa gadarn gydag ystod eang o fuddsoddiadau.
Rhoddwyd cyfle i’r Pwyllgor ofyn cwestiynau i’r Deilydd Portffolio Cyllid ar y wybodaeth a gyflwynwyd ac fe nodwyd y materion a ganlyn –
• Ffioedd rheoli’r Gronfa o gymharu â chronfeydd eraill tebyg. Dywedwyd wrth y Pwyllgor mai treuliau rheoli’r buddsoddiad am 2013/14 oedd £7.316m a thaliadau gweinyddol yn £1.268m. Mae papur ymgynghori Llywodraeth ganolog wedi cynnig y dylai buddsoddiad ecwiti fod yn un tawel yn hytrach nag un bywiog er mwyn lleihau costau. Mae Cronfa Bensiwn Gwynedd yn cymryd y safbwynt y dylai cronfeydd gael y dewis i gydymffurfio gyda’r cynnig neu egluro penderfyniad i ddilyn rheolaeth fywiog.
• Gofynnwyd a oedd y dychweliad ar Gronfa Bensiwn Gwynedd yn cymharu’n ffafriol gyda Chronfa Ymddiriedolaeth Elusennol Ynys Môn. Dywedwyd wrth y Pwyllgor bod y ddwy gronfa yn wahanol o ran amcanion buddsoddi gyda Chronfa’r Ymddiriedolaeth Elusennol yn cael ei buddsoddi’n bennaf i gynhyrchu incwm da tra bo’r Gronfa Bensiwn yn cael ei buddsoddi gyda golwg ar berfformiad tymor hir.
• A oes gan Gronfa Bensiwn Gwynedd y capasiti i barhau fel ag y mae pe ceid tanchwa arall ar y farchnad stoc. Dywedwyd wrth y Pwyllgor bod Gronfa Bensiwn Gwynedd o ran ei natur yn destun newidiadau yn y farchnad ond bod ei strategaeth fuddsoddi’n ceisio lliniaru unrhyw risg drwy ddyrannu asedau ar draws ystod o gategorïau. Hefyd, mae gan y Gronfa £26.148m mewn arian ac adneuon banc.
Nododd y Pwyllgor y wybodaeth a gyflwynwyd ynghyd â sefyllfa Cronfa Bensiwn Gwynedd ar ddiwedd 2013/14 a nododd y byddai’n dymuno parhau i fonitro perfformiad y Gronfa Bensiwn yn flynyddol.
DIM CAMAU GWEITHREDU PELLACH YN CODI