Eitem Rhaglen

Archwilio Allanol

·        Derbyn diweddariad ar lafar ynghylch y Rhaglen Waith Berfformiad.

 

·        Derbyn diweddariad ar lafar ynghylch y gwaith ardystio grantiau.

Cofnodion:

5.1       Cafwyd adroddiad llafar gan Mr Andy Bruce Swyddfa Archwilio Cymru ar gynnydd a statws eitemau o waith o dan y Rhaglen Waith Perfformiad fel a ganlyn

 

           Roedd gwaith maes ar gyfer Asesiad Corfforaethol o’r Awdurdod ar droed ar hyn o bryd.  Mae’r Asesiad Corfforaethol yn disodli’r Adroddiad Gwella Blynyddol yn 2015 a bydd yn cymryd i ystyriaeth Hunanasesiad yr Awdurdod ac adolygiadau lleol Swyddfa Archwilio Cymru ar reolaeth o adnoddau ariannol, llywodraethu ac effeithiolrwydd trefniadau’r Bwrdd Gwasanaethau Lleol ar y Cyd.  Disgwylir y bydd adroddiad drafft yn cael ei ryddhau ym mis Ebrill gyda’r adroddiad terfynol i ddilyn ym mis Mehefin.

           Mae'r adroddiad cenedlaethol ar yr adolygiad Diogelu yn cael ei ddrafftio a disgwylir ei ryddhau ym Mawrth.

           Mae'r adroddiad cenedlaethol drafft parthed yr adolygiad Sefyllfa ariannol fydd yn rhoi darlun Cymru gyfan o ddycnwch ariannol yn mynd drwy’r broses glirio fewnol ar hyn o bryd.  Mae'r fethodoleg ar gyfer yr adolygiad yn cael ei ystyried ar gyfer adolygiad dilyn-i-fyny yn 2016.

           Mae'r arolwg cyhoeddus o safbwynt Darparu gyda Llai - Astudiaethau Hamdden wedi cau ac mae'r canlyniadau'n cael eu dadansoddi i’w bwydo i adroddiad cenedlaethol.

           Mae'r gwaith maes mewn perthynas â’r astudiaeth o weithio cydlynus i fynd i’r afael a’r galw o fewn iechyd a gofal cymdeithasol mewn perthynas ag annibyniaeth pobl hŷn wedi’i gwblhau.  Nid oedd yr Awdurdod ym Môn â chyswllt uniongyrchol yn yr astudiaeth hon a bydd yr allbwn ar ffurf crynodeb cenedlaethol byr o ganfyddiadau i'w rhyddhau ym Mawrth 2015.

           Roedd yr  ymgynghoriad ar y saith opsiwn astudiaeth ar gyfer Cynllun Gwaith Perfformiad 2015/16 wedi cau a bydd y rhaglen waith ddiffiniedig yn cael ei dewis ar sail yr adborth a dderbyniwyd a’i gyhoeddi yn Ebrill 2015.

 

Nododd y Pwyllgor y wybodaeth heb unrhyw sylwadau pellach.

 

5.2       Cafwyd diweddariad ar lafar gan Mr Joe Hargreaves PwC ar statws yr ardystiad o waith grantiau.  Mae hawliadau grant yn cael eu hardystio yn unol â chyfres o amseroedd cau ac mae’r holl waith mewn perthynas â hawliadau am 2013/14 wedi’i gwblhau a’r holl grantiau wedi’u hardystio ar wahân i'r Grant Llwybr Dysgu.  Ar gyfer y grantiau a ardystiwyd bydd y Cydlynydd Grantiau yn peri bod y llythyrau ardystio ar gael gyda rheini’n rhoi manylion o natur yr ardystiad.  Mewn perthynas i amser cau mis Chwefror, mae gwaith ar ardystio grantiau WEFO (Cronfa Fuddsoddi Leol Gogledd Cymru a Grant Isadeiledd Strategol) yn parhau a disgwylir i’r grantiau hynny fod wedi eu hardystio erbyn diwedd y mis.  Mae 18 o grantiau wedi eu hardystio a 6 ohonynt yn ddiamod heb unrhyw newidiadau.  Mae 7 yn ddiamod gyda rhai newidiadau; roedd 2 angen eglurhad ar yr ardystiad archwilio ac roedd 3 yn amodol ac angen newidiadau ychwanegol i’r ffigurau terfynol.

 

Ystyriodd y Pwyllgor y wybodaeth gan gydnabod y gwelliant o safbwynt y nifer o grantiau oedd wedi’u hardystio heb amod.  Codwyd pwynt cyffredinol ynglŷn â’r hyn oedd i’w weld fel cronni grantiau mewn blynyddoedd diweddar, o Lywodraeth Cymru ac o ffynonellau eraill.  Awgrymwyd a chafwyd cytundeb wedi hynny y byddai o fudd i’r Pwyllgor Archwilio dderbyn rhestr o grantiau oedd ar gael er mwyn cael syniad o’r pictiwr ehangach o safbwynt cyllid grant a hefyd o ran sicrhau bod yr Awdurdod yn gwneud y mwyaf o gyfleon cyllid grant a all fod ar agor iddo.

 

Dywedodd y Prif Weithredwr bod y rhan fwyaf o'r cyllid grant sydd ar gael i’r Awdurdod yn cael eu derbyn drwy Swyddfa'r Prif Weithredwr a bod y Prif Weithredwr ei hun yn edrych arnynt cyn eu hanfon ymlaen i gyfarwyddwyr y gwasanaethau perthnasol.  Mae Swyddog Cyllid y Gwasanaeth hefyd yn cadw trosolwg o’r grantiau ar gyfer cydymffurfio â’r meini prawf cyllido.  Ni wneir cais am bob cynnig grant a dderbynnir a rhoddir ystyriaeth i’r ffaith a ydynt yn cyd-fynd â blaenoriaethau corfforaethol y Cyngor a hefyd a yw’r adnoddau a dreulir yn llunio cais i’w gyfiawnhau o ystyried bod y broses ymgeisio am nifer o’r grantiau yn un gystadleuol.  Mae yna ystod eang o grantiau ar gael ac y mae gwasanaethau yn yr Awdurdod yn cael eu cynnal gan gyllid grant o dros £60 miliwn gyda hynny’n golygu bod goblygiadau os byddai’r cyllid hwnnw’n dod i ben.  Gall amseriad unrhyw gadarnhad o gyllid grant hefyd gael dylanwad ar gynllunio gwasanaethau, neu oedi hynny.

 

Dywedodd y Pennaeth Adnoddau Dros Dro bod yna elfen o risg ynghlwm wrth y drefn cyllid grant yn yr ystyr bod cymaint o grantiau ar gael gan Lywodraeth Cymru ac UE, ac y gall dilyn y grantiau ddod yn amcan ynddo'i hun yn hytrach na darparu gwasanaeth i'r gymuned. O ystyried bod nifer o grantiau yn cael eu dyfarnu ar sail arian cyfatebol, gall gwasanaethau wario 50% mewn arian cyfatebol heb dalu sylw digonol i’r ffaith a allai’r cronfeydd hynny gael eu defnyddio’n well yn rhywle arall.  Mae cyllid grant hefyd yn hyblyg iawn gyda grantiau newydd yn dod i’r amlwg wrth i’r grantiau cyfredol ddod i ben ac felly ni fydd unrhyw arolwg o’r grantiau sydd ar gael ond yn cael ciplun o’r sefyllfa ar unrhyw amser penodol

 

Penderfynwyd nodi’r sefyllfa hyd yn hyn mewn perthynas ag ardystiad grantiau.

 

CAMAU GWEITHREDU’N CODI: Y Pennaeth Adnoddau a Swyddog Adran 151 Dros Dro i roi adroddiad i’r Pwyllgor ar grantiau sydd ar gael i’r Awdurdod a sut mae’r Awdurdod yn gwneud ei orau i sicrhau’r grantiau hyn sydd ar gael iddo.