Eitem Rhaglen

Ceisiadau yn Codi

7.1  17C44M/MIN – 6 Gerddi Hafod Lon, Llandegfan

7.2  31C419A – Hafod y Bryn, Llanfairpwll

7.3  34C553A – Ty’n Coed, Llangefni

7.4  41C66G/RE – Marchynys, Penmynydd

Cofnodion:

 7.1  17C44M/MIN – Mân newidiadau i gynllun sydd wedi ei ganiatáu yn flaenorol dan ganiatád cynllunio 17C44J i amrywio amod (10) fel y gellir cyflwyno manylion mewn perthynas â’r sgrîn ar gyfer y balconi cyn bod neb yn byw yn yr annedd yn 6 Gerddi Hafod Lon, Llandegfan

 

          Roedd y Cynghorydd R. O. Jones wedi datgan diddordeb yn y cais hwn; aeth allan o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth a’r pleidleisio arno.

 

          Roedd y cais yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais y Cynghorydd Lewis Davies fel Aelod Lleol.   Yn y cyfarfod o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gynhaliwyd ar 4 Chwefror 2015 fe benderfynwyd ymweld â’r safle.  Cynhaliwyd yr ymweliad safle ar 18 Chwefror 2015.

 

          Dywedodd y Rheolwr Rheoli Datblygu mai cais oedd hwn dan Adran 96A Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 i wneud newid nad oedd yn un sylweddol i gynllun a gafodd ei ganiatáu yn flaenorol dan gais cynllunio rhif 17C44J i godi annedd.

 

          Dywedodd y Cynghorydd Lewis Davies ei fod yn credu ei bod yn bwysig bod y Pwyllgor yn gweld y safle er mwyn gwerthuso effeithiau’r cynnig ar fwynderau eiddo cyfagos.  Dywedodd na fyddai’n pleidleisio ar y cais hwn ac roedd yn credu bod yr annedd yn un sylweddol o ran maint a’i bod yn cael effaith ar anheddau cyfagos.

 

          Cynigiodd y Cynghorydd K. P. Hughes bod y cais yn cael ei gymeradwyo ac eiliwyd hynny gan y Cynghorydd Vaughan Hughes.

 

PENDERFYNWYD caniatáu’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog a chyda’r amodau a oedd wedi eu rhestru yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

7.2   31C419A – Cais amlinellol gyda’r holl faterion wedi eu cadw yn ôl ar gyfer codi 2 annedd ar dir yn Hafod y Bryn, Llanfairpwll

 

          Roedd y cais yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais y Cynghorydd A. M. Mummery fel Aelod Lleol.  Yn y cyfarfod o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gynhaliwyd ar 4 Chwefror 2015, fe benderfynwyd ymweld â’r safle.  Cynhaliwyd yr ymweliad safle ar 18 Chwefror 2015.

 

          Rhoddodd y Cadeirydd wahoddiad i Mr. Gerallt Parry i siarad gerbron y cyfarfod fel un oedd yn gwrthwynebu’r cais.  Gwnaeth Mr. Parry y pwyntiau canlynol:

 

·         Cafodd cais tebyg i godi dwy annedd ei wrthod ym mis Hydref 2014 oherwydd materion priffyrdd.

·         Mae’r cul-de-sac yn Trem Eryri yn gul a byddai adeiladu 2 annedd arall yn cynhyrchu mwy o broblemau traffig.  Mae lorïau sbwriel eisoes yn gorfod mynd ar y palmant i basio cerbydau sydd wedi parcio yno.

·         Mae dau lecyn parcio i’r anabl yn Trem Eryri a byddai’r cynnydd mewn traffig yn achosi problemau traffig yn y stad.

·         Byddai’r datblygiad ar lefel uwch ac ni fyddai’n gweddu gyda’r anheddau presennol.

·         Mae mynedfa yn barod ar gyfer yr annedd yn Hafod y Bryn ac fe ddylai’r datblygiad ddefnyddio’r fynedfa hon yn hytrach na mynd trwy stad Trem Eryri.

 

Rhoddwyd cyfle i Aelodau’r Pwyllgor holi Mr. Parry.  Holodd y Cynghorydd Lewis Davies a fyddai cerbydau argyfwng yn ei chael yn anodd i gael i mewn i’r safle.  Dywedodd Mr. Parry bod rhai cerbydau yn gorfod mynd dros y palmant er mwyn pasio cerbydau sydd wedi’u parcio.

 

Gwahoddodd y Cadeirydd Mr. Owen Evans i annerch y cyfarfod fel un oedd yn cefnogi’r cais.  Gwnaeth Mr. Evans y pwyntiau a ganlyn :-

 

·         Yn ystod yr ymweliad safle roedd yn ymddangos fel pe bai cynnydd yn y ceir oedd wedi parcio o fewn y cul-de-sac ac felly fe gynhaliwyd arolwg dros gyfnod o bythefnos.  Rhoddwyd canlyniad yr arolwg i’r Pwyllgor; roedd yn awgrymu bod llai o geir wedi’u parcio yno ar amseroedd eraill.

·         Roedd barn na fyddai 2 annedd ychwanegol yn cael effaith niweidiol ar eiddo cymdogion.  Mae’r eiddo sydd gyferbyn â’r safle ar lefel uwch na’r anheddau arfaethedig.

·         Mae preswylwyr wedi lleisio pryderon ynglŷn ag edrych drosodd, newid cymeriad yr ardal, materion twf a phreifatrwydd.  Roedd y Swyddogion Cynllunio a Phriffyrdd yn cefnogi’r cais.

 

Dywedodd y Cynghorydd Alun M. Mummery fel Aelod Lleol bod cais i godi dwy annedd ar y safle wedi ei wrthod ym mis Hydref 2014 ond yn dilyn Astudiaeth Rheoli Traffig gan y datblygwr, roedd y Swyddogion yn awr yn ystyried y dylid cymeradwyo’r cais.  Y pryderon sydd gan y preswylwyr lleol yw’r materion traffig sydd eisoes yn bodoli ar y safle hwn.  Mae Cynllun Lleol Ynys Môn yn dweud bod angen sicrhau y ceir mynedfa i gerbydau, ac mae’r ffyrdd sy’n arwain i’r safle a’r darpariaethau parcio yn ddiogel ac yn ddigonol.

 

Dywedodd y Cynghorydd R. Meirion Jones fel Aelod Lleol bod gan y preswylwyr safbwyntiau cryf yng nghyswllt materion traffig yn yr ardal hon oherwydd bod y ffordd yn gul.  Roedd yn credu bod mynedfa well i’r safle ar gael a fyddai hefyd yn lliniaru’r problemau traffig o fewn yr ardal benodol hon.

 

Dywedodd y Rheolwr Rheoli Datblygu ei bod yn ymddangos felly mai’r materion priffyrdd yw’r pryder mwyaf i’r preswylwyr lleol ynglŷn â’r lleoliad hwn.  Roedd lleoliad y safle yng nghanol Llanfairpwll ac mewn ardal breswyl.  Roedd y Swyddogion yn cytuno y gallai’r safle dderbyn y ddwy annedd arfaethedig.  Dywedodd ymhellach y gellir gosod amod ar y caniatâd cynllunio yng nghyswllt rheoli traffig yn ystod cyfnod adeiladu’r anheddau. 

 

Mynegodd y Cynghorydd Lewis Davies ei bryder iddo weld yn ystod yr ymweliad safle nifer sylweddol o geir wedi parcio yng nghyffiniau’r datblygiad arfaethedig. Roedd yn bryderus hefyd bod cerbydau argyfwng a cherbydau sbwriel yn gorfod mynd dros y cyrbin ac ar y palmant i allu pasio ceir oedd wedi parcio yn yr ardal.  Cynigiodd y Cynghorydd Davies bod y cais yn cael ei wrthod ac eiliwyd hynny gan y Cynghorydd T. V. Hughes.

 

Roedd y Swyddog Priffyrdd o’r farn na fyddai parcio yn y datblygiad arfaethedig yn achosi gormod o broblemau.  Ni fyddai datblygu 2 annedd ychwanegol yn creu problemau gyda cherbydau argyfwng a sbwriel yn gorfod mynd ar y cyrbin a’r palmant oherwydd bod hynny eisoes yn digwydd yno.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Jeff Evans bod y cais yn cael ei gymeradwyo ac eiliwyd hynny gan y Cynghorydd K. P. Hughes.

 

PENDERFYNWYD caniatáu’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog a chyda’r amodau oedd wedi eu rhestru yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

7.3   34C553A – Cais amlinellol ar gyfer datblygiad trigiannol yn cynnwys cyfleuster gofal ychwanegol, priffordd ac isadeiledd cysylltiedig yn Ty’n Coed, Llangefni

 

          Roedd y cais yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion oherwydd iddo gael ei hysbysebu fel un oedd yn tynnu’n groes i’r cynllun datblygu a bod yr argymhelliad yn un i’w ganiatáu.  Ymwelodd Aelodau'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion â’r safle ar 21 Awst 2013.

 

          Gofynnodd y Cynghorydd Nicola Roberts fel Aelod Lleol am i’r cais hwn gael ei ohirio oherwydd nad oedd y trigolion lleol wedi cael digon o rybudd bod y cais yn mynd i gael ei drafod yn y cyfarfod heddiw. Eiliwyd y cynnig hwnnw gan y Cynghorydd Lewis Davies.

 

PENDERFYNWYD gohirio ystyried y cais ar gais yr Aelod Lleol oherwydd nad oedd y trigolion lleol wedi cael digon o rybudd bod y cais yn cael ei drafod yn y cyfarfod hwn.

 

7.4  41C66G/RE – Cais llawn ar gyfer codi un tyrbin gwynt hyd at 24.8m o uchder, rotor hyd at 19.2m ar ei draws a hyd at 34.5m i flaen unionsyth y llafn, creu trac mynediad ynghyd â chodi cabinet storio offer ar dir yn Marchynys, Penmynydd

 

          Roedd y cais hwn yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion oherwydd iddo gael ei benderfynu na fyddai pwerau dirprwyedig yn cael eu defnyddio mewn cysylltiad â datblygiadau tyrbinau gwynt.  Yn y cyfarfod o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gynhaliwyd ar 4 Chwefror 2015, fe benderfynwyd ymweld â’r safle cyn dod i benderfyniad ar y cais.  Ymwelwyd â’r safle ar 18 Chwefror 2015.

 

          Rhoddodd y Cadeirydd wahoddiad i Mr. Owen Evans annerch y cyfarfod fel un oedd yn gwrthwynebu’r cais.  Gwnaeth Mr. Evans y pwyntiau a ganlyn :-

 

  • Mae ardal Penmynydd yn ardal naturiol o harddwch o fewn Ardal Tirwedd 12.  Byddai tyrbin gwynt yn difetha’r olygfa o Eryri.
  • Mae 3 chais tebyg am dyrbinau gwynt yn yr ardal wedi’u gwrthod trwy apeliadau cynllunio h.y. Tŷ Gwyn, Penmynydd, Yr Orsedd, Llanddona a Tre Ifan, Brynsiencyn.
  • Nid yw Afon Menai ond 3 milltir i ffwrdd o safle’r cais.  Pe câi’r cais ei gymeradwyo byddai’r tyrbin gwynt i’w weld o Bont Britannia. Ni fyddai twristiaid na phreswylwyr lleol eisiau gweld tyrbin gwynt pan fônt yn dod i mewn i’r Ynys.
  • Mae’n wybyddus bod ystlumod Noctule yn byw yn ardal Penmynydd.  Roedd wedi ei synnu nad oedd y Swyddog Ecolegol wedi sôn am ystlumod fel y gwnaed gyda’r ceisiadau cynllunio eraill am dyrbinau gwynt yn yr ardal.
  • Mae 95% o’r preswylwyr lleol yn erbyn codi tyrbinau gwynt yn ardal Penmynydd.

 

Ceisiodd y Cynghorydd John Griffith ganfod a oedd y gwrthwynebwyr i’r cais yn rhai oedd yn lleol i’r ardal. Dywedodd Mr. Evans bod y gwrthwynebwyr i gyd o ardal Penmynydd, Star a Rhoscefnhir.

 

Dywedodd y Rheolwr Rheoli Datblygu bod 277 o lythyrau yn gwrthwynebu wedi eu derbyn yng nghyswllt y cais hwn.  Roedd y Swyddog Ecolegol wedi ystyried y mater ystlumod yn yr ardal ond nid oedd wedi gwrthwynebu’r cais.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Lewis Davies bod y cais yn cael ei wrthod ac eiliodd y Cynghorydd Nicola Roberts y cynnig.

 

PENDERFYNWYD gwrthod y cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog ac am y rhesymau oedd wedi eu nodi yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

 

Dogfennau ategol: