12.1 25C247 – Cae Tan Parc, Stryd Coedwig, Llanerchymedd
12.2 33C295B – 4 Nant y Gors, Pentre Berw
12.3 33C3036 – Ysgol Esgeifiog Gaerwen, Lôn Groes, Gaerwen
12.4 34LPA1006A/CC – Fflatiau Glan Cefni, Llangefni
12.5 45C452 – Stâd Berllan, Llangaffo
Cofnodion:
12.1 25C247 – Cais llawn i greu llwybr troed o gwmpas y cae pêl droed presennol yn Cae Tan Parc, Coedwig Street, Llannerch-y-medd
Roedd y cais yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion oherwydd bod y safle ar dir y Cyngor.
Cynigiodd y Cynghorydd T. V. Hughes bod y cais yn cael ei ganiatáu ac eiliwyd hynny gan y Cynghorydd Nicola Roberts.
PENDERFYNWYD caniatáu’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog a gyda’r amodau oedd wedi’u rhestru yn yr adroddiad ysgrifenedig.
12.2 33C295B - Cais llawn i godi annedd newydd ynghyd ag addasu'r fynedfa bresennol ar dir ger 4 Nant-y-Gors, Pentre Berw
Roedd y cais yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais Cadeirydd y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.
Cynigiodd y Cynghorydd T. V. Hughes fel Aelod Lleol y dylid ymweld â’r safle fel y gallai’r Pwyllgor weld y fynedfa i’r safle. Eiliodd y Cynghorydd R. O. Jones y cynnig.
PENDERFYNWYD ymweld â safle’r cais yn unol â chais gan Aelod Lleol.
12.3 33C306 – Cais llawn i godi adeilad ysgol meithrinfa/cylch/clwb ar dir yn Ysgol Esceifiog, Gaerwen, Lôn Groes, Gaerwen
(Datganodd y Cynghorwyr T. Victor Hughes ac W. T. Hughes ddiddordeb a gadawsant y cyfarfod yn ystod y drafodaeth a’r bleidlais ar y mater). Aeth yr Is-Gadeirydd i’r Gadair ar gyfer yr eitem hon.
Roedd y cais yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion oherwydd bod y safle ar dir ym mherchnogaeth y Cyngor. Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio nad oes unrhyw wrthwynebiad i’r defnydd o’r tir gyda’r cais hwn ond ers paratoi’r adroddiad, mae’r Awdurdod Priffyrdd wedi gofyn am fwy o wybodaeth yng nghyswllt y cynnydd yn lefel y traffig i’r safle. Awgrymodd y gallai’r Pwyllgor roi hawl i weithredu i’r swyddogion i drafod pryderon yr Awdurdod Priffyrdd.
Cynigiodd y Cynghorydd Lewis Davies bod y cais yn cael ei ganiatáu gan roi hawl i weithredu i’r Swyddogion i drafod pethau ymhellach gyda’r Awdurdod Priffyrdd. Eiliodd y Cynghorydd Nicola Roberts y cynnig.
PENDERFYNWYD caniatáu’r cais a rhoi hawl i weithredu i’r Swyddog yn dilyn ymgynghori gyda’r Awdurdod Priffyrdd ynglŷn â lefel y traffig a fyddai’n mynd i mewn i’r safle.
12.4 34LPA1006A/CC – Cais llawn ar gyfer altro ac ehangu, dymchwel y modurdy presennol, codi modurdy newydd ynghyd â gwaith tirlunio yn Fflatiau Glan Cefni, Llangefni
Roedd y cais yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion oherwydd bod y safle ar dir y Cyngor.
Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio bod yr Awdurdod Priffyrdd wedi gofyn am i Gynllun Rheoli Traffig gael ei atodi i’r cais.
Cynigiodd y Cynghorydd Nicola Roberts bod y cais yn cael ei gymeradwyo ac eiliodd y Cynghorydd Vaughan Hughes y cynnig hwnnw.
PENDERFYNWYD caniatáu’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog a chyda’r amodau oedd wedi eu rhestru yn yr adroddiad ysgrifenedig.
12.5 45C452 – Cais amlinellol ar gyfer codi annedd yn cynnwys manylion llawn am y fynedfa ar dir ger Stad Berllan, Llangaffo
Roedd y cais yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais y Cynghorydd Ann Griffith, Aelod Lleol.
Gofynnodd y Cynghorydd Ann Griffith i’r Pwyllgor ymweld â’r safle fel y gallai weld sut yr oedd y safle yn cydymffurfio â Pholisi 50 a chyn lleied oedd yr effaith y byddai’n ei gael ar y pentref.
PENDERFYNWYD ymweld â’r safle yn unol â chais yr Aelod Lleol ac am y rhesymau a roddwyd.
Dogfennau ategol: