13.1 37LPA857A/CC – Fodol, Llanedwen
13.2 Rhybudd Trwsio a Phryniant Gorfodol – Hen Neuadd y Farchnad, Stryd Stanley, Caergybi
Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd mewn perthynas â’r uchod.
13.3 Gorchymyn Rheoli Traffig (Amryfal Leoliadau yn Llangefni) 2015 Cyngor Sir Ynys Môn
Cyflwyno adroddiad gan y Prif Beiriannydd mewn perthynas â’r uchod.
Cofnodion:
13.1 37LPA857A/CC - Cais i benderfynu a oes angen caniatâd ymlaen llaw ar gyfer codi sied amaethyddol ar gyfer storio bwyd anifeiliaid, gwair a pheiriannau ar dir yn Fodol, Llanedwen
Dywedodd y Swyddog Datblygu Cynllunio iddo gael ei benderfynu nad oedd angen caniatâd blaenorol yr Awdurdod Cynllunio Lleol ar gyfer y datblygiad uchod a’i fod yn cyfateb i ddatblygiad a ganiateir.
PENDERFYNWYD nodi’r adroddiad er gwybodaeth.
13.2 Rhybudd Trwsio a Phryniant Gorfodol – Hen Neuadd y Farchnad, Stryd Stanley, Caergybi
Cyflwynwyd – adroddiad gan y Rheolwr Prosiect (Cynllun Treftadaeth Caergybi) mewn perthynas â’r uchod.
Dywedodd y Rheolwr Prosiect (Treftadaeth Caergybi) bod adeilad Neuadd y Farchnad wedi dirywio o ran ei gyflwr ers 2001, fel y cafodd ei fonitro gan arolwg cenedlaethol CADW o adeiladau mewn risg. Bu’r adeilad yn rhannol wag ers 1999 ac yn hollol wag ers 2005, roedd ei gyflwr yn dirywio’n barhaol a heb gymryd camau mae tebygrwydd y bydd yn dymchwel a hynny’n arwain at golled o ran arwyddocâd a chymeriad yr adeilad. Nodwyd y bydd y costau sy’n gysylltiedig â’r rhybudd atgyweirio a gorchymyn pryniant gorfodol yn cael ei dalu trwy gyllid Menter Treftadaeth Treflun/Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid.
Dywedodd y Cynghorydd Jeff Evans bod Neuadd y Farchnad yn adeilad allweddol yng Nghaergybi ac y gadawyd iddo waethygu a’i fod bellach mewn cyflwr peryglus. Roedd yn hollol gefnogol i’r Swyddogion yng nghyswllt y rhybudd atgyweirio a rhybudd pryniant gorfodol wedi hynny i’r perchnogion.
Holodd y Cynghorydd Nicola Roberts pwy fydd yn gorfod cynnal a chadw Neuadd y Farchnad yn y dyfodol gan god y Cyngor eisoes yn gwerthu asedau Dywedodd y Rheolwr Prosiect mai mater i’r Pwyllgor Gwaith fyddai penderfynu hynny ond mae cynllun cynnal a chadw 25 mlynedd wedi ei gynnwys o fewn cynigion busnes y cynllun ac wedi’u costio’n llawn.
Dywedodd y Cynghorydd T. Ll. Hughes, Aelod Lleol bod Caergybi wedi derbyn grant LlLlLlA o £7m i adfywio’r dref. Os gadewir i Neuadd y Farchnad ddirywio ymhellach mae’n debygol y bydd yn beryglus i’r cyhoedd. Roedd y mater wedi codi eisoes yn y dref ac roedd hen Fwyty’r Crown wedi ei gymryd drosodd gan Fenter Treftadaeth Treflun Caergybi oherwydd ei gyflwr gwael.
Dywedodd y Cynghorydd Nicola Roberts y byddai’n atal ei phleidlais ar yr eitem hon.
PENDERFYNWYD:-
· Rhoi’r awdurdod, yn unol ag adran dan 3.4.3.8 y Cyfansoddiad, i’r Pennaeth Gwasanaethau Amgylcheddol a Thechnegol ar gyfarwyddyd y Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd i brynu’r hen Neuadd y Farchnad (yn amodol ar Weithdrefnau Rheoli Asedau’r Cyngor) gan y perchennog presennol drwy negodi, fel adeilad rhestredig sydd angen ei atgyweirio dan Adran 52 Deddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990.
· Rhoi’r awdurdod, yn unol ag adran 3.4.3.8 y Cyfansoddiad, i’r Rheolwr Gwasanaethau Cyfreithiol ar gyfarwyddiadau’r Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd, i gyflwyno Rhybudd Atgyweirio, dan Adran 48 Deddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990 ar gyfer cadwraeth briodol hen Neuadd y Farchnad, Caergybi, sef Adeilad Rhestredig Graddfa II.
· Oni fydd camau rhesymol i fynd i’r afael â'r gwaith yn y Rhybudd Atgyweirio yn cael eu cymryd o fewn y cyfnod statudol lleiaf o 2 fis, yna, dan adran 3.4.3.9 y Cyfansoddiad, rhoi’r awdurdod i’r Rheolwr Gwasanaethau Cyfreithiol, ar gyfarwyddiadau’r Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd, i gymryd y camau gweithredu angenrheidiol ar gyfer Gorchymyn Pryniant Gorfodol dan Adran 47 Deddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990, i sicrhau rhydd-ddeiliadaeth yr hen Neuadd y Farchnad.
· Nodi na fydd unrhyw gamau pellach yn cael eu cymryd ynghylch unrhyw ddiddordeb parhaol gan y Cyngor yn yr adeilad heb ganiatâd y Pwyllgor Gwaith.
13.3 Gorchymyn Rheoli Traffig (Amryfal Leoliadau yn Llangefni) 2015 Cyngor Sir Ynys Môn
Cyflwynwyd – adroddiad gan y Prif Beiriannydd mewn perthynas â’r uchod.
Dywedodd y Technegydd Priffyrdd bod y Gorchymyn arfaethedig wedi’i baratoi mewn ymateb i sylwadau a dderbyniwyd am gyfyngiadau parcio er lles diogelwch y ffordd ac i fynd i’r afael â materion rheoli traffig eraill yn Llangefni.
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cynnig yn unol â’r Gorchymyn a’r cynlluniau a oedd wedi eu hysbysebu.
Dogfennau ategol: