Eitem Rhaglen

Ymgynghoriad ar y Papur Gwyn

Derbyn adroddiad gan y Swyddog Monitro ar y Papur Gwyn a’r adolygiad o bwerau’r Ombwdsmon er mwyn cael sylwadau’r Pwyllgor cyn ymateb i’r Ymgynghoriad.

(PAPUR ‘E’)

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad gan y Gyfreithwraig (Llywodraethu Corfforaethol) ar y Papur Gwyn a’r adolygiad o bwerau’r Ombwdsmon gan Bwyllgor Cyllid LlCC er mwyn cael sylwadau’r Pwyllgor cyn ymateb i’r ymgynghoriadau.

 

Dywedodd y Gyfreithwraig (Llywodraethu Corfforaethol) y bydd Deddf Llywodraeth Leol Cymru (Democratiaeth) 2013, sydd wedi dod i rym, yn cael ei gweithredu cam wrth gam. Bydd nifer o newidiadau’n cael eu cyflwyno’n o fuan, gan gynnwys cyhoeddi cofrestrau diddordeb ar ffurf electronig; grym i drosglwyddo adroddiadau ynghylch camymddwyn a cheisiadau gan aelodau am ganiatâd arbennig rhwng Pwyllgorau Safonau a grym ar gyfer cydweithio mewn Pwyllgorau Safonau rhanbarthol a fydd yn dod i rym yn ddiweddarach eleni. Hefyd eleni, bydd deddfwriaeth yn cael ei chyflwyno i addasu’r model o’r Côd Ymddygiad ar gyfer Aelodau Awdurdodau Lleol i hwyluso gweithrediad polisïau ar gyfer datrys anghydfodau’n lleol ac i egluro sefyllfa Aelodau Lleol (10.2(B) y Côd Ymddygiad) gyda diddordebau etholaethol.  Bydd Awdurdodau Lleol yn cael eu heithrio rhag cyhoeddi adroddiadau ynghylch camymddygiad pan fydd achosion yn mynd rhagddynt.

 

Ar y pwynt hwn, gofynnwyd i’r Pwyllgor Safonau ddarparu ymateb i’r isod:

 

A ddylai fod grym newydd ai peidio i’r Pwyllgor Safonau ystyried achosion lle mae pryderon difrifol bod aelodau etholedig yn methu â chyflawni eu dyletswyddau’n foddhaol. Ymddengys mai rôl newydd ar gyfer rheoli perfformiad yw hon yn hytrach nag achosion yn ymwneud â’r Côd Ymddygiad. Byddai Llywodraeth Cymru yn darparu cosbau y gellid eu gorfodi. Byddai angen gwarchod yn erbyn cwynion blinderus.

 

Cyfeiriodd y Swyddog Monitro at y Papur Gwyn a chododd y mater ynghylch a fyddai’r Pwyllgor Safonau’n dymuno cael rôl yn y broses o reoli perfformiad Aelodau ac a oes angen sbardun ar gyfer yr ymyrraeth honno? Awgrymodd y byddai angen i gŵyn fod yn angenrheidiol ac yn drothwy, neu fel arall, mae’r Pwyllgor Safonau mewn perygl o gael ei alw’n wleidyddol ragfarnllyd. Mae cwyn ysgrifenedig yn rhywbeth i weithredu arni ond mae angen arweiniad mewn perthynas â disgwyliadau’r Aelodau.

 

Sut dylid ymdrin ag apeliadau? Cyn 2001, roedd modd cyflwyno apeliadau yn erbyn holl benderfyniadau’r Pwyllgor Safonau i’r Cyngor llawn. A yw hyn yn bosibl gyda chwynion ynghylchperfformiad”? Roedd Aelodau’r Pwyllgor yn ffafrio’r Panel Dyfarnu fel yr opsiwn gwell.

 

Cododd yr Aelodau’r materion isod:

 

  Roedd angen canllawiau cadarn ar gyfer y Pwyllgor Safonau;

  Dylid codi mater diffyg presenoldeb mewn cyfarfodydd gydag Arweinwyr y Grwpiau yn y lle cyntaf;

  Cosbaumewn perthynas â pherfformiad/presenoldeb mewn cyfarfodydd;

  Dylai cynnal is-etholiad fod yn gosb mewn achosion eithafol.

 

Dywedodd y Gyfreithwraig (Llywodraethu Corfforaethol) fod yr Ombwdsmon eisiau cyflwyno grym newydd a fyddai’n sicrhau fod Arweinwyr Cynghorau, Arweinyddion Grŵp a Phrif Weithredwyr Awdurdodau Lleol yn parchu amrywiaeth. Byddai gan Swyddogion Monitro a Phwyllgorau Safonau swyddogaethau gorfodaeth. Nid oes gan y Pwyllgor Safonau wrthwynebiad i hyn mewn egwyddor.

 

PENDERFYNWYD nodi’r adroddiad.

 

Gweithredu: Bod y Pwyllgor Safonau yn ymateb i'r ymgynghoriad ar y Papur Gwyn ac Adroddiad yr Ombwdsmon; gyda’r geiriad i’w gymeradwyo gan y Cadeirydd.

Dogfennau ategol: