Eitem Rhaglen

Bil Lleisiant Cenedlaethau'r Dyfodol a Blaenoriaethau Allweddol Bwrdd Gwasanaethau Lleol Gwynedd a Môn

Cyflwyno adroddiad gan yr Uwch Reolwr Partneriaethau Gwynedd a Môn mewn perthynas â’r uchod.

Cofnodion:

Cyflwynwyd - adroddiad gan yr Uwch Reolydd Partneriaeth (Gwynedd ac Ynys Môn) mewn perthynas â’r uchod.

 

Rhoddodd yr Uwch Reolydd Partneriaethau gyflwyniad i’r Pwyllgor ar oblygiadau Mesur Lles Cenedlaethau’r Dyfodol a’r blaenoriaethau allweddol sy’n dod i’r amlwg ar gyfer Bwrdd Gwasanaethau Lleol Gwynedd ac Ynys Môn. Dywedodd mai amcan allweddol y Mesur oedd i gyrff cyhoeddus wella lles economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol Cymru a hynny’n unol ag egwyddorion datblygu cynaliadwy.

 

Roedd y Mesur yn nodi ‘6 o dargedau lles’:-

 

Cymru ffyniannus (yr economi)

Cymru wydn (yr amgylchedd)

Cymru iachach

Cymru fwy cyfartal

Cymru o gymunedau cydlynol

Cymru gyda diwylliant bywiog ac iaith Gymraeg sy’n ffynnu.

 

Byddai disgwyl i bob corff cyhoeddus osod a chyhoeddi amcanion lles gyda’r nod o sicrhau cyfraniad tuag at wireddu’r targedau hyn a chyhoeddi adroddiad blynyddol ar gyflawniadau.

 

Dywedodd yr Uwch Reolydd Partneriaethau y byddai’r Bwrdd Gwasanaethau Lleol yn dod yn Fwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus statudol gyda thair lefel i’w aelodaeth h.y. Aelodau Statudol, Cyfranogwyr wedi’u Gwahodd a Phartneriaid Eraill. Ni fyddai pob un o’r partneriaid felly yn gyfartal yn y dyfodol a mater i’r Aelodau Statudol fyddai cyfrifoldebau statudol y mesur.

 

Byddai cyfrifoldeb hefyd i baratoi Cynllun Llesiant, i ddisodli’r Cynllun Integredig Sengl, gyda’r amserlen yn cyd-fynd ag amserlen etholiadau llywodraeth leol.

 

Byddai disgwyl i Fyrddau Gwasanaethau Cyhoeddus gael cyngor gan y

Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol yng Nghymru ac anfon copi i Weinidogion, yr Archwilydd Cyffredinol a’r Pwyllgorau Sgriwtini lleol. Rhagwelwyd y byddai proses sgriwtini’r Cynulliad Cenedlaethol oedd yn gysylltiedig â chyflwyno’r mesur yn parhau dros yr wythnosau nesaf gyda golwg ar dderbyn Caniatâd Brenhinol erbyn Ebrill 2015. Rhagwelwyd y byddai’r holl gyrff cyhoeddus yn ddarostyngedig i ddyletswyddau Mesur Lles Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) o Ebrill 2016 er nad oedd manylion y cerrig milltir a oedd yn gysylltiedig â’r dyletswyddau yn y Ddeddf arfaethedig wedi eu cwblhau hyd yma.

 

Adroddodd yr Uwch Reolydd Partneriaeth ymhellach mai un o’r tasgau allweddol dros yr ychydig fisoedd diwethaf fu cefnogi’r Bwrdd i gytuno ar nifer fechan o flaenoriaethau allweddol i’w darparu dros yr ychydig flynyddoedd nesaf. Roedd y Bwrdd Gwasanaethau Lleol yn ei gyfarfod ar 28 Tachwedd 2014 wedi cadarnhau’r blaenoriaethau allweddol oedd wedi’u nodi yn yr adroddiad.

Mewn cyfarfod o’r Pwyllgor Gwaith Anffurfiol ar 26 Ionawr 2015, ystyriwyd goblygiadau Mesur Lles Cenedlaethau’r Dyfodol. Roedd yr argymhellion wedi’u nodi yn yr adroddiad.

 

Materion a godwyd gan yr Aelodau :-

 

Byddai gweithredu’r Mesur yn her ariannol i awdurdodau lleol yn ystod y dirwasgiad economaidd;

Roedd goblygiadau’r Mesur yn rhai pellgyrhaeddol ac yn cynnwys ystod eang o ddyletswyddau’r Cyngor ac roedd angen i Awdurdodau Lleol gadw i fyny â’r datblygiadau yng nghyswllt y mater hwn.

 

PENDERFYNWYD :-

 

Nodi penderfyniad y Pwyllgor Gwaith Anffurfiol yn ei gyfarfod ar 26 Ionawr 2015 i oedi gyda symud ymlaen gyda gweithredu gofynion datblygu cynaliadwy Mesur Lles Cenedlaethau’r Dyfodol er mwyn dysgu o brofiadau rhai eraill (sy’n cymryd rhan yn y cynllun peilot ar gyfer mabwysiadwyr cynnar);

 

Cadarnhau’rangen i barhau i godi ymwybyddiaeth fel rhan o baratoad y Cyngor ar gyfer y ddeddfwriaeth newydd;

 

Nodi anghenion y Mesur ar ddatblygu cynaliadwy ac yn arbennig rôl sgriwtineiddwyr yn y dyfodol;

 

Nodi’r cynnydd a wnaed hyd yma ar ffrwd waith blaenoriaethau allweddol y Bwrdd Gwasanaethau Lleol.

 

CAMAU GWEITHREDU : Adroddiadau diweddaru i’w cyflwyno i gyfarfodydd o’r Pwyllgor Sgriwtini hwn yn y dyfodol ar y Bwrdd Gwasanaethau Lleol. Diweddariadau ar y Mesur Lles Cenedlaethau’r Dyfodol i’w darparu drwy sesiynau briffio misol wedi eu trefnu ar gyfer Aelodau Etholedig.

Dogfennau ategol: