Eitem Rhaglen

Monitro'r Gyllideb - Y Gyllideb Refeniw Chwarter 3 2014/15

Cyflwyno adroddiad monitro’r  Gyllideb Refeniw am Chwarter 3 2014/15.

(Adroddiad i gyfarfod 16 Chwefror, 2015 y Pwyllgor Gwaith)

Cofnodion:

Cyflwynwyd i ystyriaeth y Pwyllgor adroddiad y Pennaeth Adnoddau a Swyddog Adran 151 Dros Dro mewn perthynas â sefyllfa’r Gyllideb Refeniw ar ddiwedd Chwarter 3 2014/15.

 

Cynigiodd y Cadeirydd, a chytunwyd, bod yr eitem hon a’r ddwy eitem oedd i ddilyn ar y rhaglen h.y. Eitem 4 - Monitro’r Gyllideb - Cyllideb Gyfalaf Chwarter 3 2014/15, ac Eitem 5 - Rheoli Perfformiad - Cerdyn Sgorio Corfforaethol Chwarter 3 2014/15 yn cael eu hystyried ar y cyd fel cyfres o ddata perfformiad ar gyfer Chwarter 3 2014/15.

 

Nododd y Pwyllgor bod y tri adroddiad wedi’u cyflwyno a’u hystyried gan y Pwyllgor Gwaith yn ei gyfarfod ar 16 Chwefror ac roedd y Pwyllgor yn teimlo bod hynny’n anorfod wedi mynd â’r min oddi ar unrhyw faterion y byddai’n dymuno eu hamlygu neu sylwadau y byddai’n dymuno eu gwneud gan y byddai’n rhy hwyr.  Ceisiodd y Pwyllgor sefydlu pam yr oedd y drefn o adrodd yn ôl wedi torri i lawr yn Chwarter 3 o ran peri bod y wybodaeth angenrheidiol ar gael i’r Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol ar yr amser iawn fel y gallai roi mewnbwn cyn cyflwyno’r wybodaeth i’r Pwyllgor Gwaith.

 

Awgrymodd y Pennaeth Adnoddau a Swyddog Adran 151 Dros Dro bod y canolbwyntio ymdrechion a fu i geisio cwblhau cyllideb statudol 2015/16 wedi bod yn ffactor yn oedi cyflwyno’r data perfformiad Chwarter 3 i gyfarfod 10ed Chwefror o’r Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol.  Rhoddodd sicrwydd y byddai’r Gwasanaeth Cyllid yn gwneud ei orau i gynhyrchu adroddiadau yn unol â gofynion y Pwyllgor a dywedodd hefyd bod ystyriaeth wedi ei rhoi i newid y patrwm o adroddiadau misol ar y gyllideb fel y ceir llif mwy aml o wybodaeth gyllidebol pan fydd y system ar ei thraed. 

 

Dywedodd y Rheolwr Sgriwtini bod y drefn adrodd wedi’i chytuno ar ddechrau’r flwyddyn ddinesig ac wedi’i hymgorffori yn rhaglen waith y Pwyllgor ym Mai 2014.  Fodd bynnag, yn ystod cyfnod Chwarter 3, roedd swm sylweddol o waith paratoadol ychwanegol ar gyfer yr Asesiad Corfforaethol wedi ei wneud gan y Rheolwr Cynllunio Rhaglen a Busnes ac roedd llithriad gyda chyflwyno adroddiadau i’r Uwch Dîm Arweinyddiaeth gyda hynny’n golygu bod yr adroddiadau hynny wedyn wedi colli’r dyddiad cyhoeddi rhaglen ar gyfer cyfarfod 10ed Chwefror o’r Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol.

 

Nododd y Pwyllgor yr esboniadau a roddwyd fel rheswm dros fethu’r dyddiadau cau ar gyfer ei gyfarfod ar 10ed Chwefror ac fe wnaed y pwyntiau a ganlyn

 

  O ystyried bod y drefn o adrodd yn ôl ar berfformiad wedi’i sefydlu a’i chytuno a’i bod yn wybyddus a’i bod wedi ei dogfennu a’i hatgyfnerthu drwy Flaenraglen waith y Pwyllgor, roedd y Pwyllgor yn siomedig nad oedd y data perfformiad cynlluniedig ar gael ar gyfer ei gyfarfod mis Chwefror.

  Yn ogystal â dal y Pwyllgor Gwaith i gyfrif am benderfyniadau a wnaed, roedd cyfrifoldebau sgriwtini hefyd yn golygu cyfrannu’n rhagweithiol i faterion cyn iddynt gael eu hystyried / cwblhau gan y Pwyllgor Gwaith, ac er mwyn gallu gwneud hyn yn effeithiol, rhaid i’r Cyngor dderbyn y wybodaeth mewn da bryd.

  Gan gyfeirio’n benodol at argymhelliad 1.1.3 yr Adroddiad Cerdyn Sgorio Monitro, ceisiodd y Pwyllgor gael eglurhad o rôl yr UDA o safbwynt monitro ariannol y gyllideb 2014/15 mewn perthynas â gwaith Panel Canlyniad Sgriwtini Arbedion Cyllidebol.  Eglurodd y Pennaeth Adnoddau a Swyddog Adran 151 Dros Dro - lle y ceir anghydbwyseddau ariannol, bydd y rhain yn cael eu hadrodd i’r UDA yn y lle cyntaf - gofynnodd y Pwyllgor Gwaith i’r UDA ym mis Tachwedd 2014 lunio cynigion i ddod â chyllideb 2014/15 yn ôl i drefn - a bydd yn parhau â’i sgriwtini rheolaidd o gyllideb 2014/15 er mwyn nodi unrhyw batrymau a phryderon.  Bu’r Panel Canlyniad Sgriwtini Arbedion Cyllidebol yn canolbwyntio ar allu darparu’r arbedion a nodwyd ar gyfer 2014/15 gan nodi ei fod yn dymuno ailadrodd yr ymarfer yn 2015/16 ac, er bod y gyfres o arbedion a nodwyd ar gyfer 2015/26 yn fwy cadarn, bydd unrhyw awgrymiadau y gall y Panel Sgriwtini eu gwneud yng nghyswllt y broses honno yn cael eu hanfon ymlaen i’r UDA a thrwy hynny gadarnhau'r cyswllt rhwng y ddau.

 

Penderfynwyd nodi cynnwys y tri Adroddiad Monitro Perfformiad am

Chwarter 3.

 

CAMAU GWEITHREDU’N CODI: Y Rheolwr Sgriwtini i gysylltu â’r Gwasanaeth Cyllid a’r Rheolwr Cynllunio Rhaglen a Busnes i sicrhau bod data Perfformiad/Cyllideb Chwarter 4 ar gael mewn da bryd ar gyfer y Cyfarfod o’r Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol ar 11 Mai.

Dogfennau ategol: