Eitem Rhaglen

Cofnodion y Cyfarfodydd

Cadarnhau cofnodion y cyfarfodydd fel â ganlyn :-

 

·           Cofnodion y Pwyllgor Safonau a gafwyd ar 16 Medi, 2015.

·           Cofnodion y Panel Goddefebau a gafwyd ar 24 Medi, 2015.

·           Cofnodion y Pwyllgor Safonau a gafwyd ar 19 Chwefror, 2016.

Cofnodion:

 

 Cadarnhawyd cofnodion y cyfarfodydd canlynol fel rhai cywir:-

 

   Cofnodion y Pwyllgor Safonau a gynhaliwyd ar 16 Medi, 2015.

 

YN CODI O’R COFNODION

 

  Eitem 3 – Adolygiad o'r Rheolau Gweithdrefn Cynllunio – Rhan 4.6 y Cyfansoddiad

 

Cyfeiriodd y Swyddog Monitro at y penderfyniad gan y Pwyllgor Safonau i beidio â chymryd unrhyw gamau hyd nes y bydd drafft o’r Rheolau Gweithdrefn Cynllunio Cenedlaethol ar gael. Mae'r rhain yn destun ymgynghoriad tan fis Mai.

 

CYTUNWYD y bydd y Swyddog Monitro yn cylchredeg y drafft i Aelodau'r Pwyllgor a fydd yn cyflwyno eu sylwadau arnynt i'r Swyddog Monitro yn ystod y cyfnod ymgynghori. (cyflwynwyd ar 15/3/2016)

 

  Eitem 4 – Canllawiau Diwygiedig ar y Côd Ymddygiad ar gyfer Cynghorwyr Sir a  Chynghorwyr Cymuned

 

Roedd y Swyddog Monitro wedi ysgrifennu at y Cynghorau Cymuned ar 23 Medi, 2015 gan amgáu copi o'r Canllawiau Diwygiedig ynglŷn â'r Côd Ymddygiad a dolen i'r canllawiau ar wefan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru.

 

  Eitem 5 – Deddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013 a Gorchymyn Deddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013 (Gorchymyn Cychwyn Rhif 2) 2015

 

Dywedodd y Swyddog Monitro y bydd y mater hwn yn cael ei drafod o dan eitem 4 – Adolygiad o Dair Cofrestr Diddordeb yr Aelodau.

 

  Eitem 6 – Ffeithlenni a gyhoeddwyd gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus CymruYmchwiliadau a ChyfweliadauCôd Ymddygiad ar gyfer Aelodau

 

Dywedodd y Swyddog Monitro fod y ffeithlenni uchod wedi cael eu hanfon ymlaen at y Cynghorau Cymuned ar 23 Medi, 2015.

 

  Eitem7 – Canllawiau Lleol Drafft ar y Côd Ymddygiad i Swyddogion

 

Dywedodd y Swyddog Monitro fod y Pwyllgor Safonau yn cefnogi'r Canllawiau Lleol Drafft ar y Côd Ymddygiad i Swyddogion a’i fod yn argymell eu cymeradwyo er mwyn ymgynghori. Codwyd materion yn ystod y broses ymgynghori mewn perthynas â rheolwyr yn prynu busnesau ac roedd diwygiadau sylweddol wedi'u gwneud i’r ddogfennaeth. Ymgynghorwyd ymhellach felly ar y ddogfen a rhagwelir y bydd y Canllawiau Lleol Drafft yn cael eu cyhoeddi cyn bo hir. (Cyhoeddwyd 14/3/2016)

 

  Cofnodion y Panel Caniatâd Arbennig a gynhaliwyd ar 24 Medi, 2015.

 

YN CODI O’R COFNODION

 

Dywedodd yr Is-gadeirydd ei fod ef a rhai Aelodau o'r Pwyllgor Safonau wedi mynychu Panel Caniatâd Arbennig yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Conwy. Dywedodd ei fod o’r farn y dylid trefnu sesiwn hyfforddi ar gyfer y Pwyllgor Safonau ar Ganiatadau Arbennig a Gweithdrefnau.

 

PENDERFYNWYD bod y Swyddog Monitro yn trefnu sesiwn hyfforddi ar gyfer Aelodau'r Pwyllgor Safonau ar Ganiatadau Arbennig.

 

GWEITHREDU: Fel y nodir uchod.

 

Cofnodion y Pwyllgor Safonau a gynhaliwyd ar 19 Chwefror, 2016.

Mynegodd Aelodau'r Pwyllgor bryder fod "penderfyniad" y Pwyllgor Safonau ynghylch atal y Cynghorydd Peter Rogers i’w weld ar wefan y Daily Post bron i awr cyn cychwyn y cyfarfod ar 19 Chwefror, 2016. Dywedodd y Swyddog Monitro ei bod wedi cysylltu â'r Daily Post yn gofyn iddynt dynnu’r stori oddi ar y wefan.

 

PENDERFYNWYD bod y Swyddog Monitro yn ysgrifennu at y Daily Post ar ran y Pwyllgor Safonau yn mynegi pryder mewn perthynas â'r mater hwn ac yn gofyn am eglurhad / unioni’r mater.

 

GWEITHREDU : Fel y nodir uchod.

Dogfennau ategol: