Eitem Rhaglen

Ceisiadau a fydd yn cael eu gohirio

6.1 34C553A – Ty’n Coed, Llangefni

 

6.2 41C8C – Garnedd Ddu, Star

 

6.3 46C427K/TR/EIA/ECON – Parc Arfordirol Penrhos, Cae Glas a Kingsland, Caergybi

Cofnodion:

6.1   34C553A – Cais amlinellol ar gyfer datblygiad trigiannol yn cynnwys cyfleuster gofal ychwanegol, priffordd a rhwydwaith cysylltiol yn Ty’n Coed, Llangefni

 

Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio bod y cais hwn wedi bod gerbron y Pwyllgor Cynllunio yn wreiddiol yn Nhachwedd, 2008 oherwydd iddo gael ei hysbysebu fel cais oedd yn tynnu’n groes i’r cynllun datblygu, ac roedd rhan o’r cynigion a gyflwynwyd yn cael eu hargymell i’w caniatáu.   Oherwydd natur a chyd-destun y datblygiad byddai’n ddefnyddiol i’r aelodau fod wedi gweld y safle cyn dod i benderfyniad.

 

Penderfynwyd gohirio ystyried y cais er mwyn cynnal ymweliad  safle yn unol ag argymhelliad y Swyddogion.

 

6.2   41C8C – Cais llawn ar gyfer newid defnydd y tir er mwyn lleoli 33 o garafannau symudol, codi bloc toiled, creu mynedfa i gerbydau ynghyd â thirlunio yn Garnedd Ddu, Star

 

Rhoddodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio crynodeb a chefndir i’r cais a dywedodd bod ymweliad safle wedi ei gynnal gan Aelodau’r Pwyllgor ar 19 Mehefin, 2013.  Cyflwynwyd gwybodaeth i gefnogi’r cais a gohiriwyd penderfyniad er mwyn caniatáu i’r cyfnod rhybuddio cymdogion ddod i ben a rhoi cyfle i ystyried sylwadau ac atebion ymgynghori oedd yn codi o’r wybodaeth ychwanegol hon. Er hynny mae materion draenio yn parhau dan drafodaeth ac argymhellir felly bod y cais yn cael ei ohirio. 

 

Penderfynwyd gohirio ystyried y cais yn unol ag argymhelliad y Swyddogion am y rheswm a nodir.

 

6.3   46C427K/TR/EIA/ECON – Cais Cynllunio hybrid sy’n cynnig :

 

Cais Amlinellol gyda’r holl faterion wedi eu cadw’n ôl ac eithrio dull mynediad ar gyfer :

 

Pentref Hamdden ym Mharc Arfordirol Penrhos, Ffordd Llundain, Caergybi yn cynnwys hyd at 500 o unedau hamdden newydd gan gynnwys cabannau a bythynnod newydd; Adeilad canolbwynt canolog newydd gan gynnwys derbynfa, cyfleusterau hamdden gan gynnwys parc dŵr dan do, bowlio deg a neuadd chwaraeon dan do, caffis, bariau, bwytai a siopau; adnewyddu ac ymestyn adeiladau ar y stad ar gyfer Marchnad Ffermwyr; lle chwarae dan do i blant, Sba gyda gym a chyfleusterau newid, addasu adfeilion yr hen Dy Cychod yn fwyty wrth y traeth, Darparu a chynnal 29 hectar o ardaloedd cyhoeddus gyda maes parcio i'r cyhoedd a gwelliannau i'r llwybr arfordirol gan gynnwys: Rhodfeydd a reolir o fewn 15 hectar i goetir, cadw a gwella Pwll Grace, Pwll Lili, Pwll Sgowtiaid gyda llwyfannau gweld, y Fynwent Anifeiliaid Anwes, y Gofeb, y Tŷ Pwmp a maes picnic gyda gorsafoedd bwydo adar a chuddfannau gwylio adar, gydag arwyddion dehongli addysgiadol a dwyieithog trwy'r cyfan; Creu trywydd cerfluniau newydd trwy goetir a llwybrau pren a gwell cysylltiad gyda Llwybr yr Arfordir; Bydd y traeth yn parhau i fod yn hygyrch i'r cyhoedd gan ddarparu mynediad diogel i'r dŵr bas; Canolfan Bŵer a Gwres gyfun.

 

Tir yn Cae Glas - Codi llety pentref hamdden sydd wedi eu dylunio i'w defnyddio yn y lle cyntaf fel llety dros dro i weithwyr adeiladu ar gyfer Wylfa B ar dir Cae Glas, Parc Cybi, Caergybi yn cynnwys: Hyd at 315 o gabanau i'w hisrannu yn y lle cyntaf fel llety ar gyfer 2000 o weithwyr adeiladu; Adeilad canolbwynt canolog gan gynnwys derbynfa a chantîn ar gyfer y llety; Cyfleuster Parcio a Theithio gyda hyd at 700 o lecynnau parcio ceir; Gwesty newydd; Adeilad canolbwynt wrth ochr llyn yn cynnwys bwyty, caffi, siopau a bar; Cae pêl-droed glaswellt newydd a chae criced; a Chanolfan Bŵer a Gwres Gyfun. I'w haddasu wedyn (ar ôl adeiladu Wylfa B) i fod yn estyniad ansawdd uchel i Bentref Hamdden Parc Arfordirol Penrhos gan gynnwys: cabanau ac adeiladau cyfleusterau wedi eu hadnewyddu i greu llety gwyliau o safon uchel (hyd at 315 o gabanau i deuluoedd); Canolfan Ymwelwyr a Gwarchodfa Natur sy'n caniatáu mynediad i'r cyhoedd dan reolaeth; a Canolfan Dreftadaeth gyda lle parcio i ymwelwyr.

 

Tir yn Kingsland – Codi datblygiad preswyl a ddyluniwyd i’w ddefnyddio yn y lle cyntaf fel llety i weithwyr adeiladu yn Kingsland, Ffordd Kingsland, Caergybi yn cynnwys : Hyd at 360 o dai newydd i’w defnyddio yn y lle cyntaf fel llety dros dro i weithwyr adeiladu. I’w haddasu wedyn (ar ôl adeiladu Wylfa B) i fod yn ddatblygiad preswyl a fyddai’n cynnwys : Hyd at 360 o anheddau mewn tirwedd o safon uchel a llecynnau agored.  Bydd datblygiadau atodol ar gyfer pob cam o’r gwaith datblygu, gan gynnwys darpariaethau ar gyfer parcio, ardaloedd gwasanaeth, llecynnau agored a pheiriannau/gwaith.

 

Manylion llawn ar gyfer newid defnydd yr adeiladau Stad gyfebol ym Mharc Arfordirol Penrhos, Ffordd Llundain, Caergybi gan gynnwys newid defnydd : Twr y Beili ac adeiladau allanol yn Fferm Penrhos o dy glwb cried i fod yn ganolfan wybodaeth i ymwelwyr, bwyty, caffi, bariau ac adwerthu; Ysgubor y Fferm ac Adeiladau Trol o fod yn adeiladau fferm i fod yn ganolfan ar gyfer hurio beiciau ac offer chwaraeon; Y Twr o ddefnydd preswyl i fod yn llety i reolwyr a swyddfa atodol; a Tŷ Beddmanarch o annedd i fod yn ganolfan i ymwelwyr ym Mharc Arfordirol Penrhos, Cae Glas a Kingsland, Caergybi.

 

Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio wrth Aelodau’r Pwyllgor y bydd adroddiad llawn ar y cais hwn yn cael ei gyflwyno i gyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ym mis Medi 2013.  Aeth yn ei flaen i ddweud bod yr Aelodau, yn ystod yr ymweliad safle ar 19 Mehefin wedi dweud y byddent yn hoffi cael sesiwn briffio arall ynglyn a’r cynigion ac argymhellir bod hynny yn cael ei gynnal ar yr un diwrnod a’r ymweliadau safle oedd wedi eu trefnu ar gyfer mis Awst.

 

Cadarnhaodd y Prif Swyddog Cynllunio mai pwrpas y sesiwn briffio fyddai rhoi cyfle i Aelodau ofyn cwestiynau ffeithiol am y cais ac i swyddogion roi gwybodaeth am y cyd-destun.

 

Penderfynwyd gohirio ystyried y cais ac i gynnal sesiwn briffio ar 21 Awst, 2013.

 

Dogfennau ategol: