Eitem Rhaglen

Ceisiadau’n Codi

7.1 20LPA962/CC – Fron Heulog, Cemaes

 

7.2 34LPA121Q/CC – Ysgol Gyfun Llangefni, Llangefni

 

7.3 42C321 – Y Sidings, Pentraeth

Cofnodion:

7.1   20LPA962/CC – Cais ôl weithredol ar gyfer y trac gafodd ei wneud yn ddiweddar ynghyd â gwelliannau i’r fynedfa bresennol ar dir gyferbyn a Fron Heulog, Cemaes

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor oherwydd mai Cyngor Sir Ynys Môn yw’r ymgeisydd a pherchennog y tir.

 

Datganodd y Cynghorydd W.T.Hughes ddiddordeb personol yn y cais hwn ond arhosodd yn y cyfarfod a rhoddodd wybodaeth gefndirol yn rhinwedd ei swydd fel Aelodau Lleol ond ni chymerodd unrhyw ran yn y pleidleisio ar y cais.  Aeth y Cynghorydd Ann Griffith fel Is-Gadeirydd i’r Gadair am yr eitem hon.

 

Dywedodd y Rheolwr Rheoli Datblygu wrth y Pwyllgor mai cais oedd hwn i altro a gwella mynedfa sydd yno’n barod i gerbydau amaethyddol ddod i’r A5025 a hefyd gadw trac cerrig sy’n rhoi mynedfa i beiriannau amaethyddol ac sydd wedi ei osod yn ôl o’r briffordd.  Roedd y prif ystyriaethau yn ymwneud â diogelwch y briffordd, ac roedd yr ymgeisydd wedi cyflwyno adroddiad oedd yn gwneud sylwadau ynglŷn â diogelwch y briffordd fel a oedd i’w weld yn yr adroddiad.  Roedd gwrthwynebiad wedi ei wneud i adroddiad yr ymgeisydd ac roedd gwrthwynebwyr y cais yn cwestiynu’r adroddiad, gyda’r sylwadau hynny i’w gweld yn yr adroddiad.  Roedd y gwrthwynebiadau wedi eu hanfon i Adain Priffyrdd y Cyngor.  Roedd Swyddog Priffyrdd y Cyngor wedi asesu cyflwyniad yr ymgeisydd a hefyd y materion oedd yn cael eu codi yn y gwrthwynebiadau ac roedd yn ystyried bod y cynnig yn dderbyniol.  Dylid nodi ygallai perchennog y tir ddefnyddio’r fynedfa bresennol heb wneud unrhyw welliannau iddo.  Argymhelliad y Swyddog oedd caniatáu.

 

Holodd y Cynghorydd John Griffith am y fynedfa ac a oedd penderfyniad wedi ei wneud ynglŷn â pha mor bell i’r dwyrain y byddai’n cael ei leoli i bwrpasau gwelededd. Dywedodd ei fod wedi gofyn yr un cwestiwn yn ystod yr ymweliad safle ond nid oedd wedi cael ateb pendant i ddweud a oedd y gwelededd o fewn y gofynion.

 

Dywedodd y Swyddog Rheoli Datblygu (Priffyrdd) bod y gwelededd o’r fynedfa yn wael iawn ar hyn o bryd i’r ddau gyfeiriad tua Chemaes ac Amlwch.  Bydd y newidiadau a fwriedir fel rhan o’r cais yn lledu ac yn gwella’r fynedfa ac yn ymestyn y gwelededd i gyfeiriad Cemaes hyd at 215m.  Ni fydd y fynedfa yn cynnig gwelededd cystal tuag at Amlwch ond bydd yn rhoi gwelededd da i gyfeiriad Cemaes i rai fydd yn dod trwy’r porth i’r briffordd ac wrth ddod allan ymhellach i edrych i gyfeiriad Amlwch.  Dywedodd y Swyddog bod y gwelededd yn ddifrifol wael i gyfeiriad Cemaes fel ag y mae pethau yn awr.  Ychwanegodd y Swyddog bod y gwelliannau’n cael eu cynnig fel rhan o’r cais a chan gofio y gallai’r porth gael ei ddefnyddio heb wneud unrhyw welliannau iddo, barn yr Adain Priffyrdd oedd ei bod yn werth derbyn y gwelliannau. 

 

Roedd y Cynghorydd John Griffith yn dymuno cael gwybod union faint y gwelededd i gyfeiriad Amlwch ac a oedd yr Adain Briffyrdd yn mynnu ar welededd o 160m. 

 

Cadarnhaodd y Swyddog Rheoli Datblygu (Priffyrdd) mai 50m yw’r gwelededd ar hyn o bryd ond yn ymestyn i 120 - 150m wrth ddod ymlaen i’r lon fawr.  Cadarnhaodd mai’r gwelededd fyddai ei angen yn y sefyllfa hon fyddai 160m.

 

Gofynnodd y Cynghorydd John Griffith a fyddai cais newydd tebyg i’r cais hwn yn cael ei ystyried yn un derbyniol.  Dywedodd y Swyddog Rheoli Datblygu (Priffyrdd) ei bod yn rhesymol i dderbyn y gwelliannau oedd yn cael eu cynnig.

 

Dywedodd y Cynghorydd Aled Morris Jones fel un o’r Aelodau Lleol ei fod yn diolch i’r Swyddog Priffyrdd am ei sylwadau ond ei fod ar yr un pryd yn bryderus iawn bod y Swyddog yn cydnabod bod angen dod allan i’r lon fawr i gael gwelededd i gyfeiriad Amlwch.  Dywedodd bod y fynedfa hon wedi ei chreu o’r newydd - roedd yna fynedfa i fynd i’r cae yn is i lawr y ffordd i gyfeiriad Cemaes a hwnnw yn saffach.  Yr enw a roddir i’r ardal hon yw “Conglau Betws” ac mae’n ddarn o lon gyflym iawn.  Roedd y Cynghorydd Jones yn cydnabod y farn broffesiynol ond dywedodd bod ganddo bryderon mawr am y mater hwn.  Dywedodd mai mater ydoedd o greu mynedfa newydd i’r lon fawr lle mae damweiniau yn digwydd ac a fydd o bosibl yn creu mwy o broblemau yn y dyfodol.  Nododd bod y tri Aelod Lleol wedi gofyn i’r Cyngor roi sylw i’r mater hwn.  Pwysleisiodd bod yr hen fynedfa yn is i lawr y ffordd - roedd y fynedfa hon yn un newydd er nad oedd wedi cael ei defnyddio am beth amser, efallai.  Ategodd ei bryderon ynglŷn â diogelwch y ffordd a swm y traffig ar y lon fawr.  Nid oedd y Cyngor wedi gweithredu ar y mater hwn ac eto roedd yn barod i ganiatáu mynedfa arall i’r lon fawr mewn lle sydd i bob pwrpas yn beryglus iawn.

 

Cadarnhaodd y Rheolwr Rheoli Datblygu bod yna fynedfa ar hyn o bryd ar y safle ac y gellir ei defnyddio heb unrhyw rwystr a heb unrhyw reolaeth a bod y Swyddog Priffyrdd wedi dweud bod y cais yn cynnig gwelliannau fyddai’n gwella diogelwch y ffordd.

 

Yn dilyn trafodaeth am leoliad y fynedfa dangosodd y Rheolwr Rheoli Datblygu osodiad yr ardal ar y map.  Gofynnodd y Cynghorydd Victor Hughes a fyddai’n bosibl ail-leoli’r safle i gyfeiriad Cemaes er mwyn cael gwelededd o 160m.  Eglurodd y Swyddog Rheoli Datblygu (Priffyrdd) bod y gwelededd i fyny’r lon fawr yn gwaethygu wrth leoli’r fynedfa yn is i lawr.  Cyfeiriodd at y map o’r safle a’i osodiad. 

 

Dywedodd y Cynghorydd W.T.Hughes bod yr ardal lle mae’r fynedfa yn cael ei chyfrif yn ardal beryglus a bod yna bryderon ynglŷn â damweiniau posibl.  Cadarnhaodd bod y tri Aelod Lleol wedi bod yn gofyn i’r Cyngor wneud rhywbeth i wella’r briffordd yn y fan hon er mwyn diogelwch.

 

Pwysleisiodd y Rheolwr Rheoli Datblygu unwaith yn rhagor bod y fynedfa eisoes yn bodoli ac y gellir ei defnyddio heb wneud unrhyw welliannau ac unrhyw reolaeth ar ran y Cyngor.  Dywedodd ei fod yn deall sylwadau’r Aelodau nad oedd y porth yn y lleoliad gorau, ond yr unig newidiadau yr oedd yr ymgeisydd yn eu cynnig oedd rhai i wella’r fynedfa ac felly roedd hynny yn ei wneud yn saffach. 

Dywedodd y Cynghorydd Nicola Roberts ei bod yn ofni y byddai’r newidiadau yn golygu y byddai defnydd mwy yn cael ei wneud o’r trac ac mai nid mater o wella’r fynedfa i’r cae yn unig oedd yma.  Holodd ymhellach sut y cafodd y gwaith gwella oedd i’w weld ar y map ei wneud cyn i ganiatâd gael ei roi. 

 

Dywedodd y Swyddog Rheoli Datblygu (Priffyrdd) ei bod yn fwriad rhoi amod ar y caniatâd cynllunio na fyddai unrhyw ran o’r datblygiad yn cael ei ddechrau hyd nes bod llain gwelededd wedi ei chreu i gyfeiriad y gorllewin yn unol â manylebau penodol.  Dywedodd y Swyddog mai cais ol-ddyddiol ydoedd.

 

Roedd y Rheolwr Rheoli Datblygu am atgoffa’r Aelodau y gellir defnyddio’r fynedfa yn rhydd ac yn rhwydd heb unrhyw rwystrau ar y traffig fyddai’n mynd i mewn ag allan.  Roedd y sefyllfa honno yn parhau arwahan i’r ffaith bod y porth wedi cael ei wella.

 

Dywedodd y Cynghorydd John Griffith ei fod yn deall ac yn derbyn bod y fynedfa wedi cael ei defnyddio ac y gall gael ei defnyddio ond roedd yn dal yn bryderus pe bai tractor a threlar eisiau troi i’r chwith i’r lon fawr wrth ddod allan o’r fynedfa gyda cherbydau yn dod yn gyflym o gyfeiriad Amlwch.  Roedd yn bryderus o’r goblygiadau posibl i’r Cyngor o safbwynt diogelwch y briffordd pe bai caniatâd yn cael ei roi.

 

Dywedodd y Cynghorydd Jeff Evans – pe bai’r cais yn gais newydd yna mae’n debyg y byddai’n cael ei wrthod, ond mae’r fynedfa yno yn barod ac mae wedi bod yno am beth amser ac fe ellir ei defnyddio.  Roedd yn tueddu i gytuno gyda’r Swyddog Cynllunio mai’r cyfan sy’n mynd i gael ei wneud yw y bydd yno fynedfa well gydag amodau priffyrdd.  Felly nid oedd yn gallu deall beth oedd y ddadl o ystyried bod y fynedfa yno yn barod ac y gellir ei defnyddio ar unrhyw amser.  Os oedd yn bosibl gwella’r porth yna fe ddylid cytuno ar y gwelliannau hynny a thrwy hynny wella bywydau hefyd.  

 

Dywedodd y Cynghorydd Victor Hughes ei fod yn cyd-fynd a safbwynt y Cynghorydd Jeff Evans.  Er nad yw’r sefyllfa yn ddelfrydol nododd y Cynghorydd T V Hughes bod tanciau septig sy’n cael eu defnyddio gan y tai Cyngor cyfagos yn y lleoliad hwn a bod tanceri Dŵr Cymru a’r Cyngor wedi bod yn defnyddio’r fynedfa am genhedlaeth.  Roedd ganddo bryderon am y posibilrwydd y byddai yna fwy o ddefnydd o’r porth, ond roedd y gwaith altro oedd yn cael ei gynnig yn welliant ar yr hyn sydd yno ar hyn o bryd a bydd yn gwneud y sefyllfa yn fwy diogel. 

 

Dywedodd y Cynghorydd R.O.Jones fel un o’r Aelodau Lleol na allai unrhyw welliannau ond gwneud y sefyllfa yn fwy diogel.  Adleisiodd y sylwadau blaenorol a wnaed bod y ffordd yn beryglus a gofynnodd a oedd yn bosibl gosod cyfyngiad cyflymder 40mya ar y darn arbennig hwnnw o’r ffordd. 

 

Dywedodd y Swyddog Rheoli Datblygu (Priffyrdd) bod hynny yn awgrym y gallai’r Awdurdod Priffyrdd edrych i mewn iddo ond fel proses arwahan i’r broses o roi caniatâd cynllunio.

 

Roedd y Cynghorydd Aled Morris Jones, Aelod Lleol yn frwd y dylid edrych ar y mater o gael cyfyngiad cyflymder ac y dylid delio â’r sefyllfa ar fyrder. 

 

Cynigiodd y Cynghorydd Victor Hughes bod y cais yn cael ei ganiatau.  Nid oedd eilydd i’r cynnig.

 

Cynigiodd y Cynghorydd John Griffith bod y cais yn cael ei wrthod.  Nid oedd eilydd i’r cynnig.

 

Holodd y Cynghorydd Nicola Roberts a ellid gohirio’r cais fel y gallai’r Awdurdod Priffyrdd ystyried y cynnig o roi cyfyngiad cyflymder 40mya ar y darn hwn o’r briffordd.

 

Dywedodd y Rheolwr Rheoli Datblygu y gallai gohirio am y rheswm hwnnw roi pwysau diangen ar y Swyddog Priffyrdd a’r Adain o ystyried bod y broses o newid cyfyngiad cyflymder yn un gwahanol iawn i’r broses gynllunio ac y byddai’n debygol o gymryd mwy o amser na’r cyfnod o heddiw i’r cyfarfod nesaf o’r Pwyllgor Cynllunio.  Fel ffordd ymlaen, awgrymodd y Swyddog y gallai Swyddogion Cynllunio ofyn i’r ymgeisydd (y Cyngor Sir) newid y cynnig ynn ngoleuni sylwadau’r Cyngor ynglŷn â gwelededd a diogelwch.  Roedd yr Aelodau yn gweld y cynnig hwn yn un da a chynigiodd y Cynghorydd John Griffith y dylid cymryd y camau hynny ac eiliodd y Cynghorydd Nicola Roberts y cynnig.

 

Penderfynwyd gohirio gwneud unrhyw benderfyniad ar y cais fel y gallai Swyddogion Cynllunio ymgynghori gyda’r ymgeisydd ar y posibilrwydd o newid y cais i wella’r gwelededd a’r diogelwch wrth ddod ymlaen i’r lon fawr. (Ni wnaeth y Cynghorwyr Jeff Evans, Vaughan Hughes a Raymond Jones bleidleisio ar y cais gan nad oeddent wedi bod ar yr ymweliad safle.  Ni wnaeth y Cynghorydd R.O.Jones bleidleisio ar y cais gan ei fod yn Aelod Lleol)

 

7.2   34LPA121Q/CC – Codi uned i gadw boiler biomass llosgi pelenni coed yn gystylltiedig â’r ysgol newydd sydd yn cael ei chodi ar dir yn Ysgol Gyfun, Llangefni

 

Roedd y cais gerbron y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion oherwydd mai Cyngor Sir Ynys Môn yw’r ymgeisydd a pherchennog y tir.  Cynhaliwyd ymweliad safle ar 19 Mehefin, 2013.

 

Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio bod y Swyddogion Cynllunio yn fodlon gyda’r egwyddor o ddatblygu o ran defnyddio ynni adnewyddol a chadwraeth ynni a dywedodd wrth yr Aelodau bod caniatâd cynllunio wedi ei roi yn barod ym mis Awst 2012 am fwyler coed biomas mewn cysylltiad â’r ysgol a gydag uchder ffliw o 11.5m.  Cais cynllunio newydd llawn yw hwn am uned bwyler biomas pelenni coed.  Byddai’r cynnig yn golygu lleoli cynhwysydd dur (12m wrth 3.7m wrth 3.5m o uchder) yn ganolog ar y safle a bydd wedi ei gladio i gydfynd a’r ysgol bresenol.  Byddai tanwydd pelenni coed yn cael eu storio yn y cynhwysydd.  Fel rhan o’r cais cynllunio hwn, byddai uchder y ffliw yn cael ei gynyddu rhyw 3.5m i 16m er mwyn bod yn glir o wynt yn gwrthdaro er mwyn i’r nwyon o’r bwyler fedru gwasgaru heb achosi niwsans na niwed o ystyried ei agosrwydd at adeiladau eraill.  Cadarnhaodd y Swyddog nad oedd Adain Iechyd Amgylcheddol y Cyngor wedi gwrthwynebu’r cynnig o osod yr amodau oedd yn cael eu hargymell ac yn arbennig amodau 2.3 a 4.

 

O ran edrychiad y cynnig a’i berthynas gyda’r pethau o’i gwmpas, strwythur gweddol fain fyddai’r ffliw ac ni fyddai’r uchder newydd yn annerbyniol o ystyried adeilad yr ysgol i gyd o fewn ardal drefol.  Aeth y Swyddog ymlaen i ddweud i nifer o faterion gael eu codi ar adeg yr ymweliad safle ynglŷn â thraffig yn danfon y pelenni coed a’u storio yno.  Gallai gadarnhau byddai’r coed yn cael eu danfon pob 3-4 wythnos yn ystod y gaeaf a 8-10 wythnos yn ystod gweddill y flwyddyn.  Byddai’r lorri yn un 14 tunnell tua’r un maint, neu’n llai na bws.  Roedd yn hyderus y byddai polisi iechyd a diogelwch yr ysgol yn berthnasol yn ystod yr amseroedd hynny.  Byddai’r lludw fyddai’n dod o losgi’r coed yn cael ei storio mewn cynhwysydd arbennig ar y safle a’i wagio pob pythefnos a’i ddefnyddio fel gwrtaith ar dir ar y safle oedd i’w dirlunio.  O safbwynt defnyddio’r bwyler i gynhyrchu trydan i unedau eraill ar y safle, fe gadarnhawyd nad yw hyn yn bosibl oherwydd bod yr adeiladau wedi uwchraddio’u cyfleusterau yn ddiweddar ac nad oedd y bwyler wedi ei ddylunio i wasanaethu dim byd ond adeilad yr ysgol.  Felly nid oedd yr opsiwn hwnnw yn ymarferol yn dechnegol nac yn ariannol.  O ystyried yr holl ystyriaethau cynllunio, yr argymhelliad oedd caniatáu. 

 

Dywedodd y Cynghorydd Jeff Evans na allai weld, o’r wybodaeth oedd wedi ei chyflwyno, y byddai unrhyw effeithiau niweidiol ar dai cyfagos ac nad oedd y materion iechyd i’w gweld fel rhai problemus.  Bydd y pelenni’n cael eu danfon 8-10 gwaith y flwyddyn a’r lludw yn cael ei ddefnyddio ar y safle felly roedd yn credu bod popeth wedi ei wneud i fodloni’r gofynion a sicrhau bod hwn yn gais llwyddiannus.

 

Dywedodd y Cynghorydd Nicola Roberts fel Aelod Lleol bod yr effeithiau posibl ar iechyd yn bryder mawr ac er y cynnydd yn uchder y ffliw, roedd y trigolion yn dal i fod yn poeni y byddai anweddau’n cael eu cario i’w heiddo.  Pe bai Swyddogion yn gallu ymateb i’r pryder hwn a rhoi sicrwydd o ran iechyd pobl na fyddai unrhyw broblemau yn cael eu hachosi gan fwg a ffiwms oherwydd pe byddai yna unrhyw anawsterau wedi i’r ffliw gael eu hadeiladu, beth allai’r trigolion lleol ei wneud.

 

Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio bod Swyddogion Iechyd Amgylcheddol y Cyngor wedi ystyried y cynnig yn ofalus ac wedi dod i’r farn na fydd yr allyriadau yn creu problemau iechyd yn yr ardal.  Gan nad oedd unrhyw dystiolaeth arall, fel Swyddog Cynllunio byddai’n ffafrio’r dehongliad hwnnw.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Nicola Roberts a allai trigolion yr ardal sydd yn poeni am broblemau iechyd tebygol gael copi o adroddiad y Swyddogion Iechyd Amgylcheddol.  Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio bod adroddiadau sydd ar ffeil ar gael i’r cyhoedd. 

 

Nododd y Cynghorydd Kenneth Hughes bod caniatâd eisoes wedi ei roi i fwyler coed mewn perthynas â’r ysgol ac y dylai nifer o’r problemau fod wedi cael sylw bryd hynny.  Dywedodd ei fod yn fwy na bodlon i eilio safbwynt y Cynghorydd Jeff Evans - cadarnhaodd y Cynghorydd Jeff Evans ei fod yn cynnig yn ffurfiol bod y cais yn cael ei ganiatau ac eiliodd y Cynghorydd Kenneth Hughes y cynnig.

 

Penderfynwyd caniatáu’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog gyda’r amodau a restrir yn yr adroddiad ysgrifenedig. (Ni wnaeth y Cynghorydd Nicola Roberts fel Aelod Lleol bleidleisio ar y mater ac ni wnaeth y Cynghorydd Richard Owain Jones bleidleisio oherwydd nad oedd wedi bod ar yr ymweliad safle).

 

7.3   42C231 – Cais llawn i godi 13 annedd newydd ynghyd â chreu mynedfa newydd ar dir yn The Sidings, Pentraeth

 

Roedd y cais hwn yn tynnu’n groes i Bolisïau’r Cynllun Lleol ond roedd yn bosibl ei ganiatáu dan y Cynllun Datblygu Unedol.

 

(Datganodd y Cynghorydd Victor Hughes ddiddordeb yn y cais ac aeth o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth).

 

Cadarnhaodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio i ymweliad safle ddigwydd ac felly byddai’r Aelodau yn gyfarwydd â’r safle.  Roedd y prif faterion yn ymwneud a’r fynedfa i’r safle a dwysedd y datblygiad.  Nododd i gwestiynau gael eu gofyn yn y cyfarfod diwethaf o’r Pwyllgor am berchenogaeth y tir; dywedodd y Swyddog bod yr adroddiad yn egluro bod yr ymgeisydd wedi cadarnhau perchenogaeth y tir a bod yna gymal nad yw’n crwydro ar y rhan sydd i’w ddatblygu a bod trafodaethau’n parhau ynglyn a’i ddileu.  Gan gyfeirio at nifer y tai fforddiadwy fyddai’n cael eu darparu fel rhan o’r datblygiad, cadarnhaodd y Swyddog y byddai’r ddarpariaeth yn 30% ond roedd hefyd yn deall o drafodaethau, y byddai gweddill yr anheddau hefyd yn rhai cost isel.  Dywedodd y Swyddog mai ei argymhelliad oedd caniatáu. 

 

Roedd y Cynghorydd Vaughan Hughes, Aelod Lleol yn bryderus bod gwr lleol sy’n rhedeg busnes trydanol ar y safle wedi clywed yn ystod cyfarfod briffio cyn y Pwyllgor na fyddai’n cael siarad yn y cyfarfod hwn.  Roedd yn credu bod gan y person hwnnw wybodaeth fyddai o fudd i’r Pwyllgor i’w glywed cyn dod i benderfyniad ar y cais.  Er gwaethaf y rheolau, ac er budd tryloywder, roedd yn siom iddo ef nad oedd rhywun oedd â gwybodaeth berthnasol yn cael caniatâd i ddweud ei ddweud.

 

Cadarnhaodd y Rheolwr Gwasanaethau Cyfreithiol bod y Cadeirydd yn y cyfarfod briffio ynghynt y bore hwnnw wedi gwrthod y cais i siarad yn y cyfarfod hwn oherwydd bod yr hawl i aelod o’r cyhoedd siarad ar y cais hwn wedi ei fodloni yn y cyfarfod blaenorol o’r Pwyllgor.  Eglurodd y Swyddog Cyfreithiol nad oedd unrhyw beth i rwystro’r unigolyn rhag cynnig ei sylwadau naill ai drwy’r Cynghorydd Hughes fel Aelod Lleol heddiw neu drwy ysgrifennu i’r Awdurdod Cynllunio.  Cadarnhaodd y Swyddog y gallai’r Cynghorydd Hughes siarad ar ran y person fel Aelod Lleol.

 

Ategodd y Cynghorydd Vaughan Hughes ei ddymuniad i’r person oedd yn dymuno cael siarad gael caniatâd i annerch y Pwyllgor.  Cadarnhaodd y Rheolwr Gwasanaethau Cyfreithiol bod y cais wedi ei wrthod gan y Cadeirydd oherwydd bod y broses siarad cyhoeddus ar y cais hwn eisoes wedi digwydd yn y cyfarfod blaenorol o’r Pwyllgor.  Dywedodd y Cynghorydd Hughes nad oedd Mr Riley Walsh, y person oedd yn dymuno siarad gerbron y Pwyllgor, yn ymwybodol nad oedd ganddo hawl i siarad ar y pryd ac nad oedd un o’r gwrthwynebwyr oedd wedi ei gofrestru i siarad wedi cymryd yr hawl hwnnw i fyny.  Felly nid oedd tystiolaeth Mr Walsh wedi ei chlywed gan y Pwyllgor a gofynnodd a fyddai’r rheol ynglyn a siarad cyhoeddus yn cael ei heffeithio pe bai’n cael ei llacio rhywfaint i ganiatau i Mr Walsh rannu ei wybodaeth gyda’r Aelodau yn y cyfarfod hwn. Roedd am awgrymu mai darparu cyfarwyddyd yn unig oedd y rheol ac mai dewis i’r Pwyllgor oedd dilyn y rheol honno a’i peidio.  Dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth Cyfreithiol bod y rheolau yna i bwrpas ac o dan y Cyfansoddiad fe allai’r Cadeirydd ymarfer ei ddisgresiwn yn y mater hwn.

 

Dywedodd y Cadeirydd bod amgylchiadau tebyg wedi codi o’r blaen lle nad oedd unigolion efallai yn cymryd mantais o’r cyfle i siarad yn ddigon buan ac felly nid mater o wrthod rhoi cyfle i Mr Walsh roi ei safbwyntiau gerbron y Pwyllgor oedd yma ond mater o weithredu er budd tegwch a chysondeb i’r rhai allai fod wedi colli’r cyfle i siarad yn y gorffennol.  Dywedodd y Cynghorydd Vaughan Hughes ei fod yn teimlo bod ystyriaethau parthed tryloywder a'r ffaith bod aelodau’r  cyhoedd yn gallu gweld bod cyfiawnder yn cael ei wneud yn y cyfarfod yn bwysicach na rheolau nad oes rhaid, mewn gwirionedd, glynu atynt. 

 

Dywedodd y Cadeirydd y gallai’r Cynghorydd Hughes siarad dros Mr Walsh fel Aelod Lleol.  Cytunodd y Cynghorydd Hughes i wneud hynny ond gan gofio nad oedd Mr Walsh ond wedi cael gwybod fore heddiw na allai siarad yn y cyfarfod, ac y byddai ei gyflwyniad ef yn llawer llai pwerus na’r un y gallai Mr Walsh fod wedi ei roi ei hun fel person sy’n gweithio ar y safle.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Nicola Roberts a fyddai’n bosibl gohirio ystyried y cais fel y gallai Mr Walsh annerch y Pwyllgor Cynllunio yn y cyfarfod nesaf a thrwy hynny ddangos parch tuag at y ddau barti a chwarae teg i’r holl Aelodau o safbwynt rhoi cyfle iddynt gael y wybodaeth yn llawn.  Dywedodd y Cynghorydd Kenneth Hughes bod y Cadeirydd wedi gwneud ei benderfyniad ac y dylid parchu’r penderfyniad hwnnw - roedd y rheolau yn rheoli ac er tegwch i bawb, roedd yn rhaid cadw at y rheolau hynny.

 

Dywedodd y Cynghorydd Vaughan Hughes gan siarad fel yr Aelod Lleol - yn groes i’r hyn yr oedd y datblygwr wedi ei ddweud yn ôl y Swyddog Cynllunio, roedd dwy ran o’r safle datblygu ar dir oedd yn ôl Mr Riley Walsh yn perthyn iddo ef a’i deulu ac nid i’r datblygwr ac felly, roedd nifer y llefydd parcio oedd ar gael 4 yn llai na’r hyn y cyfeirir ato.  At hynny mae cyfamod sy’n rhwystro i unrhyw un adeiladu ar ran o’r safle a hynny’n cyfateb i 150 troedfedd.  Pwysleisiodd y Cynghorydd Hughes nad oedd y mater o berchenogaeth yn groes i’r hyn yr oedd y datblygwr wedi ei ddweud, a thra na allai ef yn bersonol gadarnhau’r mater un ffordd na’r llall, mae’r datganiad o berchenogaeth gan y datblygwr yn cael ei herio. 

 

Dywedodd y Rheolwr Gwasanaethau Cyfreithiol y byddai’n awgrymu bod Mr Riley Walsh yn darparu tystiolaeth ysgrifennedig i’r Awdurdod Cynllunio i gadarnhau ei honiad ac fe allai’r Swyddogion Cynllunio ei ystyried wedi hynny.  Os yw’r ymgeisydd wedi gwneud cais i ddatblygu darn o dir nad yw yn ei berchenogaeth a heb roi rhybudd priodol i’r gwir berchennog, yna roedd lle i ystyried a oedd y cais yn un dilys.  Fodd bynnag, ni ellir trafod y mater hyd nes y ceir tystiolaeth ysgrifennedig i gefnogi’r honiadau oedd yn cael eu gwneud.

 

Nododd y Cynghorydd Jeff Evans iddo holi yn y cyfarfod blaenorol o’r Pwyllgor Cynllunio ynglyn a’r ardal o berchenogaeth a datblygu ac iddo gael gwybod nad oedd yr un o’r ddau yn bethau i’w hystyried ac mai’r mater o dan ystyriaeth oedd y cais cynllunio.  Roedd yn teimlo ei bod yn hurt gofyn iddo ystyried cais cynllunio lle nad oes unrhyw dystiolaeth o berchenogaeth tir ac nad oedd ef yn bersonol yn credu mewn pasio rhywbeth heb y wybodaeth honno.  Roedd yn credu ei fod yn ystyriaeth berthnasol ar amser ystyried y cais.  Ar bwynt arall, ceisiodd y Cynghorydd Evans gael eglurhad o’r hyn yr oedd tai “fforddiadwy” yn ei olygu mewn termau real ac i bwy y bernir y mae tai fforddiadwy yn fforddiadwy ac a oedd yna unrhyw werth ariannol penodol yn berthnasol. 

 

Dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth Cyfreithiol bod Nodyn Cyngor Technegol 2 Llywodraeth Cymru yn rhoi diffiniad o dai fforddiadwy a hefyd yr holl gysyniad o dai fforddiadwy a’i fod ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru.  Fel ffordd ymlaen gyda’r cais o dan ystyriaeth, awgrymodd y Swyddog - pe bai’r Pwyllgor yn fodlon gyda rhinweddau cynllunio’r cais, gall ddirprwyo rhoi caniatad yn amodol ar dderbyn tystiolaeth o berchenogaeth.  Pe na bai’r dystiolaeth a dderbynnir yn profi’r honiad a wnaed yna gallai’r caniatad cynllunio gael ei ryddhau.  Os mai dyma’r achos, sef na fyddai’r dystiolaeth yn cefnogi’r honiad a bod yr hyn sy’n cael ei ddweud yn gywir, y sefyllfa fyddai - tra nad yw perchenogaeth tir ynddo ei hun yn hanfodol i’r broses gynllunio, mae rhoi rhybudd i’r perchennog gwirioneddol am yr adran berthnasol o’r safle yn anghenrhaid cyfreithiol.  Felly mewn gwirionedd y broses yn hytrach na sylwedd y mater sydd yn cael ei gwestiynu.  Byddai angen i’r Pwyllgor benderfynu ar gyfnod amser y gallai Mr Riley Walsh ddarparu tystiolaeth o berchenogaeth o’i mewn.

 

Yn dilyn trafodaeth fer lle yr awgrymwyd y dylid darparu prawf o berchenogaeth o fewn dwy wythnos, cytunwyd drwy’r Cynghorydd Vaughan Hughes bod yr amserlen yn dderbyniol i Mr Riley Walsh.  Dywedodd y Cynghorydd Jeff Evans y byddai'r un mor bosibl i’r datblygwr ddarparu tystiolaeth ei fod wedi prynu’r tir dan sylw ac mai ef felly yw’r perchennog.

 

Eglurodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio bod yn rhaid i bob ymgeisydd fel rhan o’r broses o wneud cais cynllunio gyflwyno tystysgrif yn profi perchenogaeth y tir.  Roedd yr ymgeisydd wedi darparu hynny gyda’r cais i gadarnhau mai ef yw perchennog y tir.  Fel arfer bernir fod hynny’n ddigonol i allu symud ymlaen.  Yn dilyn cwestiynau a ofynnwyd yng nghyfarfod blaenorol y Pwyllgor ceisiwyd cael cadarnhad bod y safle o dan sylw ym mherchenogaeth yr ymgeisydd ac y mae wedi cadarnhau mai dyma yw’r achos.  Felly byddai’n ymddangos mai mater yw hwn i’r person sy’n herio’r berchenogaeth honno i ddarparu tystiolaeth i gefnogi’r her. 

 

Cynigiodd y Cynghorydd Nicola Roberts bod y cais yn cael ei ohirio hyd nes bod yr holl wybodaeth gerbron y Pwyllgor yng nghyswllt perchenogaeth y tir.  Eiliodd y Cynghorydd John Griffith y cynnig.

 

Penderfynwyd gohirio ystyried y cais i ganiatau amser i’r Swyddogion Cynllunio gael tystiolaeth am berchenogaeth y tir.  Y dystiolaeth i’w gyflwyno i’r Swyddogion o fewn dwy wythnos i ddyddiad y cyfarfod hwn. (Ni wnaeth y Cynghorydd Jeff Evans a Raymond Jones bleidleisio ar y mater gan nad oeddent wedi bod yn bresennol ar yr ymweliad safle.  Ni wnaeth y Cynghorydd Vaughan Hughes bleidleisio fel Aelod Lleol)

 

 

Dogfennau ategol: