Eitem Rhaglen

Gweddill y Ceisiadau

12.1 12LPA983/AD/CC – Penrhyn Safnas, Biwmares

 

12.2 22C211C – Yr Orsedd, Llanddona

 

12.3 23C268B – Uwch y Gors, Mynydd Bodafon

 

12.4 30LPA/978/AD/CC – Traeth Coch

 

12.5 34C648A – Pwros, Rhosmeirch

 

12.6 34LPA982/CA/CC – Yr Adeilad ar Stiltiau, Llangefni

 

12.7 47LPA966/CC – Ysgol Gynradd Llanddeusant, Llanddeusant

Cofnodion:

12.1  12LPA983/AD/CC – Cais i leoli arwydd dehongli ym Mhenrhyn Safnas, Biwmares

 

Roedd y cais wedi ei ddwyn gerbron y Pwyllgor oherwydd ei fod yn gais gan yr Awdurdod Lleol.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Kenneth Hughes y dylid cymeradwyo’r cais ac fe gafodd ei eilio gan y Cynghorydd  R.O.Jones.

 

Penderfynwyd caniatáu’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog gyda’r amodau a restrir yn yr adroddiad ysgrifennedig.

 

12.2     22C211C – Cais llawn i godi un twrbin gwynt gydag uchder hwb hyd at 25m, diamedr rotor hyd at 19.24m ac uchder blaen unionsyth fertigol hyd at uchafswm o 34.37m ar dir yn Yr Orsedd, Llanddona

 

Roedd y cais wedi ei ddwyn gerbron y Pwyllgor oherwydd penderfynwyd na fydd pwerau dirprwyedig yn cael eu defnyddio mewn cysylltiad â datblygiadau tyrbinau gwynt.

 

Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio bod yr adroddiad yn dwyn sylw at dri mater allweddol gyda’r cais mewn perthynas â’r egwyddor o ddatblygu, sef y dirwedd, yr effaith weledol a’r mwynderau preswyl.  Er y cydnabyddir bod polisïau’n cefnogi prosiectau ynni adnewyddadwy, ystyrir yn yr achos hwn y byddai’r datblygiad arfaethedig yn creu niwed annerbyniol i’r amgylchedd ac am y rhesymau hynny roedd y Swyddog yn argymell gwrthod y cais.

 

Estynnodd y Cadeirydd wahoddiad i Mr John Alexander gyflwyno sylwadau i’r Pwyllgor fel un a oedd yn gwrthwynebu’r cynnig.

 

Dygodd Mr Alexander sylw at y pwyntiau uchod fel gwrthwynebiadau i’r cynnig:

 

  • Nid yw Ynys Môn wedi ei rhestru fel parth strategol ar gyfer ynni gwynt ar y tir ac, yn ôl TAN 8 ni fu erioed yn fwriad i’r peiriannau hyn ledaenu’n ddi-gynllun dros yr Ynys gyfan.
  • Ni ddylai’r cais tyrbin fod wedi pasio’r broses sgrinio.  Dylai’r Awdurdod Cynllunio fod wedi gwneud ymholiadau gyda defnyddwyr y trawsyrrydd - yr Heddlu, BT ac Aquiva ynghylch problemau gydag ymyriant.  Mae hon yn broblem fawr ac roedd nifer o wrthwynebiadau yn dwyn sylw at y posibilrwydd hwn.  Byddai archwiliad ar adeg y sgrinio wedi arbed amser a chostau.
  • Dyfaliad yn unig yw’r ffigyrau asesu sŵn oherwydd nad oes anemomedr wedi ei godi yn y lleoliad. 
  • Mae’r safle yn rhy agos i dair annedd, yr AHNE, safleoedd hanesyddol a hynafol ac 18 o safleoedd dynodedig.  Bydd yn cael effaith ar Biwmares a Pharc Cenedlaethol Eryri.  Mae’r lleoliad wedi ei amgylchynu gan dirwedd gwerth uchel ac mae’n ardal sydd o bwysigrwydd rhyngwladol ac sydd â daeareg eithriadol. Byddai felly’n difetha un o’r golygfeydd mwyaf ysblennydd ar yr Ynys.
  • Mae’r lleoliad yn agos iawn i’r adeilad rhestredig Graddfa II, Rhos Isaf a’r hufenfa gysylltiedig a ddefnyddir fel llety gwyliau.  Byddai’n cael effaith andwyol hefyd ar Hafoty, un o’r eiddo hynaf ar yr Ynys.
  • Mae Cyngor Cefn Gwlad Cymru yn dweud nad oes angen asesiad o’r effaith ar yr amgylchedd ac nad oes ganddo unrhyw gofnod o unrhyw rywogaeth sy’n cael ei ddiogelu’n statudol yn y fro.  Dylai’r Cyngor gysylltu gyda’r Gymdeithas Frenhinol er Gwarchod Adar a’i Ymgynghorydd Ecolegol ei hun.  Byddai angen asesiad amgylcheddol oherwydd uchder y datblygiad arfaethedig a phresenoldeb ystlumod, cŵn dwr, gwalchod marth, hebogiaid tramor a bwncathod.
  • Ffordd yr A5109 yw’r brif ffordd i dwrisdiaeth i saflaeodd hanesyddol a hynafol ac i’r Traeth Baner Las felly byddai effaith andwyol sylweddol ar dwrisdiaeth.
  • Nid oes unrhyw fudd cymunedol o’r datblygiad gan y byddai’r trydan a gynhyrchid yn mynd yn syth i’r Grid Cenedlaethol.  Byddai modd gwrthbwyso’r costau trydan drud i’r fferm laeth gyda meicro gynhyrchu 12m yn agos i’r adeiladau fferm ac fe awgrymwyd hynny i’r ymgeisydd.
  • Nid yw’r cynnig yn cwrdd ag unrhyw un o’r amodau yn y SSA diweddar.
  • Ar hyn o bryd Ynys Môn sydd a’r nifer fwyaf o dyrbinau gwynt ar y tir yng Nghymru o gofio maint yr Ynys a’i phoblogaeth.
  • Mae’r Ynys angen gorsaf pŵer niwclear a phrosiectau ynni adnewyddadwy effeithlon fel ynni haul a thyrbinau llanw a fydd yn creu swyddi.
  • Does dim pwynt bod gydag arfordir sydd wedi ei benodi yn AHNE a sefydlu llwybr arfordirol o bwys rhyngwladol os bydd y tu mewn i ynys fechan fel hon wedi ei lenwi gyda thyrbinau gwynt diwydiannol anferth.  Bydd y peiriannau hyll ac aneffeithiol hyn yn weladwy o bob rhan o’r Ynys ac o Barc Cenedlaethol Eryri.  Byddai’n arwain at dirwedd ddiwydiannol.

 

Daeth Mr Alexander i ben trwy ddweud ei fod yn cefnogi’r argymhelliad o wrthod.

 

Nid oedd gan Aelodau’r Pwyllgor unrhyw gwestiynau i Mr Alexander.

 

Yna estynnodd y Cadeirydd wahoddiad i Mr Delwyn Owen-Parry annerch y cyfarfod i gefnogi’r cais.

 

Dywedodd Mr Owen-Parry bod ei deulu’n cynrychioli’r drydedd genhedlaeth o ffermwyr llaeth yn yr Orsedd a’u bod yn dymuno arallgyfeirio.  Ar hyn o bryd mae’r fferm yn defnyddio o gwmpas 50,000kw bob blwyddyn ac mae sylw yn cael ei roi i ffyrdd o ostwng costau.  Mae’r broses o gynhyrchu llefrith yn defnyddio llawer iawn o drydan.  Dywedodd Mr Owen-Parry ei fod yn rhagweld y byddai’r trydan a ddefnyddir gan y fferm bob blwyddyn yn codi i 120,000 kw yn ystod y 5 mlynedd nesaf.  Byddai’r tyrbin arfaethedig yn cynhyrchu 180,000kw bob blwyddyn gan olygu y byddai’r fferm yn hunan-gynhaliol yn y tymor hir.  Bydd hefyd yn creu incwm ychwanegol ac yn cynorthwyo i sicrhau dyfodol y fferm.

 

Aeth Mr Owen-Parry ymlaen i ddweud bod adroddiad y Swyddog yn cynnig gwrthod y cais oherwydd y niwed a fyddai’n cael ei greu i’r amgylchedd.  Mae lleoliad y tyrbin arfaethedig wedi ei ddewis oherwydd ei fod ar dir sydd ym mherchenogaeth y teulu mewn man sydd bellaf i ffwrdd o’r pentref, yr AHNE ac Adran Tirwedd Treftadaeth Penmon.  Er yr ystyriwyd cael tyrbin llai a fyddai’n medru cynhyrchu 10 i 15,000 kw o drydan, mae’n annhebygol y byddai’n fforddiadwy oherwydd y pellter o’r Grid Cenedlaethol.  Opsiwn arall yw gosod y tyrbin yn agosach i’r fferm ond byddai hynny yn golygu y byddai wedi ei leoli o fewn Ardal Tirwedd Treftadaeth Penmon, a byddai’n agosach i’r pentref hefyd ac ar dir sydd ychydig yn uwch.  Byddai gan yr opsiwn hwn lai o fanteision o ran ynni adnewyddadwy ar y safle.

 

Dygodd Mr Owen-Parry sylw’r Pwyllgor at y ffaith bod polisïau cenedlaethol yn cefnogi prosiectau ynni adnewyddadwy cymunedol bychan.  Mae angen i Gymru gefnogi prosiectau o’r fath yn arbennig pan fo’r manteision o fudd i’r gymuned dan sylw.  Dywedodd ei fod yn credu bod hynny’n wir am y cais hwn - bydd y trydan yn cael ei ddefnyddio’n lleol ac yn cyfrannu tuag at ostwng yr ôl troed carbon.

 

Dygodd Mr Owen-Parry sylw at y ffaith nad yw adroddiad y Swyddog yn son fawr ddim am fanteision y datblygiad hwn a bod hynny’n ddiffyg o ran cyflwyno dwy ochr y ddadl.  Gofynnodd i’r Pwyllgor felly ystyried yn ofalus y manteision a fyddai’n codi o’r cynllun hwn.

 

Oherwydd eu natur mae tyrbinau gwynt yn weladwy o wahanol safleoedd ond rhaid nodi bod lleoliad tyrbinau yn dibynnu ar yr angen i harneisio’r gwynt.  Mae’n rhaid defnyddio safleoedd sy’n addas i’r pwrpas hwn.  Bydd y Pwyllgor yn gwybod nad oes llawer o gyfleoedd cyflogaeth yn Ynys Môn a bod llawer o bobl ifanc yn gorfod teithio’n bell i’w gwaith neu symud i ffwrdd yn gyfangwbl.  Bydd y tyrbin gwynt yn cael ei gyllido gan y teulu a bydd yn golygu y gall y teulu barhau i gael gwaith yn eu hardal leol.  Yr hyn sydd yma yw dau deulu ifanc yn gofyn i’r Aelodau roi cyfle iddynt fyw a gweithio yn y pentref gwledig lle y cawsant eu magu. 

 

Dywedodd Mr Owen-Parry wrth gloi nad oedd yn credu y dylid gwrthod y cais ar sail ei effaith ar y dirwedd yn unig.  Pwysleisiodd unwaith yn rhagor na fyddai’r tyrbin arfaethedig o fewn yr AHNE nac Ardal Tirwedd Treftadaeth Penmon.  Ni fyddai chwaith yn cael effaith ar fywyd gwyllt ac mae o fewn pellter derbyniol i anheddau cyfagos.  Diolchodd i’r Pwyllgor am ei wrandawiad a gofynnodd i’r Aelodau ystyried y cais yn deg a pheidio â gadael i’r lleiafrif dynnu sylw oddi wrth y ffeithiau.

 

Nid oedd gan y Pwyllgor unrhyw gwestiynau i Mr Owen-Parry.

 

Dywedodd y Cynghorydd John Griffith y cafwyd ymweliadau safle ar gyfer ceisiadau o’r fath o’r blaen ac, er budd tegwch roedd yn cynnig y dylai aelodau’r Pwyllgor ymweld â safle’r cais hwn.  Eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Nicola Roberts am yr un rheswm.

 

Dywedodd y Rheolydd Datblygu Cynllunio bod protocol ar gyfer ymweliadau safle ac mai’r prif faen prawf oedd bod yn rhaid i ymweliad o’r fath bod o fantais sylweddol.  Rhaid i’r Pwyllgor hefyd ddweud beth fyddai’r fantais debygol yn yr achos hwn.

 

Dywedodd y Cynghorydd John Griffith bod y Pwyllgor yn dymuno bodloni ei hun ynghylch effeithiau posib y cynnig hwn ar y dirwedd a’r AHNE a’i agosrwydd at anheddau eraill.

 

Penderfynwyd ymweld â’r safle am y rhesymau a roddwyd.

 

12.3     23C268B – Cais llawn i newid defnydd a chreu estyniad i’r adeilad allanol presennol i ffurfio annedd ynghyd â gosod uned trin carthion yn Uwch y Gors, Mynydd Bodafon

 

Cyfeiriwyd y cais i’r Pwyllgor gan yr Aelod Lleol sy’n ystyried bod y cynnig yn cydymffurfio gyda’r polisïau addasu.

 

Wedi iddo ddatgan diddordeb yn y cais hwn, gadawodd y Cynghorydd Vaughan Hughes y cyfarfod a ni chymerodd ran yn y drafodaeth ar y cais.

 

Estynnodd y Cadeirydd wahoddiad i Sioned Edwards gyflwyno ei hachos i’r Pwyllgor i gefnogi ei chais.

 

Anerchodd Ms Edwards y Pwyllgor trwy ddweud bod yr ymgeisydd yn ddyn lleol sy’n byw mewn carafán ar hyn o bryd yng nghwrtil cartref ei dad yn Uwch y Gors. Llynedd fe fabwysiadodd yr ymgeisydd a’i wraig ddau o fechgyn ifanc ac mae’r pedwar yn gobeithio medru parhau i fyw yn lleol yn Mynydd Bodafon yn dilyn addasu’r adeilad allanol i fod yn annedd.  Defnyddiwyd yr adeilad fel ystorfa a gweithdy ond, gyda gobaith gellir gwneud defnydd mwy buddiol ohono fel cartref ar gyfer Richard Williams a’i deulu.

 

Cydnabu Ms Edwards bod yr adeilad allanol cyfredol yn weddol fychan ac er mwyn sicrhau ei fod yn darparu annedd y mae modd byw ynddi, bydd angen estyn yr adeilad.  Un bychan yw’r estyniad arfaethedig sy’n darparu annedd 70m sgwar sydd tua’r un faint a fflat dwy lofft.  Nid yw’r adeilad allanol yn hardd ar hyn o bryd ac nid yw’n cyfrannu o gwbl at ddynodiad yr ardal fel un o Harddwch Naturiol Eithriadol.  Byddai’r estyniad a gynigir yn gwella edrychiad yr adeilad yn sylweddol ac yn darparu cartref i deulu ifanc lleol.

 

Nododd Ms Edwards fod hyblygrwydd ym Mholisi 55 Cynllun Lleol a Pholisi HP8 Cynllun Datblygu Unedol Ynys Môn a Stopiwyd o ran maint estyniadau pan fyddir yn addasu adeiladau allannol ar yr amod bod y cynnig yn gwella edrychiad yr adeilad yn sylweddol.  Mae’r polisi hefyd o blaid addasu adeiladau gwledig pan fyddai’r adeiladau hynny fel arall yn mynd a’u pennau iddynt ac yn anharddu’r dirwedd leol.

 

Dywedodd Ms Edwards fod y dirwedd o gwmpas yr adeilad wedi ei hystyried yn ofalus fel rhan o’r broses ddylunio a bod dyluniad y cynnig yn gwneud y mwyaf o’r gofod o dan yr adeilad cyfredol ac yn adeiladu tuag at i lawr.  Daeth i ben trwy ddweud ei bod yn mawr obeithio y byddai’r Pwyllgor yn cefnogi person ifanc lleol i droi’r adeilad allanol yn Uwch y Gors yn gartref iddo ei hun a’i deulu.

 

Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio ei fod yn cydnabod yr amgylchiadau personol sydd o blaid y cais.  Fodd bynnag, mae safle’r cais mewn lleoliad cefn gwlad mewn ardal nad yw’n cael ei chydnabod fel treflan.  Mae polisïau addasu yn caniatáu troi adeiladau allanol yn anheddau ar yr amod bod rhaid i ran helaeth iawn o’r adeilad cyfredol fod yn strwythurol gadarn a chael ei ymgorffori yn y cynllun newydd.  Dim ond estyniad bychan fyddai’n cael ei ganiatau i’r adeilad.  Yn yr achos penodol hwn dywedodd y Swyddog bod oddeutu 26.8m sgwar o’r waliau cyfredol yn aros ac y byddai 122 m sgwar yn cael ei greu sy’n cyfateb i estyniad o 80%.  Nid oes modd cysoni’r cynnig cyfredol gyda’r polisïau addasu ac, o gofio maint y gwaith newydd y byddai angen ei wneud, mae’r cais yn fwy tebyg i adeilad newydd mewn lleoliad cefn gwlad.  Argymhelliad y Swyddog felly oedd y dylid gwrthod y cais.

 

Dywedodd y Cynghorydd Kenneth Hughes nad oedd amgylchiadau personol, yn anffodus, yn ystyriaeth gynllunio a’i fod yn cytuno gyda’r Swyddog;  cynigiodd felly y dylid gwrthod y cais.  Cafodd ei eilio gan y Cynghorydd Raymond Jones.

 

Penderfynwyd gwrthod y cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog.

 

 

12.4     30LPA978/AD/CC – Cais i leoli panel dehongli yn  Nhraeth Coch

 

Roedd y cais wedi ei ddwyn gerbron y Pwyllgor oherwydd ei fod yn gais gan yr Awdurdod Lleol.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Kenneth Hughes bod y cais yn cael ei ganiatáu ac eiliwyd ef gan y Cynghorydd  R.O.Jones.

 

Penderfynwyd caniatáu’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog gyda’r amodau a restrir yn yr adroddiad ysgrifennedig.

 

12.5     34C648A – Cais amlinellol ar gyfer codi annedd ynghyd ag addasu’r fynedfa bresennol ar dir yn  Pwros, Rhosmeirch

 

Roedd y cais wedi ei ddwyn gerbron y Pwyllgor ar gais yr Aelod Lleol

 

Ar gais y Cadeirydd, anerchodd Mr Richard Owen y Pwyllgor i gefnogi’r cais.

 

Dywedodd Mr Richard Owen mai cartref i’w ferch a’i gŵr a’u merch blwydd oed fyddai’r annedd arfaethedig.  Pe bai’r cais amlinellol yn cael ei gymeradwyo, dywedodd Mr Owen y byddent yn cydymffurfio gydag unrhyw amodau a fyddai’n cael eu gosod gan y Swyddogion Cynllunio oherwydd bod y teulu yn awyddus i’r annedd weddu gyda’r amgylchedd lleol gan eu bod wedi byw yn Rhosmeirch am genedlaethau ac ni fyddent yn dymuno i’r adeilad gael effaith andwyol ar edrychiad y pentref.  Mae’r safle o fewn ffin reoli Cyngor Tref Llangefni ac nid yw’n ymwthio i’r cefn gwlad - mae’r ffin y tu draw i ble fyddai’r safle datblygu.  Esboniodd Mr Owen fod ei gartref ei hun, sef Pwros o fewn ffiniau’r pentref er nad oedd yn union ar ochr y ffordd ac felly nid yw’r cynnig hwn yn ymestyn ymhellach - mae’r safle rhwng Pwros a chanolfan gymunedol y pentref.  Mae adeilad gerllaw sy’n cael ei ddefnyddio fel y neuadd gymunedol a hefyd gan y clwb ieuenctid, Merched y Wawr ac ati ac felly ni fydd unrhyw fwlch sylweddol rhwng yr annedd newydd arfaethedig a’r ganolfan gymunedol gyfredol.  Nid yw’r teulu yn credu y byddai’r cynnig yn arwain at ddatblygiad rhubanaidd oherwydd ei fod o dan reolaeth Cyngor Tref Llangefni.  Dywedodd Mr Owen ei fod yn deall nad oedd amgylchiadau personol yn ystyriaeth ond, er gwaethaf hynny, roedd wedi bod mewn angladd yn ddiweddar lle'r oedd pobl yn siarad am yr hen wynebau’n diflannu a gofynnodd o ble y bydd yr hen wynebau yn dod yn y dyfodol.  Ychydig o bobl ifanc sydd yn Rhosmeirch ar hyn o bryd - bu gan ei deulu ei hun gysylltiad gyda Rhosmeirch am bron i ddwy ganrif ac er bod pobl o’i oed ef yn y teulu yn dal i fyw yn Rhosmeirch, nid oes ond un o’r genhedlaeth iau a dim ond oherwydd bod ei diweddar daid wedi gadael tir iddi.  Mae’r pentref, y capel, y ganolfan gymunedol leol a phwyllgor y pentref oll yn cefnogi’r cais.  Mae ei ferch a’i gwr eisoes yn aelodau o wahanol sefydliadau yn y pentref er nad ydynt yn byw yn Rhosmeirch ar hyn o bryd.  Mae tir y cais yn rhan o dir y mae ef ei hun yn berchen arno ac nid yw ar dir y byddai’n dymuno gweld rhagor o ddatblygiad arno.  Dim ond i bwrpas sicrhau bod ei ferch yn byw yn agos iddo ef a’i wraig.

 

Holodd y Cynghorydd R.O.Jones am leoliad Pwros ar y map.  Cyfeiriwyd yr Aelodau gan y Rheolwr Datblygu Cynllunio at lun o safle’r cais a oedd yn ffurfio congl plot ger Pwros.  Aeth y Swyddog ymlaen i ddweud bod amgylchiadau personol wedi eu crybwyll i gefnogi’r cais ac atgoffodd y Pwyllgor mai’r defnydd a wneir o’r tir yw’r ystyriaeth o bersbectif cynllunio.  Nid yw’r ffaith mae Cyngor Tref Llangefni sy’n rheoli’r tir yn berthnasol i’r penderfyniad ar ddefnydd o dir a wneir yn y cyfarfod heddiw, oherwydd bod yr asesiad hwnnw yn cael ei wneud ar sail y polisïau cyfredol a safle’r cais, sydd mewn cae.  Yn ogystal â’r hyn a nodir yn yr adroddiad ysgrifenedig.  Mae pedwar llythyr arall yn cefnogi’r cais wedi eu derbyn a gellir eu gweld yn y pecyn gohebiaeth.  Safbwynt y Swyddog Cynllunio mewn perthynas â’r cais yw nad yw’n cydymffurfio gyda’r polisi er bod Rhosmeirch wedi ei nodi fel treflan yn y Cynllun Datblygu.  Mae’r polisi yn dweud y bydd anheddau sengl yn cael eu caniatáu ar safleoedd mewnlenwi neu safleoedd derbyniol eraill sydd union ger llaw’r rhan o’r dreflan a’r clystyrau sydd wedi eu datblygu eisoes.  Ystyrir bod y cynnig dan sylw yn ymwthio i’r cefn gwlad ac y byddai’n ddatblygiad rhubanaidd mewn lleoliad cefn gwlad agored a hynny’n andwyol i gymeriad ac edrychiad y lleoliad.  Argymhelliad y Swyddog felly oedd y dylid gwrthod y cais.

 

Cafwyd trafodaeth fer wedyn am y llun a ddangoswyd o’r safle.  Cyfeiriwyd yr Aelodau gan y Rheolwr Datblygu Cynllunio at bersbectif arall a oedd yn dangos safle’r cais o gymharu gyda’r ganolfan gymunedol ac anheddau eraill i fyny’r lôn.  Gofynnodd y Cynghorydd John Griffith pa mor bell o’r pentref yw safle’r cais; dywedodd y Swyddog nad yw’r wybodaeth honno ar gael oherwydd nad oes ffin i’r pentref ac mai mater ydyw o safleoedd mewnlenwi neu ddefnyddio safleoedd sydd union gerllaw’r rhan o’r pentref sydd wedi ei ddatblygu.  Pa mor bell bynnag yw o’r pentref, mae safle’r cais o fewn cae sydd yn ymwthio i’r cefn gwlad.

 

Yn siarad fel Aelod Lleol, pwysleisiodd y Cynghorydd Nicola Roberts gysylltiadau lleol yr ymgeiswyr a’r teulu dros ddegawdau yn ogystal â’r rhan lawn y maent yn ei chwarae mewn cymuned agos.  Mae perchennog y tir yn cefnogi bwriadau’r ymgeisydd oherwydd ei fod yn dymuno gweld ei ferch a’i theulu’n dychwelyd.  Pwrpas codi’r annedd hon yw caniatáu i Bethan Jones ddod adref i roi cymorth i’w mam a’i thad wrth iddynt heneiddio. Bwriad a blaenoriaeth y teulu yw codi annedd sy’n cydweddu a’r amgylchedd lleol.  Bydd y fynedfa i Pwros hefyd yn cael ei defnyddio fel y brif fynedfa i’r annedd newydd.  Ni fydd yr annedd na’r fynedfa yn cael effaith andwyol ar batrymau teithio neu gerdded cyfredol o fewn yr ardal nac ar draffig, llwybrau cyhoeddus a llwybrau beicio.  Cafwyd caniatad eisoes ar gyfer cysylltiad i gyfleusterau carthffosiaeth a dŵr cyfagos.  Tir amaethyddol yw’r tir o dan sylw nad yw’n werth rhyw lawer ac nad oes gan berchennog y tir a’r teulu unrhyw fwriad o’i ddatblygu ymhellach am unrhyw elw ariannol.   Oherwydd y byddai’r annedd arfaethedig ar dir rhwng Pwros a chanolfan gymunedol Rhosmeirch ni fyddai’n cael effaith andwyol ar olygfa neb a bydd unrhyw effaith ar y dirwedd yn fychan iawn.  Mae’r tir datblygu o fewn ffiniau Rhosmeirch sydd yn y Cynllun Lleol ar gyfer ei ddatblygu ac nid yw felly ond yn estyniad rhesymol i’r pentref.  Nid oes unrhyw wrthwynebiadau lleol i’r datblygiad - yn wir mae’r gymuned yn gefnogol a chafwyd llythyrau o gefnogaeth o sawl ffynhonnell gan gynnwys y Cynghorydd Tref leol sy’n byw yn y pentref.  Mae ystyriaethau ieithyddol gyda’r cais hefyd o gofio bod y teulu’n gefnogol iawn i’r iaith Gymraeg ac y byddent yn dymuno gweld y defnydd o’r iaith yn cael ei ddatblygu yn y pentref sy’n bwysig o gofio dirywiad sy’n digwydd o ran y defnydd o’r iaith Gymraeg yn Ynys Môn.  I gloi gofynnodd y Cynghorydd Roberts i’r Pwyllgor ystyried y cais yn ofalus iawn ac ymweld â’r safle o bosib er mwyn gweld pa mor agos yw safle’r cais i’r pentref.

 

Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio bod y cais yn cael ei wneud ar ddarn o dir ac ni ellir ei gyfyngu i unrhyw unigolyn.  Os caiff caniatad ei roi bydd hwnnw’n ganiatâd ar y tir dan sylw ac nid i’r person sy’n gwneud y cais.  Pwysleisiodd y Swyddog unwaith eto nad yw pwy ydi’r ymgeisydd yn ffactor o ran penderfynu rhoi caniatad cynllunio ar ddarn o dir ac na ellir rhoi unrhyw gyfyngiadau ar pwy fyddai’n byw yn yr annedd hon pe bai’r cais yn cael ei ganiatau gan y byddai’n dŷ ar y farchnad agored.  Felly mae’n beryg penderfynu’r cais ar sail pwy ydyw’r ymgeisydd yn hytrach nag ar rinweddau cynllunio’r cais.  Nid yw rhinweddau personol yr ymgeisydd a chryfder eu cyfraniad i’r gymuned yn ffactorau sy’n gorbwyso ystyriaethau polisi.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Ann Griffith am eglurhad ynghylch ffin y pentref o gofio bod yr Aelod Lleol wedi dweud un peth a’r Swyddog wedi dweud rhywbeth arall.  Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio nad oes gan Rhosmeirch ffin ddatblygu; mae polisi dan y Cynllun Lleol sy’n caniatau anheddau sengl ar safleoedd mewnlenwi neu ar gyrion rhesymol y pentref ac mae'r un fath o ddarpariaeth wedi ei chynnwys yn y Cynllun Unedol a Stopiwyd ac mae’r un meini prawf yn berthnasol.  Mae’n ffaith cynllunio nad oes ffin bendant i’r pentref.

 

Roedd y Cynghorydd Jeff Evans yn credu bod y llun cyntaf o safle’r cais yn anfanteisiol i’r cynnig a bod ei ddangos o bersbectif arall sy’n cynnwys y ganolfan gymunedol a’r datblygiadau eraill cyfagos yn egluro’r sefyllfa.  Ni chafwyd unrhyw wrthwynebiadau lleol i’r cynnig ac er efallai ei fod yn groes i’r polisi yn dechnegol, roedd y Cynghorydd Evans yn credu y dylid cymryd i ystyriaeth yr amodau lleol, y bobl, a bwriadau unigolion oedd wedi eu geni mewn ardal ac sy’n dymuno byw yno.  Dywedodd bod rhaid cymryd y materion gwirioneddol i ystyriaeth weithiau h.y. cadw pobl yn eu pentref eu hunain yn siarad eu hiaith eu hunain ac yn cefnogi eu cymunedau eu hunain.

 

Atgoffwyd y Pwyllgor gan y Rheolwr Datblygu Cynllunio bod angen bod yn gyson wrth ddelio gyda cheisiadau o gofio ei fod eisoes wedi gwrthod cais lle tynnwyd sylw at amgylchiadau personol.  Pwysleisiodd unwaith yn rhagor y dylid penderfynu ceisiadau ar sail ystyriaethau polisïau cynllunio ac nid ar sail pwy yw’r ymgeisydd.  Roedd y Cynghorydd Nicola Roberts yn cydnabod bod angen cysondeb ond nododd bod pob cais yn wahanol i’r cais o’i flaen ac y dylid ei benderfynu ar ei rinweddau ei hun.

 

Dywedodd y Cynghorydd Richard Owain Jones ei fod, ar ôl clywed yr holl ddadleuon a gyflwynwyd a gweld map y safle datblygu a’i gyffiniau, yn fodlon cefnogi’r cais os yw o fewn terfynau rhesymol y pentref.

 

Dywedodd y Cynghorydd Vaughan Hughes fod Prif Weinidog Cymru wedi mynegi pryder yn ddiweddar ynghylch erydiad cymunedau Cymreig a’i fod wedi dweud y dylai’r ffactor iaith fod yn ystyriaeth gynllunio yn y dyfodol.  Er ei fod yn cydnabod bod rhaid i Swyddogion weithio dan yr amodau sy’n bodoli ar hyn o bryd, pwysleisiodd y bydd yr iaith Gymraeg yn marw ar yr Ynys oni bai bod pobl ifanc fel yr ymgeiswyr hyn yn gallu byw yn eu cymunedau eu hunain.

 

Cynnigiodd y Cynghorydd Jeff Evans y dylid cymeradwyo’r cais ac fe gafodd ei eilio gan y Cynghorydd Vaughan Hughes.

 

Cynnigiodd y Cynghorydd John Griffith y dylid ymweld â’r safle fel yr awgrymwyd gan yr Aelod Lleol ac fe gafodd ei eilio gan y Cynghorydd Ann Griffith.

 

Yn y bleidlais ddilynol, pleidleisiodd y Cynghorwyr Jeff Evans, Raymond Jones, R.O.Jones a Vaughan Hughes o blaid cymeradwyo’r cais a hynny’n groes i argymhelliad y Swyddog.

 

Pleidleisiodd y Cynghorwyr Ann Griffith, John Griffith a Kenneth Hughes am ymweliad safle.

 

Penderfynwyd cymeradwyo’r cais a hynny’n groes i argymhelliad y Swyddog ar y sail yr ystyrir bod y cais o fewn ffiniau datblygu rhesymol pentref Rhosmeirch. 

 

Yn unol â gofynion y Cyfansoddiad, bydd y cais yn cael ei gyfeirio’n awtomatig i gyfarfod nesaf y Pwyllgor i ganiatau i Swyddogion ymateb i’r rheswm a roddwyd dros gymeradwyo’r cais. (Fel yr Aelod Lleol, ni phleidleisiodd y Cynghorydd Nicola Roberts ar y mater).

 

12.6 34LPA982/CA/CC – Caniatád Ardal Cadwraeth ar gyfer dymchwel yr adeilad presennol yn The Stilts Building, Llangefni

 

Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio bod y cais hwn wedi cael ei gyflwyno oherwydd bod yr adeilad yn fwy na 115 o fetrau ciwbig ac mae angen Caniatâd Ardal Gadwraeth ar gyfer dymchwel unrhyw adeiladau/strwythur sy’n fwy na hyn.  Unwaith y bydd arian ar gael, bydd yr adeiladau’n cael eu dymchwel a bydd y tir yn cael ei droi’n llecynnau parcio a bydd hyn yn caniatáu mwy o le i geir fynd o gwmpas y tro wrth fynd i mewn i’r maes parcio gan wella gwelededd i mewn ac allan o’r safle.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Jeff Evans bod y cais yn cael ei ganiatáu ac eiliwyd gan y Cynghorydd Kenneth Hughes.

 

Penderfynwyd caniatáu’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog gyda’r amodau a restrir yn yr adroddiad ysgrifenedig. 

 

12.7 47LPA966/CC – Cais amlinellol ar gyfer datblygiad trigiannol ynghyd â dymchwel yr hen ysgol ar dir  Ysgol Gynradd Llanddeusant.

 

Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio wrth y Pwyllgor bod y swyddogion yn argymell gohirio rhoi sylw i’r cais er mwyn caniatau digon o amser iddynt ystyried yr asesiad iaith mewn perthynas â’r cais hwn sydd ond newydd ddod i law. 

 

Dywedodd y Cynghorydd Kenneth Hughes ei fod o blaid gohirio ond ar sail rhesymau adnewyddiad democrataidd er mwyn sicrhau bod y cyhoedd sy’n talu trethi a chyflogau’n cael dweud eu dweud ac yn cael gwrandawiad.  Ychwanegodd ei fod yn teimlo’n gryf bod dyletswydd ar yr Adain Eiddo i gydnabod o leiaf bod lle i gael trafodaethau pellach ar y mater hwn er mwyn ceisio cael ffordd ymlaen sy’n dderbyniol i’r holl bartïon.

 

Penderfynwyd gohirio rhoi sylw i’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog. 

 

 

 

Dogfennau ategol: