13.1 20C27D/2/CONS – Pwerdy Wylfa, Cemaes
13.2 34LPA982A/CC – Yr Adeilad ar Stiltiau, Llangefni
13.3 38C185C – Maes Mawr, Llanfechell
Cofnodion:
13.1 20C27D/2/CONS – Ymgynghoriad ar gyfer dadgomisiynu Wylfa A
Cyflwynwyd i sylw’r Pwyllgor adroddiad yn amlinellu ymateb arfaethedig ar ran yr Awdurdod i ymgynghoriad yr Awdurdod Gweithredol ar gyfer Iechyd a Diogelwch sy’n gwneud sylwadau ynglyn a’r Orsaf Niwclear Gyfredol yn Wylfa.
Dywedodd y Prif Swyddog Cynllunio wrth y Pwyllgor fod y Swyddfa dros Reoli Niwclear, sef asiantau ar gyfer yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch a’r Awdurdod Gorfodi ar gyfer adweithyddion niwclear yn ymgynghori’n ffurfiol ar hyn o bryd a bod Cyngor Sir Ynys Môn wedi cael gwahoddiad i wneud sylwadau ar y cais ar gyfer dad-gomisiynu, ac yn arbennig felly ar y datganiad amgylcheddol sy’n cynnwys asesiad o’r effaith ar yr amgylchedd a mesurau lliniaru i osgoi neu leihau effaith sylweddol ar yr amgylchedd.
Cafodd Gorsaf Pŵer Niwclear Wylfa ganiatad EIADR i ddad-gomisiynu ym mis Mawrth 2009, yn seiliedig ar ddatganiad amgylcheddol a baratowyd yn 2008 (DA 2008). Mae’r caniatad cyfredol gan EIADR yn caniatau ar gyfer cychwyn y prosiect dad-gomisiynu cyn pen 5 mlynedd, ond oherwydd estyn ei hoes gynhyrchu nid oes disgwyl y bydd yr orsaf yn cau ac yn cychwyn dad-gomisiynu tan 2015 ac erbyn hynny bydd y caniatad cyfredol wedi dod i ben ac felly mae Wylfa yn gofyn am ganiatad newydd.
Fel ymgynghorai, penderfynodd y Cyngor ym mis Tachwedd 2008 i anfon y sylwadau fel y cawsant eu rhestru yn yr adroddiad at yr Awdurdod Gweithredol ar gyfer Iechyd a Diogelwch. Cychwynnodd y cyfnod ymgynghori cyfredol ym Mai 2013 ac mae’r swyddfa dros reoli niwclear angen sylwadau erbyn 9 Awst 2013. Mae’r adroddiad yn manylu ar yr ymatebion ymgynghori ac yn adolygu newidiadau i’r DA diweddaredig (Mawrth, 2013) a newidiadau perthnasol eraill mewn amgylchiadau. Mae hefyd yn gwneud argymhellion ar faterion y mae’r Cyngor yn ystyried y dylai’r Swyddfa Dros Reoli Niwclear eu cymryd i ystyriaeth fel rhan o’r broses ganiatau gan EIADR. Manylir ar y rhain yn rhan 12 yr adroddiad.
Cyfeiriwyd yr Aelodau gan y Swyddog at y map safle ar gyfer Wylfa i ddangos tair prif ran y broses dad-gomisiynu gan gynnwys paratoadau Gofal a Chynnal; Gofal a Chynnal a Chlirio’r Safle’n Derfynol.
Gwnaed sylw gan y Cynghorydd Kenneth Hughes y bydd cynnydd yn y traffig trwy bentref Llanfachraeth ac roedd yn siomedig nad oedd llwybr osgoi ar gyfer Llanfachraeth wedi ei gymryd i ystyriaeth.
Dywedodd y Swyddog Cynllunio bod angen gwahaniaethu rhwng datblygu’r orsaf niwclear arfaethedig newydd a fydd yn gais i Lywodraeth Cymru a dad-gomisiynu’r orsaf niwclear gyfredol. Os bydd gorsaf niwclear newydd yn cael ei hadeiladu mae trafodaethau eisoes wedi cychwyn mewn perthynas â darparu ffordd osgoi ar gyfer Llanfachraeth. Dywedodd y Swyddog na fyddai’n hapus cynnwys y sylw a wnaed yn y sylwadau y bwriedir eu hanfon at y Swyddfa Dros Reoli Niwclear.
Penderfynwyd cymeradwyo argymhellion yr adroddiad a nodir yn rhan 12, gan ychwanegu sylw mewn perthynas ag ystyried darpar llwybr osgoi ar gyfer Llanfachraeth.
13.2 34LPA982A/CC – Rhybudd o fwriad i ddymchwel adeilad yn The Stilts Building, Llangefni
Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio nad oedd angen cael caniatâd blaenorol yr Awdurdod Cynllunio Lleol ar gyfer y datblygiad uchod a’i fod yn ddatblygiad a ganiateir. Adroddir ar y mater er gwybodaeth yn unig.
Penderfynwyd nodi’r adroddiad fel gwybodaeth.
13.3 38C185C – Cais llawn ar gyfer codi un twrbin gwynt gyda uchder hwb hyd at uchafswm o 24.6m, diamedr rotor hyd at 19.2m a uchder blaen unionsyth fertigol hyd at uchafswm o 34.2m ar dir yn Maes Mawr, Llanfechell
Ar ôl datgan diddordeb yn y cais, gadawodd y Cynghorydd Kenneth Hughes y cyfarfod ac ni chymerodd ran yn y drafodaeth arno.
Atgoffwyd yr Aelodau gan y Rheolwr Datblygu Cynllunio bod y Pwyllgor wedi ymweld â’r safle a bod gofyn i’r Pwyllgor ddod i benderfyniad ynghylch sefyllfa’r Awdurdod mewn perthynas â’r apêl. Yn ei gyfarfod ym mis Mehefin dyfynnodd y Pwyllgor nifer o resymau dros fod eisiau gwrthod caniatad cynllunio ac mae’r rhain wedi cael sylw fesul un yn yr adroddiad. Mae’r Swyddog yn parhau i argymell na ddylid gwrthwynebu’r apêl ac, os bydd yr Arolygiaeth Gynllunio yn bwriadu cymeradwyo’r apêl, ei fod yn cymryd i ystyriaeth yr amodau a nodir yn yr adroddiad. Mae’r amserlen ar gyfer apêl bellach wedi ei gosod ac mae angen i’r Awdurdod gyflwyno ei ddatganiad erbyn yr 21ain o’r mis; ni fydd unrhyw sylwadau a dderbynir ar ol hynny yn cael sylw.
Dywedodd y Cynghorydd Victor Hughes nad oedd yn gwrthwynebu tyrbinau gwynt domestig llai sy’n darparu ynni adnewyddadwy ar gyfer ffermydd, ond nad oedd o blaid tyrbinau gwynt mawr. Fodd bynnag, roedd yn barod i ystyried y cynnig cyfredol ar ei rinweddau ei hun. Roedd yn teimlo bod y datblygiad arfaethedig yn weddol fawr a bod anheddau o’i gwmpas. Pe bai’n gofyn iddo i hun a fyddai’n dymuno gweld strwythur o’r fath pob dydd er bod modd gweld rhai eraill ar y gorwel, byddai’n rhaid iddo ddweud na. Nid oedd yn gallu bod yn sicr na fyddai’n cael effaith ar fywydau y rheini o’i gwmpas pan maent yn yr awyr agored neu yn eu car er enghraifft. Nododd bod TAN 8 yn rhoi arweiniad ac yn awgrymu na ddylid caniatau i dyrbinau gwynt ymestyn ar draws y cefn gwlad. Gofynnodd a oedd hon yn ystyriaeth yn yr achos hwn ac a yw’n wir bod y rhan fwyaf o bobl yr Ynys yn teimlo erbyn hyn mai digon yw digon.
Dywedodd y Cynghorydd Ann Griffith ei bod yn teimlo, ar ôl ymweld â’r safle bod yr anheddau agosaf yn agos iawn i’r tyrbin arfaethedig ac nad oedd y ffotogyfosodiad yn adlewyrchiad cywir o’r hyn yr oedd wedi ei weld ar yr ymweliad safle. Roedd yn teimlo y byddai’r datblygiad yn cael effaith sylweddol ar fwynderau gweledol trigolion yr ardal. Roedd hi’n gwrthwynebu’r cais ar y sail honno.
Fel yr Aelod Lleol dywedodd y Cynghorydd John Griffith bod safle’r cais o fewn 500m i’r anheddau agosaf ac y dylid cymryd hynny i ystyriaeth yn ogystal â statws cyfredol y CCA mewn perthynas â maint y tyrbin a’r pellter o’r anheddau agosaf.
Codwyd mater ynghylch ail-ymgynghori ar y CCA. Roedd y Cynghorydd R.O.Jones yn credu nad oedd yn deg ystyried ceisiadau am dyrbinau gwynt heb ddatrys statws y CCA yn gyntaf ac yn benodol felly’r darpariaethau mewn perthynas â’r pellteroedd rhwng tyrbinau gwynt a’r anheddau agosaf.
Esboniodd y Rheolwr Gwasanaethau Cyfreithiol y byddai goblygiadau i’r Adain Polisi Cynllunio pe byddid yn ail-ymgynghori ar elfennau o’r CCA ond o gofio bod chwe mis wedi mynd ers mabwysiadu’r CCA, mae’n fater y gall y Cyngor wneud penderfyniad pellach yn ei gylch. Er bod y CCA wedi ei fabwysiadu gan y Cyngor Sir, nid yw’r newidiadau a wnaed ar y dyddiad mabwysiadu wedi bod yn destyn ymgynghoriad cyhoeddus ac felly rhoddwyd llai o bwysau arnynt gan Arolygwyr Cynllunio.
Yn dilyn trafodaeth bellach, dywedodd y Prif Swyddog Cynllunio y byddai’n trafod y mater ail-ymgynghori gyda’r Prif Weithredwr a’r Adain Polisi Cynllunio.
Cynnigiodd y Cynghorydd Ann Griffith y dylai’r Awdurdod frwydro’r apêl ar y sail y byddai’n Pwyllgor wedi gwrthod y cais oherwydd ei effaith ar fwynderau gweledol ac oherwydd ei fod yn groes i ofynion y CCA oherwydd ei agosrwydd i anheddau cyfagos. Eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Victor Hughes.
Pleidleisiodd y Cynghorydd Ann Griffith, Victor Hughes a Nicola Roberts o blaid brwydro’r apêl.
Penderfynwyd ymladd yr apêl ar y sail y byddai’r Pwyllgor wedi gwrthod y cais oherwydd ei effaith ar fwynderau gweledol ac oherwydd ei fod yn tynnu’n groes i ofynion y CCA oherwydd ei agosrwydd at anheddau cyfagos.
Nododd y Rheolwr Datblygu Cynllunio mai’r Cynghorwyr Ann Griffith a Victor Hughes fyddai’n amddiffyn y penderfyniad a’r apêl yn unol â’r Rheolau perthnasol.
(Ni phleidleisiodd y Cynghorwyr Jeff Evans, Vaughan Hughes, Raymond Jones a Richard O. Jones ar y mater oherwydd nad oeddent wedi bod ar yr ymweliad safle. Ni phleidleisiodd y Cynghorydd John Griffith fel yr Aelod Lleol. Ni phleidleisiodd y Cynghorydd W.T.Hughes ar y mater oherwydd ei fod yn berchen ar dyrbin gwynt)
Dogfennau ategol: