Eitem Rhaglen

Ceisiadau'n Codi

7.1 15C91D – Ty Canol, Malltraeth

 

7.2 21C40A – Penrhyn Gwyn, Llanddaniel

 

7.3 40C233B/VAR – Yr Owls, Dulas

 

7.4 44C311 – 4 Tai Cyngor, Rhosgoch

 

7.5 46C129B/FR – Parc Dinghy, Porth Castell, Ffordd Ravenspoint,Trearddur

Cofnodion:

7.1  15C91D - Cais llawn i ddymchwel yr ystafell ardd bresennol ynghyd â chodi adeilad pwll nofio yn ei le yn Tŷ Canol, Malltraeth

 

Roedd y cais hwn wedi cael ei alw i mewn gan Aelod Lleol er mwyn i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion benderfynu arno.  Yn ei gyfarfod ar 5 Tachwedd, penderfynodd y Pwyllgor ohirio gwneud penderfyniad er mwyn cael prawf mandylledd mewn perthynas â’r draeniad ac i dderbyn sylwadau gan y Swyddog AHNE.

 

Cadarnhaodd y Rheolwr Rheoli Datblygu nad oedd y Swyddog AHNE wedi codi unrhyw wrthwynebiadau i’r cynnig.  Mae’r amodau sydd ynghlwm wrth y caniatâd cynllunio yn rhoddi sylw i’r problemau draenio.  Roedd yr argymhelliad yn un i gymeradwyo’r cais gyda’r amodau a restrwyd ac ar yr amod y derbynnir manylion cyn i’r caniatâd gael ei ryddhau.  Oni ddaw’r manylion hynny i law neu os byddant yn annerbyniol i’r Pwyllgor Cynllunio, yna bydd y cais yn cael ei ailgyflwyno i’r Pwyllgor.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Vaughan Hughes bod y cais yn cael ei gymeradwyo. Eiliodd ei gynnig gan y Cynghorydd Richard Owain Jones.

 

Penderfynwyd caniatáu'r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog gyda’r amodau a nodwyd yn yr adroddiad ysgrifenedig ac fel yr adroddwyd i'r Pwyllgor.

 

7.2  21C40A – Cais llawn i godi sied amaethyddol ar gyfer cadw anifeiliaid a phwll cribol ar dir yn Penrhyn Gwyn, Llanddaniel

 

Mae’r cais wedi cael ei alw i mewn gan Aelod Lleol er mwyn i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion benderfynu arno.  Yn ei gyfarfod ar 3 Medi 2014, penderfynodd y Pwyllgor ymweld â’r safle a chynhaliwyd yr ymweliad ar 17 Medi.  Yn ei gyfarfod ar 1 Hydref, penderfynodd y Pwyllgor ohirio gwneud penderfyniad ar y cais yn dilyn derbyn ymateb yr Adran Iechyd yr Amgylchedd i’r ymgynghori a gwrthwynebiadau ychwanegol.  Anfonwyd y rheini ymlaen i’r ymgeisydd er mwyn iddynt gael sylw cyn gwneud penderfyniad.   Yn ei gyfarfod ar 5 Tachwedd, penderfynodd y Pwyllgor eto i ohirio gwneud penderfyniad ar y cais er mwyn rhoddi i’r ymgeisydd y cyfle i wneud sylwadau.

 

Anerchodd Mr. Rhys Davies y Pwyllgor yn gwrthwynebu’r cais ar sail pryderon difrifol yn lleol ynglŷn â’r cynnig.  Dywedodd bod y Swyddog yn ei adroddiad yn argymell caniatáu yn amodol ar gynllun sgrinio a rheoli arogleuon ond ystyrir y bydd y camau lliniaru hynny yn rhy hwyr unwaith y bydd y cynnig wedi ei weithredu oherwydd ei fod mod agos at yr annedd agosaf sef Penrhyn Gwyn.  Dylid bod wedi cynnal asesiad sŵn ac effaith ar arogleuon cyn gwneud penderfyniad ar y cais sef canllawiau y mae awdurdodau eraill yng Nghymru yn eu dilyn pan fydd unrhyw gynnig i ddatblygu o fewn 200m i’r eiddo agosaf.  Yn yr achos hwn, bydd wedi ei leoli o fewn 100m o Penrhyn Gwyn.  Dywed canllawiau cynllunio y gellir codi adeiladau i gadw anifeiliaid neu byllau cribol heb ganiatâd cynllunio os ydynt wedi eu lleoli ymhellach na 400m o’r annedd agosaf gan ei gwneud yn glir felly mai 400m yw’r meincnod ar gyfer cynigion megis hwn.  Dywed y Swyddog Iechyd yr Amgylchedd y dylid bod wedi rhoddi rhesymau ar gyfer diystyru lleoliadau eraill gan nodi fod pellter yn ffactor lliniaru pwysig gan ddweud bod cwynion yn lle tebygol o godi os yw’r cynnig mor bell ag y gall fod o’r eiddo agosaf. Mae diffyg canllawiau cenedlaethol yn rhoi’r swyddogion mewn sefyllfa anodd ond er gwaethaf hynny, mae ymateb Adain Iechyd yr Amgylchedd yn ei gwneud yn glir y gellir cael problemau yn y dyfodol heb fedru cymryd unrhyw gamau i unioni hynny.  Mewn achos tebyg lle caniatawyd cynnig a oedd tua’r un pellter i eiddo cyfagos, cafodd yr Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus yr Awdurdod yn euog o gamweinyddu ac yn yr achos hwnnw, mae’r problemau yn parhau i’r ymgeisydd, trigolion lleol a’r awdurdod fel ei gilydd.  Nid yw deiliaid Penrhyn Gwyn yn gwrthwynebu egwyddor y datblygiad ar ran arall o’r tir ac maent wedi trafod y posibilrwydd hwnnw gyda’r ymgeisydd.  Roeddent hwy ar ddeall y byddai’r cais yn cael ei ddiwygio ond mae’r cais hwnnw bellach wedi cael ei dynnu’n ôl.  Gofynnod i’r Pwyllgor wrthod y cais.

 

Nid oedd gan Aelodau’r Pwyllgor unrhyw gwestiynau i Mr. Davies.

 

Roedd y Cynghorydd Eifion Jones sef yr Aelod Lleol o run farn a Mr. Rhys Davies ac yn wyneb y dystiolaeth a roddwyd, dywedodd y byddai’n annoeth i ganiatáu’r cais.

 

Dywedodd y Rheolwr Rheoli Datblygu mai’r materion allweddol yw effaith y cynnig ar y dirwedd a mwynderau trigiannol.  Mae’r Swyddog yn fodlon y bydd y cynllun, fel y cafodd ei ddiwygio, o gymorth i liniaru sŵn ac effeithiau gweledol gan wneud y cynnig yn un derbyniol.  Oherwydd nad oes canllawiau cenedlaethol, rhaid taro cydbwysedd rhwng anghenion yr uned ffermio a mwynderau trigiannol sy’n golygu bod gwneud penderfyniad y naill ffordd neu’r llall yn anodd.  Cadarnhaodd y cafwyd trafodaethau ynghylch ail-leoli ond na chafwyd unrhyw gynnig i’r perwyl hwnnw.

 

Gofynnodd y Pwyllgor am eglurhad ynghylch lleoliad y cynnig o gymharu â’r eiddo agosaf a dangoswyd hynny ar y cynllun o’r safle.  Dywedodd y Cynghorydd Vaughan Hughes, oherwydd nad oedd unrhyw ganllawiau cenedlaethol ac oherwydd y dystiolaeth o ymyrraeth yr Ombwdsmon a’r posibilrwydd y ceir effeithiau andwyol, byddai caniatáu’r cais yn ei farn ef yn risg.  Cynigiodd y dylid gwrthod y cais yn groes i argymhelliad y Swyddog.  Eiliwyd ei gynnig gan y Cynghorydd Ann Griffith.

 

Dygodd y Cynghorydd Ken Hughes sylw at y ffaith bod y cynllun ar dir amaethyddol a bod y cais yn rhan annatod o fyw yn y cefn gwlad.  Rhaid i’r adeiladau fod yn agos at lôn i bwrpas mynediad.  Cynigiodd y dylid cymeradwyo’r cais ac fe eiliwyd ei gynnig gan y Cynghorydd Richard Owain Jones.

 

Pleidleisiodd y Cynghorwyr Lewis Davies, John Griffith, Vaughan Hughes, Nicola Roberts ac Ann Griffith i wrthod y cais yn groes i argymhelliad y Swyddog oherwydd bod y cynnig mor agos at yr annedd agosaf a’r potensial o ran sŵn ac arogleuon.  Pleidleisiodd y Cynghorwyr Ken Hughes, Victor Hughes, Richard Owain Jones ac W. T. Hughes i ganiatáu’r cais.

 

Penderfynwyd gwrthod y cais yn groes i argymhelliad y Swyddog oherwydd ei agosrwydd at yr annedd agosaf a'r potensial ar gyfer sŵn ac effaith arogl.

 

Yn unol â gofynion Cyfansoddiad y Cyngor, bydd y cais yn cael ei ohirio’n awtomatig i’r cyfarfod nesaf i ganiatáu i’r swyddogion ymateb i’r rhesymau a roddwyd dros wrthod y cais.

 

7.3  40C233B/VAR -     Cais i ddiwygio amod (01) (Trac a ganiateir ar gyfer defnydd amaethyddol) ar ganiatâd cynllunio 40C233 i ganiatáu cadw’r trac ar gyfer ddefnydd amaethyddol a symudiad cerbydau ar gyfer gofynion gweithredol Parc Carafanau Tyddyn Isaf yn unig yn The Owls, Dulas.

 

Mae’r cais wedi cael ei alw i mewn gan Aelod Lleol er mwyn i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion benderfynu arno.  Yn ei gyfarfod ar 5 Tachwedd 2014, penderfynodd y Pwyllgor ymweld â’r safle a chynhaliwyd yr ymweliad hwnnw ar 19 Tachwedd.

 

Dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio fod y materion allweddol yn ymwneud â derbynioldeb y cynnig o ran ei effaith ar fwynderau deiliaid eiddo cyfagos, yr effaith weledol ar yr ardal a’r AHNE ddynodedig ac ar ddiogelwch ar y ffyrdd. Ym marn y Swyddog, ni fyddai’r cynnig yn cael effaith annerbyniol ar fwynderau trigolion lleol i’r graddau y byddai hynny’n cyfiawnhau ei wrthod oherwydd mae’r trac eisoes yn caniatáu defnydd heb gyfyngiad neu amod i unrhyw gerbyd amaethyddol a byddai’r defnydd ychwanegol y bwriedir ei wneud i ddibenion gweithredol y Maes Carafanau yn digwydd o bryd i’w gilydd yn unig. Oherwydd mai defnydd ysbeidiol ac anaml fyddai’n cael ei wneud o’r trac, nid ystyrir y byddai’r cynnydd o ran defnydd yn cael effaith andwyol ar yr AHNE neu ar gymeriad yr ardal i’r graddau y dylid gwrthod y cais. Mae’r Adran Briffyrdd wedi cadarnhau fod y cynnig yn dderbyniol o safbwynt diogelwch ar y ffyrdd. O’r herwydd, mae’r argymhelliad yn un o ganiatáu.

 

Roedd y Cynghorydd Victor Hughes yn bryderus fod y trac presennol gyda’r troadau cas yn ei gwneud yn anodd i gerbydau basio ac y byddai hynny’n arbennig o wir am garafanau yn enwedig oherwydd y byddai’n rhaid iddynt fynd heibio eiddo cyfagos. Cododd fater cydymffurfiaeth gan awgrymu y byddai’n anodd sicrhau a monitro cydymffurfiaeth gyda’r amodau mewn perthynas â’r defnydd o’r trac.

 

Dywedodd y Cynghorydd Richard Owain Jones ei fod, ar ôl ymweld â’r eiddo yn fodlon cynnig caniatáu’r cais ac fe eiliwyd ei gynnig gan y Cynghorydd Kenneth Hughes.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Victor Hughes welliant y dylid cyfyngu’r defnydd o’r trac i ofynion gweithredol Maes Carafanau Tyddyn Isaf ac i 4 awr y diwrnod (naill ai’r bore neu’r prynhawn) yn unig. Eiliwyd y gwelliant gan y Cynghorydd Nicola Roberts.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Lewis Davies ymhellach y dylai fod rheidrwydd ar yr ymgeisydd i gysylltu gyda’r Adran Gynllunio mewn perthynas â’r adegau hynny y bydd y trac yn cael ei ddefnyddio i bwrpas y maes carafanau.  Dywedodd y Cynghorwyr Kenneth Hughes a Richard Owain Jones eu bod yn hapus gyda’r newidiadau.

 

Dywedodd y Rheolwr Gwasanaethau Cyfreithiol y byddai’r cynnig o ran rhoi gwybod i’r Adran Gynllunio pryd y defnyddir y trac yn rhoi baich gweinyddol ar y Gwasanaeth Cynllunio ac mae’n debygol y byddai’n anymarferol i’w weithredu. Roedd y Rheolwr Rheoli Datblygu yn cydnabod y pryderon a godwyd mewn perthynas â rheoli’r defnydd o’r trac ac y byddid yn dibynnu ar dderbyn cwynion lleol am wybodaeth ynghylch unrhyw achosion o dorri amodau. Dywedodd ei fod yn fodlon mynnu ar amodau llymach mewn perthynas â’r defnydd o’r trac ond fod ganddo amheuon ynghylch a fedrid gweinyddu’r drefn o roi gwybod i’r Pwyllgor Cynllunio ymlaen llaw am y defnydd hwnnw.

 

Penderfynwyd caniatáu'r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog yn amodol ar yr amodau a nodwyd yn yr adroddiad ysgrifenedig ac yn amodol ar gyfyngu ar y defnydd o'r trac ar gyfer gofynion gweithredol y Maes Carafannau i 4 awr y dydd (naill ai a.m. neu'n p.m.) am 5 diwrnod yr wythnos.

 

7.4  44C311 - Cais amlinellol gyda rhai materion wedi eu cadw’n ôl ar gyfer codi un annedd ar dir ger 4 Tai Cyngor, Rhosgoch

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais yr Aelod Lleol. Yn y cyfarfod ar 5 Tachwedd, penderfynodd y Pwyllgor ganiatáu’r cais yn groes i argymhelliad y Swyddog oherwydd ei fod yn tybio fod y cynnig yn cydymffurfio gyda Pholisi 50 ac na fyddai’n achosi niwed annerbyniol i edrychiad a chymeriad y dirwedd.

 

Dywedodd y Rheolwr Rheoli Datblygu fod gan y Swyddogion bryderon gwirioneddol ynghylch effeithiau andwyol y cynnig ar edrychiad a chymeriad y dirwedd a bod y cynnig o’r herwydd, yn tynnu’n groes i’r polisïau tirwedd a Pholisi 50 yng Nghynllun Lleol Ynys Môn a ddywed na ddylai cynnig ymwthio mewn modd annymunol i’r dirwedd neu niweidio cymeriad ac edrychiad yr ardal. Erys yr argymhelliad yn un o wrthod.

 

Siaradodd y Cynghorydd Aled Morris Jones, fel Aelod Lleol, o blaid y cais gan bwysleisio mai cais oedd hwn gan gwpl lleol sy’n dymuno magu eu teulu yn lleol. Dywedodd ei fod yn cydnabod y rhesymau a gyflwynwyd gan y Pwyllgor ar gyfer caniatáu’r cais fel rhai diffuant a pherthnasol. O’r herwydd, gofynnodd i’r Pwyllgor lynu wrth y penderfyniad a wnaed eisoes i ganiatáu’r cais.

 

Lleisiodd y Cynghorydd Victor Hughes ei bryderon mewn perthynas â’r dehongliad o Bolisi 50 a’i weithrediad yn yr achos hwn. Dywedodd fod aneddiadau yn cael eu rhestru yn y Polisi oherwydd eu bod yn grwpiau clos ac ynddynt o leiaf 10 o dai; nid dyma’r achos yn ardal y cynnig hwn gan mai 6 o dai yn unig sydd yma a dim ond 4 o’r rheiny mewn grŵp clos. Y clwstwr o dai ger Tafarn y Ring ar ochr orllewinol y rheilffordd sy’n cwrdd â’r meini prawf. Mae tri o dai eraill ar ochr ddeheuol y rheilffordd ac mae gan yr ymgeisydd gyswllt teuluol gydag un o’r rhain. Nid oedd felly yn gweld unrhyw reswm dros gynnig i ddatblygu mewn rhan arall o’r pentref mewn llecyn uchel ac amlwg lle bydd yn amharu ar gymeriad yr ardal. Roedd yn bryderus hefyd ynghylch maint y plot datblygu ac ynghylch sefydlu cynsail petai’n cael ei ganiatáu. Cynigiodd bod y cais yn cael ei wrthod yn unol ag argymhelliad y Swyddog. Eiliodd y Cynghorydd Lewis Davies y cynnig i wrthod. Eglurodd y Cynghorydd Aled Morris Jones fod safle arall wedi cael ei ddiystyru oherwydd ei fod yn gorsiog.

 

Mewn ymateb i gais gan Aelod am eglurhad ynghylch a yw’r cynnig yn syrthio dan ardal anheddiad Polisi 50, dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio fod Polisi 50 yn rhestru aneddiadau ond nad yw’n dynodi ffiniau ar gyfer yr aneddiadau hynny. Yn yr achos hwn, er y gellir disgrifio’r cynnig fel un sydd ar gyrion anheddiad Rhosgoch, mae gan y Swyddogion bryderon ynghylch agweddau eraill arno.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Richard Owain Jones y dylid caniatáu’r cais oherwydd, yn ei farn ef, mater o ddehongli Polisi 50 ydyw ac roedd cais tebyg wedi cael ei gymeradwyo ym Mynydd Mechell. Eiliodd y Cynghorydd Ken Hughes y cynnig am y rheswm ei fod o’r farn ei fod yn cwrdd â gofynion Polisi 50 a’r angen am dai lleol. Cytunodd y Cynghorydd Nicola Roberts ei bod yn bwysig cefnogi pobl leol.

 

Yn y bleidlais ddilynol, pleidleisiodd y Cynghorwyr Lewis Davies, Victor Hughes ac Ann Griffith i wrthod y cais yn unol ag argymhelliad y swyddog. Pleidleisiodd y Cynghorwyr John Griffith, Ken Hughes, Vaughan Hughes, Richard Owain Jones, Nicola Roberts a W T Hughes i wrthod y cais yn groes i argymhelliad y Swyddog.

 

Penderfynwyd ail-gadarnhau’r penderfyniad a wnaed eisoes gan y Pwyllgor i ganiatáu’r cais yn groes i argymhelliad y Swyddog oherwydd y tybir ei fod yn cydymffurfio gyda Pholisi 50 ac na fydd yn achosi niwed annerbyniol i edrychiad a chymeriad y lleoliad.

 

7.5  46C129B/FR – Cais llawn ar gyfer gosod arfwisg graig o flaen y wal strwythur caergawell presenol yn Dinghy Park, Porth Castell, Ravenspoint Road, Trearddur.

 

Yn y cyfarfod a gynhaliwyd ar 5 Tachwedd 2014, penderfynodd y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion y dylid ymweld â’r safle cyn penderfynu ar y cais ac fe wnaed hynny ar 19 Tachwedd.

 

Ar ôl datgan diddordeb yn y cais hwn, aeth y Cynghorydd Victor Hughes allan o'r cyfarfod yn ystod y drafodaeth arno.

 

Dywedodd y Rheolwr Rheoli Datblygu y cafwyd llythyr o wrthwynebiad ar ôl drafftio’r adroddiad ysgrifenedig sy’n ymwneud mwy ag effaith y datblygiad na’i edrychiad. Cynhaliwyd ymweliad safle i asesu effaith y cynnig ar yr arfordir ac ar yr AHNE. Cadarnhaodd y Swyddog fod y cynnig y tu allan i’r AHNE. Y mater allweddol yw effaith y cynnig ar y dirwedd o’i gwmpas. Ym marn y Swyddog, câi’r cynnig effaith ar ardal Porth Diana yn unig ac ni fydd yn andwyol i’r arfordir yn gyffredinol. Nid yw’r cynllun yn nodwedd anarferol mewn lleoliad arfordirol. Yr argymhelliad felly oedd un o ganiatáu.

 

Gofynnodd y Cynghorydd John Griffith a fyddai’n briodol caniatáu’r cynnig heb yn gyntaf gael cadarnhad gan Stad Arforol y Goron. Dywedodd y Rheolwr Gwasanaethau Cyfreithiol fod yr adroddiad ysgrifenedig yn cadarnhau yr ymgynghorwyd gyda Stad Arforol y Goron, ond nad yw wedi ymateb eto, a’i bod yn iawn i’r Pwyllgor wneud penderfyniad ar y cais.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Lewis Davies y dylid caniatáu’r cais ac fe eiliwyd ei gynnig gan y Cynghorydd Ken Hughes.

 

Penderfynwyd caniatáu'r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog gyda’r amodau a nodwyd yn yr adroddiad ysgrifenedig.

Dogfennau ategol: