Eitem Rhaglen

Gweddill y Ceisiadau

12.1 11C623 – 1 Tai Cyngor, Burwen

 

12.2 16C48H – Ger y Bryn, Bryngwran

 

12.3 19C842Y – Parc Cybi, Caergybi

 

12.4 19LPA434C/FR/CC – Canolfan Gymuned Jesse Hughes, Caergybi

 

12.5 42C61K – Ty’r Ardd, Pentraeth

Cofnodion:

12.1  11C623 Cais llawn i wneud gwelliannau i’r fynedfa bresennol ynghyd â chreu llawr caled ar gyfer parcio yn 1 Tai Cyngor, Burwen, Amlwch

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan mai’r Cyngor Sir yw’r ymgeisydd a pherchennog y tir.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Lewis Davies y dylid cymeradwyo y cais ac fe eiliwyd ei gynnig gan y Cynghorydd Richard Owain Jones.

 

Penderfynwyd caniatáu'r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog gyda’r amodau a nodwyd yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

12.2  16C48H Cais lawn i gadw slab concrid ynghyd â chodi sied amaethyddol i’w defnyddio fel storfa ac i gadw anifeiliaid ar dir yn Ger y Bryn, Bryngwran

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio ar Gorchmynion ar gais yr Aelod Lleol.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Nicola Roberts bod y Pwyllgor yn cynnal ymweliad safle er mwyn i'r Aelodau weld y safle drostynt eu hunain yn enwedig yng ngoleuni ei hanes cynllunio. Eiliodd y Cynghorydd Richard Owain Jones y cynnig.

 

Penderfynwyd ymweld â safle'r cais am y rhesymau a roddwyd.

 

12.3  19C842Y Cais llawn ar gyfer adeiladu estyniad i’r ganolfan drafnidiaeth a ganiatawyd sydd yn cynnwys creu ardaloedd tirlunio a gwelliannau ecolegol ar dir yn Parc Cybi, Caergybi.

 

Cyflwynwyd y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion oherwydd bod yr ymgeisydd wedi cyflwyno rhybudd i'r Cyngor fel rhan berchennog safle'r cais.

 

Dywedodd y Rheolwr Rheoli Datblygu fod y cais yn un i ymestyn yr hyb trafnidiaeth a ganiatawyd yn 2013 i ddarparu 49 o lefydd parcio ychwanegol ar gyfer HGV. Roedd y materion allweddol yn ymwneud â’r dirwedd ac ystyriaethau ecolegol a thraffig. Mae’r cynllun wedi cael ei ddiwygio i fodloni’r ymgyngoreion ac ystyrir ei fod yn dderbyniol.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Nicola Roberts at y mater o fudd cymunedol a godwyd gan y Cyngor Tref. Dywedodd y Rheolwr Rheoli Datblygu bod rhaid i gais am fudd cymunedol fod â chyswllt uniongyrchol y mae modd ei brofi i’r datblygiad. Yn yr achos hwn, nid oedd unrhyw resymau clir dros ofyn am fudd cymunedol.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Vaughan Hughes y dylid caniatáu’r cais ac eiliwyd ei gynnig gan y Cynghorydd Richard Owain Jones.

 

Penderfynwyd caniatáu'r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog gyda’r amodau a nodwyd yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

12.4  19LAP434C/FR/CC – Cais llawn ar gyfer adnewyddu’r adeiladau gwreiddiol, dymchwel yr estyniad cyswllt ynghyd â chodi estyniad deulawr newydd yng Nghanolfan Gymunedol Jesse Hughes, Caergybi

 

Cyflwynwyd y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion oherwydd ei fod yn cael ei gyflwyno gan y Cyngor ar dir y Cyngor.

 

Dywedodd y Rheolwr Rheoli Cynllunio fod y cais yn addasiad i gynllun a gymeradwywyd ym mis Medi 2014 dan gyfeirnod 19LAP434B/FR/CC a’i fod yn cynnig 20 o lecynnau parcio yn hytrach na’r 16 a gymeradwywyd eisoes. Er y bydd y rhain yn agosach at yr eiddo y tu cefn i’r safle, bydd yr estyniad arfaethedig yn awr yn bellach i ffwrdd. Nid ystyrir y bydd hyn yn cael unrhyw effeithiau andwyol ar fwynderau preswyl. Mae mynedfa dros dro ar gyfer y cyfnod adeiladu hefyd wedi’i chynnwys yn awr. Mae Swyddogion Priffyrdd wedi cadarnhau eu bod yn fodlon gyda’r datblygiad.

 

Cadarnhaodd y Cynghorydd Trefor Lloyd Hughes fel Aelod Lleol nad oedd ganddo ef unrhyw wrthwynebiadau i’r cynnig ond dywedodd yr hoffai weld y fynedfa dros dro yn cael ei gwneud yn un barhaol.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Lewis Davies y dylid caniatáu’r cais ac eiliwyd ei gynnig gan y Cynghorydd Vaughan Hughes.

 

Penderfynwyd caniatáu'r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog gyda’r amodau a nodwyd yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

12.5  42C61K Cais llawn ar gyfer codi annedd a modurdy ar dir yn Ty’r Ardd, Pentraeth

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais yr Aelod Lleol.

 

Rhoes Mr Rhys Davies anerchiad i’r Pwyllgor o blaid y cynnig. Dywedodd bod caniatâd cynllunio i roi annedd barhaol ar y safle yn lle’r garafán breswyl gyfredol wedi cael ei roddi ar apêl, felly mae’r egwyddor o ddatblygu wedi’i sefydlu. Pwysleisiodd  y byddai’r annedd arfaethedig o ddyluniad traddodiadol ac y byddai’n cael ei hadeiladu gyda deunyddiau lleol gan olygu y byddai’n ymdoddi i’r ardal o’i chwmpas. Nid oedd ef o’r farn fod cais gydag ôl-troed 251.50 metr sgwâr yn arbennig o fawr ar blot 1 ers ac er ei fod oddeutu 80 metr sgwâr yn fwy na’r cynnig a ganiatawyd ar apêl, mae uchder yr annedd yn wedi ei ostwng gan 2m.

 

Gofynnodd Aelodau’r Pwyllgor am eglurhad gan Mr Davies ynghylch maint y cynnig cyfredol o gymharu â’r cynnig a gyflwynwyd i apêl.

 

Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio bod y Swyddogion o’r farn bod y cynnig a gyflwynir yn awr, o ran ei faint a’i raddfa, yn hollol wahanol i’r cynnig a ganiatawyd ar apêl ac y byddai o’r herwydd, yn nodwedd ymwthiol yn y dirwedd a ddynodir yn AHNE ac y byddai’n groes i bolisïau cynllunio.

 

Siaradodd y Cynghorydd Ieuan Williams, Aelod Lleol, o blaid y cais.

 

Roedd y Cynghorydd Vaughan Hughes yn cytuno gyda’r Aelod Lleol ac o’r farn na fyddai’r annedd arfaethedig, o ran ei maint, yn anghydnaws ag eiddo cyfredol yn yr ardal a’r cyffiniau. Cynigiodd ef y dylid caniatáu’r cais ac fe eiliwyd ei gynnig gan y Cynghorydd Nicola Roberts. Cynigiodd y Cynghorydd Ken Hughes y dylid gwrthod y cais ac fe eiliwyd ei gynnig yntau gan y Cynghorydd Lewis Davies.  Yn y bleidlais ddilynol, cariwyd y cynnig i wrthod y cais. 

 

Penderfynwyd gwrthod y cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog gyda’r amodau a nodwyd yn yr adroddiad ysgrifenedig.

Dogfennau ategol: