Eitem Rhaglen

Gweddill y Ceisiadau

12.1  12LPA1032/CC – 1-17 Bryn Tirion, Biwmares

12.2  12C479B – Rose Hill, Biwmares

12.3  19C98D – 2 Stryd Stanley, Caergybi

12.4  45C480 – Morannedd, Stryd y Capel, Niwbwrch

12.5  46C254B – Ael y Bryn, Lôn Penrhyngarw, Trearddur

Cofnodion:

12.1 12LPA1032/CC – Cais llawn ar gyfer adnewyddu edrychiad allanol y tai, creu mynedfa newydd i gerbydau ynghyd â chreu ardal barcio o fewn y safle yn 1-17 Bryn Tirion, Biwmares

 

Cynigiodd y Cynghorydd Lewis Davies y dylid cymeradwyo’r cais ac eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd W.T. Hughes. 

 

Penderfynwyd cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog ac yn amodol ar yr amodau a restrwyd yn yr adroddiad ysgrifenedig. 

 

12.2 12C479B – Cais llawn ar gyfer codi annedd ar dir safle’r hen farchnad garddio y tu ôl i Rose Hill, Biwmares.

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais yr Aelod Lleol.

 

Gofynnodd yr Aelod Lleol, y Cynghorydd Alwyn Rowlands, i’r Pwyllgor gynnal ymweliad safle er mwyn i’r Aelodai allu cael gwell dealltwriaeth o’r datblygiad arfaethedig o fewn ei gynefin ac er mwyn gallu asesu unrhyw effaith a allai godi gan fod y safle o fewn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Lewis Davies y dylai’r Pwyllgor ymweld â safle’r cais ac fe eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Nicola Roberts.

 

Penderfynwyd ymweld â’r safle yn unol â chais yr Aelod Lleol a hynny am y rhesymau a roddwyd.

 

12.3 19C98D – Cais llawn ar gyfer gosod ffenestr gromen ynghyd ag addasu blaen y siop a chodi polyn 6m o uchder ar gyfer ail-leoli CCTV yn 2 Stryd Stanley, Caergybi.

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod rhan ohono ar dir sy’n berchen i’r Awdurdod Lleol.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Kenneth Hughes y dylid cymeradwyo’r cais ac eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Jeff Evans.

 

Penderfynwyd cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog ac yn amodol ar yr amodau a restrwyd yn yr adroddiad ysgrifenedig. 

 

12.4 45C480 - Cais amlinellol ar gyfer codi annedd gyda'r holl faterion wedi'u cadw'n ôl ar dir tu cefn i  Morannedd, Stryd y Capel, Niwbwrch.

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais yr Aelod Lleol.

 

Safodd y Cynghorydd Ann Griffith i lawr fel Cadeirydd ar gyfer y drafodaeth a’r penderfyniad ar y cais er mwyn siarad fel Aelod Lleol. Cadeiriwyd yr eitem gan yr Is-Gadeirydd, y Cynghorydd Richard Owain Jones.

 

Nododd y Rheolwr Datblygu Cynllunio, er bod yr annedd arfaethedig yn gorwedd o fewn ffin setliad Niwbwrch, mae mynedfa’r safle yn gorwedd y tu allan i’r ffin datblygu. Dywedodd y Swyddog , er bod yr egwyddor o ddatblygiadau preswyl yn dderbyniol o dan bolisïau cynllunio, fe ystyrir, oherwydd y pellteroedd gwahanu perthnasol, y bydd y cais yn cael effaith ar y mwynderau sy’n cael eu mwynhau ar hyn o bryd gan drigolion yr eiddo cyfagos o ran gweld yr eiddo. Mae’r Swyddog yn casglu yn ei adroddiad y byddai’r cynnig yn golygu mewnlenwi ansensitif a fyddai allan o gymeriad gyda’r ardal gyfagos mewn ffordd sy’n groes i bolisi. Yr argymhelliad felly yw un o wrthod y cais.  

 

Dywedodd y Cynghorydd Peter Rogers, wrth siarad fel Aelod Lleol, fod hwn yn gais gan weddw a oedd yn dymuno symud i rywle llai ac ymddeol a'i bod yn haeddu cefnogaeth. Does dim gwrthwynebiadau wedi eu derbyn ac mae’r cais ar safle a oedd yn y gorffennol yn lleoliad 5 bwthyn a adeiladwyd nifer o flynyddoedd yn ôl ar gyfer gweithwyr Pont Malltraeth; nid yw’r safle yn safle tir glas felly. Ni fyddai’r safle allan yn anghydnaws a gwneir ymdrechion i sicrhau bod y dyluniad yn sensitif i’w amgylchedd. Mae’r cais o fewn ffin ddatblygu Niwbwrch, felly mae’n cydymffurfio â pholisi.

 

Dywedodd y Cynghorydd Ann Griffith a oedd yn siarad fel Aelod Lleol, ei bod yn rhoi llais i’r ymgeisydd a oedd yn methu â bod yn bresennol i annerch y cyfarfod. Ategodd sylwadau ei chyd Aelod Lleol ac ychwanegodd na fyddai’r cynnig yn andwyol i mwynderau’r cymdogion gan fod peth edrych drosodd yn barod. Nid yw’r cais yn ymestyn ffin pentref Niwbwrch chwaith.

 

Gofynnodd y Pwyllgor am gadarnhad ynghylch y graddau o edrych drosodd oedd yn bodoli, yn enwedig mewn perthynas â’r gerddi.

 

Cadarnhaodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio bod canllawiau dylunio yn nodi beth sy’n bellter derbyniol mewn perthynas ag anheddau, gerddi a ffiniau - mae’r datblygiad arfaethedig yn gorwedd o fewn 2 fetr i ffin yr ardd drws nesaf ac felly fe’i ystyrir yn annerbyniol o agos mewn ffordd a fyddai’n effeithio ar fwynderau’r eiddo dan sylw a’u mwynhad o'u gerddi. Nid yw’r ffaith y gellir edrych dros y gerddi ar hyn o bryd yn cyfiawnhau’r edrych drosodd pellach a fydd yn gwaethygu’r sefyllfa.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Vaughan Hughes y dylid cynnal ymweliad safle ar y sail bod derbynioldeb neu fel arall o edrych drosodd yn farn oddrychol ac fe ddylai Aelodau allu asesu’r safle drostynt eu hunain. Ni chefnogwyd y cynnig o ymweliad safle yn y bleidlais a ddilynodd. 

 

Cynigiodd y Cynghorydd Kenneth Hughes y dylid cymeradwyo’r cais yn groes i argymhelliad y Swyddog ar y sail y cafwyd eiddo ar y safle yn flaenorol, nad oes unrhyw wrthwynebiad yn lleol a gan ei fod o’r farn ei fod yn cydymffurfio â pholisi. Eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Jeff Evans. 

 

Cynigiodd y Cynghorydd Victor Hughes y dylid gwrthod y cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog gan ei fod o’r farn ei fod yn fewnlenwi ansensitif; eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Lewis Davies gan fod ganddo bryderon am y posibiliadau o ddatblygiadau pellach petai’r cais yn cael ei gymeradwyo.

 

Yn y bleidlais ddilynol, pleidleisiodd y Cynghorwyr Lewis Davies, John Griffith, Richard Owain Jones a Victor Hughes i wrthod y cais; pleidleisiodd y Cynghorwyr Jeff Evans, Kenneth Hughes, Vaughan Hughes, W.T. Hughes a Nicola Roberts i gymeradwyo’r cais yn groes i argymhelliad y Swyddog gan eu bod yn ystyried y gellid cyfiawnhau’r cais o dan Bolisi 49 o Gynllun Lleol Ynys Môn a Pholisi HP3 o’r Cynllun Datblygu Unedol a Stopiwyd a’i fod yn gais mewnlenwi derbyniol.

 

Penderfynwyd cymeradwyo’r cais yn groes i argymhelliad y Swyddog am y rhesymau a roddwyd.

 

(Yn unol â Chyfansoddiad y Cyngor, cafodd y cais ei ohirio’n awtomatig tan y cyfarfod nesaf er mwyn rhoi cyfle i Swyddogion baratoi adroddiad mewn perthynas â’r rhesymau a roddwyd am wrthod y cais).

 

12.5 46C254B - Cais amlinellol ar gyfer dymchwel yr annedd bresennol ynghyd â chodi dwy annedd newydd yn cynnwys manylion llawn am y fynedfa yn Ael y Bryn, Lôn Penrhyngarw, Bae Trearddur.

 

Cais wedi’i dynnu’n ôl.

Dogfennau ategol: