12.1 – VAR/2023/33 – Ysgol y Graig, Llangefni
12.2 – VAR/2023/8 – Plas Alltran, 3 Ffordd Turkey Shore, Caergybi
12.3 – LBC/2023/9 - Ysgol Syr Thomas Jones, Amlwch
12.4 – FPL/2022/264 – Ty’n Cae, Rhostrewhwfa
12.5 - HHP/2023/59 – Pebbles, Trigfa, Moelfre
|
Cofnodion:
12.1 VAR/2023/33 – Cais o dan Adran 73 i ddiwygio amod (18) (Tirlunio) a (20) (Llwybrau Troed) o ganiatâd cynllunio rhif FPL/2021/361 (Cais llawn ar gyfer codi uned cyfnod sylfaen ac uned gofal plant newydd, man chwarae allanol a maes parcio ynghyd â gwaith cysylltiedig) er mwyn caniatáu gwybodaeth mewn perthynas ag amod (18) ar ôl i waith gychwyn ar y safle a chaniatáu newid geiriad amod (20) i ganiatáu cyflwyno gwybodaeth cyn cychwyn gwaith ar lwybrau ar dir ger Ysgol y Graig Llangefni
Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan ei fod yn gais a gyflwynwyd gan yr Awdurdod Lleol.
Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio fod hwn yn gais o dan Adran 73 i amrywio amod (18) (Tirlunio) a (20) (Llwybrau i Gerddwyr) o gais cynllunio rhif FPL/2021/361 a ganiatawyd ym mis Gorffennaf y llynedd. Roedd amod (18) yn datgan bod rhaid i’r ymgeisydd ddarparu tirlunio caled a meddal, gan gynnwys gwybodaeth am ba goed fyddai’n cael eu cadw, ynghyd â mesurau gwarchod coed ar gyfer eu hamddiffyn tra bod gwaith yn mynd rhagddo ar y datblygiad, cyn cychwyn gwaith ar y safle. Fodd bynnag, mae gwaith wedi cychwyn ar y safle heb ryddhau’r amod yn ffurfiol. Mae’r ymgeisydd wedi darparu manylion tirlunio llawn fel rhan o’r cais hwn, ynghyd â manylion am ba goed fydd yn cael eu cadw. Mae’r manylion yn cynnwys Ffens Heras hefyd i Amddiffyn Gwreiddiau Coed er mwyn sicrhau fod y coed yn cael eu hamddiffyn tra bod y datblygiad yn mynd rhagddo. Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio fod Amod (20) yn datgan fod rhaid cyflwyno manylion llawn y llwybrau cyswllt i gerddwyr a’u cymeradwyo’n ysgrifenedig cyn cychwyn gwaith ar y safle, ond, serch hynny, mae gwaith wedi cychwyn heb ryddhau’r amod yn ffurfiol. Mae’r ymgeisydd wedi gofyn am gael newid geiriad yr amod er mwyn cyflwyno manylion llawn y llwybrau cyswllt i gerddwyr i’r Awdurdod Cynllunio Lleol, a derbyn cymeradwyaeth ysgrifenedig ganddo, cyn cychwyn gwaith ar y llwybrau. Dywedodd hefyd fod y wybodaeth tirlunio a gyflwynwyd gyda’r cais cynllunio yn bodloni gofynion Amod (18) ac ystyrir y byddai’n briodol hefyd newid geiriad Amod (20) i ganiatáu mwy o amser i’r ymgeisydd gyflwyno gwybodaeth am lwybrau cyswllt i gerddwyr cyn cychwyn gwaith ar y llwybrau.
Cynigodd y Cynghorydd Geraint Bebb fod y cais yn cael ei ganiatáu yn unol ag argymhelliad y Swyddog. Eiliwyd y cynnig i ganiatáu gan y Cynghorydd Robin Williams.
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog yn amodol ar yr amodau yn yr adroddiad ysgrifenedig.
12.2 VAR/2023/8 – Cais o dan Adran 73 i amrywio amod (07) (Cynlluniau a Gymeradwywyd) o ganiatâd cynllunio rhif FPL/2021/1 (newid defnydd adeilad rhestredig yn 4 fflat tai cymdeithasol ynghyd ag addasiadau ac estyniadau) er mwyn newid y dyluniad ym Mhlas Alltran, 3 Ffordd Turkey Shore, Caergybi
Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan ei fod yn gais a gyflwynwyd gan yr Awdurdod Lleol.
Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio fod caniatâd cynllunio wedi’i roi i newid defnydd yr adeilad yn 4 uned fforddiadwy yn 2021 ac mae caniatâd cynllunio eisoes yn bodoli ac wedi’i ddiogelu. Mae’r cais yn ceisio diwygio dyluniad y cynllun a gymeradwywyd yn barod trwy gael gwared â’r estyniad sinc deulawr cyfoes yng nghefn yr adeilad ynghyd ag aildrefnu’r gosodiad mewnol a’r grisiau a newid yr agoriad, ynghyd ag adeiladu estyniad bychan un llawr yng nghefn yr adeilad. Ychwanegodd fod yr adeilad rhestredig mewn lleoliad amlwg a bu’n wag ers bron i 50 mlynedd. Mae ei gyflwr yn dirywio yn gynyddol gyflym a bydd hynny’n parhau hyd nes caiff gwaith adfer ei wneud arno. Byddai rhoi caniatâd cynllunio a gwireddu’r cynigion yn diogelu dyfodol yr adeilad trwy ei ailddefnyddio mewn ffordd hyfyw a byddai’n mynd i’r afael ag adeilad a fu’n broblemus ers cryn amser. Byddai’r cynnig hefyd yn golygu y byddai’r adeilad yn cael ei dynnu oddi ar restr CADW o Adeiladu mewn Perygl.
Dywedodd y Cynghorydd Jeff Evans, aelod o’r Pwyllgor ac Aelod Lleol, ei fod yn cefnogi’r bwriad o ddatblygu’r safle gan fod yr adeilad yn creu problemau a bu’n ddolur llygaid yn yr ardal ers blynyddoedd maith, ond, serch hynny, dywedodd fod problemau parcio yn gysylltiedig â’r adeilad hwn ac mae preswylwyr lleol yn bryderus gan fod problemau parcio yn yr ardal yn barod, ac mae ceir yn parcio ar y palmentydd. Cyfeiriodd at ymateb yr Awdurdod Priffyrdd i’r cais yn ystod y cyfnod ymgynghori (a nodir yn yr adroddiad). Mae’r ymateb yn cydnabod nad oes unrhyw gyfleusterau parcio ar gyfer y datblygiad ond maent yn fodlon fod digon o gyfleusterau parcio gerllaw. Dywedodd y Cynghorydd Evans mai cyfleusterau parcio preifat yn unig, yn eiddo i archfarchnad a Stena, sydd ar gael yn yr ardal. Mewn ymateb, dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio fod y cais gwreiddiol wedi’i ganiatáu yn 2021 a bod y cais gerbron y Pwyllgor hwn yn ymwneud â dyluniad y datblygiad. Er y cydnabyddir fod problemau parcio yn yr ardal mae’r cynnig mewn lleoliad cynaliadwy.
Cynigodd y Cynghorydd Robin Williams fod y cais yn cael ei gymeradwyo yn unol ag argymhelliad y Swyddog. Eiliwyd y cynnig i ganiatáu’r cais gan y Cynghorydd T Ll Hughes.
Roedd y Cynghorydd Jeff Evans yn dymuno i’r cofnodion nodi fod parcio yn broblem yn yr ardal ac mae Plas Alltran wedi’i leoli ar gornel ac mae traffig trwm yn mynd heibio wrth deithio i’r porthladd, yr archfarchnad leol, Cofeb Skinner a’r hen gae pêl-droed ac nid oes palmant i gerddwyr ger y safle.
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y swyddog ac yn amodol ar yr amodau yn yr adroddiad ysgrifenedig.
12.3 LBC/2023/9 – Caniatâd Adeilad Rhestredig ar gyfer gosod ffenestri a drysau alwminiwm newydd yn lle’r ffenestri a’r drysau pren presennol, ynghyd â gosod sgrin sy’n gwrthsefyll tân, yn Ysgol Syr Thomas Jones, Amlwch
Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan ei fod yn gais a gyflwynwyd gan yr Awdurdod Lleol.
Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio fod Ysgol Syr Thomas Jones, Amlwch, yn adeilad rhestredig Gradd II a dyma’r ysgol gyfun bwrpasol gyntaf yng Nghymru. Mae hwn yn gais am ganiatâd adeilad rhestredig i osod ffenestri a drysau alwminiwm newydd yn lle’r ffenestri a’r drysau pren presennol, ynghyd â gosod sgrin newydd sy’n gwrthsefyll tân. Byddai’r ffenestri a’r drysau newydd yn cael eu gosod ar y Bloc Technoleg, sef estyniad diweddarach a adeiladwyd yn y 1960au. Mae’r ffenestri pren gwydr sengl presennol mewn cyflwr gwael a’r bwriad yw gosod ffenestri gwydr dwbl wedi’u gwneud o alwminiwm a orchuddiwyd â phowdwr yn eu lle. Bydd y dyluniad yn adlewyrchu’r ffenestri gwreiddiol yn well, yn ogystal â chymeriad yr adeilad rhestredig.
Cynigodd y Cynghorydd Robin Williams fod y cais yn cael ei gymeradwyo yn unol ag argymhelliad y Swyddog. Eiliwyd y cynnig i ganiatáu gan y Cynghorydd Dafydd Roberts.
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog yn amodol ar yr amodau yn yr adroddiad ysgrifenedig.
12.4 FPL/2022/264 – Cais llawn i newid defnydd tir amaethyddol yn faes carafanau teithiol yn Nhy’n Rhos, Rhostrehwfa, Llangefni
Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais Aelod Lleol.
Gofynnodd y Cynghorydd Geraint Bebb, Aelod Lleol, am ymweliad safle corfforol oherwydd pryderon lleol am lygredd sŵn a mynediad i’r safle. Nododd fod y Cyngor Cymuned lleol wedi codi pryderon am fynediad i’r safle hefyd, oherwydd ei leoliad.
Cynigodd y Cynghorydd John Ifan Jones y dylid cynnal ymweliad safle corfforol â safle’r cais. Eiliwyd y cynnig am ymweliad safle corfforol gan y Cynghorydd T Ll Hughes.
PENDERFYNWYD cynnal ymweliad safle corfforol ar gais Aelod Lleol ac am y rhesymau a gyflwynwyd.
12.5 HHP/2023/59 – Cais llawn ar gyfer addasu ac ehangu’r brif annedd a’r garej yn Pebbles, Trigfa, Moelfre
Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais Aelod Lleol.
Gofynnodd y Cynghorydd Margaret M Roberts, Aelod Lleol, am ymweliad safle corfforol oherwydd problemau traffig ac am fod y lonydd yn gul.
Cynigodd y Cynghorydd Geraint Bebb y dylid cynnal ymweliad safle corfforol â safle’r cais. Eiliwyd y cynnig am ymweliad safle corfforol gan y Cynghorydd T Ll Hughes MBE.
PENDERFYNWYD cynnal ymweliad safle corfforol ar gais Aelod Lleol ac am y rhesymau a gyflwynwyd.
Dogfennau ategol: